Ebrill 12, 2005

The Assassination of Richard Nixon (Niels Mueller, 2004)

Mae ffilm ddiweddaraf Sean Penn, un o’r actorion gorau sy’n gweithio yn Hollywood, yn dilyn trywydd eithaf cyfarwydd i Penn, sef stori’r cymeriad ymylol, pathetig braidd. Mae perfformiad Penn yn The Assassination of Richard Nixon, yn rhagorol, wrth iddo bortreadu Samuel Bicke, cymeriad unig, trist sy’n ceisio gweddnewid ei fywyd ef fel unigolyn sy’n cael ei sathru gan y byd modern. Yn anffodus, mae Bicke yn dewis y dulliau anghywir o fynd ati i gyflawni ei nod, drwy ddewis trais i wella ei fywyd yn hytrach na cheisio ei ewyllys ei hun.

O ddechrau’r ffilm, gwelwn Bicke fel cymeriad trist ac unig. Mae ef wrthi’n cofnodi ei ‘waith’ ar dâp er mwyn ei anfon at Leonard Bernstein, y cyfansoddwr enwog a’r gŵr a oedd yn enwog am ei gefnogaeth o’r Black Panthers (sy’n ymddangos mewn golygfa ddigrif yn y ffilm) a’i wrthwynebiad i Ryfel Fietnam. Mae ei frawd hŷn wedi troi ei gefn arno a’i wraig (Naomi Watts) wedi’i adael, gan gymryd y plant gyda hi. Mae’n casáu ei swydd yn gwerthu dodrefn swyddfa am ei fod yn ddyn caredig, sy’n gwrthod twyllo’r cwsmeriaid sy’n dod i’r siop er mwyn cael mwy o arian ganddynt. Y caredigrwydd pathetig hwn a’r teimladau cynyddol o atgasedd tuag at fyd sy’n cael ei reoli gan arian yw craidd y ffilm, a dyma sy’n llywio perfformiad Penn.

Mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth i Bicke wrth i’w gais am fenthyciad gael ei wrthod, mae ei ysgariad yn cael ei gadarnhau, ac mae ei frawd yn canfod ei fod wedi dwyn oddi wrtho. Ond eto, nid yw Bicke yn gallu cydnabod fod hyn yn ganlyniad i’w weithredoedd ef yn ogystal â’r amgylchiadau gwleidyddol ac economaidd y mae’n byw ynddynt. Mae ei obsesiwn gyda Nixon (ceir delweddau diddiwedd ohono ar wahanol setiau teledu yn ystod cyfnod Watergate) yn cynyddu fwyfwy, wrthi iddo ddod i’r casgliad mai Nixon yw’r troseddwr mwyaf ohonynt i gyd, y gŵr sy’n gwerthu’r holl wlad drwy ei gelwyddau.

Mae’r ffilm hon yn rhagorol am ei bod yn dangos pa mor hawdd y bu hi i Bicke droi fel hyn. Mae’n gymeriad chwerthinllyd o bathetig, ond mae ei syniadau’n gywir, a’i ewyllys yn gryf. Adleisia’r ffilm, wrth gwrs, ddigwyddiadau’r cyfoes, ac mae’n glyfar yn y ffordd y mae’n dysgu i ni ddatgysylltu’r syniadau oddi wrth y syniadaeth. Ffilm sy’n adlewyrchu ei hoes yn gelfydd yw hon, ond sy’n dangos i ni’r peryglon oesol o fethu â myfyrio ar ein gweithredoedd.

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Ebrill 12, 2005 11:51 yb
Sylwadau

Faswn i'n aghytuno fod hi'n ffilm gelfydd, mae'r actio'n gelfydd gan bawb yn y ffilm, ond dyw'r cyfarwyddo ddim. Di-ddychymyg braidd ro'n i'n ei ffeindio hi, gyda dim math o naws dirywiad cyflwr meddyliol Bicke yn cael ei adlewyrchu'n weledol.

Ro'n i'n ei gweld hi'n amhosib peidio ei chymharu a Taxi Driver - ffilm arall am wr sydd yn gweld llygredd moesol yn trwytho ei gymdeithas ei ddinas a'i fywyd, ac sydd yn y pen yn ei wthio i weithredu mewn ffordd eithafol. Mae hyd yn oed yn ymdebygu o ran pryd a gwedd i De Niro ar adegau, wedi'i ddrysu'n llwyr gan y byd o'i gwmpas, lle nad oes unrhywun yn gwrando ar lais y 'dyn bach' anelwig.

Y peth am Taxi Driver yw ei fod yn gyfangwbl lwyddiannus yn adeiladu at ei ddiweddglo hunllefus - mae'r gerddoriaeth, y gwaith camera a'r golygu mentrus yn cyfuno i greu naws o arswyd am yr hyn sydd am ddigwydd. Yn TAORN, dydy hyn ddim yn digwydd, gan orfodi'r cymeriadu i gario'r ffilm yn llwyr. I fi roedd hyn yn creu diweddglo lle na chefais fy synnu'n ormodol, a lle nad oeddwn yn teimlo yn ddigon ym mhen Bicke i allu teimlo ei boen o.

Iawn, mae hi'n ffilm sy'n ceisio astudio beth wnaeth arwain ato'n gwneud y ffasiwn beth yn hytrach na'r diweddglo ei hun, ond o weld y defnydd meistrolgar o'r cyfrwng yn ffilmiau fel Taxi Driver a The Machinist i raddau llai, roeddwn i'n gweld yr astudiaeth yn un braidd yn arwynebol.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Ebrill 12, 2005 01:54 yh

Mi o'n i'n hoff iawn o'r ffilm. Falle mai'r actio sy'n cario'r ffilm a'r ffordd mae Penn yn dangos dirywiad y cymeriad yn araf bach, ond ro'n i'n teimlo fod y ffordd mae'r ffilm wedi'i chyflwyno mewn ffordd berthnasol iawn. Digon posib 'mod i'n chwilio am rywbeth gwahanol mewn ffilm - h.y. bod moeswersi'n cael eu dysgu gennym ni a chan y cymeriadau.

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Ebrill 12, 2005 03:21 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?