Olrhain hanes Chow (Tony Leung Chiu Wai) a wna'r ffilm hon, newyddiadurwr ac awdur yn Hong Kong yn y 60au. Mae'r ffilm yn hudol ond yn peri penbleth, yn denu ac yn drysu mewn un symudiad. Ond mae hi hefyd yn ffilm sy'n llwyddo i ddirnad y cyflwr dynol o eisiau dal gafael ar ein gorffennol, ac o alaru wrth symud ymlaen.
Mae'r ffilm yn eithaf annisgwyl o ystyried cynnyrch diweddar y Dwyrain Pell. Os ydych chi'n disgwyl Crouching Tiger, Hidden Dragon neu House of Flying Daggers (er, mae Zhang Ziyi a oedd yn y ddwy ffilm honno yn perfformio'n rhagorol fel Bai Ling), fe gewch chi'ch siomi. Yn hytrach ffilm yw hon sydd wedi'i lleoli ar 24 Rhagfyr rhwng 1965 ac 1969, yn adrodd gorffennol, presennol a dyfodol dychmygol Chow. Cymeriad weddol oeraidd yw Chow. Er gwaethaf ei loddesta gyda menywod, mae'n eu trin nhw'n wael, Bai Ling yn enwedig, ac ymddengys ei fod yn byw yn y gorffennol. Cawn gipolwg ar hyn, ei garwriaethau gyda Su Lizhen a Lulu yn y gorffennol, yn ffenest ar ryw adeg yr oedd e'n tybio'i fod yn hapus.
Yn asgwrn cefn i hyn, ac fel ffordd iddo waredu ar y teimladau sy'n ei blagio, mae Chow yn creu byd 2046, amser yn y dyfodol lle gall pobl deithio iddo lle nad yw eu hatgofion yn pylu ac mae popeth yn aros yn berffaith. Ond mae un teithiwr (sef Chow ei hun, efallai) wedi penderfynu dychwelyd. Neges ganolog y ffilm yw mai ffwlbri yw meddwl fel hyn, ac na all yr atgofion aros fel ag y maen nhw am byth, y byddant yn cael eu suro gan syniadau a digwyddiadau'r presennol. Gwelwn hyn droeon drwy berthnasau Chow gyda Jing Wen, Bai Ling a Su Lizhen. Mae'n fantra y mae Chow yn ei ddweud wrth bawb ond yn methu â chydnabod ei hun, sef y rheswm dros ei anhapusrwydd ei hun.
Mae gwerthoedd rhagorol yn perthyn i'r ffilm, gyda'r golygfeydd yn y 60au yn llawn hiraeth sepia, a'r golygfeydd dyfodolaidd yn adlewyrchu'n berffaith yr ymdeimlad o unigrwydd sy'n trwytho'r ffilm. Roedd y stori ar adegau'n dueddol o neidio'n afrosgo ar hyd y llinell gronolegol, ond weithiau roedd hynny'n gymorth i ddangos sut roedd atgofion Chow ei hun yn gallu newid a gwyrdroi'n rhywbeth cwbl wahanol i'r gwir. Llwyddir i gyfleu'r tensiwn amlwg sy'n bodoli o fewn Chow drwy glawstroffobia'r ffilm, gydag amser yn ymdoddi o fewn ei hun yn ei ystafell fach yn y gwesty, a phob dim yn digwydd o fewn yr un ennyd.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Chwefror 3, 2005 02:02 yhDamia gurais ti fi i hon!
Wsdi be? Rhaid i fi anghytuno.
Mae'r ffilm yn llwyddo i greu naws nad ydw i wedi ei weld mewn unrhyw ffilm arall (heblaw am prequel hon, In The Mood For Love). Dwi'n cytuno fod y gwisgoedd a'r dylunio set yn berffaith ac yn eich amsugno mewn i'r byd arall diarth ond cyfarwydd yma o Orient Gorllewinedig Hong Kong a Singapore y 60'au. Mae'r trac sain hefyd yn creu argraff fawr ar y ffilm, gyda gweithiau opera prydferth, baledi gan crooners fel Nat King Cole a Dean Martin a chan hyfryd Sbaeneg gan Connie Francis ("Siboney").
Ond wir, wnaeth y ffilm ddim gwneud cymaint a hynny o argraff arnai? Mi driais ei hoffi, ro'n i eisiau hoffi hi, gan mod i wedi gweld In The Mood For Love yn ddiweddar ac yn ei rhoi hi yn un o'r ffilmiau gorau i fi ei gweld, ond yn y diwedd doedd dim calon nac enaid i 2046 (yn debyg iawn i'r 2046 a ddynodir yn ffilm).
Mae'r ffilm ei hun yn neidio nol a mlaen yn fachiadau bach o atgofion sy'n ei gwneud hi'n annodd i gynnal diddordeb rhywun ymhellach na'r gloss? Mae'r ing o serch a nwyd sydd rhwng Chow a'r gwragedd yn eich gafael yn gorfforol bron, ac mae'r golygfeydd unigol wedi'w crefftu'n dda ond roeddwn i'n teimlo fod y tameidiau sci-fi fel rhyw ffilm arall anghysylltiedig oedd yn tarfu ar y ffilm yn hytrach nac ychwanegu ato.
Roeddwn i hefyd yn ffeindio hi'n amhosib ymddiddori yn Chow (heblaw am yn ei siwtiau - sy'n deud y cyfan rili). Mae'r boi jest yn serial womaniser calon-galed ar ddiwedd y dydd, a does dim newid yn hynny erbyn diwedd y ffilm. Dwi'n dallt nad ydi o'n dysgu dim o'i brofiadau ac drwy edrych nol (mynd i'w 2046 ei hun) mae'n gobeithio dal mlaen i ryw ronyn o hapusrwydd na all ei gyrraedd, ond teimlad chydig yn "be di'r ots gen i" ges i, a damia na fasan ni wedi gallu buddsoddi rhagor o amser ar y genod yn hytrach na fo(neu jest un dynes fel oedd y fersiwn gwreiddiol i fod, cyn i Maggie Cheung dynnu allan o'r ffilm, a gorfodi Wong i gael 3 actores newydd ,mewn a newid y sgript yn llwyr).
Mae'r teimlad yna o anobaith yn y ffaith na all Chow ddod o hyd i gariad yn cael ei adlewyrchu yn sdori'r dyn yn caru'r android, ac hefyd fod edrych nol i'ch atgofion mor ffrwythlon a charu peiriant.
Felly, y teimlad ges i wrth ddod allan oedd fod hwn yn film lle cafodd Wong Kar Wai ei adael yn rhydd yn ormodol, a thrwy hyn, wedi creu byd deniadol ond mewn dau ddimensiwn, sydd ddim hyd yn oed a'r rhimyn lleiaf o naratif na datblygiad cymeriad i gadw fy niddordeb yn y ffilm.
Gallwch chi ddweud mai dyma yw pwynt y ffilm, nad oes dim yn newid ac nad ydi Chow yn gallu dod o hyd i hapusrwydd drwy ymhel a'i feddyliau sydd wedi'u gwasgaru fel drych yn deilchion ar y llawr, ond efallai drwy wneud hyn mae'n baglu ei hun ac yn troi yn weithgaredd gwag braidd. Heb y sglein efallai na fasa na fawr o ddim i afael mlaen iddo.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Chwefror 4, 2005 01:08 yh