Ionawr 12, 2006

Deg Uchaf (hwyr) Pictiwrs 2005

Wel, wel, bu 2005 yn flwyddyn gymysg o ran ffilmiau. Roedd ambell i glasur, sawl stincar, a blwyddyn lle na wnaeth y blockbusters bondigrybwyll gystal â'r disgwyl. A beth, meddech chi, yw dadansoddiad adolygwyr Pictiwrs o'r holl sefyllfa? Wel, isod, mae casgliad o'n hoff ffilmiau ni o'r flwyddyn a fu...

1. Sideways - ffilm hynod ddigrif gan Alexander Payne am helyntion Miles a Jack yng ngwinllanoedd California
2. Der Untergang (Downfall) - hanes dwys a thywyll dyddiau olaf y Drydedd Reich, drwy lygaid Traudl Junge, ysgrifenyddes Adolf Hitler
3. A History of Violence - clasur arall gan Cronenberg, gyda Viggo Mortensen fel cyn-gangster sy'n wynebu'i orffennol
4. Un long dimanche de fiançailles (A Very Long Engagement) - ffilm hanesyddol arall, a leolir yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan Jean-Pierre Jeunet
5. Closer - addasiad o ddrama Patrick Marber, gyda chast cryf wedi'i arwain gan yr hynaws Clive Owen
6. Sin City - ffilm/llyfr comics wedi'i chyfarwyddo'n rhannol gan Tarantino, yn olrhain straeon tywyll trigolion Basin City
7. Hotel Rwanda - y drydedd ffilm hanesyddol yn ein rhestr, am y gyflafan yn Rwanda ym 1994, ac ymdrechion un dyn i leihau'r niwed
8. The Life Aquatic with Steve Zissou - ffilm ddiweddaraf Wes Anderson, gyda Bil Murray yn rhagorol fel capten llong wyddonol sydd ar ôl siarc mytholegol
9. Mysterious Skin - ffilm na chafodd rhyw lawer o sylw, ond mae perfformiad Joseph Gordon-Levitt fel dyn ifanc sy'n puteinio'i hun mewn tref fechan yn y Mid West werth ei wylio.
10. Bombon (El Pero) - ffilm o Batagonia yn yr Ariannin sy'n sicr o godi gwên, lle mae hen ddyn anlwcus yn dechrau magu ychydig o lwc ar ôl cael ci yn anrheg am ei garedigrwydd.

Mae'n argoeli y gallai 2006 fod yn flwyddyn ragorol, gyda sawl ffilm dda ar y gweill, felly cadwch lygad ar Pictiwrs, ac am y rhestr nesaf mewn blwyddyn!

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Ionawr 12, 2006 08:49 yh
Sylwadau

oi! le ma 'the descent'?

Postiwyd gan: sara, Ionawr 18, 2006 12:46 yh

Oi OI! Ble mae The Descent yn wir!

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Ionawr 18, 2006 04:35 yh

Fi 'di ymddiheuro unwaith! Beth chi moyn, gwaed?

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Ionawr 18, 2006 06:20 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?