Tachwedd 15, 2005

Cystadleuaeth DM Davies lawr i'r chwech olaf

dmdavies.gif

Neithiwr cyhoeddwyd y chwech ffilm a'u cyfarwyddwyr sydd wedi cael eu dewis i fynd mlaen i'r chwech olaf yng nghystadleuaeth ffilmiau byr DM Davies.

Bydd y rhain rwan yn mynd ymlaen i gael eu dewis gan y rheithgor wadd anibynnol sydd yn cynnwys: Michael Kuhn, Dagur Kari, Jay Duplass, Frances Hendron and Alan Edmonds.

Dyma'r chwe ffilm:

Life Before Death (Helen Iles o Abertawe) (gwyliwch y ffilm)

Mabel (Wyndham Price o Gaerdydd) (gwyliwch y ffilm

Dawn (Shreepali Patel o Gaerdydd)

The Playhouse (Dafydd Bedwyr Hughes o Drawsfynydd) (gwyliwch y ffilm)

Carmen (Massimo Salvato o Gasnewydd) (gwyliwch y ffilm)

Say it With Flowers (Wyn Mason o Gaerdydd) (gwyliwch y ffilm)

Rhaid cyfaddef taw braf yw gweld ffilm anibynnol gan rywun o'r gogledd yno, wyddwn i ddim fod Traws yn gymaint o ganolobwynt am weithgaredd ffilm yn y Gogledd, er cofiwch taw yno y saethwyd Hedd Wyn a First Knight...efallai fod hyn wedi gadael blas ar y big time ar y dref.

Mae'n dda hefyd gweld ffilm ddogfen yn eu mysg (Life Before Death), a ffilm gan fyfyriwr (Carmen). Mae hi'n gymysgedd reit dda o ffilmiau anibynnol, myfyrywr a rhai a dderbnyniodd arian cynhyrchu. Am newid mae'r balans rhywiol yn reit dda hefyd.

Llongyfarchion iddyn nhw felly, bydd y ffilm fuddugol yn cael ei dewis ar y 18fed Tachwedd mewn seremoni yn Cineworld Caerdydd.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Tachwedd 15, 2005 09:42 yb
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?