Chwefror 13, 2006

Gwyl Ffilmiau Myfyrwyr Ffresh, Aberyswtyth (16-17 Chwefror plys ambell inoson arall!)

I chi bobol Aber a'r cyffinia, dwi'n siwr eich bod chi wedi gweld ambell i boster Monty Python-aidd o gwmpas y lle yn hysbysebu Gwyl Ffilm Myfywrwyr Ffresh ond jest yn meddwl baswn i'n rhoi mensh arall i'ch annog chi i gefnogi (a chefnogi'r maeswyr sydd â ffilmiau yn cystadlu!).

newsplash-bg.gif

Yn ogystal â'r deuddydd o wobrwyo, seminarau a sesiynau yn ystod yr wyl ei hun bydd tair noson ffilm go arbennig:

Nos Lun, 13 Chwefror - Noson Lansio
Dangosiad o'r ffilm ddwyieithog newydd "Y Lleill" gan Emyr Glan Williams yn y DRWM yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd y cyfarwyddwr yn mynychu i gymeryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Dan Williams o'r Archif Sgrin a Sain.

Diodydd am 6.30pm; ffilm am 7.30pm

Manylion...

Nos Fercher, 15 Chwefror - 7.30pm
Dangosiad o'r ffilm Senghennydd, gan Jim Clark yna trafodaeth gyda'r cyfarwyddwr a golygydd am ei waith.

Bydd y cyfarwyddwr yn mynychu ac yn trafod ei hanes yn gweithio ar ffilmiau megis The World Is Not Enough, The Mission, Vera Drake ac ati gyda Dave Berry, sy'n foi arall sy'n werth mynd i'w glywed ynddoi hun!

Dylai fod yn gipolwg treiddgar mewn i fywyd dyn sydd wedi gweithio ar ffilmiau llwyddiannus iawn. Os da chi'n diddori mewn cynhyrchu ffilmiau neu'r deinamics o weithio ar ffilm fawr yna peidwich methu hon.

Manylion...

Nos Wener, 17 Chwefror - Dangosiad Cloi - Vera Drake
Bydd y cyfarwyddwr ei hun, Mike Leigh (Secrets and Lies, All Or Nothing ayyb dio ddim angen cyflwyniad rili nacdi...), yn mynychu'r dangosiad i gyflwyno ei ffilm.

Cyfle gwych a phrin i weld un o gyfarwyddwr mwyaf talentog a llwyddiannus Prydain.

Manylion...

Bydd yna hefyd ddangosiadau ffilmiau byr cyn y ffilmiau yn y Commodore yn ystod yr wythnos, parti mawr yn yr Academi nos Iau (£2 i fynd mewn a da chi'n cael diod am ddim!), a dangosiad o Totsi yng Nghanolfan y Celfyddydau. Ffilm o Dde Affrica sydd yn cystadlu am yr Oscar Iaith Dramor eleni.

Gwledd o ffilm dwi'n credu cytunwch chi. Be arall wnewch chi ar noson oer o Chwefror? :winc:

Ewch draw i'r wefan am fanylion tocynnau ac ati.

Welai chi o gwmpas y lle,

R

o.n. mae yna ambell i wneuthurwr ffilmiau annibynnol sydd yn cyfrannu ar wefan ffilm gymreig www.filmshed.com am drio cwrdd yn ystod yr wyl i gael clonc a rhannu profiadau. Os da chi awydd dod draw, anfonwch neges breifat a wnai basio'r manylion mlaen.[/quote]

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Chwefror 13, 2006 09:34 yb
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?