Tachwedd 28, 2005

Eisteddfod 2006: Cystadleuaeth Ffilmiau Byr Cymraeg

Sgennoch chi sgript ffilm 10-munud Gymraeg? Awydd cash am ddim i'w chynhyrchu hi a chydig o hyfforddiant yn y fargen? Darllenwch 'mlaen...

Mae yna un gystadleuaeth ffilm wedi'i chuddio yng nghrombil cynfansoddiadau'r Eisteddfod. Y llynedd doedd yna ddim ond dau ymgeisydd a dim enillydd (am nad oedd y ddau gais yn gymwys! un yn rhy hir o lawer a'r llall ddim yn sgript ffilm). Mae'r nifer o ymgeiswyr yn y blynyddoedd cynt wedi bod yn o sal hefyd, gyda rhai blynyddoedd heb un cais!

Eleni, mae Cyfle wedi newid y gystadleuaeth rywfaint gan alluogi i'r ennillydd gynhyrchu eu ffilm dan hyfforddiant er mwyn ei dangos yn ystod yr Eisteddfod ei hun.

Mae hyn yn gam da mlaen gyda'r gystadleuaeth yn fy marn i ond mae angen rhagor o arian (£500 + hyfforddiant sydd ar gael) a rhagor o sylw i hyn. Pam hefyd nad oes yna gystadleuaeth ar gyfer ffilm fer orffenedig Gymraeg yno eto? Mae cymaint ohonynt yn cael eu cynhyrchu ac mae'n drueni nad ydynt yn cael eu cydnabod fel celf gydradd a theatr a'r chelf gweledol eraill.

Beth bynnag, os mae digon o bobol yn cystadlu, efallai y sylwan nhw fod na le i ffilm ar faes y steddfod a fod angen rhoi abwyd i ddatblygu mwy ar y sgriptwyr a chyfarwyddwyr sydd allan yno'n ceisio creu ac yn aml yn gorfod creu gwaith yn y Saesneg. Felly dyma'r manylion...

** Dyddiad Cau: 31 Ionawr **

Ysgoloriaeth Geraint Morris mewn cydweithrediad â Cyfle

116. Sgript drama deledu neu ffilm 10 munud o hyd

Cystadleuaeth yn agored i unigolion dros 18 oed – nid yw’n agored i awduron sydd wedi ysgrifennu drama neu ffilm a gafodd ei chynhyrchu a’i darlledu. Rhaid i’r ddeialog fod yn wreiddiol i’r cystadleuydd ond caniateir i’r stori fod yn seiliedig ar ddigwyddiad neu waith arall ond rhaid nodi hyn gyda’r gwaith. Rhaid i’r sgript fod yn y Gymraeg.

Y bwriad yw cynhyrchu’r ddrama neu ffilm fuddugol a’i dangos yn yr Eisteddfod. Bydd Cyfle yn defnyddio’r cynhyrchiad i roi hyfforddiant a bydd modd i’r buddugol fod yn rhan o’r gwaith cynhyrchu. Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth uchod er cof am Geraint Morris, cynhyrchydd teledu llwydiannus ac uchel iawn ei barch yn y diwydiant yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd. Daeth ei enw i amlygrwydd fel cynhyrchydd cyfresi gyda’r BBC – cyfresi fel The Onedin Line, Softly, Softly, ac, yn arbennig felly, o bosib, Casualty, y gyfres hir, boblogaidd y bu Geraint yn gyfrifol am ei sefydlu. Ymhlith cynyrchiadau poblogaidd eraill o’i eiddo y mae The Bill, Juliet Bravo a Wycliffe, ac efe fu’n gyfrifol am y gyfres boblogaidd Pam fi Duw? Dylid cysylltu â swyddfa’r Eisteddfod er mwyn derbyn canllawiau.

Dyddiad cau: 31 Ionawr 2006
Gwobr: Ysgoloriaeth gwerth £500 o Gronfa Geraint Morris
Beirniad: John Hefin

Canllawiau Ysgoloriaeth Geraint Morris a Cyfle

Yn y gorffennol mae ymgeiswyr wedi cael rhyddid i ysgrifennu darnau amrywiol. Eleni rydym yn chwilio am gynnyrch y bydd modd ei gynhyrchu - ac ei ddarlledu.

Oherwydd fod gan Cyfle fwriad i gynhyrchu'r sgript fuddugol fel drama fer mae gofyn i'r cynnwys fod yn bosib ei chynhyrchu o safbwynt ymarferolbeb a chost.

Oherwydd hynny mae angen ysgrifennu'n gynnil gyda nifer cyfyngedig o gymeriadau a lleoliadau. Gwell fyddai stori gyfoes fachog.

Yr awgrym yw hyd at chwe chymeriad a dau neu dri lleoliad ond mae hyblygwrydd rhesymol yn dderbyniol.

Yn groes i'r canllawiau gwreiddiol ni fydd gweithdai yn cael eu cynnal.

Dydi o ddim yn nodi'n union lle dylid anfon ceisiadau, ond mae'n debyg ei bod yn reit saff eu anfon at Bencadlys y Steddfod sef:

Pencadlys Eisteddfod Genedlaethol Cymru
40 Parc Ty Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5WU

Ffôn: 029 2076 3777
e-bost: gwyb@eisteddfod.org.uk

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Tachwedd 28, 2005 06:37 yh
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?