Cockfighter (Monte Hellman, 1974). Dyma tro cyntaf i mi weld hon ar y teledu. Prynais i'r dvd (wedi'i fewnforio o Sbaen) ar eBay y llynedd, a dw i weld ei gwylio ar y Macafal, ond mae'n llawer well ar sgrin mwy o seis.
Mae'n amlwg y bydd unrhyw ffilm ar bwnc mor ddadleuol yn peri amheuaeth yn y gwyliwr. Fyddai hon ddim yn cael ei wneud y dyddiau 'ma, a pheth da yw hynny. Ond wedi dweud dweud hynny, ac er y creulondeb sydd ynddi, dw i'n meddwl bod y ffilm 'ma y peth nesa i berffaith. Sy'n fy mhoeni i. Sut alla i fod mor hoff o ffilm am ladd anifeiliaid am hwyl? Anhebyg iawn fyddwn i'n moli ffilm am hela cadno â chwn, felly pam ydw i'n gallu canu clod ffilm am geiliogod talwrn?
Wn i ddim. Rhaid meddwl mwy am hyn.
Gweler yr erthygl hon am fwy am sinematograffi Cockfighter, a wnaethpwyd gan Néstor Almendros.
Nodiadau ar y ffilm gan Hellman, Corman a Joe Dante.
Cockfighter gan Charles Willeford, y llyfr a oedd sail y ffilm.
Adolygiad o'r DVD Americanaidd (nid yr un sy 'da fi, sydd heb unrhyw un o'r pethau ychwanegol - amser i wastraffu mwy o arian ar eBay?) sy'n cynnwys lluniau o'r ffilm.
Ionawr 14, 2004 10:28 yhDwi'n falch ei bod hi wedi cyrraedd nol yn saff, o'n i'n dechra poeni mod i di gosod curse ar dy DVD's!
Ma'n rhaid deud fod y golygfeydd cwffio ieir bach yn ormod ar adegau ond ma Warren Oates yn wych. Ti'n iawn fod na wrthdynnu meddyliol am hon ond nid dim ond am y creulondeb, ma'r cymeriadau'n gneud hynny i fi hefyd. Ma nhw'n bobol digon afiach ond eto ma rywun yn cnesu atyn nhw oherwydd eu diffuantrwydd. Sna'm llawar o bullshit i gael o gwmpas y pit. Dwi ddim mor hoff ohoni ag yr wyt ti ond r'on i'n teimlo fod y fordd ma'n deud "fela ma hi a newidi di byth mohoni ddim ots faint nei di droi dy drwyn" yn gryno ac yn glyfar. Dau geiliog battlescarred yn dilyn eu ffawd. Un peth nai ychwanegu ydi fod y sinematograffiaeth o'r cwffio yn ffantastic, atgoffa fi rwan o olygfa gychwynnol City Of God, sgwn i os welodd Meirelles Cockfighter?