
Hyd yn oed os ydy noson yr Oscars yn gneud chi fyhafio fel Oscar the Grouch (dwi'n gwbod taw dyna ma'n gneud i fi...) ellir mo'u hanwybyddu. Bydd y sinemau yn llawn eto a'r ffilmiau a lwyddodd i ennill bri a chlod aelodau'r academi ffilm Americanaidd - bwnsh o bobol sentimental ar y diawl gan fwya sydd yn dueddol o ganolbwyntio ar berfformiadau a "drama" dwys ar draul gwreiddioldeb a dyfeisgarwch.
Nid sefyllfa anhebygol gan fod canran fawr o'r pleidleiswyr yn actorion (jest dan 20%). Felly mae'r gwobrau yn debygol iawn o fynd i'r perfformiadau a'r pathos mwya gan ddilyn y traddodiad thespaidd. Rhaid mynd lawr lon y lyfi os am fachu Oscar o'ma. Mae hyn hefyd yn dueddol o fod yr un peth ar gyfer gwobr y ffilm orau hefyd.
A toedd hi ddim gwahanol y tro hwn, gyda Million Dollar Baby yn gleuo hi am draw at barti Vanity Fair gyda llond goody-bag o ddynion bach melyn (os oes lle ynddo gyda'r holl goodies eraill gafoch chi am ddim...).
Roedd y ffilm wedi bod yn codi dipyn o stwr yn arwain fyny at y seremoni, gan daro'r adolygwyr Americanaidd ar y droed ol a sleifio i'r sinemau yn ddi-ffwdan ond gan beri i bawb gymryd golwg go agos arni. Yr Aviator oedd gobaith fawr Scorsese (a gobaith bron i bawb arall a dweud y gwir gan iddo beidio cael unrhyw glod gan yr Academi sy'n hawlio i gynrychioli diwydiant ffilm America!) ond pleidlais o gydymdeimlad fuasai honno, a chyda thriawd o actorion fel Eastwood, Swank a Freeman yn rhoi popeth ynddi roedd hi'n mynd i fod yn annodd i'r bywgraff-lun (bio-pic) o Howard Hughes ddod i'r brig.
Ffilm arall a gododd dipyn o stwr wrth arwain at y noson oedd Sideways gan Alexander Payne (gyda llaw...ble mae'r adolygiad Mr Richards? Hmm? Hmm? ;-)...). Ffilm bach hyfryd hamddenol gyda blas chwaneg go iawn arni (wnai ddim mynd a'r cymhariaethau Epiciwreaidd yn bellach na hynny...dwi di cael digon o hynna ym mhob erthygl dwi di ddarllen am y ffilm: Vintage Payne...bla bla blwmin bla) ac yn gwbl haeddianol o'i gwobr am y Sgript Addiasiedig orau. Chwarae teg hefyd i Charlie Kaufman am daro'r nod eto, wel, efallai taro'r nod yn well ond nid yn berffaith (mi ddaw, mi ddaw...), am fynd a'r wobr am y Sgript Wreiddiol orau gyda Eternal Sunshine Of The Spotless Mind - ffilm a gynnodd fy nychymyg ac a brofodd yn donic i nghalon sydd, fel arfer, yn hollol allergic i gaws sentimento-ramantaidd ac yn ennyn lled-gyfog ar y manylyn lleiaf camembertaidd (cam-amher?). Nid oedd moment o banig nac ychwaith frys estyn am fy moddion gwrth-glaptrap, dim ond ffilm fach yn dangos amherffeithrwydd perthynas mewn ffordd hynod wreiddiol ond eto mewn ffordd oedd allai doddi unrhyw galon a galedwyd gan ddeiet o ffilmiau Zombie, Slasher a Sci-fi.
Felly, di-nod ydoedd ar y diwedd, gyda mymryn o o gysur yn y ffaith fod ffilmiau "bychan" (ar safonau'r Oscars...) wedi mynd a'r dydd. Fuaswn i ddim yn meddwl fod hyn yn arwyddocaol o unrhyw dro ar fyd yn y ffilmiau bydd Hollywodd eisiau eu cynhyrchu o hyn ymlaen, mae'r risg o fuddsoddi mewn ffilmiau bach yn ormod i'r stwidios mawr allu ei stumogi os nad oes blocbystyr yn cysgodi y ffaeleddau box-office posibl, jest fod y crop o ffilmiau 'mawr' eleni wedi bod mor israddol (Troy, Alexander ayyb) o'u cymharu a blynyddoedd eraill fod yn rhaid mynd nol at y sylfeini - sdori dda yn hytrach na bombast. Ac mae hynny'n newyddion da i'r gynulleidfa sinema sy'n cael eu boddi gan gynnyrch Americanaidd gwael wedi'w bwmpio'n llawn steroids yr ymgyrch hysbysebu a chyda geiriau gweigion coach "hype" yn byddaru o ochor y ring.
(Wel, nes i ddim deud na faswn i'n rhoi cymhariaethau bocsio gwael naddo!)
Dolenni:
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Chwefror 28, 2005 09:58 yh