Mae Alejandro Amenábar wedi hudo ei gynulleidfaoedd yn y gorffennol drwy gyfrwng ffilmiau clyfar ac arloesol fel Abres los Ojos (a ail-grewyd ar gyfer cynulleidfaoedd Hollywood fel Vanilla Sky gyda Tom Cruise) a hefyd The Others, stori arswyd yn arddull Henry James gyda Nicole Kidman. Yn anffodus, nid yw ei ffilm newydd, Mar Adentro, yn cyrraedd yr uchelfannau hynny. Er gwaethaf y ffaith fod y ffilm wedi’i henwebu ar gyfer yr Oscar am y ffilm dramor orau, nid yw’r ffilm yn llwyddo i fynd i’r afael yn wirioneddol â thestun dyrys y ffilm.
Mae Mar Adentro yn seiliedig ar stori wir Ramón Sampedro, dyn â pharlys pedwar aelod a ymgyrchodd yn Sbaen am yr hawl i ddod â’i fywyd i ben. Perfformiad Javier Bardem fel Sampedro, cyn fecanydd ar long a dorrodd ei wddf mewn damwain wrth blymio i’r môr yw un o uchafbwyntiau’r ffilm. Mae ei actio yn gynnil ac yn deimladwy, sy’n fwy nag y gellir ei ddweud am weddill y ffilm, Yn sgil damwain Ramón, mae ei frawd José (Celso Bugallo) a’i deulu wedi bod yn gofalu amdano am 30 mlynedd wrth iddo barhau â’i achos cyfreithiol.
Daw cyffro a thrybini i fywyd Ramón ar ffurf dwy fenyw: y gyfreithwraig Julia (Belén Rueda) sydd â’i rhesymau ei hun dros gefnogi ei achos, a Rosa (Lola Dueñas) mam sengl sy’n rhwystredig am ei bywyd sy’n cwympo mewn cariad gyda Ramón ac sy’n ceisio ei ddarbwyllo i fwynhau bywyd. Fodd bynnag, mae rôl y ddwy fenyw yn ddryslyd, gyda’r ddwy yn dod i mewn ac allan o’i fywyd heb unrhyw fath o gydlyniad. O ganlyniad, allwn ni ddim uniaethu gyda’r berthynas rhwng y naill neu’r llall gyda Ramón – mae eu perthnasoedd yn ymddangos yn arwynebol, er eu mwyn nhw’n unig.
Yr unig dro y mae Amenábar yn llwyddo i fynd i’r afael â phynciau llosg y ffilm yw cyfarfyddiad anarferol Ramón ag offeiriad o’r eglwys Babyddol. Ceir dadlau tanllyd rhwng y ddau, gyda’r offeiriad ar y naill law yn ymbilio yn Ramón i ddeall nad ef sy’n berchen ar ei fywyd ac mai lladd ei hun y mae Ramón yn ceisio’i wneud, a Ramón ar y llaw arall yn argyhoeddedig mai ef sy’n berchen ar ei fywyd a’i fod yn ormod o fwrn iddo barhau fel y mae.
Heblaw am hynny, erbyn y diwedd, roeddwn i wedi hen ddiflasu. Mae’r ffilm yn edrych yn hyfryd, ond mae’n ceisio eich gorfodi i deimlo emosiynau, yn hytrach nag yn gadael i lif yr emosiynau ddigwydd yn naturiol. Perfformiad siomedig gan gyfarwyddwr rhagorol.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Chwefror 23, 2005 02:03 yh