Heno, bydd gŵyl ffilmiau newydd yn dechrau yn Chapter, â'r nod o amlygu trais yn ebryn menywod mewn cymdeithas. Cydweithrediad rhwng Amnest Rhyngwladol a Chapter yw hon, a bydd yn para am un diwrnod ar bymtheg, tan y degfed o Ragfyr.
Mae'r ffilmiau a ddangosir yn rhai amrywiol o ran arddull, ond ag un peth yn gyffredin, sef dadlennu'r masg sy'n cuddio trais yn y cartref drwy beri ofn, a phobl sy'n rhy aml yn fodlon troi'r ffordd arall a derbyn y sefyllfa. Meddai Eleanor White, Cyfarwyddwr Rhaglen Amnest yng Nghymru:
"Mae Amnest Rhyngwladol a Chanolfan Gelfyddydau Chapter wedi cydweithio i ddangos amrywiaeth gyffrous o ffilmiau yn ystod 16 diwrnod yr ŵyl. Mae'r ffilmiau hyn yn mynd i'r afael â thestun trais yn erbyn menywod, sy'n aml yn cael ei guddio yn ein cartrefi, ein teuluoedd a'n cymunedau. Dewison ni ffilmiau sy'n ddiddorol, yn peri i chi feddwl ac sy'n amrywiol eu natur. Rydym eisiau cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, boed yn ddynion neu'n fenywod."
Monster, gyda Charlize Theron, fydd y ffilm gyntaf i gael ei dangos heno, sy'n ymdrin ag achos enwog Aileen Wuornos. Mae gweddill y ffilmiau fel a ganlyn:
27 Tachwedd - Lilya 4-ever
28 Tachwedd - At Five in the Afternoon
29 Tachwedd - Nil By Mouth
30 Tachwedd - Maria Full of Grace
1 Rhagfyr - Together
2 Rhagfyr - Fire
3 Rhagfyr - Once Were Warriors
4 Rhagfyr - The Circle
6 Rhagfyr - Hotel Rwanda
7 Rhagfyr - Take My Eyes
8 Rhagfyr - Sex Traffic
9 + 10 Rhagfyr - Moolaadé
Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Amnest yng Nghaerdydd ar 029 2037 5610.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Tachwedd 25, 2005 04:50 yhDwi'm yn siwr sut alla rywun fynd i weld yr holl ffilmiau na - fasa'n ddigon i'ch anfon i bydew du uiselder am wythnosa.
Wedi deud hynny, cerwch i weld Together - mae'n hyfryd o ffilm. Doniol ac uplifting iawn.
Lilya 4-Ever bach yn rhy nyts, Moolade fod yn wych hefyd.
Leityrs
R