Mawrth 15, 2005

Dogfen Ddiddorol

Mae'r ffilm "Why We Fight?" (Eugene Jarecki, 2004) a ennillodd y categori ffilmiau dogfen yn Sundance eleni yn cael dangosiad ar BBC4 ar nos Fercher y 23ain Mawrth am 10yh a 2.10yb. Ffilm yw hi sy'n archwilio polisi tramor rhyfelgar yr UDA gan gwestiynu os yw'r polisiau hynyn seiliedig ar oruchafiaeth milwrol yn hytrach na phlismona rhyngwladol a 'brwydro' terfysgwyr.

Cewch esboniad gwell drwy ddarllen y cyfweliadau a Jarecki fan hyn a fan hyn...swnio'n ddifyr.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Mawrth 15, 2005 01:03 yb
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?