Rhagfyr 22, 2005

KING KONG (PETER JACKSON, 2005)

Ail-wneuthuriad o King Kong (1933) sy’n cynnwys Naomi Watts, Jack Black, Adrien Brody ac Andy Serkis. Mae difetha diwedd King Kong ychydig bach fel difetha diwedd Passion of the Christ, ond mae’r adolygiad yma’n cynnwys difethwyr mawr mwncïaidd.

Diddorol yw cymharu'r fersiwn yma o King Kong gyda’r gwreiddiol, oherwydd bod nifer o’r newidiadau yn dweud llawer am sut mae’r byd wedi symud ymlaen yn y 72 mlynedd hwnnw. Yn y gwreiddiol roedd cymeriad Jack Black, Carl Denham, yn gymeriad hoffus, brwdfrydig ac uchelgeisiol. Roedd yna rywbeth arwrol am y ffordd yr oedd o’n creu dinistr yn enw anturiaeth ac yn saethu rhinoseros gwyn. Roedd gwareiddiad yn gorchfygu natur yn beth da. Yn y byd modern, ble mae’r ddynoliaeth mewn peryg mawr o ddinistrio natur, mae Deneham yn cael ei bortreadu fel cymeriad creulon sy’n fodlon aberthu ei ffrindiau a heddwch natur ar yr ynys er mwyn elw hunanol. Mewn un olygfa mae’n galaru dros ei gamera toredig gyda mwy o emosiwn nag y ffrindiau sy’n gorwedd y farw wrth ei ymyl. Mae gan Jack Black orchwyl anodd am fod yn rhaid iddo chwarae cymeriad sy’n holl groes i’r digrifwr mae’r gynulleidfa yn ei ddisgwyl, ond mae’n ymgorffori'r cymeriad yn berffaith. Dim ond yn un olygfa mae Jack Black y Tenacious D yn codi i’r wyneb: “I am touching the beast!”

Mae cymeriad Adrien Brody, Jack Driscoll, hefyd wedi datblygu o forwr rhywiaethol yn y ffilm wreiddiol i’r dramodydd hydeiml mae merched heddiw yn ei ffafrio. Ond wrth gwrs, buan iawn mae'r cymeriad yn tynnu’i fest ac yn gwaredu ei gariad o afael y bwystfil mawr, gan brofi nad yw barn cymdeithas ar rôl y gwryw heb newid cymaint â hynny wedi’r cwbwl. Mae Adrien Brody yn chwarae'r rôl yn dda iawn, yn enwedig yn awr gyntaf y ffilm. Gwaetha’r modd unwaith y mae Kong ei hun yn ymddangos dyw Jack Driscoll ddim yn medru cystadlu am sylw’r naratif, ac mae’r cymeriad yn ymdrechu heb lawr o lwc i gael unrhyw effaith yn y drydedd act.

Y gwahaniaeth pennaf rhwng y ddwy ffilm yw cymeriad Naomi Watts, Ann Darrow. Yn y gwreiddiol roedd King Kong yn greadur hollol frawychus iddi, a doedd hi’n gwneud dim byd ond sgrechian drwy’r cwbwl. Yn y ail-wneuthuriad ym mae Ann Darrow yn caru’r creadur yn ôl. Dim ryw fath o gariad serchog sydd yma ond cariad rhwng epa unig (mae sgerbydau ei deulu ymadawedig wedi’i gwasgaru ar hyd llawr ei ffau) a merch unig. Yn hynny o beth mae’r ffilm ychydig yn ddryslyd. Mae’r un rhamant rhwng yno rhwng Ann Darrow a Jack Driscoll ag oedd yn y gwreiddiol. Pam felly bod Ann Darrow yn awyddus i ddenu anwyldeb epa anferth? Prif drasiedi'r gwreiddiol oedd bod cariad Kong heb ei dalu'n ôl o gwbwl. Mae’r trasiedi dal yno i ryw raddau. Mae Ann yn galaru dros Kong fel y byddai rywun yn galaru dros anifail anwes hoffus, ac mae’r ffaith ei bod hi’n rhedeg yn syth i ddwylo Jack Droscoll, cymeriad sy’n rhannol gyfrifol am farwolaeth y creadur, yn dangos nad oedd ei chariad hi ddim wir yn rhedeg mor ddwfn â hynny. Roedd Kong angen Ann ond doedd Ann ddim gwir angen Kong.

Mae Kong yn greadigaeth wych, hollol gredadwy drwyddo draw. Mae’n syndod i ba raddau mae modd i’r gynulleidfa ddarllen yr emosiwn ar ei wyneb heb iddo yngan gair na chwaith ddefnyddio unrhyw fynegiannau dynol. Does dim ennyd gwael yn y ffilm pan fod Kong yn dominyddu’r sgrin. Gweddill y ffilm sy’n siomi ychydig bach.

Mae’n sicr y dylsai Peter Jackson gyflogi golygydd llawer mwy strict i brofi ei waith. Mae’r pedwar deg munud cyntaf cyn i’r cwch gyrraedd ynys King Kong yn hynod o araf ac yn cynnwys amryw o olygfeydd sy’n ychwanegu bron i ddim byd i weddill y ffilm. Mae ‘na ambell i olygfa gyda Jimmy (Jamie Bell) a Mr. Hayes (Evan Parke) sydd hollol wahanedig o’r gweddill. Mae’n rhaid i Peter Jackson ddysgu defnyddio’r siswrn yn ogystal â’r camera. Ond wedi dweud hynny, wnes i siarad â chynrychiolydd benywaidd yn y gynulleidfa a dywedodd hi fod y holl ddarnau yr oeddwn i’n credu oedd yn ddiflas a dylai’r golygydd fod wedi’i dorri yn wych a’r holl ddarnau roeddwn i’n credu oedd yn wych yn ddiflas. O wel, mae ‘na fotwm ‘nesaf’ ar reolydd y DVD am reswm.

Mae’r ffilm yn dioddef o fod yn dwp iawn ar adegau hefyd. Er enghraifft, pam bod y bobl leol wedi adeiladu wal anferth i amgylchynu’r ynys i gadw’r epa anferth draw? Mae’r epa yn gallu dringo’r Empire State Building, wneith wal gan droedfedd ddim gofyn llawer iddo. Mae ‘na un olygfa hefyd gydag ystlumod sy’n hollol od a gwirion. Mae’r rhannau cartwnaidd yn tanseilio'r emosiynau naturiol rhwng Ann a Kong.

Ond mae’r rhannau sâl yn cael eu gor-rifo gan y rhannau gwych. Dydw i ddim am ei sbwylio nhw o gwbwl (mi wnaeth y ffilm ddioddef ychydig bach i mi oherwydd yr oeddwn i wedi gweld ei hanner o mewn hysbysluniau cyn mynd i’r sinema). Dyma’r ffilm gyntaf i’m ddifyrru i yn y fath ffordd ers Jurassic Park yn 1994. Ond mae hon yn ffilm well na honno, a’n llwyddo i gymysgu emosiwn gyda pharchedig ofn mewn i gampwaith o beth. Roedd y ffilm wreiddiol yn un pum seren ar y pryd, ac mae hwn ychydig yn well. Mae popeth oedd yn eisiau yn y gwreiddiol yma, ac ychydig o bethau eraill doedd ddim wir ei hanged nhw hefyd.

Postiwyd gan Ifan Morgan Jones ar Rhagfyr 22, 2005 05:48 yh
Sylwadau

Dwi di gweld y ffilm wreiddiol a'r ail-wneuthuriad o 1976 ond i fod yn hollol onest dwi'm yn i cofio nhw rhyw lawer. Gallai'm i cymharu nhw gyda'r ffilm yma heb i gweld nhw eto, ond, mi wnai basio marn ar y King Kong newydd. Diflastod llwyr oedd e i fi i ddweud y gwir. Dwi'n cytuno da ti bod isie golygydd gwell ar Jackson, ma'r ffilm yn lot rhy hir. Mi oedd Jack Black yn ddi-fflach fel actor, ac ynte fel arfer yn dod a gymaint o egni i'r sgrin. Jamie Bell yn ddiflas a Brody, wel dwi'n i gasau e fel actor ta beth felly does dim pwynt i fi ddechre arno fe. Mi oedd y gwaith CGI ar Kong i hun yn wych, wedi gweld pwt o raglen ddogfen am Andy Serkis (Kong/Gollum) ma'n rhaid dweud fod y boi yn dalentog tu hwnt a ma Jackson yn lwcus ohono fe. O ran peth o'r gwaith CGI arall mi oedd e bach yn wan yn enwedig y darne da'r deinosoriaid mewn 'stampede' a mi oedd na brobleme 'depth of field' mawr yn ambell i olygfa wrth iddyn nhw gymysgu CGI a ffilm. Dwi'n falch y mod i di bod i'w weld e yn y sinema ond dwi'm yn meddwl wnai wylio fe 'to pan ddeith e ar y teledu (ma'r un peth yn mynd am LoTR a Harry Potter i finne 'fyd).

Postiwyd gan: Illtud Dunsford, Ionawr 10, 2006 12:32 yh

Welcome! http://www.dirare.com/India/ business yellowpages. international directory: About DIRare, Search in Business Category, Yellowpages search. Also [url]http://www.dirare.com/China/[/url] and [link=http://www.dirare.com]companies of the world[/link] from yellow pages .

Postiwyd gan: yellow pages main, Mai 15, 2006 10:00 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?