(IMDb)
Yn dilyn ei ymdrech brin i greu ffilm 'blockbuster' wirioneddol, mae Ang Lee, cyfarwyddwr 'Crouching Tiger, Hidden Dragon' a 'The Ice Storm' wedi dychwelyd i'r sgrin fawr â ffilm feiddgar sydd wedi achosi cryn storom eisoes yn America. Mae'n adrodd hanes, Ennis Del Mar a Jack Twist sydd, un haf yn nechrau'r chwedegau, yn cael eu hanfon i fyw ar fynydd yn gofalu am ddefaid rhag coyotes ac anifeiliaid gwyllt eraill. Ond yn y pen draw, ynddyn nhw y mae natur yn gafael, nid y defaid.
Mae'r ddau'n raddol yn cwympo mewn cariad â'i gilydd, ond pan ddaw diwedd yr haf, mae'r ddau'n mynd ar eu hynt ar lwybrau gwahanol, a phrin a wyddwn faint mae'n ei olygu i'r ddau ddyn. Rhaid i'r ddau ddychwelyd i gonfensiwn cymdeithas, nid yr hyn a grewyd rhyngddynt ar y mynydd. Mae Ennis yn priodi'i gariad Alma (Michelle Williams) ac mae Jack yn cwrdd â Lureen (Anne Hathaway), gan symud i Decsas i fod yn rhan o'i theulu cyfoethog. Ond ni all y ddau gadw ar wahân, ac wedi pedair blynedd, cânt eu hail-uno, gan ddechrau ar y trywydd anochel tuag at ddinistr.
Lwydda Ang Lee i adrodd stori'r ddau 'gowboi' yn gelfydd, heb droi at or-sentimentalrwydd. Byddai'n hawdd fod wedi gwneud hyn, ond yn lle hynny, gwelir gwir droeon trwstan sefyllfa'r ddau, wrth iddynt ymgodymu â'r teimladau sydd ganddynt at ei gilydd, eu gwragedd, a'r frwydr i gadw'r ddysgl yn wastad yn gymdeithasol. Mae bygythiad trais o'u hamgylch o hyd, ond maent yn fodlon wynebu'r perygl hwn, hyd yn oed os nad ydynt yn fodlon datgan unrhyw beth yn agored drwy wireddu'r freuddwyd o ddechrau ranch â'i gilydd.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Ionawr 17, 2006 09:44 yhSawl seren, Geraint?
Cadw'r ddisgyl yn wastad? Wrth i BAWB anwybyddu fod y ddisgyl 'di'i chynhyrfu yn y lle cynta', dyw 'na'm yn rhy anodd nadi? A 'nes i'm sylwi'r bygythiad 'ma o drais chwaith - odd awgrym fod y ddau'n creu trais 'u hunen fel modd o fynegi'u rhwystredigaeth, ond sai'n cofio i neb tu allan i'r berthynas ganolog beri bygythiad iddo...?
Odd hi'n ffilm weddol - ond stori fflat, yn fy marn i (am fod y stori ddim yn cael digwydd oherwydd ofn y cariadon sbo). Ma traul amser y ffilm braidd yn rhyfedd hefyd - 'nes i'm sylweddoli taw'r 60au odd hi tan i Heath Ledger weud wrthai, a wy'n meddwl o'n i'n y 70au erbyn hynny...
Postiwyd gan: Mair, Ionawr 18, 2006 01:19 yhGol: sori, dodd dim sêr yn dangos ar y ddalen pan bosties i - allai weld nhw nawr! ...a wy'n dal i anghytuno ;)
Postiwyd gan: Mair, Ionawr 18, 2006 01:23 yhAdolygiad slapdash yw e achos o'dd diffyg amser 'da fi. Ddyle ti fod wedi adolygu fe dy hunan. (tafod mas)
Postiwyd gan: Geraint Criddle, Ionawr 18, 2006 06:19 yhGreat work!
My homepage | Please visit
Thank you!
http://wioizyju.com/txmb/iuhi.html | http://kdgiigeq.com/injp/yzbc.html