(IMDb)
Roeddwn i’n gwrido braidd wrth ofyn am y tocyn i fynd i weld y ffilm. “One for 9 songs, please”. Dim ond un, ife? Roeddwn i’n gallu gweld y chwerthin yn llygaid y person tu ôl i’r ddesg. Os nad ydych chi’n ymwybodol yn barod, dyma ffilm ddiweddaraf Michael Winterbottom, y cyfarwyddwr Seisnig sy’n gyfrifol am Jude a 24 Party People ymysg eraill, y ffilm fwyaf rhywiol agored i gael ei dangos yn hanes sinema confensiynol. Felly, os ydych chi’n hoff o weld y fath bethau, dyma’r ffilm i chi, achos doedd fawr arall yn perthyn iddi.
Ar ddechrau’r ffilm dywed Matt, un hanner i’r berthynas, mai pethau arwynebol y mae rhywun yn ei gofio o berthynas, teimlad y cnawd, y gerddoriaeth oedd yn chwarae ar y pryd. Gwelwn y Matt (Kieran O’Brien) a Lisa (Margot Stilley) yn cwrdd mewn gig Black Rebel Motorcycle Club, y cyntaf o naw cyngerdd yn y ffilm, ac yna’r sefyllfa lle mae’r ddau yn cael rhyw am y tro cyntaf. Ar unwaith, mae neges ffilm Winterbottom yn eglur – mae pleser y cnawd yn parhau yn y meddwl am amser hir, ac mae gwahanol bobl yn addoli wrth allor y teimladau cnawdol hyn mewn gwahanol ffyrdd. Mae cerddoriaeth a rhyw yn estyniadau gwahanol o’r un reddf, yr un teimlad.
Trueni, felly, bod gweddill y ffilm yn adleisio’r pwynt hwn drosodd a throsodd. Mae’r deialog rhwng y ddau’n ddifflach ac ystrydebol - “Sometimes you have to trust people” - wrth i ni ddilyn perthynas rhwng dau berson sydd mewn nwyd ond ddim mewn cariad. Mae’r golygfeydd rhyw yn amlwg i fod i achosi sioc i ni ac ennyn ein diddordeb wrth i ni ymchwilio i’r pethau rhywiol sy’n gwneud i’r ddau dicio, ond roedd y rheiny’n ddiflas, a fi’n edrych ‘mlaen at y band nesaf oedd i fod ar y sgrin (ac roedd y gerddoriaeth yn wych hefyd - Super Furry Animals, Von Bondies, Primal Scream). Efallai nad yw’r sgwrs rhwng dau berson yng nghanol rhyw yn farddonol iawn, ond gellid fod wedi gwneud mwy na “Fuck me… fuck me faster”.
Dydyn ni fel cynulleidfa ddim yn dod i adnabod Matt a Lisa, a dydyn nhw ddim yn dod i adnabod ei gilydd chwaith. Mae’r ddau’n gwahanu heb emosiwn pan mae Lisa (sy’n fyfyrwraig) yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau i barhau â’i hastudiaethau. Nid yw Winterbottom yn llwyddo, fel y mae Matt yn ei wneud drwy dorri drwy iâ Antartica, i ganfod trawstoriad o fywyd ac o deimlad y blynyddoedd maith, ond yn dangos portread di-emosiwn o fywyd pan mae’r emosiynau wedi’u tynnu ymaith.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Ebrill 1, 2005 12:52 yhNai ddim boddran felly? Dyna'r union sylwadau gesh i gen ffrind i fi, ac mae o fel arfer yn hoffi sinema mwy...'erotig' ddudwn ni. Doedd o ddim hyd yn oed yn erotig medda fo (oce, ella taw dyna yw'r pwynt ond rhaid i'r ffilm fod yn ddiddorol fel arall yntoes?
Ma'r penwythnos ma'n llawn ffilmie i fi:
Melinda and Melinda
Be Cool
The Machinist
Un Nos Ola Leuad
Aderyn Papur
ffac!
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Ebrill 1, 2005 01:34 yhYn anffodus, os nad y'ch chi'n pyrfyrt sy'n mwynhau gweld rhyw jyst er mwyn gweld rhyw, dyw'r ffilm ddim yn cynnig rhyw lawer... a dydw i ddim! Wir yr!
Ie, digonedd o ffilmiau penwythnos 'ma: The Machinist, Downfall, 5x2, The Rage in Placid Lake a gobeithio dod i weld Un Nos Ola Leuad.
Yr unig dro arall i fi weld honno oedd yn sinema Blaenafon pan o'n i tua deg. Mynd gyda mam i'w gweld hi, a'r ddau ohonon ni'n edrych yn syn ar ein gilydd o weld '18' fel yr oedran ar ddechrau'r ffilm!
Postiwyd gan: Geraint Criddle, Ebrill 1, 2005 02:02 yh