Tachwedd 15, 2005

Howl's Moving Castle (Hayao Myiazaki, 2005)

HOWLS_MOVING CASTLE_273x407.jpg

(IMDb)

Hawliwyd y ffilm animeiddiedig, Sprited Away (Hayao Myiazaki, 2001), fel un o gampweithiau mwyaf animeiddio ar ei rhyddhau yma yn 2003 (bron i 2 flynedd union wedi iddi gael ei dangosiad cyntaf yn Siapan). Yn wir hawliwyd hi fel nid yn unig ffilm animeiddiedig orau'r flwyddyn, ond un o holl ffilmiau gorau'r flwyddyn, o bob genre. Felly, roedd gan y ffilm ddiweddaraf i ddeillio o'r anorchfygol Stiwdio Ghibli fynydd go uchel i'w dringo er mwyn cyrraedd uchafion ei rhagflaenydd. Ydi Myiazaki wedi llwyddo ei barhau ei rediad enillol ddi-derfyn neu oes craciau'n ymddangos yn waliau'r palas breuddwydion?

Wel, ddwedwn i nad ydi o wedi ei golli o'n llwyr. Mae'r ffilm hon yn aml yr un mor hudolus a Spirited Away yn ei ffordd ei hun, gan ddisgyn oherwydd cymhlethdod y sdori'n fwy na dim arall.

Camp y cyfarwyddwr yw i greu byd plentynaidd a'i phontio â byd oedolion a'r byd go iawn. Yn wahanol i Disney, sydd yn aml yn encilio i fyd gyfangwbl ffantasiaidd, mae byd yr oedolyn a themau cryf fel rhyfel, trais a chasineb yn bleth â'r dychymyg hyfyw plentynaidd drwy ffilmiau Miyazaki. Hyn sydd yn hudo cynulleidfaoedd mor gymysg i wylio ei ffilmiau. Er enghraifft mae My Neighbour Totoro (1988) yn delio a sefyllfa mam sy'n dioddef o gansr a dihangfa ei phlant mewn i fyd ffantasi, mae Princess Mononoke (1999) yn alegori amgylcheddol gyda brwydr ddigon gwaedlyd yn erbyn gelyn dychrynllyd sy'n lladd y tir - digon gwaedlyd i ennyn tystysgrif PG yn y DG. Dyw'r Siapaneaid (na Choreaid y De chwaith) ddim yn rhai i guddio rhag eu ofnau dyfnaf yn eu gwaith creadigol, mae hyn yn amlwg yn eithafion ffilmiau arswyd auteuriaid siapaneiadd fel Takashi Miike a Shinya Tsukamoto, ac mae hyn yn treiddio i hyd yn oed eu animeiddio ar gyfer plant.

Yn Howl, mae Sophie, merch dlawd sy'n gweithio'n gwnio hetiau, yn cyfarfod bachgen golygus sy'n ei achub rhag dau soldiwr slebogaidd. Y noson honno, mae'r Witch Of The Waste, yn dod i'w siop ac yn rhoi melltith arni sy'n ei throi hi mewn i hen ddynes. Mae hi'n dianc o'r ddinas ac yn ffeindio Howl eto, sy'n byw mewn castell symudol hynod. Wrth ymsefydlu yn y castell daw yn ffrindiau gyda Calcifer, diafolyn tân, sydd hefyd yn sownd dan felltith, a disgynna'n araf bach mewn cariad â Howl, sy'n gweld trwy felltith y wrach. Gyda'u gilydd brwydrant yn erbyn Suliman, cyn diwtor dewiniaeth i Howl, a cheisio dod a threfn i'r byd sydd dan warchae rhyfel mawr.

Mae'r animeddio, y cymeriadau, y syniadau, a'r neidiau bendigedig o ddychymyg pur a welir yn y ffilm yn parhau i fod yn gyfareddol gan beri gwen i unrhyw granc. Yr unig fan y mae'n disgyn yw yn y naratif ei hun, sydd yn datblygu cymaint o edefynnau gwahanol ei bod hi'n amhosib i'r cyfarwyddwr eu plethu nol at eu gilydd yn un cwlwm twt yn y diwedd. Gwell efallai fuasai bod wedi gadael y ffilm yn fwy penagored, ond mae confensiwn ffilmiau plant yn atal hynny. Mae yn sdori am y rhyfel mawr, sdori am frwydr Howl a Suliman, sdori gariad Howl a Sophie, sdori brwydr Howl ei hun yn erbyn hunan dosturi a hunanoldeb...a sawl un arall sydd yn brwydro am eu lle yn eich meddwl.

Yn y diwedd â hyn yn ormod, ac mae rhywun jest yn derbyn beth sydd yno, ac yn ceisio mwynhau y delweddau gan anwybyddu unrhyw edefynnau a aeth ar goll. Duw a wyr beth mae plant yn ei feddwl ohoni serch hynny! Er, mae'n siwr eu bod nhw ddim yn meddwl dim am y ffasiwn bethau ac yn mwynhau hi am beth ydi hi.

Darllenais yn Sight and Sound fod y tirlun y llyfr gwreiddiol wedi ei seilio ar Gymru (cyn belled ac y gellir cael "tirlun" mewn llyfr...) sydd wedi ei drawsblannu i wlad Alpaidd yn y ffilm, ond wedi chydig ymchwil, ymddengys nad yw Diana Wynne Jones o Gymru, ond bu yn faciwi am chydig cyn mynd i rdal y llynnoedd ac yn a nol i Lundain, ei thref enedigol. Efallaim felly, ond brau iawn yw'r ddolen a Chymru a dweud y gwir.

Felly, os gafoch chi droedigaeth i ffilmiau Myazaki gyda Spirited Away yna ewch i weld hon, mae digon o wledd yno i gynnal eich diddordeb, ond peidiwch a disgwyl cyfanwaith mor gampus a hanes Chichiro.

Os ydych yn ffan o'r ffilmiau hyn mae Nausicaa yn wledd o wefan.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Tachwedd 15, 2005 11:46 yh
Sylwadau

Fi'n cofio gweld y ffilm yma rhyw fis a hanner yn ol, ac chafodd argraff fythgofiadwy arnai, yn yr un modd a ffilmiau eraill Myiazaki 'Laputa' a 'Spirited Away'

Braf yw i weld Myiazaki yn parhau gyda'i gydsylltiad a Chymru. (Aeth i Fethesda er mwyn cael ysbrydoliaeth tra'n ddylunio tirlun 'Laputa')

Postiwyd gan: Rhodri, Tachwedd 17, 2005 12:29 yh

Ie, dwi dal isio gweld gweddill ei ffilmau. Mae Laputa, Kiki's Delivery Service a Porco Rosso ar y rhestr siopa!

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Tachwedd 28, 2005 11:57 yb

Mae hen ffilmaiu fel Laputa yn anodd ddod o hyd iddynt. E-bay yw dy fet orau. Cefais Laputa am £5.

Postiwyd gan: Rhodri , Tachwedd 28, 2005 12:01 yh

Wnaeth fy ffrind i gael 7-disc set anghyfreithlon o America. Oll yn Jap efo isdeitlau yn cynnwys 13 o ffilmiau! Dim ond tua $60 dalodd o amdanyn nhw! Basdad. Dwi'n methu'n glir a ffeindio lle gafodd o nhw rwan.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Tachwedd 29, 2005 07:31 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?