Tachwedd 28, 2005

Eisteddfod 2006: Cystadleuaeth Ffilmiau Byr Cymraeg

Sgennoch chi sgript ffilm 10-munud Gymraeg? Awydd cash am ddim i'w chynhyrchu hi a chydig o hyfforddiant yn y fargen? Darllenwch 'mlaen...

Mae yna un gystadleuaeth ffilm wedi'i chuddio yng nghrombil cynfansoddiadau'r Eisteddfod. Y llynedd doedd yna ddim ond dau ymgeisydd a dim enillydd (am nad oedd y ddau gais yn gymwys! un yn rhy hir o lawer a'r llall ddim yn sgript ffilm). Mae'r nifer o ymgeiswyr yn y blynyddoedd cynt wedi bod yn o sal hefyd, gyda rhai blynyddoedd heb un cais!

Eleni, mae Cyfle wedi newid y gystadleuaeth rywfaint gan alluogi i'r ennillydd gynhyrchu eu ffilm dan hyfforddiant er mwyn ei dangos yn ystod yr Eisteddfod ei hun.

Mae hyn yn gam da mlaen gyda'r gystadleuaeth yn fy marn i ond mae angen rhagor o arian (£500 + hyfforddiant sydd ar gael) a rhagor o sylw i hyn. Pam hefyd nad oes yna gystadleuaeth ar gyfer ffilm fer orffenedig Gymraeg yno eto? Mae cymaint ohonynt yn cael eu cynhyrchu ac mae'n drueni nad ydynt yn cael eu cydnabod fel celf gydradd a theatr a'r chelf gweledol eraill.

Beth bynnag, os mae digon o bobol yn cystadlu, efallai y sylwan nhw fod na le i ffilm ar faes y steddfod a fod angen rhoi abwyd i ddatblygu mwy ar y sgriptwyr a chyfarwyddwyr sydd allan yno'n ceisio creu ac yn aml yn gorfod creu gwaith yn y Saesneg. Felly dyma'r manylion...

** Dyddiad Cau: 31 Ionawr **

Ysgoloriaeth Geraint Morris mewn cydweithrediad â Cyfle

116. Sgript drama deledu neu ffilm 10 munud o hyd

Cystadleuaeth yn agored i unigolion dros 18 oed – nid yw’n agored i awduron sydd wedi ysgrifennu drama neu ffilm a gafodd ei chynhyrchu a’i darlledu. Rhaid i’r ddeialog fod yn wreiddiol i’r cystadleuydd ond caniateir i’r stori fod yn seiliedig ar ddigwyddiad neu waith arall ond rhaid nodi hyn gyda’r gwaith. Rhaid i’r sgript fod yn y Gymraeg.

Y bwriad yw cynhyrchu’r ddrama neu ffilm fuddugol a’i dangos yn yr Eisteddfod. Bydd Cyfle yn defnyddio’r cynhyrchiad i roi hyfforddiant a bydd modd i’r buddugol fod yn rhan o’r gwaith cynhyrchu. Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth uchod er cof am Geraint Morris, cynhyrchydd teledu llwydiannus ac uchel iawn ei barch yn y diwydiant yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd. Daeth ei enw i amlygrwydd fel cynhyrchydd cyfresi gyda’r BBC – cyfresi fel The Onedin Line, Softly, Softly, ac, yn arbennig felly, o bosib, Casualty, y gyfres hir, boblogaidd y bu Geraint yn gyfrifol am ei sefydlu. Ymhlith cynyrchiadau poblogaidd eraill o’i eiddo y mae The Bill, Juliet Bravo a Wycliffe, ac efe fu’n gyfrifol am y gyfres boblogaidd Pam fi Duw? Dylid cysylltu â swyddfa’r Eisteddfod er mwyn derbyn canllawiau.

Dyddiad cau: 31 Ionawr 2006
Gwobr: Ysgoloriaeth gwerth £500 o Gronfa Geraint Morris
Beirniad: John Hefin

Canllawiau Ysgoloriaeth Geraint Morris a Cyfle

Yn y gorffennol mae ymgeiswyr wedi cael rhyddid i ysgrifennu darnau amrywiol. Eleni rydym yn chwilio am gynnyrch y bydd modd ei gynhyrchu - ac ei ddarlledu.

Oherwydd fod gan Cyfle fwriad i gynhyrchu'r sgript fuddugol fel drama fer mae gofyn i'r cynnwys fod yn bosib ei chynhyrchu o safbwynt ymarferolbeb a chost.

Oherwydd hynny mae angen ysgrifennu'n gynnil gyda nifer cyfyngedig o gymeriadau a lleoliadau. Gwell fyddai stori gyfoes fachog.

Yr awgrym yw hyd at chwe chymeriad a dau neu dri lleoliad ond mae hyblygwrydd rhesymol yn dderbyniol.

Yn groes i'r canllawiau gwreiddiol ni fydd gweithdai yn cael eu cynnal.

Dydi o ddim yn nodi'n union lle dylid anfon ceisiadau, ond mae'n debyg ei bod yn reit saff eu anfon at Bencadlys y Steddfod sef:

Pencadlys Eisteddfod Genedlaethol Cymru
40 Parc Ty Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5WU

Ffôn: 029 2076 3777
e-bost: gwyb@eisteddfod.org.uk

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 06:37 yh | Comments (0)

Hydref 18, 2005

O Gwmgiedd i Bogota (Ed Thomas, 2004)

Ffilm fer amlieithog (cymysgedd o Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg) yw ‘O Gwmgïedd i Bogota’, sy’n olrhain hanes Ed Thomas yn teithio i Bogota, prifddinas Colombia, i weld cynhyrchiad o’i ddrama ‘Gas Station Angel’ yn yr ðyl gelfyddydau fawreddog a gynhelir yno bob blwyddyn. Ond, fel y dywedodd Thomas ei hun yn ystod y sesiwn holi ac ateb ar ôl y dangosiad hwn yn Chapter, fe drodd y ffilm yn llawer mwy na hynny, yn ymdriniaeth o deimladau’r cast a’r awdur o berthyn, ac yn ymdriniaeth o’r lle a elwir yn ‘gartref’.

Ffilm eithaf syml yw hon o ran arddull (ni lwyddwyd i gael yr holl nawdd angenrheidiol) ond mae’r criw wedi gwneud y gorau o’r hyn sydd ganddynt. Mae’r ffilm yn dechrau yng Nghwmgïedd, pentref genedigol Ed Thomas, a gwelwn ei syniad ef o gartref drwy ffilm super-8 newydd. Pwyslais y darnau yw hyn i ddangos y clytwaith o brofiadau sydd wedi cyfrannu ato fel person ac at ei waith.

Cyflymu wna’r ffilm wrth symud ymlaen i Bogota, ac mae’r gwrthgyferbyniad rhwng y ddau le yn amlwg. Ond eto, fel y gwelwn drwy ddrama Thomas, mae’r themâu o’r teimlad o gartref ac o geisio canfod hunaniaeth mewn byd sy’n gwneud i chi redeg i ffwrdd yn fyw hefyd yng Ngholombia. Llwydda Thomas a Dafydd Rhys, y cynhyrchydd, yn gelfydd, i gyfleu undod rhwng y ddau le drwy eiriau’r cyfranwyr yng Nghymru ac yn Ne America.

Ar ddiwedd y ffilm, rydym yn neidio’n ôl i Gwmgïedd. Efallai mai dyma unig wendid y ffilm, sef fod y llinell amser ar chwâl braidd, ond down i ddealltwriaeth fod gartref yn bodoli i bawb, yn rhywle.

Posted by Geraint Criddle at 12:13 yh | Comments (0)

Hydref 04, 2005

Rhaglen Pictiwrs yn y Pyb 3/10/05

th_PictiwrsTerfynol.jpg

Pictiwrs Yn Y Pyb – Hydref 2005...
Nôl yn y ddinas, yn ei gartre clyd...
Swatiwch, slotiwch, gwyliwch...Croeso mawr!

Och! Mae’r haf wedi dod i ben. Dim mwy o beintiau oer wrth i’r haul fachlud ar ddiwedd diwrnod crasboeth. Dim mwy o galifantio hwnt ac yma o ŵyl i ŵyl, yn barhaol babellog ond yn wen o glust i glust yn gwrando ar fandiau gwych. Mae hyd yn oed Mihangel a’i haf bach wedi mynd heibio.

Ond, na phoener, dyw’r hydref ddim mor ddrwg â hynny, mae’n esgus gwych i aros mewn a gwylio rhagor o ffilmiau. Pwy s’isio lliw haul be’ bynnag? Wfft! A dyma’r union eli a thonig sinematig i leddfu'r felan.

Ffilmiau heno...

Moses Pantybrwyn (10' 17")
Ysg: Cwmni Drama Wythnos Nesaf / Cyf: Euros Lyn
Mae Moses yn byw ar ei ffarm yng Nghanolbarth Cymru gyda Mair, ei ferch, sy'n mwynhau helpu ei thad ac Aaron ei fab, sy'n ddiogyn deunaw oed. Torrir ar hapusrwydd Mair pan ddaw Debbi, ei mam sydd wedi gadael yr aelwyd, i hawlio ei hanner hi o'r ffarm.
www.opustf.com

Tir Na Nôg (20’00”)
Ysg/Cyf: Zac Halberd
Mae Sarah wedi colli archwaeth ar fywyd - er ei bod wedi llwyddo yn ei arholiadau, mae ei mam yn parhau i swnian arni a meddwl am ddim arall ond rhagori ar y ddynes drws nesaf. Dianc yw’r unig beth ar ei meddwl, ond wrth i atgofion od o’r gorffennol pell ddod nôl i’w drysu, dyw ei Thir Na Nôg ddim yr union un a ddychmygodd.
www.ethosfilms.net

Toll (10' 10")
Cyf: Sean Vicary / Ysg: Elinor Wyn Reynolds
Mae rhywbeth bygythiol yn taro'i gysgod dros y tirlun gan ddeffro ffigyrau o straeon gwerin Cymreig sy'n ceisio cydweithio i roi pethau nôl yn eu lle.

Calan Gaeaf (9‘ 37”)
Ysg: Rhodri Owen / Cyf: Aled Bartholomew, Alun Gaffey, Sioned Hughes
Ar galan gaeaf, troad blwyddyn newydd y Celtiaid, mae myfyriwr celf yn myfyrio ar ddiflastod ei fywyd anghreadigol.

Y Consuriwr (8’30”)
Cyf: Arwel Gruffydd / Ysg: Rhodri Meilyr
Mae Moses yn gonsuriwr. Dyw e ddim yn gonsuriwr da iawn. Mae'n byw gyda Breian ei dad sydd yn gaeth i gadair olwyn. Mae Breian yn benderfynol bod Moses yn mynd i ddioddef hyd at syrffed ond penderfyna Moses roi tro ar un tric hud olaf.

Yn Cynrychioli (9’ 00")
Cyf: Sion Mali
Ffilm ddogfen ar daith criw hip hop Sleifar a'i deulu o rapwyr anystywallt lawr i recordio sesiwn yn stiwdios byd-enwog Maida Vale ar gyfer rhaglen Rob Da Bank fu’n cyflwyno rhaglen John Peel wedi iddo farw y llynedd.

Newyddion FFILM

Gwyl Sgrîn Caerdydd (9-19 Tachwedd 2005)
Mae prif wyl ffilm Cymru’n dychwelyd ddechrau fis nesaf gyda gloddest o ffilmiau newydd o bob cwr o’r byd. Yr uchafbwynt eto fydd Gwobr DM Davies, ac eleni mae 69 o ffilmiau yn cystadlu am yr arian a’r pecyn cymorth gwerth £20,000 i gynhyrchu eu ffilm fer nesaf. Eleni, am y tro cyntaf, bydd pob un ffilm sy’n cystadlu ar gael i’w gwylio ar wefan yr wyl, gan gynnwys sawl ffilm Gymraeg. Edrych ymlaen yn barod. Wrth gwrs bydd adolygiadau llawn a sdraeon ar Pictiwrs.com drwy gydol yr Wyl.
Cyhoeddir y rhaglen ar www.gwylsgrincaerdydd.co.uk ar y 10fed o Hydref.

Ffilmiau Byr Cymraeg Newydd
Bydd tair ffilm Gymraeg newydd yn cael eu cynhyrchu drwy gynlluniau Screen Gems a Digital Visions Sgrin eleni. Y gyntaf fydd ffilm 10 munud o’r enw “Elen”, a sgwennwyd gan Caryl Lewis ac a gaiff ei chyfarwyddo gan Elen Bowman. Bydd Jason King hefyd yn cyfarwyddo ffilm o’r enw “The Life and Life of Horace” gan Hywel George (cyfieithiad Cymraeg gan Aneirun Karadog). A’r drydedd fydd “Iawn Del”, gan Bethan Marlow o Gaernarfon. Llongyfarchiadau iddyn nhw gyd a braf yw gweld fod ffilmiau Cymraeg yn cael eu hariannu.

Yn ogystal mae Gwyl Ffilmiau Myfyrwyr Ffresh (www.ffresh.co.uk) newydd gyhoeddi fod 22 o ffilmiau yn cystadlu am y wobr am ffilm Gymraeg orau. Gobeithio y cawn ni gyfle i ddangos llawer ohonyn nhw mewn nosweithiau Pictiwrs yn y dyfodol.

Y Lleill
Mae ffilm hyd llawn Cymraeg hefyd wedi cael ei gynhyrchu yn ystod yr haf, bydd “Y Lleill” a gyfarwyddwyd gan Emyr Glyn Williams o label cerddoriaeth Ankst yn dangos am y tro cyntaf yng Ngwyl Sgrin Caerdydd. Mae manylion yn brin ar y foment ond edrychwn ymlaen i’w gweld hi yn ystod yr Wyl.

Digwyddiadau Eraill
Sdwff sy’n mynd mlaen yn eich ardal y dylech gadw llygad barcud amdanynt...

Filmshed Showcase – Dempsey’s Caerdydd, misol
Ydyn, mae criw fforwm ffilm Cymru, www.filmshed.com wedi cymeryd awennau noson POV gynt ac yn parhau’r gwaith o ddangos ffilmiau byr yn fisol yn y ddinas. Ond o hyn ymlaen bydd gwr neu wraig wadd yn dod i siarad ym mhob noswaith.

Sialens FilmWales 2005
Mae ganddoch chi 28 diwrnod i sgwennu, saethu a golygu ffilm fer o hyd at 5 munud o hyd, gan ddefnyddio cneuen goco fel prop, y llinell “Mae’n nhw’n dweud fod mellt byth yn taro ddwywaith” (wel, dwi wedi cyfieithu hwn o’r Saesneg, ond dwi’n siwr fasa raid iddyn nhw’n fodlon derbyn ffilm yn Gymraeg os taw all Wales ydi o...) a rhaid iddo fod yn gomedi... credu gallwch chi ei gyflawni? Rhagor o fanylion ar www.filmwales.net

Pictiwrs.com
Os ydych chi eisiau cyfrannu at wefan www.pictiwrs.com yna cysylltwch â ni ac wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn parhau i geisio ffeindio unrhyw ffilmiau byr Cymraeg eraill i ddangos ar y noson felly os ydych chi wedi creu eich ffilm eich hunain, pediwch oedi, anfonwch hi lawr! Gallwch gysylltu â ni un ai drwy delepathi, Alpen horn neu roi gwaedd i ni ar geraint@pictiwrs.com neu rhodri@pictiwrs.com

Bydd y “Pictiwrs Yn Y Pyb” nesaf yn Aberystwyth ym mis Tachwedd. Manylion i ddod ar y wefan cyn hir...

Diolch hiwj i: Mair, Ifan R, Dylan, Jon a gweddill bois Filmshed, Eryl, Eleri yn S4C, Nic, Keri a Rich Disco Mbobu, Neil yn Those People, Rhian, a phawb sydd wedi ein cefnogi drwy anfon eu ffilmiau atom neu ddod i’w gwylio. Jiawch ‘chi’n bobol glên!

Posted by Mair Thomas at 12:49 yh | Comments (4)

Medi 19, 2005

13 Ffilm Fer Newydd Ar Eu Ffordd

DelDigi.jpg Cyhoeddodd Sgrin yn ddiweddar yr 13 ffilm fer a ddewiswyd fel rhan o gynlluniau ffilmiau byr Screen Gems a Delweddau Digidol.

Mae un ffilm Gymraeg yn eu mysg eleni - "Elen" - yr awdur yw Caryl Lewis a'r cyfarwyddwr fydd Elen Bowman sydd eisioes wedi gwneud ffilm 3-munud gyda Sgrin o'r enw "What?". Cynhyrchir y ffilm gan gwmni cynhyrchu Opus, sydd wedi bod yn brysur dros yr haf yn datblygu a saethu 7 ffilm fer ar gyfer S4C.

Bydd y 7 ffilm Delweddau Digidol yn cael eu dangosiad yn ystod Gwyl Sgrin Caerdydd (9-19 Tachwedd, 2005).

Mae'r cynllun Delweddau Digidol yn parhau i fod ar agor i ar gyfer un prosiect dogfen. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw'r 30ain Medi.

Cliciwch "rhagor" i weld y rhestr gyflawn.

Anthony Smith o Tornado Films, Port Talbot fydd yn cynhyrchu'r llechen Screen Gems 5 munud. Sef:

Breaking Up: 5 Lessons in Coping gan Matthew Walters (awdur/gyfarwyddwr) o Abertawe

Hydra gan Chris Nurse (awdur/gyfarwyddwr) o Gaerdydd

The Farmers Daughter gan Robbie Brewster (awdur/gyfarwyddwr) o Gaerdydd

The Life and Life of Horace gan Hywel George (awdur) o Lanilltud Fawr a Jason King (cyfarwyddwr) o Gaerdydd (cyfieithiad gan Aneirun Karadog)

Y Ffilmiau Deng Munud bydd:

Zoodaddy gan Tony Johnson (awdur/gyfarwyddwr/animeiddiwr) o Gaerdydd, cynhyrchwyd gan Robin Lyons, Calon Ltd, Caerdydd

Elen gan Caryl Lewis (awdur) o Aberystwyth ac Elen Bowman (cyfarwyddwr) o Cardiff, yn cael ei gynhyrchu gan Eryl Phillips, Opus cyf yng Nghaerdydd

Ffilmiau Delweddau Digidol 4 yw:

Dad's Hand gan Keiron Self (awdur/gyfarwyddwr) o Gaerdydd, sy'n cael ei gynhyrchu gan Sam Price o Gaerdydd

Good Girl gan Marc Wyn Jones (awdur/gyfarwyddwr) o Gaerdydd. Sy'n cael ei cynhyrchu gan Mark John - Vision Thing, Caerdydd.

Iawn Del gan Bethan Marlow (awdur) o Gaernarfon, cynhyrchydd Eryl Phillips Opus, cyfarwyddwr i'w gadarnhau

Invented gan Karl Luke o Gaerdydd a Jamie Caldwell o Gasnewydd cyd-awdur/gyfarwyddwr, cynhyrchydd i'w gadarnhau

Oscar gan Stephen Hanks (awdur) O Gaerdydd a Luke Jacobs (cyfarwyddwr) o Gaerdydd - cynhyrchyd i'w gadarnhau

Untitled by Llinos Griffiths o Rydaman a Jonathan Baker o Gaerdydd cyd-awdur/gyfarwyddwr, cynhyrchydd i'w gadarnhau

The Real Mario Grey gan Gavin Irvine (awdur/gyfarwyddwr) o Gaerdydd, cynhyrchu gan Hywel George - Plastic Buddha

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 11:10 yh | Comments (0)

Medi 09, 2005

Darganfyddiad Hen Ffilmiau yn y BBC

Mae newyddiadurwr yn y BBC wedi dod o hyd i 30 awr o hen ffilmiau newyddion yn dyddio o tua 1957 i 1965.

Mae hyn yn ddarganfyddiad syfrdanol o feddwl fod pob rhaglen a ddarlledid bryd hynny'n cael ei ddifa er mwyn arbed lle yn yr archifau.

Un o'r pethau mwya dirdynnol o'r darllediadau hyn yw recordiad o ddiwrnod olaf Ysgol Capel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi.

Mae'n clipiau eisioes wedi cael eu darlledu ar Newyddion y BBC ond gellir gweld lluniau llonydd fan hyn.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 09:39 yb | Comments (0)

Awst 31, 2005

Ble Mae'r Chwarelwr?

Mae Archif Sgrin a Sain Cymru wedi gwneud apêl at sinemau a chasglwyr ffilmiau Cymru i geisio dod o hyd i rîl ola y ffilm gyntaf a gynhyrchwyd yn Gymraeg. Saethwyd "Y Chwarelwr" ym 1935 gan neb arall nag Syr Ifan ab Owen Edwards. Aml dalentog yn wir.

Gallwch gywed clip sain o'r ffilm yma a chlip fideo 9 eiliad yma.

Mae'n debyg fod pedwerydd rîl 16mm y ffilm yn wedi hen mynd yn angof, ac wrth ddadorchuddio plac i goffa'r ffilm yn Chwarel Llechwedd wythnos nesaf, gobeithia'r Archif gael rhyw fath o drywydd ar ddirgelwch diweddglo y ffilm hanesyddol hwn.

Yn ol y wefan hon, gallwch drefnu i weld "Y Chwarelwr" drwy ffonio (029) 2057 3426/7.

[Rhagor o glipiau o ffilmiau Cymreig yma]

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 09:53 yb | Comments (0)

Gorffennaf 20, 2005

Valleywood ar gychwyn

Wel, mae wedi digwydd, mae nhw wedi llwyddo i drechu'r pathew styfnig, ac wedi cychwyn ar y gwaith ar adeiladu y stiwdios mawr yn Llanilid ger Penybont.

Gobeithio daw hyn a swyddi lu i Dde Cymru a chael yr effaith noc-on mae pawb yn gobeithio amdano drwy'r cwmwl llwyd o sinigrwydd sy'n hedfan dros sgyrsiau pawb am y prosiect. Dwi'n aros i gael fy narbwyllo cofiwch, gan weld na lwyddodd stiwdio debyg yn yr Alban a chaeodd un stiwdio debyg yng Nghernyw, annodd fydd cael y busnes o Lundain, er yr addewid i dorri 20% oddi ar gyllideb gynhyrchu unrhyw ffilm sy'n saethu yno. Yr unig stiwdio sydd wedi llwyddo ydi un Ardmore yn Iwerddon, ac mae hynny yn llwyr ddyledus i gynnigion arian treth hael Section 481 Llywodraeth Iwerddon.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 08:41 yb | Comments (2)

Ebrill 30, 2005

Ffilmiau Cymreig Ar-Lein

Mae BBC3 newydd lawnsio cystadleuaeth ffilmiau byr newydd, ac fel rhan o'r wefan mae'n nhw'n cyfweld cyn-enillydd y gystadleuaeth - neb llai na John Giwa-Amu o Gaerffili.

Ynghyd a'r cyfweliad gallwch wylio ffilm buddugol John, Barrie the Barber, yn serennu y boi na o'r Flying Pickets, Brian Hibbard.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:40 yh | Comments (0)

Mawrth 30, 2005

Byrion Borth

Dwi wedi ffendio ffilm fach ar wefan ffilmiau byr Atom Film, o'r enw "The Funeral Of the Last Gypsy King" gan Jane Rogoyska. Mae oll wedi ei ffilmio yn Borth ger Aber. Mae'n ol-reit.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:39 yh | Comments (2)

Mawrth 16, 2005

Ffilmiau Annibynnol Cymreig yn syth i'ch cyfrifiadur

Ddiwedd yr haf yn 2004 cynhaliwyd cystadleuaeth yr "All Wales Filmmakers Challenge". Roedd hon yn gystadleuaeth a drefnwyd gan bobol Filmwales.net (nawr yn Filmshed) i greu ffilm fer annibynnol, dim cyllideb o fewn mis.

Gallwch lwytho'r 5 ffilm i'w gwylio ar eich cyfrifiadur fan hyn. Dwi wedi gwylio yr ennillydd - "What Treasure?" gan Zoo_Buffalo o Aberystwyth: mae'n amrwd iawn o ran animeiddio ond yn reit ddoniol mewn ffordd benchwiban serch hynny.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:16 yb | Comments (0)

Urdd Siwper-Arwyr Cymru!

Dyma glip o gychwyn ffilm fer newydd gan Matthew Walters a Tom Betts o'r enw "The Welsh League Of Superheroes" - rhaid dweud ma'n edrych fel laff, ac wedi'i wneud gyda sdeil.

Mae ffilm gynharach Tom, "Jump/cut", hefyd yno i'w lwytho.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:48 yb | Comments (2)

Mawrth 11, 2005

Rhosyn a Rhith (Stephen Bayly, 1986)

(IMDb)

rhosynarhith.jpg
(Gallwch brynu'r poster uchod fan hyn)

Ffilmiwyd hon nol yn nyddiau plentyndod S4C, pan oedd y rhagolygon ar gyfer dyfodol ffilm a theledu yng Nghymru yn, wel, roslyd iawn ac mae hynny'n adlewyrchu yn y cynhyrchiad sydd yn llawer mwy ffilmaidd na llawer o'r cynhyrchiadau diweddar i ddod o S4C.

Mae Trev (Dafydd Hywel) yn daflunwr yn sinema y REX yn y cymoedd (Theatr Y Coliseum, Trecynon), ac wedi bod ers 30 mlynedd, ond wedi i'r sinema gau gorfodir Trev i ffeindio gwaith amgen. Yn aflwyddiannus yn ei ymgeision i gael gwaith taflunio gerllaw, gorfodir ef i dderbyn gwaith fel gofalwr y sinema wag. Mae'r cwm yn drwm dan dlodi a diweithdra oherwydd diwedd diwydiant mawr, a phan ddaw ei gyn-wraig ato'n dweud ei bod yn methu talu ei morgais mae Trev yn benthyg arian gan gyn relowr y sinema er mwyn ei helpu. Ond arian a arbedodd Eli Davies (W.J.Phillips) ar gyfer ei angladd ydoedd, a chyn i Trev gael cyfle i'w dalu nôl mae Eli yn disgyn yn ddifrifol wael, gan orfodi Trev i feddwl am gynllun codi arian beiddgar sy'n dod a bywyd nol i'r hen sinema a'r gymuned, er ond am ennyd fach.

Mae'r ffilm yn cychwyn gyda montage chwerw felys o hen sinemau prydferth art-deco ar hyd a lled cymoedd De Cymru, un ai ar werth neu'n adfeilio. Mae hwn yn gosod tôn a themâu y ffilm yn gryno a buan iawn gan ddangos ar un llaw diweithdra a dirwasgedd y cyfnod a hefyd tranc y sinema leol a fu mor boblogaidd drwy'r degawdau gynt.

Mae Trev yn gymeriad hoffus, dyn syml ond dyn triw, sydd wedi gweithio'n dawel a diwyd drwy gydol ei oes yn rhoi pleser i bobol eraill drwy ei grefft fel taflunydd. Trwy ei berfformiad tawel benderfynnol Hywel yn ennyn empathi'r gwyliwr a phan mae yntau a Mona (wedi'i chwarae'n hyfryd o bositif a heulwenog gan Iola Gregory) ar y sgrin mae'n berthynas sy'n bleser i'w gwylio.

Mae hi'n ffilm fach ddigon difyr wedi'w chrefftu ym mowld y Gomedi Ealing, hynny yw ffilm gomedi ddrama weddol ysgafn gyda agweddau 'caper' wedi'u thanlinellu gyda dos o realiti cymdeithasol. Mae hi'n sicr yn ymosod ar sawl agwedd o gymdeithas y cyfnod, gan amlygu diweithdra a phroblemau teuluoedd y cymoedd oedd yn deillio o hynny, ond hefyd yn dangos gallu pobol i anghofio am eu sefyllfa a chreu hapusrwydd o beth sydd ganddynt - oll mewn ffordd sydd ymhell o fod yn nawddodglyd. Enghraifft hyfryd o hyn yw perthynas Trev gyda chymeriad Dave (Ifan Huw Dafydd) sydd wedi priodi ei gyn wraig, gan fod y ddau ddyn hyn yn mynd yn erbyn teip ac yn ceisio dod mlaen gyda'u gilydd orau posib. Does dim o'r drwgdeimlad arferol a welir yn y math yma o driongl cariad, dim ond cydymdeimlad dynol ac ymgais wirioneddol i wneud y gorau dros eu gilydd a'u plant dan amgylchaidau annodd, sydd yn ei dro yn ennyn eich cydymdeimlad chi fel gwyliwr yn llwyr.

Mae yno sawl golygfa hudolus hefyd, yn arbennig yr olygfa lle daw Mona, a oedd yn usherette yno, i'r sinema at Trev i'w helpu i lanhau cyn i'r darpar brynwyr gyrraedd. Wrth iddi hi lanhau'r llwyfan, mae Trev yn rhoi'r gan "Coming Up Roses" (o'r musical "Gypsy")ar yr uchelseinydd a fflachio'r golau sbot arni a hithau'n ymuno yn yr hwyl gan feimio a dawnsio i'r gan yr oeddent ill dau mor gyfarwydd a hi ond gan danio perthynas nad oedd yr un o'r ddau wedi rhagweld.

Mae ganddi hi ei phroblemau, mae 'na actio gwael gan sawl cymeriad (Eli a'r drymiwr) a chydig gormod o sylw i'r is-blot dwl braidd am dyfu madarch er mwyn codi pres, ond dydyn nhw ddim yn pylu'r argraff sy'n aros ar y diwedd.

Mae'r darnau sydd yn rhamantu am ddyddiau euraid y sinema a fu yn disgleirio ac mae rhywun yn dod o'r ffilm gyda'r teimlad eu bod nhw wedi gweld ffilm fach Gymreig ddigon dymunol sydd yn sicr a phinsiad bach o hud y sinema mae hi'n ei chlodfori yn ei bywiogi.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 04:36 yh | Comments (0)

Chwefror 16, 2005

Tocyn unffordd ar y Bws Ffilm plis condyctyr

Mae Ed (sydd wedi rhoi ei sylwadau isod) wedi arwain fi at wefan Filmbus, sef menter ganddo a Sara Fletcher sy'n ceisio arddangos ffilmiau a chelf mewn ymateb i'r lleoliadau y maent yn ymweld a hwy gan ddefnyddio bws i brojectio arno, ac ohono.

Mi ddangoson nhw sawl ffilm yn Awst 2004 yng Nghaerdydd, ond lywes i ddim am hon, a buasai hi wedi bod yn braf mynychu.

Oes son am noson arall debyg?

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 05:19 yh | Comments (1)

Chwefror 11, 2005

Gadael Lenin (Endaf Emlyn, 1993)

(IMDb)

gadael lenin.jpg

Wrth dyrchu yn selar y swyddfa’n ddiweddar ddes i ar draws sawl tap fideo o ffilmiau nodwedd Cymreig a wnaed o tua ‘85 ymlaen. Heno oedd tro Gadael Lenin am blast o’r fidio vault...

Mae’r ffilm yn troi o amgylch taith ysgol i St.Petersburg yn fuan wedi i’r llen haearn ddisgyn. Wrth deithio o Foscow i St.Petersburg mae’r tren yn gwahanu yn ddau gyda’r 7 plentyn (wel plant yn eu arddegau...7 arddegyn?!) yn mynd at St.Petesburg a’r athrawon yn ffeindio’u hunain ar drac arall i ganol cefn gwlad. Mae’r plant wrth gwrs yn cymryd mantais o’u rhyddid gan feddwi a gwneud fel a fynnont. Yno mae Spike (Steffan Trefor) yn cwrdd a chyd-artist o’r enw Sasha (Ivan Shvedoff) ac yn dysgu i fod yn driw i’w hun, ei gelf a’i rywioldeb.

Tra mae hyn yn digwydd gorfodir yr athrawon i aros dros yn nhy rhyw ddynes ddiarth mewn pentref (am ddim rywsut?!) ac yn bore mae Eileen (Sharon Morgan) yn sleifio ffwrdd gan ddal lifft gan ddynes o’r un anian a hi a gadael y gŵyr tu ôl i gecru. Mae’r ddau ddyn wedyn yn gorfod ffeindio’u ffordd eu hunain i’r ddinas a hynny heb fawr ddim o arian. Wrth fynd yn fwyfwy despret mae Mostyn (Wyn Bowen Harries) yndod i sylwleddoli nad oedd y ddelwedd o Rwsia yr oedd yn ei gofio‘n cyfateb a realiti a’i. Dangosir dymchweliad y ddelfryd drwy iddo gael ei orfodi i ymuno a’r bobol leol ar y stryd a gwerthu eu eiddo ar y farchnad rydd er mwyn cyrraedd nol i’w fywyd cyfforddus a'i dren adref.

Teimlo o’n i wedi ei gwylio y gallai hi wedi bod yn ffilm llawer gwell. Mae’r syniad sy’n sail i’r ffilm yn apelio atai ac fe allai weld pam y dewiswyd honno gan fod cymaint o sgôp iddi o ran straeon y cymeriadau, ond efallai dyw’r sdori ddim cweit yn plethu mewn modd digon boddhaol i allu codi’r ffilm i fod yn gyfanswm cytbwys.

Mae yno driongl cariad o fath rhwng y tri athro, a hogyn yn ceisio dygymod a’i rywioldeb ac mae’r ddwy edefyn stori hyn yn ddigon difyr ynddynt eu hunain, ond eto roedd yna deimlad fod y plot cyrraedd nol i St.Petersburg yn ceisio cystadlu gyda’r straeon personol hyn a chywasgu unrhyw le iddynt anadlu. Roedd yna lawer gormod o gyfeiriant llawdrwm tuag at gelf a thrafodaethau am gelf, gan roi'r teimlad eu bod yn annaturiol. Enghraifft o hyn oedd yn gwneud i fi wingo yn fy set oedd yr olygfa lle’r aiff Eileen a’r plant o amgylch yr amgueddfa gelf ac yna heb unrhyw rybudd mae’r plant yn troi mewn i critics celf fasa ddim allan o le ar raglen y Turner Prize! Son am drawsnewidiad!

Mae’r golygfeydd rhwng Merv (Ifan Huw Dafydd) a Mostyn (neu Lenin fel mae’r plant yn ei alw) unwaith i Eileen eu gadael (gadael Lenin...) yn wych ac yn rhoi ffenest ar beth allai’r ffilm fod. Mae’r deialog rhwng y ddau yn gwreichioni ac mae’r golygfeydd ohonyn nhw’n stryffaglu i gyrraedd y ddinas wedi eu saethu mewn ffordd araf deg gan neidio o siotiau tynn i rai a chydig o bellter am yn ail oedd yn fy atgoffa i o sawl ffilm ffordd Ewropeaidd. Piti a deud y gwir na allai sdori baralel y plant wedi gallu bod o’r un safon.

Roedd yna hefyd sawl twll plot oedd yn gwrthod esmwytho fel rinclau styfnig mewn crys. Pam na allai’r ddau athro ffonio’r gwesty yn St.Petersburg i gael cymorth? Roedd gan Mostyn grap weddol dda ar Rwsieg. A pham nad oed Eileen yn gofidio am y ddau ddyn wrth iddi jolihoetian o amgylch y ddinas yn eilun Rwsieg i’w disgyblion (mae’r rendition o gan “Eileen” Dexy's Midnght Runners ar y cwch fel rhyw eilun addoli yn ddigon i droi stumog unrhywun). Ddwedodd hi ddim byd hyd yn oed wrth eu gweld nhw eto yn yr orsaf drenau jest cyn gadael nôl am Gymru! Ewadd, ffydd fel santes ganddi myn uffar i!

Ta waeth, cyfle colledig braidd i wneud ffilm Gymraeg â theimlad wirioneddol arthouse Ewropeaidd arni. Mae na sawl rhan ohoni sydd yn cyrraedd y nod yna a braf iawn oedd gweld y rheiny ond mae’r darnau lle mae’n mynd ffwrdd ar tangent gwers-gelf yn rhy hunan-ymwybodol ac yn torri ar draws unrhyw naws a adeiladwyd.

Dolenni:

Bywgraffiad Endaf Emlyn ar wefan y BFI

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 04:35 yh | Comments (2)

Kino-Cymru

Tudalen ar hanes ffilm a gwneuthurwyr ffilm Cymru ar wefan Screenonline y Bfi.

Sdwff difyr iawn ond da chi ddim yn gallu gwylio'r clipiau ffilm yn anffodus, os nad ydach chi mewn ysgol neu lyfrgell hynny yw.

Mae yno hefyd adran ar Deledu Cymru

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 11:42 yb | Comments (0)

Ionawr 21, 2005

Pictiwrs Yn Y Pyb - Dempsey's, Caerdydd 01/02/05

Gwaeddwch o'r toeau!

Ma noson ffilmiau byr Cymraeg "Pictiwrs Yn Y Pyb" wedi cyrraedd.

Mae criw pictiwrs.com wedi bod yn ddiwyd chwilio a thyrchu wedyn ymdrabaeddu mewn ffilmiau byrion i ffeindio perlau bach cryno i'ch dileit ac at eich dant.

Wele boster hyfryd isod (diolch mawr fel cawr i Sara am hyn), a gobeithio y gallwch chi ddod aton ni am beint a sgwrs.

Plis pasiwch hyn ymlaen i bobol fuasai falle efo diddordeb, ac os ydych chi neu unrhyw un da chi'n nabod yn gwneud ffilmiau ac eisiau rhywle i'w dangos yna cysylltwch a ni. Dwi ar nwdls [at] wwfmdpc [dot] com os ydych chi eisiau rhagor o fanylion neu ffoniwch 02920 312986.

Bydd Gary Slaymaker yn dod i gyflwyno'r noson, a byddwn yn dangos 7 ffilm ar offer o'r safon ucha - felly ma pethe'n argoeli'n dda.

Diolch yn fawr hefyd i Keri Collins o Disco Mbobu/POV a Neil Wagstaff o Those People Productions am fod mor hael efo'u amser a'u offer.

Welai chi'n pictiwrs.

Pictiwrs A La Pub

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:34 yh | Comments (1)

Ionawr 05, 2005

Dal:Yma/Nawr - y DVD

dal.jpgDw i ddim yn cofio gweld unrhyw datganiad ynglyn â hyn, ond mae S4C wedi rhyddhau ffilm wych Marc Evans ar DVD. Fe brynais i fe i'm cariad i Dolig, ond dim ond noson o'r blaen cawson ni'r amser i'w wylio.

Nid yn unig ydyw'r ffilm mor dda ag o'n i'n cofio o'i weld yn y sinema, ond mae pethau ychwanegol yn cadw'r safonau'n uchel hefyd. Mae disg ychwanegol ar wahan, sy'n cynnwys cyfweliadau â phob un o'r beirdd byw (mae detholiad o'r cyfweliadau yma yn cael eu defnyddio yn y ffilm ei hun, ond mae'n dda gweld y cyfweliadau eu hunain) ac un cyfweliad hir â Marc Evans. Wedyn mae darllediadau gan Tudur Dylan, Mererid Hopwood ac un bardd arall (Rhys Davies?) o lawer o'r cerddi sy yn y ffilm, a llawer mwy eto - er enghraifft, mae Gerallt Lloyd Owen yn sôn am gerdd W.J.Griffith I Dlodion y Byd yn ei gyfweliad, a dyma Tudur Dylan yn ei darllen. Mae'r rhai o'r cerddi 'ma eisioes ar gael yma, os dych chi'n gallu defnyddio Windows Media Player, ych pych.

Da iawn wir. Dw i'n mynd ati ar hyn o bryd i ripo pethau oddi ar y DVD i MP3, a bydda i'n postio pethau ar Pop Peth yn y man, gan ddechrau gyda fersiwn John Cale o Ar Lan y Môr a'r gerdd Dave Datblygu, Pererin Nid Wyf.

Yr unig peth dw i ddim yn ei ddeall am y DVD 'ma yw pam dydy e ddim yn cael ei hyrwyddo yn fwy? Dyw e ddim ar gael ar Amazon, na Gwales am wn i, does dim sôn amdano ar wefan y ffilm, naci ar wefannau (uniaith Saesneg, da iawn bois) Fiction Factory a Tinopolis, y ddau gwmni a oedd yn gyfrifol am y ffilm. Taswn i ddim wedi digwydd ei weld yn siop Awen Teifi jyst cyn y Dolig, fyddwn i ddim yn gwybod ei fod e ar gael, er mod i wedi bod yn aros amdano ers mis Mawrth. Oedd 'na unrhywbeth yn y wasg amdano?

Posted by Nic Dafis at 04:39 yh | Comments (8)

Rhagfyr 24, 2004

Cthulhu - yn Gymraeg?

Mae ffilm newydd Call of Cthulhu ar y gweill, sy wedi seilio ar lyfrau H.P.Lovecraft. Ffilm ddistaw bydd hi, yn steil yr hen glasuron (mae'r lluniau yn edrych yn wych, ond mae'n debyg bod y gweinydd wedi'i or-boethi, achos mod i ddim yn gallu lawrlwytho'r treilar). Un mantais wneud ffilm ddistaw yw bod hi'n hawdd iawn i wneud fersiynau aml-ieithog, felly:

We're still looking for a few volunteer translators for subtitles on the DVD of The Call of Cthulhu. We're looking for translators fluent in: Irish, Welsh, Hungarian, Navajo or some other uncommon language which uses the Latin alphabet, click here to volunteer.

Unrhywun â diddordeb?

Posted by Nic Dafis at 11:11 yb | Comments (0)

Rhagfyr 20, 2004

Dim arian i greu ffilmiau ym Mhrydain?

Yn ol sdori heddiw yn y Guardian, mae corff masnach cynhyrchwyr Prydain, PACT, yn lambastio'r BBC am ei arlwy ffilm dros y nadolig ac wedi galw ar y BBC i ryddhau rhagor o'u arian i'w wario ar gynhyrchiadau Prydeinig. Y broblem ydi fod dim ond tri ffilm a gynhyrchwyd ym Mhrydain yn cael eu dangos rhwng Rhagfyr 18 a 31, gyda'r rhan fwyaf o;r gweddill yn ffilmiau Hollywood. Y broblem ehangach yw taw dim ond £7 miliwn o gyllideb ffilm blynyddol £80 miliwn BBC Films a warir ar ffilmiau Prydeinig, ac yn ehangach i hyn, faint o'r swm yma ddaw i ffilmiau Cymreig. Yn aml iawn, dim yw'r ateb.

Sut all y BBC gyfianwhau galw ei hun yn Ddarlledydd Gwasanaeth Cyhoeddus gyda'r ffasiwn wastraff. Mae 'na gwmniau cynhyrchu gwych yng Nghymru gyda sgriptiau da a brwdfrydedd i gynhyrchu ffilmiau sydd am lwyddo ar lefel rhyngwladol ond gyda cyn lleied o arian ar gael iddynt drwy'r Loteri, neu efallai cyn lleied o arian i bartneru'r arian hynny a gwneud ffilm viable, mae hi'n dod yn fwyfwy amhosib i gael ffilam allan yna.

Petasai'r BBC yn rhyddhau £40 miliwn (gan gymryd yn ganiataol (!) y buasai rhywfaint o hyn yn dod i Gymru) gallai hyn sicrhau o leia dwy neu dair ffilm nodwedd i ddod allan o Gymru yn flynyddol, os nad mwy os gellid cadw cyllidebau o dan £500,000.

Mae o jest yn rhwystredigaeth fawr i mi fod cyn lleied o ffilmiau yn rhoi cynrychiolaeth i Gymru a Chymry ar lwyfan rhyngwladol ac ar ein sgriniau sinema ein hunain. Dwi'm yn son am gael blocbystyr am Owain Glyndwr i gael twristiaid Americanaidd i lifo yma i brofi eu gorffennol pell, ffug, drwy deithiau gwag o amgylch cestyll y Saeson a phlastai ein gormeswyr, ond ffilmiau modern yn dweud straeon difyr (sy'n diddanu nid dipresio), cyfoes, mewn ffordd sy'n driw i esthetig sinema NID teledu na theatr. Mae'n misnomer llwyr fod y rhan fwyaf o sdwff "art-house" yn uchel ael: "art house" i ni ydi ffilm "boblogaidd" mewn gwlad arall, a rhyw ffordd ddiog o farchnata yn unig ydi defnydd y geiriau.

Ella gyda dyfodiad dosbarthiad digidol y gall hyn ddigwydd mewn ffordd haws, ond y tebygolrwydd ydi na fydd y cymunedau fuasai'n manteisio fwya ar y math yma o ddosbarthu yn gallu ei fforddio, ac y byddant yn sownd eto gyda derbyn rybish lowest common denominator Hollywood wrth drio chwarae'n saff a chael y gynulleidfa fwya posib o gymuned fach iawn. Mae'n debygol y bydd Cymru flynydoedd tu ol iddi pan ddaw hi at ddyfodiad taflunwyr digidol.

Reit, rant drosodd. Cytuno? Anghytuno? Be ffwc ti'm baldaruo amdano Rhodri?

Hwyl, R

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 07:40 yh | Comments (0)

Medi 17, 2004

Gweithdy Sgriptio

Os oes gennych chi ddiddordeb sgriptio ffilm eich hun, mae Cwmni Opus yn cynnal gweithdai fel cam cyntaf yn y broses o edrych ar syniadau ar gyfer comisiwn am 7 ffilm fer.

Wedi’r gwethdai diwethaf crewyd Naw Ffilm fer ddeinamig oedd yn dweud rhywbeth am Gymru heddiw, gan gynnwys Moses Pantybrwyn, a ennillodd gwobr Bafta Cymru am ddrama unigol orau 2003.

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd dros y bythefnos nesaf. Mae’r cyfan am ddim, ac yn parhau rhyw dair awr. Mae gofyn i chi baratoi stori (ar un ochr A4) a fyddai yn gallu cynnal 10 munud o sgript.

Os oes gennych chi ddiddordeb, ffoniwch Eryl Huw Phillips yn Teledu Opus ar 02920 223456 neu danfonwch ebost i eryl@opustv.com

Posted by Mair Thomas at 11:01 yb | Comments (2)

Medi 03, 2004

Ffordd O Fyw yn Toronto

Jest nodyn cyflym i ddweud fod yna ffilm Gymreig o'r enw "A Way Of Life" gan Amma Asante yn dangos yng Ngwyl ffilm Toronto yr wythnos hon. Mae hi'n ffilm sy'n delio a rhiant sengl ifanc sy'n crafu byw yn Ne Cymru sy'n cael ei thynnu mewn i hiliaeth a thrais hiliol yn erbyn Twrc lleol.
AWOL_tnto.jpg

Mae erthgyl amdani ar wefan rhaglen gelf BBC Wales, On-Show, a gwybodaeth ar wefan y dosbarthydd, Verve Pictures. Mae yma hefyd, gyfweliad trwyadl ag Amma Asante ar wefan Sianel 4.

Mae'n debyg y bydd hi'n cael ei Premiere Prydeinig yng Ngwyl Sgrin Caerdydd ym mis Tachwedd.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:52 yb | Comments (3)

Awst 27, 2004

Dragon yn dechrau dechrau eto?

Mae'r BBC yn adrodd fod y gwaith ar fin cychwyn ar Stiwdios "Dragon" yn Llanilid ger Llantrisant (ond fe ddwedon nhw hyn ym mis Ionawr).

Fydd raid i ni aros i weld pa wir fudd a ddaw o hyn i fffilm a sinema yng Nghymru, mae'n amlwg y buasai menter o'r fath yn datblygu sgiliau drwy'r cynifer o swyddi fydd yno (dros fil?), ac efallai y buasai hyn yn cael effaith knock-on ar weithgareddau gwneuthura ffilmiau Cymreig. Ond o ran rhoi cyfleoedd i wneud ffilmiau mae'n anhebyg o fod yn ffrwythlon iawn. Peiriant arian ydi o wedi'r cyfan, nid peiriant magu diwylliant ffilm.

[Dim dolen i wefan y stiwdio ei hun ar y foment sori]

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 07:10 yh | Comments (2)

Gorffennaf 25, 2004

Tafarn y Chweched Hapusrwydd

Dyma luniau o'r adeg y ffilmiwyd The Inn Of The Sixth Happinness ym Meddgelert ym 1958. Ingrid Bergman oedd y brig actores yn portreadu Gladys Aylward oedd yn missionary yn Tsieina.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 06:39 yh | Comments (0)

Mehefin 04, 2004

Trafod Ffilm Cymru ar y We

Wel, o'r diwedd dyma fforwm drafod ar gyfer y diwydiant ffilmiau Cymreig a gwneuthura ffilmiau Cymreig.

Dyma Filmwales.net

Mae nhw'n ceisio bod yn ateb Cymru i gylch trafod Shooting People. Gobeithio y llwyddan nhw, gobeithio gwelwn ni drafodaeth fywiog a rhannu syniadau, ffilmiau, cymorth, cyngor a barnau yn y misoedd/blynyddoedd i ddod.

Oes lle ar gyfer fersiwn Cymraeg dwedwch? Mae hyn yn codi cwestiwn ynglyn a maint fforymau gweithredol. Faint o wneuthurwyr ffilm Cymreig amatur sydd allan yno sydd eisiau defnyddio gwasanaeth o'r fath? Ydyn nhw jest am ddefnyddio'r un Saesneg gan fod rhagor o wybodaeth/cymorth/criw yn bownd o fod yno?

Mi geisiodd cwmni Those People osod fforwm ar y we ond heb lawer o lwc gan i'w server crasho a dileu eu holl wybodaeth. Mae ganddynt fwrdd neges functional ar y foment.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:39 yb | Comments (3)