Ebrill 04, 2005

Der Untergang (Downfall, Oliver Hirschbiegel, 2004)

(IMDb)

O ystyried pwysigrwydd ffigwr Hitler yn hanes y byd, heb sôn am hanes yr Alman, rhyfedd yw nodi mai dyma'r ffilm Almaenig gyntaf ers hanner can mlynedd i ddelio â'r Führer, ers Der Letzte Akt ac Es geschah am 20 Juli. Mae hon yn ffilm glyfar a grymus, sy'n llwyddo i ddelio, nid yn unig â ffigwr dadleuol Hitler, ond hefyd y grymoedd oedd wrth waith yn yr Almaen yn y cyfnod a alluogodd y digwyddiadau erchyll yn y rhyfel ac yn y ffilm.

Mae'r ffilm yn agor mewn tywyllwch, gyda llais adroddwr yr hanes, Traudl Junge (Alexandra Maria Lara), yn dweud wrthym na fu hi erioed yn Natsi brwd, ac er y gallai hi fod wedi gwrthod y gwaith, ei bod hi wedi dilyn yn ffyddlon am fod hynny yn ei natur. Ei gwaith, fe ddysgwn yn yr olygfa nesaf pan welwn nifer o ferched ifanc yn mynd am gyfweliad, oedd fel ysgrifenyddes bersonol Adolf Hitler. O'r olgyfa gyntaf honno rhwng y ddau, gwelwn drwy lygaid Junge sut mae Hitler yn gallu bod yn gymeriad tyner, ystyriol. Ond er gwaethaf y tynerwch ymddangosiadol hwn, mae'r shifft sydyn o ddwy flynedd a hanner, i Ferlin ym mis Ebrill 1945, yn dangos yr ochr arall, ddieflig i gymeriad Hitler.

Mae cyfarwyddyd Hirschbiegel o'r golygfeydd yn y byncer enwog yn ardderchog. Llwydda i gyfleu tyndra, tensiwn a pharanoia y dyddiau olaf hynny wrth i'r Fyddin Goch amgylchynu Berlin yn raddol. Prif gamp y cyfarwyddyd yw'r ffaith nad ydym ni'n gweld y gelyn am amser hir. Yn raddol, mae'r ffrwydriadau'n cynyddu eu maint, y goleuadau'n pylu, a phawb yn fwyfwy nerfus wrth iddynt sylweddoli fod popeth ar ben ar gyfer Trydedd Reich yr Almaen.

Yn ganolog i hyn, wrth gwrs, mae cymeriad ffanatig a gwenwynig Hitler, sy'n cael ei actio yn wefreiddiol gan Bruno Ganz. Yn y ffilm hon, mae Hitler yn cymryd troeon fel y tad caredig a'r plentyn anniddig, yn sgrechian ac yn melltithio wrth bawb a phopeth am y brad a'r llwfrdra sydd o'i amgylch. Ond gwelwn hefyd sut y mae ei gymeriad carismataidd wedi denu'r rheiny o'i amgylch. Hyd yn oed yn y foment dywyllaf, mae pobl yn ei ddilyn, ac yn ymbilio arno i gredu mewn buddugoliaeth hyd yr eithaf wrth i Ferlin falu'n deilchion o'u hamgylch. Mae Hitler wedi creu realiti iddo'i hun, gan gredu y bydd gwahanol fyddinoedd, sydd yn amlwg bellach yn fethedig wedi blynyddoedd o frwydro, yn dod i achub y dydd. Mae hefyd yn credu y bydd y rhai gorau yn gallu goroesi'r tân a fydd yn difetha'r wlad, gan adael iddo godi eto a chreu teyrnas newydd, oruwch o'r dinistr, yn seiliedig ar gynlluniau clasurol Albert Speer (cynlluniau y mae cyffwrdd arnynt yn y ffilm ragorol Max). Ond gwallgofrwydd pur yw hyn, ac mae Hitler yn araf yn sylweddoli mai dinistr fydd a dim mwy. Mae ef yn ddigon hy yn y diwedd i awgrymu mai bai pobl yr Almaen yw eu colled, heb gydnabod mai ef a fu'n gyfrifol am eu harwain i'r methiant a'r gwymp.

Ceir ambell i foment deimladwy yn y ffilm y tu hwnt i'r dadlau, y gwallgofrwydd a'r trais, ond nid yw'r rhain byth o fod ymhell. Enghraifft berffaith, yw pan caiff cyrff Hitler ac Eva Braun eu llosgi. Mae'r dorf o'u hamgylch yn sefyll, gan edrych ar y corff yn llosgi, gan saliwtio eu harweinydd coll. Ond yna, clywir bomiau'r Rwsiaid eto, a rhaid iddynt ddianc yn ôl i'r byncer, gan adael yr angladd cyflym i barhau hebddynt. Nid oes unrhyw feirniadaeth yn perthyn i'r ffordd y mae Hirschbiegel yn portreadu'r digwyddiadau. Mae'n llwyr ddeall sut mae'r bobl hyn wedi dilyn Hitler, ond nid yw'n derbyn hyn fel trywydd dilys i'w dilyn chwaith. Mewn golygfa lle mae Junge yn teipio nodiadau gwleidyddol ar lafar gan Hitler, mae hi'n gwingo, fel y byddem ni, wrth glywed y Führer yn ymhyfrydu am iddo lanhau tir yr Almaen rhag y 'gwenwyn Iddewig a oedd yn bla'. Yr hyn a lwydda'r cyfarwyddwr i'w wneud, yn hytrach na beirniadu, yw dangos sut mae dynoliaeth yn goroesi'r profion hyn, gan adael y beirniadu i ni.

Mae hon yn ffilm ragorol a dwys, sy'n ymchwilio yn ddwfn i'r natur ddynol, a'r hyn sy'n ein cymell. Pam bod rhai'n dilyn yn ufudd, heb gredu yn yr hyn y maent yn ei ddilyn? Pam bod rhai'n fodlon marw, yn hytrach na cholli pob dim sydd ganddynt a chael y cyfle i adeiladu o'r newydd? Mae'r rhain yn gwestiynau perthnasol, oesol, sydd yn sicrhau, er gwaethaf y cyd-destun hanesyddol, mai ffilm ar gyfer yr oesau yw hon. Ar ddiwedd y ffilm, dychwelwn at y gwir Traudl Junge (ei llyfr hi, Until the Final Hour: Hitler's Last Secretary yw'r ysbrydoliaeth i'r ffilm), a'i geiriau ychydig cyn iddi farw yn 2002. Mae hi'n holi wrthi ei hun, ar ôl gweld cofeb i rywun a fu farw drwy ddwylo'r Natsiaid a gafodd ei geni yr un flwyddyn a hi ac a ddienyddiwyd y flwyddyn y dechreuodd hi weithio i Hitler - "er i mi fod yn ifanc ac nad oeddwn i'n gwybod, fe allwn i fod wedi gwybod. Dyna yw gwaith pobl ifanc, bod yn ymwybodol a dysgu am y gwir".

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Ebrill 4, 2005 12:30 yh
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?