Mai 24, 2005

Cannes - pwy 'nillodd pwy gollodd...

Dwi ddim am fynd mewn i ormod o fanylder a dolenni yma gan fod GreenCine Daily, fel arfer, yn gwneud hynny'n ymarfer dibwynt.

Ond mi wna i ddweud fod y bois nath ennill - Jean Pierre a Luc Dardennes - wedi ennill y Palme D'Or am yr ail waith, ac dwi'n meddwl wedi ennill yr actor gorau gyda ffilm arall. Dau foi o Wlad Belg, gwlad sydd ddim llawer mwy na Cymru, ond gwlad sydd wedi buddsoddi llawer mwy yn eu diwydiannau creadigol. Hmmm...

Aparyntli Haneke oedd y ffefryt.

Y rhai dwi'n edrych mlaen i'w gweld yn y sgrin leol:

Sin City - Robert Rodriquez

A History of Violence - David Cronenberg

Broken Flowers - Jim Jarmusch

Hidden - Michael Haneke

Manderlay - Lars Von Trier

Dyma drosolwg y Guardian ar yr wyl fawr.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 06:00 yh | Comments (0)

Llwyddiant i Gymru yn Cannes!

Mae darlithydd ffilm o Goleg Ffilm Rhynglwadol Casnewydd wedi cael llwyddiant ysgubol gyda ei ffilm ddogfen "Sisters In Law" yn Ngwyl Ffilm Cannes eleni.

Mae'r ffilm yn dilyn hynt erlynwraig a barnwr llys yn nhref Kumba yn Cameroon.


Enillodd y cyfarwyddwr, Florence Ayisi - sy'n enedigol o Cameroon, wobr y Prix Art et Essai a chael Clod Arbennig gan Europa Cinemas. Dwi'n credu taw hwn yw'r tro cyntaf i ffilm gan rywun o Gymru ennill rhywbeth yn Cannes ers amser maith iawn.

Saethwyd y ffilm dros gyfnod o 3 mis ac ariannwyd y ffilm gan Film Four.

Dywedod Ayisi taw "ei amcan oedd i ddangos delweddau gwhanol o Affrica i'r gynulleidfa ehangaf posib ac fod hyn nawr yn dechrau digwydd".

Llongyfarchiadau enfawr i Florence, a dwi'n edrych mlaen yn eiddgar i gael gweld y ffilm.

Manylion "Sisters In Law" ar Britfilms

Erthygl am y ffilm ar One World UK

Rhagor o wybodaeth amdano o'r FT o bobman.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 05:42 yh | Comments (2)

Mai 20, 2005

Rear Window (Afred Hitchcock, 1954)

Rear Window yw un o ffilmiau mawr y sgrin fawr, ac yn un o glasuron mewn gyrfa llawn clasuron gan Alfred Hitchcock. Ei chanolbwynt yw obsesiwn cynyddol L.B. Jefferies (James Stewart), sy'n gaeth i gadair olwyn wedi iddo dorri ei goes, â bywydau'r bobl y gall eu gweld o'i ffenest gefn, ac yn benodol, un cartref sy'n dwyn ei sylw'n fwy na'r lleill.

Wrth gwrs, fel sy'n nodweddiadol yn ffilmiau Hitchcock, mae llawer mwy yn perthyn i'r ffilm na'r hyn a welwn ar yr arwyneb. I ddechrau, mae Jefferies yn ymddiddori ym mywydau ei gymdogion er mwyn osgoi ei berthynas gyda'r hyfryd Lisa Carol Fremont (Grace Kelly) a'i bryderon na fydd y berthynas yn gweithio oherwydd nad oes ganddi hi, yn ei dyb ef, ddigon o fywyd ynddi. Wedi'r cwbl, mae'r ddau ohonynt yn dra gwahanol - hithau'n 'socialite' sy'n mwynhau'r bywyd moethus ac yntau'n berson mwy ymarferol, sydd eisiau profi bywyd ar lefel fwy real.

Wrth iddo syllu allan drwy'r ffenest, daw llawer o fywydau i'r amlwg. Mae Lars Thorwald (Raymond Burr, neu Perry Mason i chi o bosib) a'i wallt llwyd a'i sbectol yn gwneud pethau amheus gyda chyllyll a llifiau ac yn mynd a dod yng nghanol nos. Mae Miss Lonelyhearts, a'i bywyd unig, pathetig, y pâr priod newydd, y cyfansoddwr â'i bryderon am ei greadigrwydd, y fenyw yn dawnsio sy'n mwynhau cael ei gwylio. Ond Thorwald sy'n mynd â bryd Jefferies, wrth iddo sylwi ar ei wraig yn mynd ar goll yn sydyn.

Mae'r ffilm yn ddychan ysgafn ar yr America perffaith. Er gwaethaf yr holl weithgarwch sy'n digwydd yn y gymdogaeth fach y tu allan i ffenest Jefferies, does neb yn ymdrin â'i gilydd. Mae pob un yn byw eu bywydau preifat, heb sylwi ar ddim heblaw'r hyn sydd rhwng cyfyng furiau. Caiff hyn ei chwalu pan mae ci y bobl gyferbyn â Jefferies yn cael ei ladd. Fel y dywed y fenyw, doess neb yn poeni a fydd neb, gan gynnwys Jefferies, sy'n eistedd yno'n syllu heb adnabod neb, yn ceisio dirnad gweithredoedd un dyn.

Yn y diwedd, nid y cwestiwn os llofruddiodd Thorwald ei wraig sy'n bwysig, ond yn hytrach yr hyn sy'n digwydd mewn bywyd arferol. Mae Miss Lonelyhearts yn dod o hyd i ddyn. Mae'r cyfansoddwr yn dod o hyd i rywun i werthfawrogi ei waith. Mae cariad y ddawnswraig yn dychwelyd o'r fyddin. Mae'r bobl gyferbyn yn cael ci newydd. A gwelwn fod Stewart a Kelly, drwy gydweithio i sbio ar Thorwald, wedi dod i adnabod ei gilydd, tra'n cadw at y gwahaniaethau bach sydd rhyngddynt. Wrth i Stewart gysgu, mae Kelly'n rhoi'r llyfr antur, dymuniadau Stewart, i un ochr, ac yn edrych yn ei chylchgrawn ffasiwn. Delwedd o'r bywyd sydd i ddod.

Posted by Geraint Criddle at 01:59 yh | Comments (0)

Star Wars Episode III - Revenge of the Sith (George Lucas, 2005)

Wedi Pennod gyntaf ofnadwy ac ail bennod ddifyrrus ond fflat, a all Star Wars orffen gyda boddhad mawr i'w niferoedd anferth o ganlynwyr penboeth?

Fel meddai rywun medrus un tro, cysywllt yw popeth. Felly, mae'n werth cloddio mewn i hanes yr adolygydd cyn mynd ymlaen ychydig ymhellach. Dydw i ddim yn fan o Star Wars. I fod yn fwy manwl gywir, dydw i ddim yn fan o Star Wars oherwydd bod fans Star Wars yn gwthio'r term 'fan' heibio'r gair gwreiddiol 'fanatic' a tuag at y gair 'ynfytyn'. Felly, mi fyswn i'n fwy o fan Star Wars nag y byswn i yn fan o Pingu, er enghraifft, ond, fel y dywedais, cyswllt yw popeth, felly y byswn i'n galw fy hun yn fan o Pingu ond dim Star Wars, am fod cynodiadau mawr iawn i alw dy hun yn fan o Star Wars. Fel cael dy labelu'n fachgen bach unig sy'n ceisio anwyldeb yn ei gledr eu hun gan amlaf. Dwi'n gweld y Star Wars cyntaf ychydig yn ddiflas (mi wnes i geisio gwylio'r DVD cyn mynd i'r sinema, a sgipio hanner y blaned Tatooine), dw i'n meddwl bod Empire Strike Back yn wych, a golygfeydd olaf Return of the Jedi yn ddiddorol iawn. Mi wnes i hoffi Phantom a Clones, ond roeddynt yn gwaethygu gyda bob ystyriaeth. Dyna fy marn i ar Star Wars hyd yn hyn. Da iawn ydyw, ond dim byd i fynd yn wallgo' drosto, na datgan anghydweddogrwydd i fod yn fan ohono. Yn y rhyfel chwilboeth hwnnw rhwng gwerthuswyr Star Wars a Lord of the Rings, mi fyswn i'n sicr yn ochri gyda'r olaf.

Felly dyma fi yn mynd i'r sinema gyda grwp o ffrindiau a oedd wrth ei bodd a'r gyfres. Roeddwn i wedi clywed lot o bethau da am y ffilm, a lot o bethau drwg, a cyn mynd roeddwn i wedi darllen bob adolygiad drwg oeddwn i'n medru cael gafael arno fel fy mod i'n cael fy synnu'n ddymunol gan ansawdd cymharol y pictiwr fel canlyniad.

Mae hon yn ffilm reit wahanol i'r ddau gynt. Yn y rheini, roeddwn i'n falch pan oedd y delweddau cyfrifiadurol generadol (DCG), yn ymddangos i gludo'r stori ymaith rhag actio a deialog gwarthus y ffilmiau. Yn gwylio Revenge of the Sïth, roeddwn i'n flin pan ymddangosodd y DCG i darfu ar yr emosiwn a phlot y ffilm, gan ddieithrio'r gynulleidfa rhag craidd cignoeth blasus a chwerw'r mater wrth law, sef buddugoliaeth grin yr anfad dros y daionus, ar raddfa bron tu hwnt i Feiblaidd. Felly wnes i ddim mwynhau hanner awr gyntaf y ffilm yn ormodol, wrth i ryw frwydr gofod anniddorol rechan ei ffordd o gyfrifiadur hysb ILM ac awelu heibio fy llygaid difater.

Ond rywsut, yn yr awr nesaf, wrth i fi wawdio'r ffilm yn fy meddwl a chwerthin ar rai o'r llinellau deialog mwyaf simsan, dyma'r ffilm yn ymyrrid rywsut a fy nghydbwysedd ar... foment sensitif. Mi wna i geisio esbonio sut wnaeth y ffilm fedru effeithio arna'i, plisgyn emosiynol o ddyn fel yr ydw i, i'r fath raddau.

Mae'r clod am fy symbylu i wylio'r ffilm yn dod yn bennaf gan Ian McDiarmid fel y 'Supreme Chancellor Palpatine'. Wn i ddim sut medrodd yr actiwr rhagorol yma sleifio heibio gorchymyn Lucas mae dim ond planciau pren fyddai'n cael ymddangos yn ei ffilmiau. Ond mae'n hollol wych, yn chwarae bob llinell gyda mwynhad hollol gythreulig. Mae'n afrwydd peidio disgyn dan ei swyn drygionus. Ar ôl ychydig funudau yn ei bresenoldeb rhithiol roeddwn i'n barod i ymuno a'r Ochor Dywyll fy hun.

Wedi fy nglynu i'r sgrin gan ei anfad holl-ddryngionus, dechreuais i weld heibio'r DCG oer, wrth i Anakin (Hayden Christensen) a Padmé (Natalie Portman) gysylltu mewn ffordd oedd wir yn fy argyhoeddi fel perthynas rhwng gŵr a gwraig oedd wedi gwario y rhan fwyaf o'i amser wedi' gwahanu gan wactod oer y gofod. A cyn i mi wybod beth oedd yn digwydd, mae'r ffilm yn troi'n drasiedi wrth i Orchymyn 66 danio montage teimladwy, annisgwyliadwy ar draws y sgrin. Doedd yr actio fan hyn ddim yn wael o gwbwl. Lle aeth y deialog oedd yn gwneud i mi wingo? Lle aeth y planciau pren? Ble ar y ddaear aeth George Lucas?

Yn ôl i 1977, mae'n amlwg, am fod gweddill y ffilm yn amhosib o foddhaol. Yn wir, roedd y DCG ych-a-fi yn amharu ar y stori mewn rhai mannau, yn enwedig wrth i Obi Wan Kenobi baffio yn erbyn General Grievous, ond rywsut mae'r stori wedi' glymu mor dyn mewn mytholeg mor gyfarwydd mae'n teimlo'n rhyfeddol o real. Mae gan Obi Wan yn cwffio Darth Vader gymaint o ddyrnod erbyn hyn a Hector yn cwffio Achilles. Pan mae Padmé yn llithro mewn i angau am resymau hollol anesgusodol, doeddwn i'm yn grac o gwbwl, am mai dyma sut mae cymeriadau yn marw yn y chwedlau mawr; drwy galon doredig.

Camgymeriad mawr y ffilm yw dod a gelyn mawr newydd i mewn wrth ladd ymaith gelyn hen oedd yn llawn addewid. Pam amnewid Count Dooku yr actor gwych Christopher Lee am gread DCG anniddorol fel General Grievous? Mae'r newid yn symbolaidd o bron bob dim sy'n anghywir gyda'r tair ffilm yn y drioleg yma, wrth i'r elfen ddynol sy'n angor i'r ffilm gael ei rwygo ymaith gan fwy o driciau cyfrifiadurol a fydd yn edrych yn dreuliedig o fewn pum mlynedd. Mae gan longau ofod blastig y ffilm wreiddiol, wedi' lynu at ei gilydd a glud, fwy o gymeriad na all ILM wasgu mewn i'r cymeriad yma. Mae'n edrych yn real, ond lle mae'r naws ddynol bwysig sy'n buddsoddi emosiwn y gynulleidfa?

Mae'r DCG hefyd yn sbwylio diwedd hollbwysig y ffilm, i raddau. Mi ddylai’r ornest sy'n uchafbwynt i berthynas Anakin a Obi Wan fel yn helynt brwnt, amrwd, noeth, gydag emosiynau’r ddau yn cael eu tanio drwy'r sabrau golau. Ni'n cael tipyn o hyn, ond mae hanner olaf yr ornest yn cachu DCG unwaith eto wrth i ddau byped drio'i gorau i gyffroi ein chwarrenau adrenalin, a methu. Mae'r olygfa yn cael ei safio drwy ffawd ysgytiol Anakin druan, a thipyn o actio gwych gan Ewan McGregor i wneud fyny am yr amser wedi' golli yn y ffilmiau eraill.

Ac yna mae dau ddeg munud olaf y ffilm, wrth i Lucas sgramblo i gysylltu dau begwn y drioleg. Ac wrth wylio machlud haul dwbl terfynol y masnachfraint enillfawr, mae un yn cael ei atgoffa o'r holl a ddaeth ynghynt. 28 mlynedd o Star Wars. Mae George Lucas yn dweud ei fod wedi cynllunio'r holl ffilmiau o'r dechrau, ond yn nwylo'r fans gwallgo' 'na mae'r ffilmiau a dweud y gwir. Pam arall nad yw cymeriadau crap Phantom Menace yn cael dim o gwbwl i'w ddweud yn hwn?

Yn olaf, mae gen i asgwrn i grafu a Mr Lucas. Os yw'n teimlo mai props yw actorion ac effeithiau sŵn yw deialog (ei eiriau fo, dim fi), pam ar y ddaear colfachu uchafbwynt ei magnum opus ar bwynt mor emosiynol? Am ei fod o wedi bod yn malu awyr, dyna pam; mae'n gwybod beth sy'n gwneud ffilm, ond tydi o ddim yn gwybod sut i ddosbarthu. Mi wna i dy faddau i Mr Lucas, tydi unwaith bob 28 mlynedd ddim yn ddrwg. Mae hon yn ffilm wych, fel Empire ond yn fwy epig, gyda chalon sydd yn eisiau yn Phantom a Clones.

Methu disgwyl am Episode IV nawr!

Posted by Ifan Morgan Jones at 01:43 yb | Comments (1)

Mai 16, 2005

Pictiwrs yn y Steddfod

logopictiwrs1.jpg
Mae Pictiwrs.com yn falch o gyhoeddi eu bod wedi taro ar gytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg i drefnu dwy noson o ffilmiau byr yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri eleni. Rydyn ni eisoes wedi trefnu dwy noson lwyddiannus yng Nghaerdydd, sy’n dwyn yr enw ‘Pictiwrs yn y Pyb’.

Y bwriad yw i’r nosweithiau gael eu cynnal ym Mar Jocks yn Undeb Myfyrwyr Bangor ar ddydd Mercher a dydd Gwener yr Eisteddfod. £2 yn unig fydd cost mynediad ar gyfer y digwyddiadau a bydd amrywiaeth o ffilmiau Cymraeg eu hiaith yn cael eu dangos yn y ddau ddigwyddiad.

Meddai Rhodri ap Dyfrig, cyd-drefnydd Pictiwrs Yn Y Pyb, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at y nosweithiau hyn yn yr Eisteddfod, ac yn falch iawn o allu cydweithio gyda Chymdeithas yr Iaith. Rydym ni gyd yn gefnogol iawn o’r mudiad, ac mae gennym ni a’r Gymdeithas nodau cytûn o ran rhoi statws i’r Gymraeg yn ein cymdeithas. Bydd hwn yn gyfle i bobl o bob cwr o Gymru gael gweld deunydd, a gobeithio y bydd yn ysgogiad i wneuthurwyr ffilm Cymraeg presennol a gwneuthurwyr y dyfodol i greu rhagor o ffilmiau ac i ehangu’r ystod o waith sydd yn bodoli yn bresennol.”

Mynegodd Owain Schiavone, swyddog adloniant y Gymdeithas ei falchder fod y cyd-weithrediad gyda Pictiwrs.com yn golygu y bydd mwy o amrywiaeth nag erioed o adloniant a diwylliant Cymraeg wedi eu dargedu at bobl ifanc ar gael yn yr Eisteddfod genedlaethol eleni. Meddai ‘Rydan ni fel Cymdeithas yn ol ein harfer yn trefnu gigiau gyda’r hwyr yn ystod wythnos yr Eisteddfod: ym mar Amser yn Bangor ac yng Nghofi Roc, Caernarfon eleni. Yr hyn mae’r cyd-weithredu gyda Pictiwrs yn ei olygu ydi y bydd cyfle i bobl ifanc ar ddau brynhawn yn ystod yr wythnos weld ffilmiau Cymraeg yn ogystal a chlywed cerddoriaeth Gymraeg. Tydi ffilmiau Cymraeg ddim yn cael hanner digon o sylw yn fy marn i, a mae hwn yn gyfle gwych i ddod a’r cyfrwng hwn i gynulleidfa ehangach.’

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Pictiwrs.com

Geraint Criddle: e-bost geraint [at] pictiwrs [dot] com, ffôn 07967753851
Rhodri ap Dyfrig: e-bost rhodri [at] pictiwrs [dot] com, ffôn 07855362206

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Owain Schiavone: e-bost owain [at] cymdeithas [dot] com, ffôn 07813050145

Posted by Geraint Criddle at 02:02 yh | Comments (0)

Mai 12, 2005

Chwe Gradd o Ffilm

Gwefan ffilm newydd (arall)...Six Degrees Film

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 09:33 yb | Comments (1)

Mai 09, 2005

Kingdom of Heaven (Ridley Scott, 2005)

Yn ystod croesgad y 12fed ganrif, mae Balian of Ibelin (Orlando Bloom) yn trafeilio i Jeriwsalem, Teyrnas y Nefoedd, i geisio gadw'r heddwch ansicr.

O'r diwedd dyma ffilm o'r genre gyda thipyn o fynd ynddi, gydag amser rhedeg dwy awr a chwarter sy'n hynod fyr am ffilm epig cleddyfau a sandalau. Mae'n bosib dadlau bob gormod yn digwydd yn yr hanner awr gyntaf, ond wedi hynny mae'r ffilm yn setlo mewn i gam cyffyrddus sydd yn osgoi teimlo ar frys nac yn gwneud i'r gwyliwr edrych ar ei oriawr.

Mae Orlando Bloom yn gwneud gwaith gweddol o gario'r ffilm fel Balian o Ibelin. Tydi o'm yn actiwr gwych, ond mae'n cuddio hyn trwy fod yn gymeriad reit anniddorol sy'n glynu wrth yr un athroniaeth drwy gydol y ffilm. Fo yw cyferbyn Colin Farrell yn Alexander mewn ffordd, a oedd yn gymaint o lanast o gymeriad roedd hi'n amhosib dirnad lle oedd o'n sefyll ar unrhyw beth. Mae dyrchafiad cymeriad Bloom o gof gostyngedig i dactegwr milwrol o fri yn bos, gyda dim golygfa, nag hyd yn oed y montage arferol, i bontio'r blwch rhwng y ddau begwn. Ac mae'r awgrymiad mae meddwl gwych y llanc hwn ddyfeisiodd y syniad o dyllu ffynnon ar dir sych y Dwyrain Canol yn chwerthinllyd.

Ond mae'n bosib maddau cymeriad blanc Balian am fod y cast ategol mor dda. Mae bron i bawb yn wych fan hyn, gyda chameo estynedig gan Liam Neeson, sy'n cario'r ffilm cyn i Bloom ddod ar draws hwyneb cysurol Thewlis, Jeremy Irons yn gwneud argraffiad hynod o flaidd dynol, a Edward Norton yn rhagorol fel brenin gwahanglwyfus Jerwsalem. Gwaetha'r modd tydi Marton Csokas ddim yn gwneud cymaint o argraff gyda'i berfformiad o'r anfad, a merchetaidd, Guy de Lusignan.

Fo yw'r unig wir dihyrun y ffilm, am fod y Mwslemiaid wedi' portreadu mewn ffordd deg heb fod yn ffrydiol a ffals. Roedd gen i gryn ddiddordeb mewn gweld sut y byddai'r ffilm yn trafod pwnc mor danllyd â Christnogion a Mwslemiaid yn trywanu'r stwnsh allan o'i gilydd. Cred gall y ffilm yw bod rhaid ar y ddwy ochor, Cristnogion a Mwslemiaid, yn fodlon defnyddio eu crefydd am resymau anghrefyddol dros ben, sy'n hen ddigon teg, ac mae'r themâu yma'n adeiladu i ddiweddglo hynod foddhaol sy'n gorffen popeth heb fod angen hanner awr o bawb yn ffarwelio. Clod i Ghassan Massoud am ei berfformiad gwych fel Saladin.

Un peth arall sy'n newydd i'r genre yw nad oes golygfeydd diflas lle mae'r cymeriadau yn cweryla dros athroniaeth hirwyntog, a boddi'r ffilm mewn lol rhwng y darnau cwffio diddorol. Mae pob trafodaeth yn berthnasol i'r cynllun, ac mae'r berthynas rhwng y Marchog Temlaiddol a'r Croesgadwyr yn un hynod chwilfrydig. Ac mae'r darnau cwffio, pan maen nhw'n cyrraedd, i gyd yn emosiynol foddhaol wrth lenwi'r cwota am drais gwaedlyd, heb ddiflasu'r gwyliwr gyda delweddau cyfrifiadur diangen a gwallgofrwydd aneglur Alexander.

Yr unig gam gwallus yn neges y ffilm yw, i gladdu mewn i sboilwyr am eiliad bach, pan mae chwaer brenin Jerwsalem yn tynnu ymaith masg ei brawd wedi iddo farw. Mae'n mynd yn hollol groes i'w linell olaf, 'cofia fi fel yr oeddwn i'. Mae Edward Norton yn chwarae'r cymeriad gyda chymaint o urddas tawel mae'n teimlo fel pe bai'r gwyliwr yn cymryd mantais o'r brenin gwahanglwyfus bechod wedi ei farwolaeth er mwyn ennyd 'ych-a-fi' amhriodol, sydd ddim yn ychwanegu dim byd at y stori.

Yn olaf, beth yw'r dêl a ffilmiau epig clefydau ag caeau ŷd? Dydw i'm yn cofio ffilm o'r genre hwn am eithaf tipyn heb gau mawr o yd diangen ynddi. Dwi'n cymryd fod gan Ridley Scott hawl i gynnwys llwyth o yd yn ei ffilmiau gan mai fo ddechreuodd y chwiw ryfedd yn Gladiator. Dwi'n hanner disgwyl gweld Russell Crowe yn cerdded drwyddo, yn dal i chwilio a'i wraig a'i blentyn ym mharadwys, neu'n adrodd barddoniaeth ddiflas.

Posted by Ifan Morgan Jones at 08:00 yh | Comments (3)

Rhestr e-bost Pictiwrs

Rydyn ni wrthi'n llunio rhestr e-bost Pictiwrs er mwyn anfon gwybodaeth at bobl ynghylch y wefan a noson Pictiwrs yn y Pyb. Dechreuwyd casglu enwau a chyfeiriadau yn y noson nos Fawrth, ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael eich cynnwys hefyd, anfonwch eich enw a'ch cyfeiriad e-bost at geraint AT pictiwrs DOT com neu rhodri AT pictiwrs DOT com.

Posted by Geraint Criddle at 03:20 yh | Comments (0)

Mai 04, 2005

Erthyglau Sgriptio

Ambell i erthygl diddorol...

(diolch i bawb ddaeth i noson Pictiwrs neithiwr gyda llaw er gwaetha'r pel-droed, y pennau tost a'r pocedi gwiegion ar ol gwyl y banc!)

Jamie Sherry yn siarad a'r guru sgriptio ffilm - Syd Field

Laughing in Sign Language: Writing a Hilarious Universe by Robert Piluso

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 11:24 yb | Comments (0)

Mai 03, 2005

Lein-yp Pictiwrs

Dyma'r ffilmiau y byddwn ni'n eu dangos heno. Methu dangos Toll, sydd yn biti, am ei fod yn ffilm arbennig o dda ond bydd o'n sicr yn y noson nesaf.

Gwd nawr...

Pen Cariad (8'00")
Ysg/Cyf: Iwan Williams
Yr oll mae Bryn isio ydi cariad, ond i ba bellteroedd sy' raid iddo fynd i'w ffeindio?

Sal (10’45”)
Ysg: Angharad Elen
Cyf: Euros Lyn
Dyw Sal heb yngan gair ers amser maith. Stori bwerus am daith merch
ifanc at fynegiant.
www.opustf.com

Amser Chwarae (10’00”)Ysg/Cyf: Arwel Gruffydd
Mae ambell gwers i’w dysgu yn y dosbarth; mae eraill i’w dysgu wrth chwarae!
www.unnos.co.uk

*******************************************************************************

EGWYL

*******************************************************************************

Y Ci Bolsheficaidd (5'00")

Ysg / Cyf: Alexandros Konstantaras / Golkou Parhizgar / Juan Reina

Yn y ffilm hon gan fyfyrwyr o goleg ffilm Casnewydd cewn gymysgedd swreal o gi sy’n siarad, togas ac ideoleg comiwynddol!

Aml Fai (13’58”)

Ysg: Ian Staples
Cyf: David Evans
Mae Mal yn torri ei fol eisiau mynd i'r gem rygbi, ond mae tocynnau yn brin fel aur. Cofia Mal fod tocyn gan ei Wncwl Jac, ond dyw o yn sicr ddim am ddweud ble mae o - mae o wedi bod yn farw ers dyddiau!

www.fictionfactoryfilms.com

Clic (10’07”)
Ysg: Fflur Dafydd
Cyf: Euros Lyn
Mae Mini yn gaeth i waith diflas mewn hen siop ffotograffiaeth. Un
diwrnod mae'n gweld fod bachgen ifanc golygus wedi cychwyn gweithio yn y siop flodau ar draws y ffordd. Ai'r bachgen fydd yn annog Mini i ddianc
o gysgod Mostyn a'i siop lychlyd?
www.opustf.com

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 02:30 yh | Comments (0)