(IMDb)
Bydd Robert De Niro yn crio’i hun i gysgu ar ôl gweld y ffilm hon. Os oeddech chi’n meddwl bod gwaith De Niro yn Raging Bull yn dda, lle rhoddodd e bwysau helaeth ymlaen i bortreadu bocsiwr yn colli’i ffordd yn llwyr, mae Christian Bale yn y ffilm Gothig hon yn anhygoel. Ar gyfer y rôl fel Trevor Reznik, gweithiwr metel sydd wedi bod yn byw drwy hunllef effro am flwyddyn, roedd rhaid i Bale golli dros bedair stôn. Mae ei berfformiad yn wefreiddiol, er gwaethaf ffaeleddau’r ffilm.
Mae ffilm Brad Anderson yn gampwaith o ran creu’r paranoia y mae Reznik yn byw ynddo. Gwelwn y gwrtharwr yn ceisio bod yn berson da a gwella’i fywyd er gwaethaf popeth, ond yn y pen draw, fe sy’n tynnu ei hun i’w ffawd yn y diwedd drwy’r syniadau tywyll a’r delweddau erchyll sy’n byw yn ei ben. Yn yr un modd â Fight Club, mae’r holl syniadau gwael hyn yn cael eu hymgorffori gan Ivan, cymeriad afiach, sinistr sy’n cael ei weld gan Reznik yn unig. Yn araf, wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth i Reznik, caiff pob bai a phob drwg weithred eu troi tuag at Ivan.
Prif wendid y ffilm, o bosib, yw ei bod yn tynnu gormod ar ffilmiau eraill. Yn ogystal â’r gymhariaeth amlwg â Fight Club, mae adlais hefyd yn un o ffilmiau eraill Christian Bale, American Psycho, gyda’r cymeriad yn tynnu ei hun yn ddarnau drwy ddrwg weithredoedd y dychymyg oherwydd pechodau real neu ffantasi. Hefyd, ceir sawl cyfeiriad at Psycho gan Hitchcock, drwy ambell i ddyfyniad a hyd yn oed y llen gawod.
Mae’r holl hunllefau’n cael eu tynnu at ei gilydd yn dwt yn y diwedd, gyda’r datguddiad am Reznik a’i gyflwr presennol yn adleisio holl ddigwyddiadau’r ffilm yn gryno. Ond yn anffodus, mae Anderson yn llafurio’n ormodol dros hyn. Mae’r diweddglo’n un clyfar, ond gwell fyddai i Anderson ddangos hyn fel un fflach o gydnabyddiaeth i’r gwyliwr, yn hytrach na fel montage hirwyntog. Llwydda’r cyfarwyddwr i gadw’r tensiwn yn dda hyd y foment hon, felly trueni na allai fod wedi dilyn hyn yn briodol.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Ebrill 11, 2005 11:51 yb