Dwi newydd gychwyn cwrs "Cyflwyniad i Sgriptio" neithiwr yn Chapter, Caerdydd. Cwrs deuddeg wythnos ydi o, wedi'i ddatblygu gan Gyngor Ffilm y DG a Phil Parker, sy'n eich arwain o'r camau cyntaf o gael syniadau drwodd i sgwennu sgript ffilm 10-munud o hyd ar ei ddiwedd.
Mi aeth hi'n gret a deud y gwir. Roedd 9 person yno, oll o gefndiroedd hollol wahanol. Roedd rhai yn hen law ar sgriptio, rhai yn feirdd, rhai yn animeiddwyr eisiau datblygu crefft ffilmiau hirach a rhai - fel fi - yn gyfarwydd a'r broses wneuthura ond heb roi cynnig difrifol ar sgwennu.
Fe daflodd y tiwtor, Wyndham Price, ni'n syth mewn iddi gan roi inni gerdyn post yr un a gofyn i ni sgwennu premise ffilm o'r ddelwedd o'n blaenau. Son am exposing, ond mi sgwennais rwbeth, a wedi edrych arno eilwaith doedd o ddim yn rhy ddrwg. Fe ofynnwyd i ni wneud yr un peth eto ond gyda delwedd wahanol a bum yn bur aflwyddiannus y tro honno, gan fethu meddwl am ddim arall ond syniad sci-fi oedd yn gymysgedd o Brazil a Blade Runner. Rwtsh. Ond roedd y wers yn un ddefnyddiol - gallwch ffeindio ysbrydoliaeth yn unrhywle os canolbwyntiwch ac y peth pwysig i'w wneud yw trwytho'r gwaith gyda gwirionedd emosiynol fel bod cyswllt rhyngddo a'r gynulleidfa. Y 'grefft' wedyn yw ffitio ffurf y sgript ffilm.
Felly, dwi'n edrych mlaen at y sesiwn nesaf (er mod i'n gorfod methu wythnos gan fy mod ar wyliau) fe wnai adrodd ar yr hanes bryd hynny.
Dyma chydig o ddolenni difyr yn ymwneud a sgriptio:
The Screenwriter's Thirteen Commandments gan Jack Dickson
Film Noir Ain't Dead, Dude: You Could Be Writing One gan Robert Piluso
Occult Horror gan Nic Ransome (o wefan Scriptwriter Magazine)
Road Movies With a Map gan Lucy Scher (cyfarwyddwr y Script Factory)
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Chwefror 17, 2005 02:32 yh