Mawrth 01, 2005

"Cri Dawel" gan gyfarwyddwr o Gasnewydd

scgermanposter.jpg

Mae ffilm gan gyfarwyddwr o Gasnewydd yn cael ei premiere Prydeinig nos Wener 11eg Mawrth ar sianel 5.

"Silent Cry" yw enw'r ffilm, a'r cyfarwyddwr yw Julian Richards. Y llynedd cipiodd ei ffilm "The Last Horror Movie" y wobr am fod y Ffilm Nodwedd Brydeinig Orau yng Ngwyl Ffilmiau Raindancea dyma gyfweliad da gyda Richards am ei waith.

Mae Emily Woof yn actio yn y brif ran yn "Silent Cry" - ac mae'r cyfle i'w gweld hi eto yn un difyr gan nad ydi'n cael digon o sylw a chan taw hi oedd y peth gorau (yr unig beth da?) yn y ffilm Wondrous Oblivion (Paul Morrisson, 2003). Sy'n dod a chyswllt Cymreig arall, gan taw Morrisson a gyfarwyddodd Solomon a Gaenor (1999).

Beth bynnag, dyma grynodeb y ffilm:

"A newborn baby dies in a hospital. His mother is convinced he is not dead, but has been stolen. "Silent Cry" is a thriller about her desperate search for the truth - and her baby."
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Mawrth 1, 2005 02:33 yh
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?