Mae'r lein-yp ar gyfer Gwyl y Gelli newydd gael ei gyhoeddi, ac mae'n nhw wedi cynnwys ffilm yno'r flwyddyn hon gyda ymweliadau gan Jane Fonda, Goldie Hawn, a...witsiwch amdano...Spike Lee!
Swnio fel bod angen i fi fentro yno am y tro cyntaf...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Chwefror 16, 2005 01:18 yhDylet ti fynd -mae'n wych. Mae yna wastad llawer o bobl ddiddorol i weld ac mae'r awyrgylch yn grêt. Mae'n amlwg eu bod nhw'n trio i gael mwy o bobol o fyd y ffilm hefyd. Llynedd weles i Ken Loach a Nick Broomfield ac roedden nhw'n ardderchog!
Postiwyd gan: Ed, Chwefror 16, 2005 03:08 yhCroeso i'r Pictiwrs Ed, braf gweld rhywun newydd yn pori'r hen le ma!
Ie, dwi wedi bod yn meddwl mynd draw yno ers cryn dipyn. Dwi ddim yn ddarllennwr mawr o lyfrau dwys, sdim digon o amynedd gen i, ond dwi'n credu y buaswn i'n mwynhau y trafodaethau ffilm a'r rhai gyda'r newyddiadurwyr.