Ionawr 31, 2006

Pictiwrs Yn Y Pyb - Caerdydd, Sul y 5ed Chwefror 2006

Pictiwrs Yn Y Pyb

Rhaglen lawn i ddilyn...

Datganiad i’r Wasg

Dathlu Blwyddyn o Ddangos Ffilmiau Byrion Cymraeg

31 Ionawr 2006

Bydd y bobl tu ôl i’r wefan adolygiadau ffilmiau Cymraeg www.pictiwrs.com yn trefnu noson ffilmiau arbennig yng Nghaerdydd ar ddydd Sul y 5ed Chwefror 2006 i ddathlu blwyddyn o arddangos y gorau o ffilmiau byrion Cymraeg. Ers noson gyntaf “Pictiwrs Yn Y Pyb” yn Ionawr 2005 dangoswyd dros 35 o ffilmiau gwahanol gan dalent newydd y byd ffilmiau Cymraeg ym mhob cwr o Gymru.

Yn ogystal â’r ffilmiau arferol, bydd naws parti yn Nhafarn Dempsey’s, Caerdydd gyda chyfle i bawb sy’n mynychu ennill casgliad o DVD’au, ein compere rheolaidd Gary Slaymaker yn arwain y dorf drwy’r noson a Gareth Potter (gynt o Ty Gwydr) yn DJ’o.

Ymysg y 9 ffilm fydd yn dangos bydd:

“Siwsi” gan Cathy Snelling
Ffilm fer ddadleuol wedi’i hanimeiddio sy’n dathlu’r orgasm benywaidd mewn steil! Enillodd y ffilm wobr bwysig Jamesons am y ffilm fer orau yng Ngwyl Ffilmiau Brief Encounters fis Tachwedd.

“Yr Ymwelydd” gan Tomos Cynllo Lewis
Ffilm fer wedi ei gosod yn ystod yr ail ryfel byd gan gyn-fyfyriwr o Aberystwyth. Bu hon hefyd yn llwyddiant ysgubol yn ddiweddar, drwy ennill y wobr am y ffilm wnaeth y defnydd creadigol gorau o’r thema ‘rhyfel’ yng Ngwyl Ffilmiau’r Amgueddfa Ryfel Imperialaidd y mis hwn.

“Dave: mewn Un Tro Da” gan Griffilms
Ffilm gomedi animeiddio yn steil ffilmiau mud y 1920au sydd hefyd yn defnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf. Mae’r ffilm wedi ei henwebu ar gyfer y ffilm animeiddio orau yng Ngwyl Ffilm a Theledu Geltiadd 2006.

[gweler nodiadau isod am ragor o hanes y ffilmiau]

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, un o drefnyddion y noson, “Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda o ran gweithgaredd ar gyfer ffilmiau byrion Cymraeg. Mae’r ymateb rydyn ni wedi ei gael yn y dangosiadau wedi bod yn wych. Mae’n drueni nad oes rhagor o gyfleoedd i’r cyhoedd weld y ffilmiau hyn. Gobeithio y gallwn ni barhau i geisio rhoi platfform cyson i storiwyr talentog Cymru ddweud eu straeon.”

Mae trefnwyr noson Pictiwrs Yn Y Pyb yn chwilio am ragor o ffilmiau byr ar gyfer y nosweithiau dros y flwyddyn nesaf. Os oes gennych chi ffilm yr hoffech ei dangos, cysylltwch â rhodri@pictiwrs.com / geraint@pictiwrs.com am fanylion pellach.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Ionawr 31, 2006 02:05 yh
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?