Chwefror 09, 2004

The Weather Underground (Sam Green a Bill Siegel, 2002). Ffilm ddogfennol am y Weathermen, grwp chwyldroadol a dyfodd (a ddinistriodd, byddai rhai yn dadlau) allan o'r mudiad myfyrwyr Americanaidd, yr SDS, yn hwyr yn y 1960au. Ar ôl i dri o'r grwp gael eu lladd gan eu bom eu hunain yn Efrog Newydd ym Mawrth 1970, aeth y gweddill danddaear tan diwedd y 70au, gan blannu sawl bom arall, ond heb ladd unrhywun.

Roedd y footage fideo o'r adeg yn ddiddorol tu hwnt, ac hwnna, yn fwy na dim, oedd y peth gorau am y ffilm. Fel mae erthygl hon yn Salon yn dweud, dim ond Mark Rudd a Brian Flanagan sydd ag unrhyw amheuaeth ynglyn â modd o weithredu y dewiswyd gan y grwp.

Werth ei gweld, a bydd yn wneud dvd penigamp, yn enwedig os ydyn nhw'n cynnwys mwy o ddeunydd cefndirol.

Well 'da fi y Yippies, a dweud y gwir.

Chwefror 9, 2004 04:05 yh
Sylwadau
Postiwch sylw









Cofio fy manylion?