Ionawr 17, 2006

Brokeback Mountain (Ang Lee, 2005)

(IMDb)

Yn dilyn ei ymdrech brin i greu ffilm 'blockbuster' wirioneddol, mae Ang Lee, cyfarwyddwr 'Crouching Tiger, Hidden Dragon' a 'The Ice Storm' wedi dychwelyd i'r sgrin fawr â ffilm feiddgar sydd wedi achosi cryn storom eisoes yn America. Mae'n adrodd hanes, Ennis Del Mar a Jack Twist sydd, un haf yn nechrau'r chwedegau, yn cael eu hanfon i fyw ar fynydd yn gofalu am ddefaid rhag coyotes ac anifeiliaid gwyllt eraill. Ond yn y pen draw, ynddyn nhw y mae natur yn gafael, nid y defaid.

Mae'r ddau'n raddol yn cwympo mewn cariad â'i gilydd, ond pan ddaw diwedd yr haf, mae'r ddau'n mynd ar eu hynt ar lwybrau gwahanol, a phrin a wyddwn faint mae'n ei olygu i'r ddau ddyn. Rhaid i'r ddau ddychwelyd i gonfensiwn cymdeithas, nid yr hyn a grewyd rhyngddynt ar y mynydd. Mae Ennis yn priodi'i gariad Alma (Michelle Williams) ac mae Jack yn cwrdd â Lureen (Anne Hathaway), gan symud i Decsas i fod yn rhan o'i theulu cyfoethog. Ond ni all y ddau gadw ar wahân, ac wedi pedair blynedd, cânt eu hail-uno, gan ddechrau ar y trywydd anochel tuag at ddinistr.

Lwydda Ang Lee i adrodd stori'r ddau 'gowboi' yn gelfydd, heb droi at or-sentimentalrwydd. Byddai'n hawdd fod wedi gwneud hyn, ond yn lle hynny, gwelir gwir droeon trwstan sefyllfa'r ddau, wrth iddynt ymgodymu â'r teimladau sydd ganddynt at ei gilydd, eu gwragedd, a'r frwydr i gadw'r ddysgl yn wastad yn gymdeithasol. Mae bygythiad trais o'u hamgylch o hyd, ond maent yn fodlon wynebu'r perygl hwn, hyd yn oed os nad ydynt yn fodlon datgan unrhyw beth yn agored drwy wireddu'r freuddwyd o ddechrau ranch â'i gilydd.

Posted by Geraint Criddle at 09:44 yh | Comments (5)

Ionawr 12, 2006

Deg Uchaf (hwyr) Pictiwrs 2005

Wel, wel, bu 2005 yn flwyddyn gymysg o ran ffilmiau. Roedd ambell i glasur, sawl stincar, a blwyddyn lle na wnaeth y blockbusters bondigrybwyll gystal â'r disgwyl. A beth, meddech chi, yw dadansoddiad adolygwyr Pictiwrs o'r holl sefyllfa? Wel, isod, mae casgliad o'n hoff ffilmiau ni o'r flwyddyn a fu...

1. Sideways - ffilm hynod ddigrif gan Alexander Payne am helyntion Miles a Jack yng ngwinllanoedd California
2. Der Untergang (Downfall) - hanes dwys a thywyll dyddiau olaf y Drydedd Reich, drwy lygaid Traudl Junge, ysgrifenyddes Adolf Hitler
3. A History of Violence - clasur arall gan Cronenberg, gyda Viggo Mortensen fel cyn-gangster sy'n wynebu'i orffennol
4. Un long dimanche de fiançailles (A Very Long Engagement) - ffilm hanesyddol arall, a leolir yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, gan Jean-Pierre Jeunet
5. Closer - addasiad o ddrama Patrick Marber, gyda chast cryf wedi'i arwain gan yr hynaws Clive Owen
6. Sin City - ffilm/llyfr comics wedi'i chyfarwyddo'n rhannol gan Tarantino, yn olrhain straeon tywyll trigolion Basin City
7. Hotel Rwanda - y drydedd ffilm hanesyddol yn ein rhestr, am y gyflafan yn Rwanda ym 1994, ac ymdrechion un dyn i leihau'r niwed
8. The Life Aquatic with Steve Zissou - ffilm ddiweddaraf Wes Anderson, gyda Bil Murray yn rhagorol fel capten llong wyddonol sydd ar ôl siarc mytholegol
9. Mysterious Skin - ffilm na chafodd rhyw lawer o sylw, ond mae perfformiad Joseph Gordon-Levitt fel dyn ifanc sy'n puteinio'i hun mewn tref fechan yn y Mid West werth ei wylio.
10. Bombon (El Pero) - ffilm o Batagonia yn yr Ariannin sy'n sicr o godi gwên, lle mae hen ddyn anlwcus yn dechrau magu ychydig o lwc ar ôl cael ci yn anrheg am ei garedigrwydd.

Mae'n argoeli y gallai 2006 fod yn flwyddyn ragorol, gyda sawl ffilm dda ar y gweill, felly cadwch lygad ar Pictiwrs, ac am y rhestr nesaf mewn blwyddyn!

Posted by Geraint Criddle at 08:49 yh | Comments (3)

Ionawr 09, 2006

Match Point (Woody Allen, 2005)

(IMDb

Dyma ni, felly, ail ffilm gan Woody Allen i ymddangos mewn llai na blwyddyn (Melinda and Melinda oedd y llall wrth gwrs). Y tro hwn, mae’r cast yn llawer cryfach, gyda pherfformiadau cryf gan Jonathan Rhys Meyers a Scarlett Johansson yn enwedig. Yn anffodus, wrth i Allen symud o’i gynefin yn Efrog Newydd i amgylchiadau anghyfarwydd Llundain, ymddengys ei fod wedi colli tipyn o’i ddealltwriaeth o bobl a chynefin.

Mae Chris (Meyers) yn gyn-chwaraewr tenis sydd wedi rhoi’r gorau i’w yrfa broffesiynol (lled-lwyddiannus) i fod yn hyfforddwr tenis yng nghlwb enwog Queen’s yn Llundain. Yno, daw i gwrdd â Tom (Matthew Goode), a dod yn ffrindiau â’i deulu drwy gariad y ddau at opera. Mae’n amlwg nad yw Chris o’r un anian â nhw, y teulu cefnog, diwylliedig, ond mae’n amlwg yn ceisio ‘gwella’i hun’ a dringo ysgol cymdeithas. Mae’n cwrdd â chwaer Tom, Chloe (Emily Mortimer), a datblyga carwriaeth rhyngddynt. Ond yna, mae Chris yn cwrdd â Nola (Johansson), dyweddi Tom, ac mae sbarc yn amlwg yn bodoli rhyngddynt. Mae’r ddau’n dechrau caru, ond penderfyna Nola na all pethau bara.

Digon araf yw’r ffilm i ddechrau, ac mae’n llawn ystrydebau am ffordd o fyw y dosbarth uwch mewn cymdeithas Seisnig. Fodd bynnag, nid ydym yn siwr sut i ddarllen cymeriad Chris. Mae’n amlwg fod ganddo ddigon o uchelgais, ond mae’r cliw a gawn o’r cipolwg ohono’n darllen ‘Crime and Punishment’ gan Dostoyevsky yn arwydd nad yw pob dim mor ddiniwed ag y mae’n ceisio’i gyfleu. Ceir adleisiau cryf hefyd o Macbeth, gyda’r prif gymeriad yn amau’i hun, yn clywed lleisiau sy’n procio’i euogrwydd, a’r ffaith na all ef a Chloe gael plentyn.

Yn raddol, tro’r ffilm yn ‘thriller’, ond erbyn hynny mae rhywfaint o’r diddordeb wedi’i golli. Er gwaethaf perfformiad cryf Meyers, does dim digon yn digwydd i gynnal y ffilm. Mae’r tro yng nghynffon y ffilm yn glyfar, ond prysur flino mae Allen. Er gwaethaf clyfrwch y ffilm, perfformiadau da, y teimlad yw ei fod allan o'i ddyfnder yma, heb ddealltwriaeth o'r bobl sy'n chwarae'i bypedau.

Posted by Geraint Criddle at 10:05 yh | Comments (0)

Rhagfyr 22, 2005

KING KONG (PETER JACKSON, 2005)

Ail-wneuthuriad o King Kong (1933) sy’n cynnwys Naomi Watts, Jack Black, Adrien Brody ac Andy Serkis. Mae difetha diwedd King Kong ychydig bach fel difetha diwedd Passion of the Christ, ond mae’r adolygiad yma’n cynnwys difethwyr mawr mwncïaidd.

Diddorol yw cymharu'r fersiwn yma o King Kong gyda’r gwreiddiol, oherwydd bod nifer o’r newidiadau yn dweud llawer am sut mae’r byd wedi symud ymlaen yn y 72 mlynedd hwnnw. Yn y gwreiddiol roedd cymeriad Jack Black, Carl Denham, yn gymeriad hoffus, brwdfrydig ac uchelgeisiol. Roedd yna rywbeth arwrol am y ffordd yr oedd o’n creu dinistr yn enw anturiaeth ac yn saethu rhinoseros gwyn. Roedd gwareiddiad yn gorchfygu natur yn beth da. Yn y byd modern, ble mae’r ddynoliaeth mewn peryg mawr o ddinistrio natur, mae Deneham yn cael ei bortreadu fel cymeriad creulon sy’n fodlon aberthu ei ffrindiau a heddwch natur ar yr ynys er mwyn elw hunanol. Mewn un olygfa mae’n galaru dros ei gamera toredig gyda mwy o emosiwn nag y ffrindiau sy’n gorwedd y farw wrth ei ymyl. Mae gan Jack Black orchwyl anodd am fod yn rhaid iddo chwarae cymeriad sy’n holl groes i’r digrifwr mae’r gynulleidfa yn ei ddisgwyl, ond mae’n ymgorffori'r cymeriad yn berffaith. Dim ond yn un olygfa mae Jack Black y Tenacious D yn codi i’r wyneb: “I am touching the beast!”

Mae cymeriad Adrien Brody, Jack Driscoll, hefyd wedi datblygu o forwr rhywiaethol yn y ffilm wreiddiol i’r dramodydd hydeiml mae merched heddiw yn ei ffafrio. Ond wrth gwrs, buan iawn mae'r cymeriad yn tynnu’i fest ac yn gwaredu ei gariad o afael y bwystfil mawr, gan brofi nad yw barn cymdeithas ar rôl y gwryw heb newid cymaint â hynny wedi’r cwbwl. Mae Adrien Brody yn chwarae'r rôl yn dda iawn, yn enwedig yn awr gyntaf y ffilm. Gwaetha’r modd unwaith y mae Kong ei hun yn ymddangos dyw Jack Driscoll ddim yn medru cystadlu am sylw’r naratif, ac mae’r cymeriad yn ymdrechu heb lawr o lwc i gael unrhyw effaith yn y drydedd act.

Y gwahaniaeth pennaf rhwng y ddwy ffilm yw cymeriad Naomi Watts, Ann Darrow. Yn y gwreiddiol roedd King Kong yn greadur hollol frawychus iddi, a doedd hi’n gwneud dim byd ond sgrechian drwy’r cwbwl. Yn y ail-wneuthuriad ym mae Ann Darrow yn caru’r creadur yn ôl. Dim ryw fath o gariad serchog sydd yma ond cariad rhwng epa unig (mae sgerbydau ei deulu ymadawedig wedi’i gwasgaru ar hyd llawr ei ffau) a merch unig. Yn hynny o beth mae’r ffilm ychydig yn ddryslyd. Mae’r un rhamant rhwng yno rhwng Ann Darrow a Jack Driscoll ag oedd yn y gwreiddiol. Pam felly bod Ann Darrow yn awyddus i ddenu anwyldeb epa anferth? Prif drasiedi'r gwreiddiol oedd bod cariad Kong heb ei dalu'n ôl o gwbwl. Mae’r trasiedi dal yno i ryw raddau. Mae Ann yn galaru dros Kong fel y byddai rywun yn galaru dros anifail anwes hoffus, ac mae’r ffaith ei bod hi’n rhedeg yn syth i ddwylo Jack Droscoll, cymeriad sy’n rhannol gyfrifol am farwolaeth y creadur, yn dangos nad oedd ei chariad hi ddim wir yn rhedeg mor ddwfn â hynny. Roedd Kong angen Ann ond doedd Ann ddim gwir angen Kong.

Mae Kong yn greadigaeth wych, hollol gredadwy drwyddo draw. Mae’n syndod i ba raddau mae modd i’r gynulleidfa ddarllen yr emosiwn ar ei wyneb heb iddo yngan gair na chwaith ddefnyddio unrhyw fynegiannau dynol. Does dim ennyd gwael yn y ffilm pan fod Kong yn dominyddu’r sgrin. Gweddill y ffilm sy’n siomi ychydig bach.

Mae’n sicr y dylsai Peter Jackson gyflogi golygydd llawer mwy strict i brofi ei waith. Mae’r pedwar deg munud cyntaf cyn i’r cwch gyrraedd ynys King Kong yn hynod o araf ac yn cynnwys amryw o olygfeydd sy’n ychwanegu bron i ddim byd i weddill y ffilm. Mae ‘na ambell i olygfa gyda Jimmy (Jamie Bell) a Mr. Hayes (Evan Parke) sydd hollol wahanedig o’r gweddill. Mae’n rhaid i Peter Jackson ddysgu defnyddio’r siswrn yn ogystal â’r camera. Ond wedi dweud hynny, wnes i siarad â chynrychiolydd benywaidd yn y gynulleidfa a dywedodd hi fod y holl ddarnau yr oeddwn i’n credu oedd yn ddiflas a dylai’r golygydd fod wedi’i dorri yn wych a’r holl ddarnau roeddwn i’n credu oedd yn wych yn ddiflas. O wel, mae ‘na fotwm ‘nesaf’ ar reolydd y DVD am reswm.

Mae’r ffilm yn dioddef o fod yn dwp iawn ar adegau hefyd. Er enghraifft, pam bod y bobl leol wedi adeiladu wal anferth i amgylchynu’r ynys i gadw’r epa anferth draw? Mae’r epa yn gallu dringo’r Empire State Building, wneith wal gan droedfedd ddim gofyn llawer iddo. Mae ‘na un olygfa hefyd gydag ystlumod sy’n hollol od a gwirion. Mae’r rhannau cartwnaidd yn tanseilio'r emosiynau naturiol rhwng Ann a Kong.

Ond mae’r rhannau sâl yn cael eu gor-rifo gan y rhannau gwych. Dydw i ddim am ei sbwylio nhw o gwbwl (mi wnaeth y ffilm ddioddef ychydig bach i mi oherwydd yr oeddwn i wedi gweld ei hanner o mewn hysbysluniau cyn mynd i’r sinema). Dyma’r ffilm gyntaf i’m ddifyrru i yn y fath ffordd ers Jurassic Park yn 1994. Ond mae hon yn ffilm well na honno, a’n llwyddo i gymysgu emosiwn gyda pharchedig ofn mewn i gampwaith o beth. Roedd y ffilm wreiddiol yn un pum seren ar y pryd, ac mae hwn ychydig yn well. Mae popeth oedd yn eisiau yn y gwreiddiol yma, ac ychydig o bethau eraill doedd ddim wir ei hanged nhw hefyd.

Posted by Ifan Morgan Jones at 05:48 yh | Comments (2)

Rhagfyr 20, 2005

Joyeux Noël (Christian Carion, 2005)

Ymddengys mai 2005 yw’r flwyddyn lle mae’r Almaen yn dod i delerau â hanes y wlad yn yr ugeinfed ganrif. Yn dilyn y ffilm ardderchog ‘Downfall’, oedd yn ymdrin â thestun llawer mwy sensitive dyddiau olaf Hitler, cawn 'Joyeux Noël', ffilm sy’n olrhain hanes y cadoediad enwog hwnnw adeg Nadolig 1914, pan chwaraeodd milwyr o’r ddwy ochr gêm â’i gilydd. Mae’r ffilm hon yn deimladwy, er yn ordeimladwy ar adegau, wrth iddi drin a thrafod yr emosiynau cymhleth a’r materion sensitive a oedd ynghlwm â’r achos anhygoel hwn.

Cawn ein taflu’n go ddiseremoni i mewn i ddigwyddiadau’r ffilm, wrth i wahanol gymeriadau a fydd yn ganolog i’r stori glywed am ddechrau’r rhyfel. Yn amlwg, mae’r cyfarwyddwr (Christian Carion) yn ceisio cyfleu natur fyrbwyll rhyfel, ond fodd bynnag, y teimlad yw y caw nein taflu i mewn i’r sefyllfa heb lwyr ddeall eu cefndiroedd. Nid yw’r milwyr, yn eu catrawdau o Ffrancwyr ac Albanwyr ar un ochr ac Almaenwyr ar yr ochr arall eisiau bod yno, ac eto mae yna deimlad cryf o ddyletswydd yn perthyn iddynt yn eu brwydr i ‘achub y byd’ (fel mae’r esgob rhagrithiol yn ei ddweud tua diwedd y ffilm). Ceir penderfyniad ar noswyl Nadolig i gyhoeddi cadoediad rhwng y ddwy ochr wrth i arweinwyr y tair catrawd gwrdd yn ‘No Man’s Land’ yn dilyn canu ‘Tawel Nos’ rhwng Sprink, y tenor Almaenig a’r pibwyr Albanaidd. Yn sydyn, daw’r ddwy ochr i gwrdd â’i gilydd, gan rannu sigarets a diod, ac mae’r offeiriad Catholig o’r Alban yn arwain offeren lle mae cariad Sprink (sydd wedi anufuddhau gorchymyn yn ei gwahardd rhag dod i’r Ffrynt) yn canu i’r dynion.

Mae elfennau fel pan mae Sprink yn dechrau cerdded i ganol ‘No Man’s Land’ yn gallu bod yn sebonllyd braidd, ac mae’r ffaith fod Anna, cariad Sprink, yn gallu dod gyda fe’r holl ffordd i’r Ffrynt heb gael ei rhwystro o gwbl. Hefyd, mae’r ffilm, efallai’n bwrpasol, yn gwrthod unrhyw ymdrech at roi elfen wrth-ryfel i’r ffilm, fel oedd yn rhan annatod o’r digwyddiadau go iawn (‘No more war’ oedd y gri, nid ‘Stille Nacht’). Fodd bynnag, mae’r ffilm yn sensitif ar y cyfan yn ei thriniaeth, ac yn helpu i ddadlennu rhan o’r stori nad oeddwn i’n gwybod amdani. Ar ôl i’r dynion gwrdd, bu ymateb chwyrn iawn gan yr uwch filwyr, gwleidyddion a’r eglwysi ar y ddwy ochr, a chafodd nifer fawr o bobl eu symud i lefydd eraill neu gyfnod mewn dalfa filwrol. Mae geiriau’r esgob i’r milwyr newydd bod yr Almaenwyr yn bobl gwbl wahanol ac anwaraidd yn rhai gwag, pan welwn yn gynharach mai’r un yw’r ddynolryw, waeth beth fo lliw eu lifrau.

Posted by Geraint Criddle at 08:51 yh | Comments (0)

Tachwedd 18, 2005

Dark Horse (Dagur Kari, 2005)

(IMDb)

Yn 2003 glaniodd y cyfarwyddwr Dagur Kari ar y sin ffilmiau anibynnol gyda’i ffilm gyntaf Noi Albinoi (Noi yr Albino) gan ennill gwobrau lu mewn gwyliau ffilm ledled y byd. Roedd y film honno yn ddarlun trasig-ddoniol o fachgen ar gyrion cymdeithas mewn pentref bach yng Ngwlad yr Ia. Llwyddodd i ddal unigrwydd a unigolrwydd y bachgen od hwnnw, ac mae’r ffilm hon eto’n dilyn sdori bachgen gwahanol iawn ar y cyrion.

Mae Daniel yn artist graffiti ar log, ac wedi bod yn ddiwaith ers blynyddoedd, yn wir does ganddo ddim dealltwriaeth o beth yw gwaith. Mae o’n freuddwydiwr llwyr, ei ben mor bell yn y cymylau nad yw’n deall ei fod mewn trafferth gyda’r gyfraith o’r swyddfa dreth i’r heddlu. Mae’n gwisgo ei glustffonau a chau allan y byd go iawn, gan arnofio drwy ei fyd yn gwneud ei gelf a chwarae pel droed gyda’i ffrind Grandpa, sydd yn hollol obsesif am fod yn reffari pel droed.

Mae hynny nes iddo gwrdd a Franc, merch o’r un ffunud freuddwydiol a fo, wrth ei achub o’r becws lle mae’n gweithio tra mae hi’n tripio ar fadarch hud. Disgynna’r ddau mewn cariad a’u gilydd ond deuant ill dau i sylwi na all breuddwyd gynnes bara am byth, a rhaid gwynebu rhywfaint o realiti bywyd.

Roedd fy nisgwyliadau’n uchel a chefais i mo’n siomi. Mae’r ffilm (sydd wedi’i rhannu mewn i 12 pennod) yn swyno’r gwyliwr drwy ei hiwmor ysgafn, sy’n disgleirio drwy’r cymeriadau gwych sy’n frith drwy’r ffilm. Mae’r ffilm wedi ei saethu ar ffilm graeniog du a gwyn ac mewn arddull nouvelle vague Ffrengig. Mae’r cyfarwyddo fel fasa Jean Luc Godard wedi ei neud mewn mwd gigli ar ol cwpwl o sbliffs yn hytrach na 5 coffi du a phaced o Gitanes. Mae hefyd yn defnyddio technegau fel ailadrodd golygfeydd a fflach anisgwyl o liw i atgyfnerthu pwyntiau o emosiwn a deffroad ynddo fo a’ch gorfodi chi i ddeffro o’ch swyn eich hun yn y ffilm.

Mae pawb sydd yn gorgyffwrdd a bywyd Daniel hefyd mewn breuddwyd o Grandpa, cymeriad gwych sydd yn meddwl ei fod am fod yn reffari ond sydd yn rhy dew (sydd hefyd yn gweithio mewn labordy profion cwsg), i fam Franc sydd yn dal i gredu ei bod yn ddeunaw gan fflyrtio efo pob bachgen ifanc a ddaw i’r ty. Efallai i rai y bydd y whimsy yma’n ormodedd, ond pur anaml y teimlais i fy mod eisiau deffro o afrealiti Daniel a Franc – roedd hud y ddelfryd yn rhy gryf.

Er fod Noi Albinoi yn wedi ei saethu mewn lliw roedd yn ffilm llawer mwy oeraidd na hon, gyda thro hynod drist yn ei chynffon, ac er fod y cymeriadau yn parhau i fod yn rhai emosiynol gaeedig mae’n edrych ar hyn mewn ffordd llawer mwy positif.

Un rhan na ddeallais i serch hyn oedd sdori baralel barnwr sydd wedi dedfrydu Daniel am fandaleiddiaeth, sydd yn ei ddangos o yn disgyn mewn i freuddwyd hefyd, gan ddwyn, methu cyfarfodydd a gadael ei wraig a’i blentyn heb reswm yn y byd. Efallai fod deffroad Daniel yn golygu fod person arall yn mynd i gysgu, dwn im. Roedd hyn yn aneglur ac yn amharu braidd ar y sdori arall yn fy marn i.

Ond wedi dweud hyn, roedd y cyfanwaith yn parhau i ddisgleirio ac yn gadael rhywun yn teimlo'n gynnes i gyd y tu mewn. Ffilm yr wyl i fi hyd yn hyn heb os nac oni bai.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 05:38 yh | Comments (0)

Tachwedd 15, 2005

Howl's Moving Castle (Hayao Myiazaki, 2005)

HOWLS_MOVING CASTLE_273x407.jpg

(IMDb)

Hawliwyd y ffilm animeiddiedig, Sprited Away (Hayao Myiazaki, 2001), fel un o gampweithiau mwyaf animeiddio ar ei rhyddhau yma yn 2003 (bron i 2 flynedd union wedi iddi gael ei dangosiad cyntaf yn Siapan). Yn wir hawliwyd hi fel nid yn unig ffilm animeiddiedig orau'r flwyddyn, ond un o holl ffilmiau gorau'r flwyddyn, o bob genre. Felly, roedd gan y ffilm ddiweddaraf i ddeillio o'r anorchfygol Stiwdio Ghibli fynydd go uchel i'w dringo er mwyn cyrraedd uchafion ei rhagflaenydd. Ydi Myiazaki wedi llwyddo ei barhau ei rediad enillol ddi-derfyn neu oes craciau'n ymddangos yn waliau'r palas breuddwydion?

Wel, ddwedwn i nad ydi o wedi ei golli o'n llwyr. Mae'r ffilm hon yn aml yr un mor hudolus a Spirited Away yn ei ffordd ei hun, gan ddisgyn oherwydd cymhlethdod y sdori'n fwy na dim arall.

Camp y cyfarwyddwr yw i greu byd plentynaidd a'i phontio â byd oedolion a'r byd go iawn. Yn wahanol i Disney, sydd yn aml yn encilio i fyd gyfangwbl ffantasiaidd, mae byd yr oedolyn a themau cryf fel rhyfel, trais a chasineb yn bleth â'r dychymyg hyfyw plentynaidd drwy ffilmiau Miyazaki. Hyn sydd yn hudo cynulleidfaoedd mor gymysg i wylio ei ffilmiau. Er enghraifft mae My Neighbour Totoro (1988) yn delio a sefyllfa mam sy'n dioddef o gansr a dihangfa ei phlant mewn i fyd ffantasi, mae Princess Mononoke (1999) yn alegori amgylcheddol gyda brwydr ddigon gwaedlyd yn erbyn gelyn dychrynllyd sy'n lladd y tir - digon gwaedlyd i ennyn tystysgrif PG yn y DG. Dyw'r Siapaneaid (na Choreaid y De chwaith) ddim yn rhai i guddio rhag eu ofnau dyfnaf yn eu gwaith creadigol, mae hyn yn amlwg yn eithafion ffilmiau arswyd auteuriaid siapaneiadd fel Takashi Miike a Shinya Tsukamoto, ac mae hyn yn treiddio i hyd yn oed eu animeiddio ar gyfer plant.

Yn Howl, mae Sophie, merch dlawd sy'n gweithio'n gwnio hetiau, yn cyfarfod bachgen golygus sy'n ei achub rhag dau soldiwr slebogaidd. Y noson honno, mae'r Witch Of The Waste, yn dod i'w siop ac yn rhoi melltith arni sy'n ei throi hi mewn i hen ddynes. Mae hi'n dianc o'r ddinas ac yn ffeindio Howl eto, sy'n byw mewn castell symudol hynod. Wrth ymsefydlu yn y castell daw yn ffrindiau gyda Calcifer, diafolyn tân, sydd hefyd yn sownd dan felltith, a disgynna'n araf bach mewn cariad â Howl, sy'n gweld trwy felltith y wrach. Gyda'u gilydd brwydrant yn erbyn Suliman, cyn diwtor dewiniaeth i Howl, a cheisio dod a threfn i'r byd sydd dan warchae rhyfel mawr.

Mae'r animeddio, y cymeriadau, y syniadau, a'r neidiau bendigedig o ddychymyg pur a welir yn y ffilm yn parhau i fod yn gyfareddol gan beri gwen i unrhyw granc. Yr unig fan y mae'n disgyn yw yn y naratif ei hun, sydd yn datblygu cymaint o edefynnau gwahanol ei bod hi'n amhosib i'r cyfarwyddwr eu plethu nol at eu gilydd yn un cwlwm twt yn y diwedd. Gwell efallai fuasai bod wedi gadael y ffilm yn fwy penagored, ond mae confensiwn ffilmiau plant yn atal hynny. Mae yn sdori am y rhyfel mawr, sdori am frwydr Howl a Suliman, sdori gariad Howl a Sophie, sdori brwydr Howl ei hun yn erbyn hunan dosturi a hunanoldeb...a sawl un arall sydd yn brwydro am eu lle yn eich meddwl.

Yn y diwedd â hyn yn ormod, ac mae rhywun jest yn derbyn beth sydd yno, ac yn ceisio mwynhau y delweddau gan anwybyddu unrhyw edefynnau a aeth ar goll. Duw a wyr beth mae plant yn ei feddwl ohoni serch hynny! Er, mae'n siwr eu bod nhw ddim yn meddwl dim am y ffasiwn bethau ac yn mwynhau hi am beth ydi hi.

Darllenais yn Sight and Sound fod y tirlun y llyfr gwreiddiol wedi ei seilio ar Gymru (cyn belled ac y gellir cael "tirlun" mewn llyfr...) sydd wedi ei drawsblannu i wlad Alpaidd yn y ffilm, ond wedi chydig ymchwil, ymddengys nad yw Diana Wynne Jones o Gymru, ond bu yn faciwi am chydig cyn mynd i rdal y llynnoedd ac yn a nol i Lundain, ei thref enedigol. Efallaim felly, ond brau iawn yw'r ddolen a Chymru a dweud y gwir.

Felly, os gafoch chi droedigaeth i ffilmiau Myazaki gyda Spirited Away yna ewch i weld hon, mae digon o wledd yno i gynnal eich diddordeb, ond peidiwch a disgwyl cyfanwaith mor gampus a hanes Chichiro.

Os ydych yn ffan o'r ffilmiau hyn mae Nausicaa yn wledd o wefan.

Tachwedd 14, 2005

The Puffy Chair (Jay Duplass, 2005)

(IMDb)

Cread y brodyr Duplass yw'r ffilm hon, dau sydd heb wneud eu henw eto ond, ar dystiolaeth y ffilm hon, a ddylai wneud yn y dyfodol os oes cyfiawnder yn bodoli yn y byd. Mae'r ffilm yn olrhain Josh (Mark Duplass), ei gariad (Kathryn Aselton) a'i frawd Rhett (Rhett Wilkins), wrth iddynt deithio o Efrog Newydd i Atlanta i roi cadair i'w tad yn anrheg pen-blwydd. Ond mae'r ffilm yn llwyddo i bortreadu cymaint mwy.

Mae'r ffilm yn agor gyda'r cwpwl gyda'i gilydd yn mwynhau pryd o fwyd. Mae'n amlwg bod y ddau'n caru'i gilydd, ond bod rhwystrau i hynny, drwy ansensitifrwydd Josh a gorsensitifrwydd Emily. Mae'r ddau yn ffraeo, ond llwydda Josh i adfer y sefyllfa drwy wahodd Emily ar y daith mae'n rhaid iddo'i chymryd i nôl cadair yn anrheg penblwydd i'w dad. Mae'n amlwg yn fesur i geisio deall ble maent yn eu perthynas, er nad yw'r ddau o reidrwydd yn sylweddoli hynny.

Ar eu taith, maent yn stopio i weld Rhett, brawd Josh, sydd yn sydyn yn gwahodd ei hun ar y daith. Nid yw Josh na Emily'n ddigon powld i'w wrthod, ond llwydda hyn i greu mwy o densiwn rhyngddynt. Gwelwn yn eithaf buan fod Rhett yr un mor aneddfed yn emosiynol â Josh. Mae'n llwyddo i 'briodi' a gwahanu â menyw o fewn cyfnod o lai na pedair awr ar hugain mewn rhan ddoniol a thrawiadol o'r ffilm, rhywbeth arall sy'n corddi cymeriad sensitif Emily.

Yn araf bach, down i sylweddoli mai ffordd o osgoi eu problemau â'i gilydd yw'r daith, yn enwedig i Josh ac Emily. Mae eu siarad babïaidd â'i gilydd yn ffordd o osgoi cyfleu eu hemosiynau ac maent yn fwriadol yn camddeall ei gilydd fwyfwy. Yn y diwedd, does dim ffordd ymlaen i'r ddau, a chytunant i wahanu, yn hytrach nag achosi mwy o boendod.

Mae'r ffilm hon yn un dyner, ddoniol a gwych o ran ei hedrychiad. Cyllideb fechan oedd gan y brodyr Duplass, fel y dywedont yn y drafodaeth yn dilyn y ffilm. Ond er hynny, mae ganddynt lygad da am ddelweddau, ac mae'r cydchwarae rhwng y cymeriadau yn naturiol a ffres. Soniont hefyd eu bod nhw'n hoff o ffilmio'u gwaith cyn gynted â phosibl, ond mae graen meddwl yn perthyn i'r ffilm. Dyma uchafbwynt yr Ŵyl hyd yn hyn.

Posted by Geraint Criddle at 07:47 yh | Comments (0)

The Devil and Daniel Johnston (Jeff Feuerzeig, 2005)

devil.jpg
(IMDb)

Premiere Cymraeg - Chapter 11.11.05

“There's certainly a devil, and he knows my name.”
(Daniel Johnston)

Do’n i erioed wedi clywed cerddoriaeth Johnston, na gweld ei gartwnau celfydd, ond o fewn funudau o gychwyn y ddogfen yma, ro’n i ysu i ddysgu mwy amdano, a sut y bu iddo fod mor agos, mor aml, at gyrraedd enwogrwydd a llwyddiant sylweddol cyn plymio i iselder manig a cholli’r trywydd.

Ar ôl arddangos y dyfyniad uchod a chlip o dorf yn gwirioni ar un o berfformiadau Johnston heddiw, mae Feuerzeig yn ddoeth i gadw trywydd ei stori yn eitha’ union - gan ddychwelyd i’r cychwyn, a defnyddio Mam, Tad, teulu a ffrindiau Johnston i’n tywys drwy weddill y stori ryfedd. O blentyndod disglair, lle amlygodd Dan fel arlunydd talentog a chyfarwyddwr ffilmiau byrion cartref, mae Mam Johnston yn sylweddoli iddo ddatblygu problem gyda hi’n benodol yn ei arddegau, a rhwyg yn enwedig ym maes crefydd. Tra bod gweddill y teulu yn Biwritanaidd grefyddol, mae ffrind ysgol yn nodi sut y byddai Johnston ‘ond yn mynd i’r Eglwys i chwilio merched, tra bod ffilmiau Dan yn gwatwar ei Fam wrth iddi ei gyhuddo o beidio bod yn ‘profitable servant’. Ymateb nodweddiadol Dan oedd troi’r feirniadaeth ar ei phen a mynegi ei fod yn hytrach yn ‘servicable profit’.

Mae deallusrwydd Dan yn amlwg o’r cychwyn, ac am hir, dilynwn stori’r cerddor, yn hytrach na’i salwch. Trwy atgofion cyd-fyfyrwyr mewn llu o golegau (roedd Dan yn aml yn meddwl nad oedd angen iddo gyflawni’r un gofynion a’i gyfoedion, a’i rhieni felly’n ei symud o goleg i goleg), i swydd haf mewn parc antur, a’n enwedig trwy hanes dihangfa o dy ei chwaer i ymuno â ffair deithiol - heb ddweud dim wrth ei deulu - tan iddo gyrraedd Austin, Texas, mynnu swydd yn McDonalds, a dechrau cynnig tapiau o’i hun i sêr sin gwerin y dref a chwarae setiau agoriadol gyda’r nos - llun cyffrous o fod creadigol yn dilyn uchelgais y cawn. Trwy ddefnyddio recordiau llais dyddiadurol, mae cymeriad agos-atoch-chi Johnston yn gafael ynoch chi’n syth. Mae llwyddiant cynnar Dan yn galonogol wrth iddo wireddu breuddwyd ac ymddangos ar MTV, ac yna ennill gwobr gwerin yn nhre Austin, ond mae hefyd yn amlwg nad yw Johnston yn hollol gadarn ei feddwl. Er yr holl lwyddiant, mae’n parhau i lanhau byrddau yn McDonalds - gan orfodi ei ffans a rheolwyr recordio pwysig i ddod i’r bwyty i ofyn amdano. Yn y cyfnod yma, mae Dan yn dod i nabod y band ‘The Butthole Surfers’ (cue cyfweliad random ar y naw gyda’r prif-leisydd mewn cadair deintydd wrth iddo gael llenwad!) ac yn ystod un o’u gigiau nhw, mae’n cymryd LSD. Dyw Johnston byth ‘r un fath ar ôl hynny.

Yr hyn sy’n wych am bortread Feuerzeig yw’r ffaith iddo lwyddo troi stori allai fod yn ddigon trist - am deulu’n torri calon wrth i’w mab ddechrau pregethu am weledigaethau o’r diafol, a chwalu ei obeithion ei hun o enwogrwydd dro ar ôl tro o achos hyn - yn stori gadarnhaol - am gefnogaeth Mam a Tad a ffrindiau yn wyneb sefyllfaoedd brawychus o wallgof. Hyd yn oed o glywed am draddodeb Johnston i wallgofdy, ar ôl iddo godi ofn uffernol ar aelodau Sonic Youth a’u bregethau, a chwalu cyfnod llewyrchus a gafodd yn Efrog Newydd, mae Feuerzeig yn cynnwys comedi twyll obsesiwn ein harwr â’r ddiod fizzy ‘Mountain Dew’. Ar raglen radio’r ‘seilam clywn Dan yn canu jingle arbennig i’r ddiod, a dywed ei gyn-reolwr wrthym fod Dan wedi gofyn iddo gynnig y jingle i gwmni Pepsi ar y pryd - ni gafodd ymateb.

Erbyn hyn, mae Johnston yn ganol oed ac yn byw gyda’i Fam a’i Dad, yn ymdopi a’i salwch ac yn dal i gynhyrchu cartwnau a cherddoriaeth. Er iddo arwyddo i Atlantic ar ôl ei gyfnod cyntaf yn y gwallgofdy, methiant oedd ei albwm ‘Fun’ - ond mae’r casetiau a gynhyrchodd yn y dyddiau cynnar yn Austin dal i’w cael drwy label Stress Records - a’r dilyniant cult o rain yn cynyddu’n ddyddiol.

Mae stori Johnston yn un ingol sy’n sicr o aros yn y cof, a gwneud i chi deimlo’n reit gynnes tw bwt! Mae dehongliad Feuerzeig yn gyfareddol, a heblaw’r cyfweliadau arbennig, mae’r modd y mae’n defnyddio traciau sain a saethau P.O.V. creadigol i ail-greu sefyllfaoedd, wir yn dod â hanes yn fyw i’ch dychymyg. Stori gwerth ei weld a cherddoriaeth gwerth ei chlywed.

Posted by Mair Thomas at 09:42 yb | Comments (0)

Y Lleill (Emyr Glyn Williams, 2005)

y lleill.jpg
Premeiere Byd Eang - Chapter 10.11.05

Ymdrech cyntaf Emyr Glyn Williams i sgwennu, cyfarwyddo a chynhyrchu drama wreiddiol Cymraeg. Mae sefydlydd label Ankst ar dir cyffredin fodd bynnag, wrth ymhél a bywydau chwech o gerddorion ifanc, a’u perthynas bregus wrth i’w band, Y Lleill, nesáu at anterth eu hymosodiad byr ar y Sîn Roc Gymraeg.

Y peth cyntaf i’ch taro am Y Lleill yw pa mor gredadwy yw’r byd a’i cyflwynir. Drwy gastio mwyafrif o wynebau newydd, mae Williams yn sicrhau realiti ei fyd; byd sydd, gyda llaw, yn dra gwahanol i honno sy’n cael ei chyfleu ar sgrinau gwlad y gân fel arfer. Oes, mae ‘na ambell i actor adnabyddus yma, ond ar y cyfan mae hi’n gast ‘ffres’ - efallai bod hyn yn peri i’r actio fod braidd yn “rhaffaidd” (a-hem) yma ac acw, ond rhywsut, ychwanega hynny at swyn y cyfanwaith.

Yr ail beth i’ch taro am Y Lleill yw’r iaith (nid sylw Piwritanaidd yn damnio’r rhegi, rhyw a’r roc a rôl mo hynny cyn i chi fynd i banic) ond ffilm ‘ddwyieithog’ yw hon yn ôl y sôn. Efallai bod modd i’r cysyniad yna weithio, ond dwy ddim yn credu i’r Lleill lwyddo cyrraedd y nod. Yn hytrach na chyfleu byd Cerddorol Cymraeg fel y mae - lle mae mwngrals yn datblygu ‘Wenglish’ eu hun - mae Cymry Y Lleill fel pe tai nhw’n siarad brawddeg Gymraeg, and then a sentence in English, am yn ail. Mae’n taro nodyn annaturiol, oedd braidd yn rhwystredig i’r gwyliwr yma o leia.

O ran stori, mae’r cyfan yn eitha elfennol - band Cymraeg yw Y Lleill, ac fel mae pawb yn gwybod (ys y dywed eithafwr hynod ystrydebol o drefnwr gigiau, yn y ffilm) ‘mae hi’n benderfyniad gwleidyddol i ganu yn y Gymraeg’. Ond, fel y gwelodd yr SRG gyda’r Super Furries a’n fwy diweddar Texas Radio Band a Zabrinski, does gan aelodau Y Lleill fawr o ddiddordeb mewn gosod baich achub yr iaith Gymraeg ar eu cerddoriaeth. Mae’n fantol fregus i’r band rhwng angerdd cymeriad Rhian Green i wthio ffiniau tu hwnt i Gymru, a chynigion llond dwrn o eithafwyr adref o arian a chyhoeddusrwydd hawdd ar sail yr iaith Gymraeg. Wedi ei gymysgu â’r cawl yna, cawn olygfeydd o bartia a chyffura a rhyw gwyllt blith draphlith - sy’n hwyl. Ar ôl ymddangos ar deledu Cymraeg am y tro cyntaf, mae’r band yn chwarae gig fawreddog i ddilyn rali iaith yn ‘Nhrefawr’, ac yn cael ymateb anhygoel i’w caneuon egniol ffres - ond unwaith iddynt droi at y Saesneg am y gân olaf, maen nhw’n cael eu herlid o’r llwyfan heb eu talu. Mae’r band yn troi ar ei gitarydd uchelgeisiol (Green) gan chwalu’r band, ac unrhyw obaith o ddianc llwydni'r realiti oedd eu cerddoriaeth yn arfer ei drechu.

Cryfder Y Lleill, yn sicr, yw gonestrwydd y golygfeydd cerddorol lle gwelwn gyfaredd cryniadau cyrff ifanc wrth iddynt ddarganfod dihangfa mewn cân. Mae 'na egni i’r ffilm yma sy’n chwa go adfywiol o awyr iach o gymharu â rhelyw dramâu cerddorol Cymru. Mae’n gychwyn diddorol i yrfa ddramatig Emyr Williams hefyd, a bydd hi’n ddiddorol i weld p’unai fydd y cyfarwyddwr yn gwyro o’r trywydd cyfarwydd cerddorol yn ei ffilm nesa’. I grynhoi felly, mae Y Lleill yn awr a hanner o ddrama gredadwy ac egniol sy’n newid difyr o’r arfer ffilmig Gymraeg - ewch i’w gweld hi, ond peidiwch a disgwyl chwyldro.

Posted by Mair Thomas at 09:38 yb | Comments (3)

Tachwedd 10, 2005

The Brothers Grimm (Terry Gilliam, 2005)

(IMDb)

Mae ffilm ddiweddaraf Terry Gilliam yn ymwneud â’r frwydr gysyniadol rhwng rhesymeg Goleuedigaeth Ffrainc a hud a lledrith Rhamantiaeth yr Almaen, gyda’r Brodyr Grimm Jacob (Heath Ledger) a Will (Matt Damon) yn dioddef wrth law byddinoedd Ffrainc a oresgynnodd ran orllewinol yr Almaen yn ystod Rhyfel Napoleon. Caiff y ddau eu harbed rhag y gilotîn ar yr amod eu bod yn darganfod pam mae 10 merch wedi’u herwgipio mewn coedwig hynafol mewn pentref anghysbell.

Ar ddechrau’r ffilm, gwelwn y ddau yn ‘con men’ sy’n codi crocbris ar bobl ofergoelus sy’n ddigon parod i’w talu i gael gwared ar y cythreuliaid sy’n bla ar eu pentrefi. Ond pan ânt i’r pentref anghysbell, mae’r grymoedd hud yn rhai real, ac mae’r ddau yn dod ar draws agweddau a fydd yn sail i’r straeon sy’n eu gwneud yn enwog, fel 'Little Red Riding Hood', 'The Sleeping Beauty', 'Rapunzel', 'The Gingerbread Man', 'Hansel and Gretel', a 'Cinderella'. Rhaid iddynt ddibynnu ar ddealltwriaeth Angelika (Lena Headey) o’r goedwig, wrth i frwydr ddatblygu rhwng eu hesboniad rhesymegol hwy o’r digwyddiadau rhyfedd a hen hanes yr ardal.

Braidd yn ddryslyd yw’r ffilm drwyddi draw. Mae cymeriadau’r cadfridog
Ffrengig (Jonathan Pryce) a’i gynorthwy-ydd Eidalaidd (Peter Stormare) yn rhy wirion i gael eu cyfle fel dihirod go iawn, ond nid yw Jacob a Will chwaith yn gweithio fel gwrthbwynt argyhoeddedig i’w gweithredoedd. Mae’r ffilm yn edrych yn wych, ac mae yna ambell i foment wirioneddol ddoniol ynddi, ond nid yw plot y ffilm yn ddigon eglur ei chyfeiriad. Mae’n anodd beirniadu ffilm gan Gilliam, ond byddai’n dda petai wedi treulio mwy o amser ar sgript y ffilm, yn hytrach na’r effeithiau arbennig a welir.

Posted by Geraint Criddle at 01:59 yh | Comments (0)

Proof (John Madden, 2005)

proof.jpg

(IMDb) (Disgrifiad Rhaglen yr Wyl)

Neithiwr agorwyd Gwyl Sgrin Caerdydd 2005 gyda ffilm newydd gan y cyfarwyddwr John Madden. Na, nid y coach pel droed Americanaidd, ond y boi sy'n gyfrifol am ffilmiau fel Shakespeare in Love a Captain Corelli's Mandolin. Dwi'n cymeryd taw'r rheswm dros y dewis oedd fod "ein Anthony" ynddi yn actio boi o'r enw Robert Llywellyn sydd efallai yn Gymro. Rheswm ychydig yn denau meddech chi, ond credaf fod hyn ond yn dangos cyn lleied o ffilmiau Cymraeg a Chymreig sydd wedi eu cynhyrchu eleni sydd o safon agor gwyl ffilm ryngwladol o'i bath. Sefyllfa drist iawn fydd, dwi'n siwr, yn sgwrsiau llawer yn ystod yr wyl, ond ymlaen at y ffilm ei hun.

Mae'r ffilm yn archwiliad o athrylith a gwallgofrwydd a'r llinell denau sy'n aml yn gwahanu'r ddau. Ynddi gwelwn Catherine (Gwyneth Paltrow), yn ceisio ymdopi a marwolaeth ei thad (Antony Hopkins) oedd yn broffesor mathemateg byd enwog, wedi iddi orfod edrych ar ei ôl am 5 mlynedd olaf ei fywyd drwy ei salwch meddyliol a barlysodd ei feddwl creadigol. Mae hithau, sydd hefyd wedi etifeddu gallu ei thad, wedi ei heffeithio'n enbyd gan y profiad hwn ac yn brwydro gyda iselder ei hun.

Gyda'r farwolaeth daw dau gymeriad i'w byd caeedig hi: Hal (Jake Gyllenhaal), myfyriwr brwdfrydig sydd a'i fryd ar archwilio holl nodiadau blynyddoedd olaf ei thad am dystiolaeth ei fod wedi cael momentau o'r athrylith a fu yn ystod ei salwch; a'i chwaer Claire (Hope Davies), sydd a'i bryd ar ei sgubo ffwrdd i Efrog Newydd i ddechrau bywyd newydd.

Mae'r ffilm yn neidio nol a blaen mewn amser drwy atgofion Catherine gan raddol ryddhau darnau o wybodaeth am ei pherthynas a'i thad yn ddigon effeithiol ac mae llif yn sdori yn ddigon di-fai, ond er ei pholish doedd y ffilm ddim yn gafael yn ddigonol yn emosiynol. Gan fod Catherine yn isel, ac felly yn ddigon swrth ei hymadwaith i bopeth, ysgwyddir emosiwn y ffilm gan Hal sydd yn dod a brwdfrydedd bachgenaidd digon agos atoch i'r ffilm, ond mae'n profi'n faich ormodol, gan ymbellhau rhywun o'r ffilm a ffawd y cymeriadau.

Teimlwn hefyd fod y chwaer gas yn ormod o caricature, dynes gas sydd eisiau cipio ei chwaer o'i chartref i gael triniaeth seicolegol, ond does dim crac o ddynoliaeth ynddi i greu cymeriad mwy credadwy. Bob tro y gwelwn hi'n cysuro ei chwaer, dadorchuddir ei deuolrwydd, a gwelwn ei bod yn ddichellgar gan gynllunio ei dyfodol tu ôl i'w chefn.

Addaswyd y sdori o ddrama lwyfan, a teimlwn hefyd fod hyn wedi ddangos yn y ffilm. Roedd hi braidd yn static, a doedd hyd yn oed y newididau amser ddim yn llwyddo i roi bywyd pur ddelweddol sinematig iddi.

Ond doedd pob dim ddim yn fflat, roedd un foment fel pelydryn o heulwen drwy'r cymylau gan, ie, yr hen pro, Anthony Hopkins. Wnai adael i chi'ch hunain weld beth ydyw, ond gallaf ddweud fod un edrychiad, un eiliad o ddrama trydanol wedi crynhoi holl syniadau'r ffilm a mwy gan roi ias lawr fy nghefn. Teflir y tag athrylith ar hyd y lle yn aml, ond eiliadau o berfformio fel hyn sydd yn ei ennyn.

Ond fy marn i yw hon, ac yn y trafod brwd wedi'r ffilm, roedd llawer iawn o bobol i'w gweld wedi ei mwynhau yn aruthrol - gan amlaf roedd hyn yn gwahaniaethu o ran rhyw y person, gyda menywod yn ei hoffi a dynion yn gweld dim llawer ynddi. Mae hyn ond yn dweud fod pawb yn gwylio ffilmiau yn wahanol ac fod ffilm i bawb am fod yn ystod y 10 diwrnod nesaf.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:11 yh | Comments (0)

Hydref 27, 2005

Wallace and Gromit in the Curse of the Were-rabbit (Steve Box a Nick Park, 2005)

(IMDb

Y ffilm hon yw trydedd ffilm Wallace and Gromit, yn dilyn The Wrong Trousers ac A Close Shave, a’r gyntaf ers A Close Shave ym 1995. Mae safon y ffilmiau cynnar wedi’i chynnal ar y cyfan, ond efallai bod creu ffilm llawer mwy masnachol fel Chaicken Run wedi amharu’n ormodol ar lygad craff Nick Park am ddigrifwch.

Yn y ffilm hon, gwaith Wallace a Gromit yw dal plâu sy’n mynnu difa cnydau’r bobl leol cyn y gystadleuaeth fawr yn Tottington Hall (Anti Pesto yw enw’r cwmni, un o jôcs mwyaf clyfar y ffilm). Mae hyn yn dod â nhw i gysylltiad â Lady Tottington (Helena Bonham-Carter), menyw ddymunol ond gwallgof yr olwg sydd am gael gwared ar y cwningod o’i hystâd cyn y gystadleuaeth. Ond, fel Wallace a Gromit eu hunain, nid yw hi am niweidio’r creaduriaid, yn wahanol i Victor Quartermaine (Ralph Fiennes), y gðr sy’n ceisio cipio’i chalon drwy ddulliau amheus braidd.

Yn ffodus, llwydda Wallace a Gromit i gymryd y cwningod o’r ystâd drwy eu dull clyfar o beiriant sy’n sugno’r cwningod o’u tyllau. Ond, o ganlyniad i’r ffaith nad ydynt yn difa’r cwningod, ac yn lle hynny’n eu cadw yn y seler ac yn arbrofi arnynt (yn ddiniwed), caiff ffigwr dychrynllyd y Were-rabbit ei greu. Yn sydyn, does yr un ardd na llysieuyn yn ddiogel rhag awch yr anghenfil. Mae pawb am ei ddifa, ond dim ond Wallace a Gromit sy’n sefyll rhwng yr anifail ac ysfa Quartermaine am waed.

Mae’n amlwg bod llawer o waith a chryn dipyn yn fwy o arian wedi cael ei fuddsoddi yn y ffilm hon, a cheir llawer o gyffyrddiadau da ynddi (cadwch lygad am lyfrau Wallace), ond trueni na threuliwyd mwy o amser ar y sgript. Mae gormod o jôcs amlwg braidd ynddi, ac nid oes cymaint o wreiddioldeb ag y bu gynt. Serch hynny, mae’r stori’n dal i gyffwrdd y galon a chodi gwên, a chefais fy synnu gan y tro yn y gynffon.

Posted by Geraint Criddle at 01:56 yh | Comments (0)

Hydref 26, 2005

Broken Flowers (Jim Jarmusch, 2005)

(IMDb)

Cydweithrediad rhwng doniau cyfarwyddo Jim Jarmusch a doniau digrifwch Bill Murray yw Broken Flowers, yn dilyn cydweithrediad y ddau yn Cigarettes and Coffee, lle mae gan Murray olygfa ragorol gydag aelodau o’r Wu Tang Clan. Yn anffodus, nid yw’r ffilm hon yn gwireddu’r addewid a ddangoswyd yn yr olygfa honno, ac mae’r ffilm yn un ddryslyd braidd.

Dilynwn hanes Don Johnston (Murray), gðr sydd, yn ôl pob sôn, wedi gwneud cryn dipyn o arian yn y byd cyfrifiaduron, ond sydd yn byw mewn byd oeraidd, yng nghanol ysblander moethus ei gartref. Mae ei gariad newydd ei adael am na all hi ddioddef yr oerni bellach, a’r unig gysylltiad sydd ganddo â’r byd ‘go iawn’ yw Winston (Jeffrey Wright) ei gymydog, a’i deulu bywiog, cynnes. Diddordeb mawr Winston yw straeon dirgelwch a’r ffantasi o fod yn dditectif, a daw hynny i’r amlwg pan gaiff Don lythyr drwy’r post gan gyn-gariad, yn dweud wrtho fod ganddo fab, a’i fod yn chwilio amdano. Ar amrantiad, mae Winston yn trefnu i Don ymweld â’i holl gariadon o’r cyfnod ugain mlynedd yn ôl, a chaiff Don ei daflu’n ôl i fyd ei orffennol.

Mae’r cariadon y mae’n cwrdd â nhw yn rhai amrywiol iawn. Cawn Laura (Sharon Stone), y cymeriad llawn bywyd y mae’n mynd i’r gwely â hi, Dora (Frances Conroy), y cyn-hippy sydd wedi troi’n asiant ‘real estate’ di-enaid, Carmen (Jessica Lange), sy’n cyfathrebu ag anifeiliaid, a Penny (Tilda Swinton), sydd bellach yn byw yng nghanol y wlad. Chwilio am gliwiau mae Don, ond nid yw’n darganfod dim, ac nid ydym ni chwaith yn darganfod unrhyw beth am hanes Don, ei gymelliadau yn y gorffennol na’r presennol. Er ei fod yn teithio cryn bellter o un lle i’r llall, nid yw’r tirlun yn newid dim, ac ymddengys mai pelen fawr undonog yw pob dim sy’n digwydd iddo.

Mae’r actio cynnil y mae Murray wedi defnyddio yn ei ffilmiau diweddar (Lost in Translation, Life Aquatic) wedi’i orwneud, gan ddatgelu rhy ychydig o lawer o gymeriad Don. Ar ddiwedd y ffilm, ceir rhyw awgrym ei fod wedi cael rhyw fath o ddatguddiad ynglŷn â’i fywyd, ond pwy â ŵyr.

Posted by Geraint Criddle at 02:08 yh | Comments (0)

Hydref 21, 2005

The Call of Cthulhu (Andrew Leman, 2005)

Ffilm fud du a gwyn yw hon, gyda'r nod o fod mor driw i stori fer wreiddiol HP Lovecraft a bo modd.

Mae’r stori yn adrodd hanes dyn sy’n darganfod gwybodaeth am gwlt rhyfedd yn ffeiliau ei hen ewythr. Wrth iddo ymchwilio’r cwlt mae’n darganfod arswyd tu hwnt i ddychymyg dyn, un sy’n llechu dan y môr a rheoli dynion gyda telepathi. Mae’n hanes diddorol ac arswydys sydd wedi ysbrydoli diwylliant cyfan sy’n ymdroi o amgylch y ‘myth’ Cthulhu. Stori fer oedd hon, a dim ond ryw bedwar deg saith munud o hir yw’r ffilm gyfan. Mae hyn yn ddigon hir i adrodd y chwedl yn ei llawnder, ond eto’n ddigon byr fel bo modd ei gwylio hi nifer o weithiau heb flino arni.

Mae’n ganllaw gwych ar sut i greu ffilm ar y gyllideb leiaf bosib, ond dal i’w gwneud hi’ edrych yn dda. Dim ond pan wyt ti’n gwylio’r rhaglen ddogfen lliw wyt ti’n sylwi fod y moroedd wedi’ gwneud o fagiau bin. Ni fysai nifer o’r setiau yn plesio’r beirniaid ar lwyfan can actol yr Eisteddfod, ond mae popeth yn edrych yn wych mewn du a gwyn. Dylai rhai sy’n anelu at wneud ffilmiau ar gyllideb isel drwy’r Gymraeg wneud nodyn o’u technegau fan hyn. Ond nid ffordd o safio arian yn unig yw’r du a gwyn; mae’r cinematography yn wych drwyddo, gyda chymeriadau sy’n toddi rhwng gwyn y byd hwn ac affwys du Cthulhu wrth i’w pwyll lithro ymaith.

Un o’r atyniadau mawr i ddarllenwyr Pictiwrs yw bod modd ei gwylio hi mewn dau ddeg pedwar iaith - gan gynnwys y Gymraeg. Mae’r holl deitlau a’r siarad yn ymddangos yn yr heniaith, wedi’ gludo dros y Saesneg gwreiddiol gan ddewindabaeth y DVD. Ond eto does dim llawer o deitlau yn y ffilm; gwir athrylith y peth yw eu bod wedi medru troi stori fer gan awdur amleiriog oedd yn hael iawn gyda’i ansoddeiriau mewn i ffilm gydag ychydig iawn yn cael ei ddweud ynddi. Mae ein dealltwriaeth yn dibynnu lot ar yr actorion, sy’n gwneud yn wych i gyfleu cymaint heb unrhyw sŵn o’u genau.

Mae yna ymbell i ddarn gwael i’r ffilm. Y broblem fwyaf yw’r golygfeydd action. Wedi adeiladu awyrgylch a thensiwn gwych yn y ddau brif olygfa fawr, mae’r cyffro sy’n dilyn yn wael iawn ar y cyfan. Mae’r ymladd yn y gors yn ddiawen a diog, ac er bod denig y morwyr rhag R’lyeh yn llawn hwyl (yn enwedig y ‘twll ongl’) mae prif seren y sioe yn edrych yn eithaf gwarthus o sâl. Nid Ray Harryhausen mo hwn; mae’r ‘stop motion’ o safon llawer is nag Jason and the Argonauts. Hefyd, i rai sy’n gobeithio ei wylio drwy’r Gymraeg, mae’n werth nodi ei bod nhw wedi gwneud ambell i gamgymeriad; mae un is-deitl yn ymddangos dwywaith, ac un arall wedi’ dorri’n hanner. Dyna’r peryg pan fod pobl sydd ddim yn deall iaith yn ei drosglwyddo o un cyfrwng i’r llall.

Hyd yn hyn dim ond o wefan y HP Lovecraft Historical Society (HPLHS) mae modd prynu’r ffilm.

Posted by Ifan Morgan Jones at 03:11 yh | Comments (2)

Hydref 18, 2005

Lord of War, Andrew Niccol, 2005)

(IMDb)

Anhygoel o ystyried y ffilmiau diweddar fel Black Hawk Down sydd wedi clodfori rôl arfau o amgylch y byd yw bod ffilm fel Lord of War wedi cael ei rhyddhau gyda beirniadaeth mor gignoeth gyda chefnogaeth stiwdios mawr. Mae ffilm Andre Niccol (cyfarwyddwr Gattaca ac awdur The Truman Show) yn adrodd stori Yuri Orlov (Nicolas Cage), masnachwr arfau anghyfreithlon a fudodd o Iwcrain gyda’i deulu sydd, er ei fod yn sylweddoli diben ei fusnes, yn ceisio cyfiawnhau ei hun ym mhob cam o’i weithredoedd anfad. Ar ddechrau’r ffilm, ar ôl iddo weld ymgais at ladd un o benaethiaid maffia Efrog Newydd nepell o’i gartref, mae’n penderfynu dechrau gwerthu arfau, ac, fel Macbeth, mae’n suddo ymhellach ac ymhellach i bwll o waed na all ddianc ohono.

Mewn byd yn llawn rhyfel, llwydda Orlov i godi’n gyflym yn y byd masnachu arfau. Drwy ei gysylltiadau â’r Undeb Sofietaidd, yn fuan mae’n gwerthu arfau i bob rhyfel yn y byd, gan ennill cyfoeth a phriodi’r fenyw y mae wedi bod yn ei hedmygu ers blynyddoedd. Nid yw hi’n holi cwestiynau am ei gyfoeth anhygoel, ac nid yw Orlov yn poeni am ddatgelu hyn iddi.

Yna, daw cyfle mawr Orlov gyda chwymp yr Undeb Sofietaidd yn nechrau’r 90au. Yn sydyn, mae ganddo rwydd hynt i werthu'r stoc arfau mwyaf yn y byd heb boeni am foesau. Ond mae Jack Valentine (Ethan Hawke), y swyddog Interpol cydwybodol, yn dilyn pob cam gan Orlov, ac yn araf bach mae rhwyd yn cau am y masnachwr wrth iddo werthu mwy a mwy o arfau i ‘farchnad lewyrchus’ gorllewin Affrica a’i hunbeniaid gwallgof.

Mae’r cyd-chwarae rhwng y ddau yn y ffilm yn wych, wrth i’r ddau frwydro am y gorau i fod yn drech. Dyna un o uchafbwyntiau’r ffilm; er ein bod yn ymwybodol fod Valentine yn casáu Orlov a bod Orlov yn sylweddoli’r perygl y mae ynddo bob tro y mae’n wynebu Valentine, mae gwên ddireidus bob amser yn chwarae ar eu gwefusau. Gêm ddifrifol yw hon, ond gêm serch hynny. Mae’n bwysig iddynt ddangos pwy sydd orau.

Mae’r diweddglo yn atgoffa rhywun o ‘The Usual Suspects’, gyda Valentine yn gwbwl ddiymadferth wrth i ffigwr tywyll Orlov gael cymorth wrth rymoedd sydd yn uwch na’r ddau ohonyn nhw. Fel y dywed Orlov, mae angen pobl fel fe ar lywodraethau’r gorllewin er mwyn i wneud i’w gweithredoedd nhw ymddangos yn lân. Ond mewn gwirionedd, Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yw terfysgwyr mwyaf y byd. Trueni nad yw’r pwynt hwn yn cael ei amlygu tan ddiwedd y ffilm; nid ydym chwaith yn gweld gwir effaith drylliau Orlov ar ddioddefwyr rhyfel, heblaw am yr olygfa agoriadol ragorol lle rydym yn dilyn un bwled o ffatri i ben plentyn.

Posted by Geraint Criddle at 03:22 yh | Comments (0)

Hydref 11, 2005

Kongekabale (King's Game) (Nikolaj Arcel, 2004)

(IMDb)

Stori yw hon gan Nikolaj Arcel am y digwyddiadau cyffrous ond hynod gyffredin sy’n digwydd yng nghoridorau grym ym mhob cwr o’r byd. Sbardun y digwyddiadau hyn yw damwain car, lle mae arweinydd y blaid y mae disgwyl iddi ennill yr etholiad cyffredinol o fewn ychydig ddyddiau yn cael ei anafu’n ddifrifol. Achos y ddamwain yw’r ffaith fod ei yrrwr yn tynnu’i lygad oddi ar yr hewl am eiliad er mwyn estyn tân ato. Rydym yn cael gwybod ychydig cyn hyn am arwyddocâd y sigarét; roedd yr arweinydd yn honni ei fod wedi rhoi’r gorau i smygu er mwyn gwella’i ddelwedd ymysg y pleidleiswyr a chael cefnogaeth y lobïwyr gwrth-smygu.

Ail stori’r ffilm yw’r newyddiadurwr, Ulrik Torp, sy’n cael ei anfon i’r senedd fel ei gyfle mawr i gael llwyddiant ym myd newyddiaduraeth. Ei dad yw’r cyn-weinidog cyfiawnder, ac felly’n amlwg mae cyhuddiadau’n mynd yn ei erbyn ai dyma’r unig reswm ei fod wedi cael dyrchafiad cynnar. Ond buan y deallwn mai cael ei ddefnyddio y mae Torp fel arf mewn gêm wleidyddol fawr. Gydag arweinydd y ‘Centre party’ â’i ymennydd yn farw yn yr ysbyty, a hyn yn cael ei guddio oddi wrth y byd, mae prif swyddog y wasg yn defnyddio Torp er mwyn hybu gobeithion ymgeisydd asgell dde ar draul menyw sydd â chynlluniau amgylcheddol radicalaidd ond amhoblogaidd.

Mae’r swyddog yn rhoi stori i Torp am lwgrwobrwyo a dwyn gan ŵr y fenyw yng nghyswllt elusen plant yng Nghambodia. Dim ond ar ôl iddo wneud ychydig o ymchwil y mae Torp yn sylweddoli mai celwydd yw hyn i gyd. Ceir gwrthdaro enbyd rhwng ei gydwybod a’i yrfa, a phenderfyna mai ymuno â rhengoedd Moll, y newyddiadurwr sur ond cydwybodol a wnaiff, yn hytrach na dilyn y trywydd o fod yn gi bach i swyddogion y wasg.

Cryfder mawr y ffilm yw’r ffaith fod pob dim sy’n digwydd yn digwydd mor bwyllog o normal. Nid ffilm yn llawn gweiddi a chega yw hi, ond ffilm lle caiff gweithredoedd eu cyflawni drwy sisial yng nghlust rhywun neu drwy neges yn cael ei gadael yn bwrpasol ar beiriant ateb. Erbyn diwedd y ffilm, wrth i’r ddwy ochr frwydro yn erbyn ei gilydd, roeddwn i wedi fy hudo’n llwyr ganddi, ac roedd y paralelau gwleidyddol yn amlwg. Ar y diwedd, pan gyhoeddir fod un o’r rhai oedd yn rhan o’r cynllwyn bellach yn gomisiynydd yn yr UE i Ddenmarc, un enw sy’n dod i’r meddwl. Peter Mandelson, unrhyw un?

Posted by Geraint Criddle at 02:01 yh | Comments (0)

Medi 26, 2005

Pride and Prejudice (Joe Wright, 2005)

(IMDb)

Anodd, mae’n siŵr, i unrhyw gyfarwyddwr, yw ymdrin â stori sydd yn dra chyfarwydd i’w gwylwyr. A phan mai ffilm gyntaf cyfarwyddwr ar gyfer y sgrin fawr yw honno, anoddach fyth yw’r dasg. Mae Pride and Prejudice, ffilm gyntaf Joe Wright, yn llwyddo mewn sawl ffordd i gyfleu’r hanes o’r newydd, ond nid yw’n gwneud digon i ddal y dychymyg yn yr un ffordd ag y gwnaeth ymdriniaeth Andrew Davies ar gyfer y BBC yn y nawdegau.

O ganlyniad i natur fer y ffilm o gymharu â’r gyfres chwe rhaglen honno, ni chawn fawr o amser i osod cyd-destun y ffilm. Ceir un olygfa agoriadol (sy’n cael ei hadlewyrchu ar ddiwedd y ffilm), gydag Elizabeth Bennet (Kiera Knightley) yn cerdded ar hyd y ddol yn gynnar yn y bore, heb boeni am wlith y bore yn gwlychu ymylon ei sgert, yn cerdded gan ddarllen fel mewn breuddwyd. Ar amrantiad, mae’r olygfa’n newid; rydym yn clywed am ddyfodiad Mr Bingley a’i chwaer, a Mr Darcy, a’u bwriad i fynd i’r ddawns. Mae eu hymddangosiad yn y ddawns yn destun cryn gynnwrf, wrth i Mrs Bennet geisio cyplu ei merched â’r dynion golygus a chyfoethog.

Mae gwleidyddiaeth y ffilm yn dra amlwg. Nid yw Mr a Mrs Bennet wedi llwyddo i esgor ar fab, ac felly maent yn wynebu cael eu taflu o’u cartref, gan mai ffigwr sych a gwirion Mr Collins fydd yn etifeddu’u cartref. Mae Mrs Bennet yn trio’i gorau i gael gwared ar ei merched er mwyn sicrhau cyfoeth nid yn unig iddyn nhw, ond hefyd i’r teulu. Caiff Elizabeth ei denu at Mr Darcy, nid oherwydd bod ganddi atyniad naturiol ato, ond oherwydd ei natur broclyd, sarcastig, a’r ffaith bod ei falchder yn cael ei gyflyru drwy fod yng nghwmni rhai sydd islaw ei statws.

Mae perfformiadau’r ddau yn rhai cryf, sydd yn cyfleu’r gydberthynas rhyngddynt yn dda. Yn wahanol i’r disgwyl, llwydda Knightley i gyfleu natur benderfynol ond chwareus Elizabeth yn gelfydd, ac mae Matthew Macfadyen yn portreadu’r newid ymddangosol yng nghymeriad Darcy i’r dim. Ond, gwaetha’r modd, nid oes digon yn y ffilm i gynnal diddordeb. Mae gormod yn cael ei golli wrth i ni neidio o un olygfa i’r llall, ac o sefyllfa un ferch i’r llall. Ceir ambell foment dreiddgar, er enghraifft lle mae Charlotte yn amddiffyn ei phenderfyniad i briodi Mr Collins, ond yn rhy aml mae’r cyfarwyddwr yn gorfod gweithio’n galed i greu emosiwn, yn lle gallu gadael i’r digwyddiadau ddatblygu’r emosiwn yn naturiol.

Mae’r diweddglo yn teimlo’i fod yn cyrraedd yn rhy gyflym. Mae Elizabeth yn mynd am dro yn y bore bach, yn methu cysgu ar ôl clywed am y newyddion y bydd ei chwaer Jane yn priodi Mr Bingley. Yn sydyn, drwy gyd-ddigwyddiad mae’n siŵr, mae Darcy yn ymddangos o ddim unman, yn cerdded tuag ati â’r gerddoriaeth yn ffugdeimladol o emosiynol, i gymryd ei llaw unwaith ac am byth. Trueni bod yna adegau fel hyn yn y ffilm, oherwydd roedd un o’r golygfeydd blaenorol, lle mae Elizabeth yn wynebu Lady Catherine De Bourg (Judi Dench), modryb Darcy, yn wirioneddol rymus. Cymysgfa felly yw’r ffilm, un sydd yn peri hyfrydwch a rhwystredigaeth o fewn ychydig funudau i’w gilydd. Gwell gadael y stori’n nofel neu ei phortreadu’n faith.

Posted by Geraint Criddle at 02:13 yh | Comments (1)

A History of Violence (David Cronenberg, 2005)

(IMDb)

Mae ffilm ddiweddaraf David Cronenberg yn ffilm a fydd yn apelio i lawer mwy o bobl na chryn nifer o’u ffilmiau blaenorol. Mae iddi elfen o fod yn ffilm fwy ‘normal’ na gwaith fel Videodrome, Naked Lunch neu Crash, ond, unwaith eto, llwydda Cronenberg i guddio llawer o’u ffilmiau dan yr arwyneb. Mae A History of Violence yn ffilm gynnil sydd yn dadlennu hanes a natur cymeriad yn raddol ac yn drawiadol.

Mae’r stori yn dechrau gyda gwrthgyferbyniad amlwg. I ddechrau, gwelwn ddau ddihiryn sydd newydd lofruddio tri pherson mewn motel am ychydig o arian. Mae eu difaterwch at ladd y bobl hyn yn frawychus. Ychydig wedi hynny, rydym yn cwrdd â Tom Stall (Viggo Mortensen), gwr sydd, fe ymddengys yn byw’r freuddwyd Americanaidd. Mae’n berchen ar ei gaffi ei hun mewn tref brydferth yng nghefn gwlad, yn briod â dynes brydferth (Maria Bello) ac yn dad i ddau o blant. Mae’r ddau fyd yn gwrthdaro wrth i Tom ladd y ddau ddihiryn pan geisiant ddwyn arian o’u gaffi yn hwyr gyda’r nos.

Yn sydyn, caiff Tom ei bortreadu fel ‘All-American Hero’ yn y cyfryngau, mantell y mae ef yn gyndyn i’w gymryd. Mae ei enwogrwydd yn denu dihirod mwy peryglus: mae gangster o’r enw Carl Fogarty (Ed Harris) yn ymddangos yn y caffi un dydd ac yn mynnu nad Tom yw Tom o gwbl, ond Joey Cusack, gangster arall o Philadelphia a geisiodd ei ladd unwaith â weiren bigog. Mae ganddo’r graith i brofi hynny, ac ymarweddiad oeraidd pwyllog sy’n mynd at wraidd brawychiaeth y gangster. Nid rhywun i fynd i’r afael ag ef ar chwarae bach yw Fogarty; mae ganddo’r agwedd sy’n argyhoeddi dyn y câi ei saethu heb fawr o boendod meddyliol i Fogarty.

Yn raddol, daw trais yn rhan annatod o’u bywyd bob dydd. Wrth i Tom ddechrau pryderu am ei deulu rhag iddynt gael eu niweidio gan y gangsters, mae gwn hela oedd yn cael ei guddio mewn cwpwrdd mewn ystafell wely yn cael ei weld fwyfwy. Mae’r mab, a welwyd i ddechrau yn wynebu bwli yn yr ysgol â’u hiwmor a’i glyfrwch, yn troi at drais fel ateb i’r bwlio sy’n bla ar ei fywyd. Yr hyn a wna Cronenberg, yn amlwg, yw dangos pa mor hawdd y daw trais i’r adwy yn wyneb rhwystredigaeth ac fel modd o gael eich ffordd.

Gwell yw peidio â mynd yn bellach i mewn i’r stori, oherwydd y perygl o’i difetha i unrhyw sydd am fynd i’w gweld. Ond gyda pherfformiadau rhagorol y cast, a chyfarwyddyd medrus Cronenberg, mae’n ffilm sy’n werth ei gwylio. Mae Mortensen a’r cyfarwyddwr yn llwyddo i gadw deuoliaeth y ffilm dan reolaeth, nid rhywbeth hawdd i’w wneud. Daw’r diweddglo yn gynnil, heb ymdrech fawr i gyfaddawdu neu felodrama, ond drwy weithredoedd syml.

Posted by Geraint Criddle at 12:39 yh | Comments (3)

Medi 06, 2005

Bombón - El Perro (Carlos Sorin, 2004)

IMDb
bonbon.jpg
‘Road movie’ o fath yw hon, wrth i’r arwr Juan ‘Coco’ Villegas yrru nôl a mlaen yn chwilio am waith a cheisio gwerthu ambell ddolen cyllell mae e wedi crefftio yn ei amser sbâr. Mae Coco wedi ei ddiswyddo ers i’r garej lle fu’n gweithio gau. Yn bum-deg-dau oed, does fawr o gyfle iddo yn y cwmni recriwtio lleol. Swnio’n depressing hyd hyn nagyw?! Ond hanes croes i’r disgwyl yw hon. Gydag agwedd pwyllog, optimistig Coco, rhwystrir tristwch sefyllfa dywyll.

Ar daith un dydd, mae Coco’n dod ar draws menyw â’i char wedi torri lawr. Er ei bod hi cryn bellter o’i chartref, mae e’n ei chludo hi a’r car yn ôl yno, cyn trwsio’r cyfan iddi. Yn gyfnewid i’w wasanaeth mae’n cael cynnig ci pedigri Dogo Argentino, o’r enw Bombon, o gennel ‘LeChien’.

Mae lwc Coco yn troi ar unwaith, ac mae’n dechrau cael bob math o gynigion gwaith: yn diogelu ffatri wlân, yn dangos ei gi mewn cystadlaethau ac yn gwerthu hâd y ci am grocbris.

Mae perthynas diddorol yn datblygu rhwng y dyn a’i gi sy’n dod â newid bach i fywyd Coco, ond digon o newid i'w wella, ac i gyflwyno’n arwr i sefyllfaoedd a phobl na fyddai erioed wedi dod ar eu traws o’r blaen.

Mae’r ffilm wedi ei seilio ym Mhatagonia yn yr Arianin, ac felly o gryn ddiddordeb i nifer o Gymry Cymraeg. Dim syndod fod sinema’r Chapter yn orlawn pan dangoswyd yr hanes anghyffredin nos Sul felly. Mae’n ddarlun cyfrin o’r cychwyn, â bwrdwn gwacter a chwilfa tirlun sychedig y Wladfa yn cael ei fantoli gan rhyfeddod yr olygfa. Yn y pen draw, stori araf, hoffus, hawdd i’w gredu sydd yma – ewch i’w gweld.

Posted by Mair Thomas at 03:49 yh | Comments (2)

Awst 24, 2005

Crash (Paul Haggis, 2004)

(IMDb)

Crash yw ffilm gyntaf Paul Haggis fel awdur-gyfarwyddwr, y gŵr a ysgrifennodd Million Dollar Baby y llynedd. Mae’r ffilm yn bair berw o ragfarn a theimladau hiliol o’r dechrau un, ac mae’n portreadu elfen o’r Unol Daleithiau sydd, er gwaethaf y cynnydd diweddar, yn rhywbeth sydd wastad yn ffrwtian o dan yr arwyneb. Mae’r ffilm yn ymdrin â’r cyfnod cyn y Nadolig, cyfnod sydd i fod ynglŷn ar y ddaear, ond lle mae pobl, fel y dywed cymeriad Don Cheadle, yn taro i mewn i’w gilydd er mwyn cael rhyw fath o deimlad mewn byd yn Los Angeles sy’n cael ei ddadsensiteiddio.

Fel sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diweddar yn y byd ffilm, drwy ffilmiau Tarantino, Altman ac ati, mae nifer o straeon ar waith yma, straeon sy’n araf gydblethu’n un gwead mawr, yn adlewyrchiad o fywyd yn y ddinas. Un agwedd sy’n eu huno i gyd - tensiwn hiliol. Mae perchennog siop o Iran yn ddrwgdybus o’r saer cloeon Mecsicanaidd sy’n trwsio’i ddrws. Mae car y DA a’i wraig yn cael ei ddwyn gan ddau ddyn du, gan arwain y DA i amau ynghylch sut bydd ymateb y gymuned ddu yn effeithio ar y bleidlais, ac i’w wraig fod yn amheus am bawb. Mae heddwas chwerw’n erlyn cwpwl croenddu’n ddidrugaredd, gan ennyn atgasedd ei bartner, sydd newydd ymuno â’r heddlu.

Nid oes unrhyw uniondeb moesol yn perthyn i Crash, fodd bynnag. Yn y ffilm, gwelwn yr heddwas llwgr (Matt Dillon) yn molestio dynes ddu, ond yn ddiweddarach yn ei hachub. Gwelwn Graham (Don Cheadle) yn arwr un funud, yn sefyll dros ei egwyddorion, ond yn y diwedd yn gorfod derbyn sefyllfa o gael y dyn du fel dioddefwr er mwyn osgoi datguddiad o unrhyw lygredd ymysg yr heddlu. Yr hyn a wna Haggis, fe ymddengys, yw herio amgyffrediad y gynulleidfa o’r hyn sy’n gyfiawn ac yn anghywir, a’r llinell denau rhwng y ddau, a llwydda i wneud hyn yn dda iawn am hanner gyntaf y ffilm.

Fodd bynnag, wrth i’r ffilm fynd yn ei blaen, mae’r digwyddiadau yn mynd yn fwyfwy melodramatig. Ar ôl ein taro â realaeth bywyd mewn dinas yn llawn drwgweithredoedd, a Haggis ymlaen i ddisgwyl i ni gredu mewn gwyrthiau, boed yn real ai peidio, ac i chwarae triciau emosiynol ar ei gynulleidfa. Mae’n siomedig ar ôl dechrau addawol y ffilm, ac mae mwy o gysylltiad rhwng ail hanner y ffilm â It’s a Wonderful Life, a’r thema o wyrthiau adeg Nadolig, na’r ffilm y mae hanner gyntaf y ffilm yn ymdebygu iddi fwyaf, Magnolia.

Pwynt diddorol i’w wneud i gynulleidfa Gymraeg ei hiaith yw mai un o’r caneuon a ddefnyddir ar y trac sain yw’r gân ‘Lisa Lân’. Gwaetha’r modd, dyna uchafbwynt ail hanner sy’n llwytho i lithro lawr llethr i symlrwydd moesol Hollywood ar ôl holi cwestiynau dyrys.

Posted by Geraint Criddle at 09:27 yb | Comments (0)

Awst 16, 2005

Charlie and the Chocolate Factory (Tim Burton, 2004)

Mae’r ffilm hon, diolch byth, yn gweld y cyfarwyddwr Tim Burton yn dychwelyd i’w safonau uchel arferol, yn dilyn y siomedigaeth a ddaeth gyda Planet of the Apes a Big Fish. Nid cyd-ddigwyddiad, wrth gwrs, yw’r ffaith bod Burton unwaith eto’n gweithio gyda Johnny Depp, actor sydd wedi ymddangos yn y rhan fwyaf o lwyddiannau nodedig y cyfarwyddwr. Mae’r ffilm yn ddoniol, yn ddireidus, ond ar yr un pryd yn amwys ei moesoldeb a’i thriniaeth o Willy Wonka, ceidwad y ffatri hudolus.

Yn wir, mae’r ffilm hon yn dra gwahanol i bortread Mel Stuart o’r llyfr, Willy Wonka and the Chocolate Factory. Yn ogystal â’r newid amlwg yn y teitl, mae’r lleoliad hefyd yn un gwahanol iawn. Yn lle delfryd Bafaraidd ffilm 1971, mae Burton wedi trosglwyddo’r ffilm i rywle na fyddai’n edrych allan o le yn Swydd Gaerhirfryn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda strydoedd cul llwyd yn y dref, a’r ffatri ei hun yn edrych fel ‘cast off’ o set Metropolis.

Yng nghanol hyn i gyd, mae Charlie Bucket, sy’n ddeuddeg mlwydd oed, ac yn byw gyda’i rieni a’i ddau dad-cu a’i dwy fam-gu mewn bwthyn bach cam ar ymyl y dref. Wrth gwrs, er gwaethaf y ffaith eu bod yn dlawd tu hwnt, gyda thad Charlie’n colli ei waith yn y ffatri bast dannedd (yn sgil cystadleuaeth Wonka), mae eu bywydau’n cael eu cyfoethogi gan y gariad sy’n eu cynhesu nhw i gyd. Dyma sy’n asgwrn cefn iddyn nhw i gyd, ac i Charlie yn arbennig.

Mae’r stori, wrth gwrs, yn hen gyfarwydd i’r rheiny sy’n caru’r byd ffilm, gyda Charlie, Veruca Salt, Augustus Gloop, Mike Teevee (sy’n llawer mwy annymunol yma nag yn fersiwn 1971) a Violet Beauregarde i gyd yn ennill tocynnau i ymweld â ffatri Willy Wonka am daith na ŵyr neb y rhesymau amdani. Rydym yn cwrdd, yn y pen draw â Wonka ei hun (sef Depp, wrth gwrs), cymeriad sy’n amlwg heb fod allan am amser hir yng nghwmni pobl, sy’n edrych fel Count Dracula gyda llais Michael Jackson.

Mae perfformiad Depp yn gryfder amlwg yn y ffilm. Yn wahanol i Gene Wilder a’i bortread o Wonka fel creadur braidd yn faleisus, yma mae Wonka yn greadur tebyg i blentyn ac yn fregus ei ymarweddiad. Os, fel y mae’r beirniaid yn ei amgyffred, yw Wonka i fod i gynrychioli Satan yn temtio’r plant rhwng da a drwg, mae Depp yn gwneud llawer gwell gwaith yn cuddio hyn nag y gwnaeth Wilder flynyddoedd yn ôl. Cyrraedd ar hap wna Charlie at ei drysor. Yn ddiddorol hefyd, ni welwn drosedd ac adferiad Charlie fel yn y fersiwn gyntaf. Mae’n aros yn gwbl ddiniwed a dilychwin.

Cryfder arall yw’r dyfnder sy’n cael ei ychwanegu at gymeriad Wonka drwy ôl-fflachiadau i’w orffennol. Yn y gorffennol pell, fe rwystrodd Dr Wilbur Wonka, llawfeddyg deintyddol, ei fab rhag bwyta losin ac yna’i daflu ymaith pan fynegodd awydd i fod yn wneuthurwr siocled. Yn y diwedd, ceir cysylltiad cryf rhwng Charlie a Wonka, wrth weld y ddau fel rhai sydd ar eu colled yn y byd. Ond, wrth gwrs, mae eu colledion yn rhai gwahanol, a’u henillion yn bethau y maent llall yn eu chwennych.

Mae’r ffilm felly’n llwyddiant i Burton. Mae wedi llwyddo i adrodd y stori mewn ffordd ysgafn a difyr, ond heb amharu’n ormodol ar y ffilm â chyfeiriadau at bethau cyfoes, a phethau i apelio at oedolion, fel y gwelwn mewn llawer o ffilmiau i blant bellach. Os nad ydych chi erioed wedi gweld 2001, hynny yw.

Posted by Geraint Criddle at 02:26 yh | Comments (1)

Mehefin 20, 2005

Mysterious Skin (Gregg Akari, 2004)

IMDb

Stori yw hon am ddau ddyn ifanc sydd, wedi cael profiadau rhywiol cynnar, yn edrych ar y digwyddiad dan sylw mewn ffyrdd gwahanol iawn. Ar yr un ochr, mae Neil (Joseph Gordon-Levitt) sy'n ysu am gael ail-fyw'r profiadau, ac ar yr ochr arall mae Brian (Brady Corbett), sy'n ei argyhoeddi ei hun iddo gael ei gipio gan estroniaid o'r gofod. Ond yn araf bach, mae'r ddau'n cwrdd eto ac yn rhoi gwead y noson yn ôl at ei gilydd.

Mae'r ffilm yn adrodd straeon paralel dau fachgen mewn tref fechan yn Kansas, dau fachgen tra gwahanol. Mae un ohonynt (Neil) yn byw bywyd 'dysfunctional' gyda'i fam sy'n yfed ac yn cael rhyw yn yr ardd, tra bod Brian yn byw mewn teulu arferol, ond teulu sydd hefyd â phroblemau y tu ôl i ddrysau caeedig. Mae'r ddau ohonynt yn cael eu cam-drin gan eu hyfforddwr pêl-fas (Bill Sage), ond mae Neil ar un llaw yn mwynhau'r profiad ac yn cofio pob manylyn, tra bod Brian yn dileu'r digwyddiad o'i gof.

Mae Neil yn derbyn ei wrywgydiaeth yn gwbl agored, hyd yn oed cyn iddo gwrdd â'r hyfforddwr. Wedi'r digwyddiad, mae'n mynd ymlaen i gam-drin ei gyd-ddisgyblion, cyn troi'n 'rent boy' yn y parc lleol, gyda chymorth Wendy ac Eric. Er gwaethaf eu pryderon amdano, nid ydynt yn gwneud dim i'w helpu oherwydd y pŵer sydd gan gymeriad hudolus Neil drostynt. Mae Wendy a Neil yn symud i Efrog Newydd, lle mae Neil yn parhau â'i waith ymysg dynion hoyw'r ddinas. Ond darganfyddo Neil yn gyflym iawn, er ei fod wedi gadael Kansas, nid yw wedi dod o hyd i'r Ddinas Emrallt.

Mae Brian ar y llaw arall yn gwyro'i brofiadau mewn ffordd llawer mwy diniwed mewn ffordd, sy'n adlewyrchu'i fagwraeth fwy normal. Mae'n dod i gredu i'r amser y mae wedi'i ddileu o'i feddwl gael ei dreulio'n cael ei herwgipio a'i archwilio gan estroniaid o'r gofod. Mae'n dod i gysylltiad â merch o dref gyfagos y mae'n ei gweld ar y teledu a ymddangosodd ar raglen deledu yn sôn am gael ei chipio. Buan y down i sylweddoli, drwy awgrymiadau cynnil y cyfarwyddwr, mai dileu atgofion poenus o'i chof y mae hi hefyd, ac mae arwyddion bach yn araf wneud i Brian sylweddoli ei sefyllfa ef ei hun. Mewn breuddwyd, sylweddola Brian bod angen iddo ddod i gysylltiad â Neil er mwyn datrys y dirgelwch sydd y tu ôl i'r problemau dwys sy'n chwarae ar ei feddwl.

Mae'r ffilm hon yn gynnil ei chyfarwyddyd, gan ddatgelu pob elfen ym mywydau'r bechgyn. Efallai bod gwendid yn hyn ar adegau, yn enwedig pan mae Neil yn mynd i Efrog Newydd ac mae Brian ac Eric yn taro ar gyfeillgarwch, yma, nid ydym yn siŵr o stori pwy i'w dilyn, wrth i'r ffilm neidio o un man i'r llall. Ond mae'r ffilm yn ddeallus yn y ffordd y mae'n graddol ddadlennu llwybr y bechgyn tuag at ddod i gyfaddawd â'u gorffennol. Ni cheir beirniadaeth yma ar weithredoedd yr hyfforddwr na'r bechgyn o reidrwydd, ond yn hytrach ar sawl elfen yn cyd-daro i greu'r sefyllfa anffodus hon.

Posted by Geraint Criddle at 10:56 yh | Comments (0)

Mehefin 10, 2005

Sin City (Frank Miller, 2005)

Tair stori sy'n plethu yn ei gilydd, yn arddull Tarantino, sy'n wledd o steil heb lawer o sylwedd. Mae Hartigan (Bruce Willis) a Marv (Mickey Rourke) yn chwilio am ddialedd wrth geisio amddiffyn merched sy'n ddigon an-ffwdanus i ffansïo eu hwynebau oedrannus a hyll, tra bod Dwight (Clive Owen) yn cael mewn i dipyn o drwbl gyda'r moch lleol.

Mae Sin City yn gwthio terfynau chwaeth, ond yn gwneud hynny mewn dull cartŵn Tom and Jerry, sydd ddim wir yn dreisgar na ffiaidd am ei fod mor arisel a chwerthinllyd. Yn weledol mae'r ffilm yn wych, wedi' gyflwyno mewn du a gwyn gyda sblash o liw pam fod angen ('fel Schilndler's List?' gofynnodd rywun i mi wedyn; na tydi'r effaith ddim yn cael ei ddefnyddio at yn union yr un nod). Mae'r steil a'r ffilm yn cario'r ffilm yn hollol, ac yn gyfrifol am bob un o'r sêr sy'n amrantu uwchben yr adolygiad hwn. Mae dylanwad Tarantino yn amlwg; ac yn wir mae'n cyfarwyddo un o'r ychydig olygfeydd sydd a mwy na' gair o ddeialog ynddi. Anodd yw cwyno am sut mae'r ffilm yn edrych, sy'n hollol gyson wych.

Ond wedi gwthio steil Tarantino i'r terfyn mae'r cyfarwyddwr yn anghofio'r sylwedd. Nid cymeriadau crwn yw'r rhain gan unrhyw gyfri, dim ond dwylo i ddal dryll, neu gorff ystwyth i ddal par o fronnau. Dim ond Marv sy'n gymeriad hoffus, yn bennaf am fod ei galon yn ddirgroes a'i edrychiad ofnadwy. Mae cast llawn o sêr fan hyn, ond does dim iddynt wneud ond darllen ei deialog mewn lleisiau cryglyd ac edrych mor 'tew' a bosib. Mae'r gan amlaf angylaidd Elijah Wood yn gastio ysbrydoledig fel y gwallgof Kevin, sy'n hoff o fwyta puteiniaid a mowntio'u pennau ar y wal, ond mae ei ddawn actio wedi' wastraffu ar rôl lle nad yw'n cael agor ei geg. Mae'r gwych Michael Clarke Duncan wedi' golli yn y cymysgedd fel bwystfil mawr treisiog rhif un deg chwech.

Mae tair stori fan hyn; dau o'r rheini yn hynod debyg a'r un canol yn dibynnu ar ferched mewn dillad dadlen am ei ddifyrrwch. Tydi'r un ddim digon da i ddifyrru ar eu teilyngdod eu hunain, ac mae camgymeriad mawr wedi' wneud yn eu trefn; y cyntaf yw'r mwyaf diddorol, a lawr allt o fan 'na. Mae'r olaf yn mynd yn annymunol a diangen ddwys gyda'i pedophile mawr melyn hyll, ond mae'r ddau gyntaf yn slic a reit ddifyr heb orfod estyn eich ymennydd allan o'i jar ar ochor y sedd.

Dim ffilm draddodiadol ddu a gwyn felly. Ewch i'w gweld hi am fôr o drais digywilydd a steil syfrdanol, ond peidied disgwyl dim mwy na' hynny.

Posted by Ifan Morgan Jones at 12:51 yb | Comments (0)

Mehefin 01, 2005

Palindromes (Todd Solondz, 2004)

IMDb
Palindromes.jpg

Stori Aviva, merch yn ei arddegau cynnar, yn dilyn un nod plentynaidd a phendant, sef cael llwythi o fabis - oherwydd os gewch chi blant, bydd wastad gyda chi rhywun i garu.

Ar ôl profiad rhwyiol cyntaf (poenus o lletchwith) gyda Judah, mab cymydog, mae Aviva’n beichiogi – datblygiad sy’n syfrdannu ei mam gochelgar, Joyce. Er addo i dderbyn a charu Aviva beth-bynnag a ddaw, gall Joyce ddim adael i’w merch 13 oed gadw ei babi. Ar ôl erthylu ‘Henriette’ dan orfodaeth ei rhieni, mae Aviva’n rhedeg i ffwrdd o’i chartref, a’n cychwyn taith dylai agor ei llygaid i ba mor anheg a di-drefn yw bywyd. Ond, fel teitl y ffilm, ac enw Aviva ei hun, mae’r daith yn gorffen lle gychwynodd, gan osod cwestiwn canolog ynglŷn â’n gallu i ddianc ein natur ni’n hunain.

Yn ystod y ffilm mae wyth actores wahanol yn ymgymryd â rôl Aviva, gan ddangos cymeriad y ferch yn amrywio rhwng merch fabiaidd Emani Sledge, arddegwraig amhendant Valerie Shusterov, cawres siapus Sharon Wilkins, a ‘nymphette’ blinedig Jennifer Jason-Leigh. Mae perfformiadau’r wyth yn gofiadwy, ond Wilkins sy’n gwneud yr argraff mwya, ac mae’r ddelwedd o’i chorff enfawr yn chwyddo o ffrog haf ferchetaidd wrth i’w llais fynegi holl ddiniweidrwydd merch fach ar goll, yn sicr o ddal sylw’r gynnulleidfa trwy’r gyferbyniaeth ‘grotesque’.

Ond newidiadau arwynebol yw rhain. Ac ar y cyfan, mae rhyw deimlad annifyr o bellter rhyngom ni a’r cymeriadau drwy gydol y ffilm – yn enwedig yn ystod y golygfeydd yng nghartref Mamma Sunshine, cristion defosiynol sydd wedi casglu teulu o blant coll anabl i’w hun. Teulu pwrpasol ystrydebol – â’i emynau roc defosiynol yn gwahodd gwawd y gynnulleidfa. Y safiad, am wn i, yw mai merch dall amddifad yw Barbera, a dyna bydd yn ei diffinio hi gydol ei hoes; merch du byddar yw Trixie a dyna bydd yn ei diffinio hi gydol ei hoes; tra bod Ali’n dioddef leukemia – a dyna bydd dechrau a diwedd ei bywyd hi. Felly yn ôl Solondz, er amrywiaeth bywyd, mae’r ‘pobl y’n ni’ yn rhywbeth cyson a chynhenid. Ond dyw’r safiad yna ddim yn gwneud y tro i’r adolygydd yma, a’n sicr dyw’r ffilm ddim yn cyflwyno dim i’w brofi.

Neges wleidyddol sy’n tynnu sylw’r ffilm yn y pendraw (mae ‘daioni’ Mamma Sunshine yn fwgwd i weithredoedd amheus mae dynion y teulu yn eu cyflawni yn enw ‘cyfiawder’,) ac mae hyn yn cymylu ymchwil y cyfarwyddwr i’w gwestiwn am natur dynol, yn fy marn i. Ond mae’r hyn a gawn ni o daith mewnol y prif-gymeriad yn ddifyr ar y cyfan, a pherfformiadau’r actorion sy’n ei chyfleu yn werth eu gweld.


Posted by Mair Thomas at 11:40 yb | Comments (0)

Mai 20, 2005

Rear Window (Afred Hitchcock, 1954)

Rear Window yw un o ffilmiau mawr y sgrin fawr, ac yn un o glasuron mewn gyrfa llawn clasuron gan Alfred Hitchcock. Ei chanolbwynt yw obsesiwn cynyddol L.B. Jefferies (James Stewart), sy'n gaeth i gadair olwyn wedi iddo dorri ei goes, â bywydau'r bobl y gall eu gweld o'i ffenest gefn, ac yn benodol, un cartref sy'n dwyn ei sylw'n fwy na'r lleill.

Wrth gwrs, fel sy'n nodweddiadol yn ffilmiau Hitchcock, mae llawer mwy yn perthyn i'r ffilm na'r hyn a welwn ar yr arwyneb. I ddechrau, mae Jefferies yn ymddiddori ym mywydau ei gymdogion er mwyn osgoi ei berthynas gyda'r hyfryd Lisa Carol Fremont (Grace Kelly) a'i bryderon na fydd y berthynas yn gweithio oherwydd nad oes ganddi hi, yn ei dyb ef, ddigon o fywyd ynddi. Wedi'r cwbl, mae'r ddau ohonynt yn dra gwahanol - hithau'n 'socialite' sy'n mwynhau'r bywyd moethus ac yntau'n berson mwy ymarferol, sydd eisiau profi bywyd ar lefel fwy real.

Wrth iddo syllu allan drwy'r ffenest, daw llawer o fywydau i'r amlwg. Mae Lars Thorwald (Raymond Burr, neu Perry Mason i chi o bosib) a'i wallt llwyd a'i sbectol yn gwneud pethau amheus gyda chyllyll a llifiau ac yn mynd a dod yng nghanol nos. Mae Miss Lonelyhearts, a'i bywyd unig, pathetig, y pâr priod newydd, y cyfansoddwr â'i bryderon am ei greadigrwydd, y fenyw yn dawnsio sy'n mwynhau cael ei gwylio. Ond Thorwald sy'n mynd â bryd Jefferies, wrth iddo sylwi ar ei wraig yn mynd ar goll yn sydyn.

Mae'r ffilm yn ddychan ysgafn ar yr America perffaith. Er gwaethaf yr holl weithgarwch sy'n digwydd yn y gymdogaeth fach y tu allan i ffenest Jefferies, does neb yn ymdrin â'i gilydd. Mae pob un yn byw eu bywydau preifat, heb sylwi ar ddim heblaw'r hyn sydd rhwng cyfyng furiau. Caiff hyn ei chwalu pan mae ci y bobl gyferbyn â Jefferies yn cael ei ladd. Fel y dywed y fenyw, doess neb yn poeni a fydd neb, gan gynnwys Jefferies, sy'n eistedd yno'n syllu heb adnabod neb, yn ceisio dirnad gweithredoedd un dyn.

Yn y diwedd, nid y cwestiwn os llofruddiodd Thorwald ei wraig sy'n bwysig, ond yn hytrach yr hyn sy'n digwydd mewn bywyd arferol. Mae Miss Lonelyhearts yn dod o hyd i ddyn. Mae'r cyfansoddwr yn dod o hyd i rywun i werthfawrogi ei waith. Mae cariad y ddawnswraig yn dychwelyd o'r fyddin. Mae'r bobl gyferbyn yn cael ci newydd. A gwelwn fod Stewart a Kelly, drwy gydweithio i sbio ar Thorwald, wedi dod i adnabod ei gilydd, tra'n cadw at y gwahaniaethau bach sydd rhyngddynt. Wrth i Stewart gysgu, mae Kelly'n rhoi'r llyfr antur, dymuniadau Stewart, i un ochr, ac yn edrych yn ei chylchgrawn ffasiwn. Delwedd o'r bywyd sydd i ddod.

Posted by Geraint Criddle at 01:59 yh | Comments (0)

Star Wars Episode III - Revenge of the Sith (George Lucas, 2005)

Wedi Pennod gyntaf ofnadwy ac ail bennod ddifyrrus ond fflat, a all Star Wars orffen gyda boddhad mawr i'w niferoedd anferth o ganlynwyr penboeth?

Fel meddai rywun medrus un tro, cysywllt yw popeth. Felly, mae'n werth cloddio mewn i hanes yr adolygydd cyn mynd ymlaen ychydig ymhellach. Dydw i ddim yn fan o Star Wars. I fod yn fwy manwl gywir, dydw i ddim yn fan o Star Wars oherwydd bod fans Star Wars yn gwthio'r term 'fan' heibio'r gair gwreiddiol 'fanatic' a tuag at y gair 'ynfytyn'. Felly, mi fyswn i'n fwy o fan Star Wars nag y byswn i yn fan o Pingu, er enghraifft, ond, fel y dywedais, cyswllt yw popeth, felly y byswn i'n galw fy hun yn fan o Pingu ond dim Star Wars, am fod cynodiadau mawr iawn i alw dy hun yn fan o Star Wars. Fel cael dy labelu'n fachgen bach unig sy'n ceisio anwyldeb yn ei gledr eu hun gan amlaf. Dwi'n gweld y Star Wars cyntaf ychydig yn ddiflas (mi wnes i geisio gwylio'r DVD cyn mynd i'r sinema, a sgipio hanner y blaned Tatooine), dw i'n meddwl bod Empire Strike Back yn wych, a golygfeydd olaf Return of the Jedi yn ddiddorol iawn. Mi wnes i hoffi Phantom a Clones, ond roeddynt yn gwaethygu gyda bob ystyriaeth. Dyna fy marn i ar Star Wars hyd yn hyn. Da iawn ydyw, ond dim byd i fynd yn wallgo' drosto, na datgan anghydweddogrwydd i fod yn fan ohono. Yn y rhyfel chwilboeth hwnnw rhwng gwerthuswyr Star Wars a Lord of the Rings, mi fyswn i'n sicr yn ochri gyda'r olaf.

Felly dyma fi yn mynd i'r sinema gyda grwp o ffrindiau a oedd wrth ei bodd a'r gyfres. Roeddwn i wedi clywed lot o bethau da am y ffilm, a lot o bethau drwg, a cyn mynd roeddwn i wedi darllen bob adolygiad drwg oeddwn i'n medru cael gafael arno fel fy mod i'n cael fy synnu'n ddymunol gan ansawdd cymharol y pictiwr fel canlyniad.

Mae hon yn ffilm reit wahanol i'r ddau gynt. Yn y rheini, roeddwn i'n falch pan oedd y delweddau cyfrifiadurol generadol (DCG), yn ymddangos i gludo'r stori ymaith rhag actio a deialog gwarthus y ffilmiau. Yn gwylio Revenge of the Sïth, roeddwn i'n flin pan ymddangosodd y DCG i darfu ar yr emosiwn a phlot y ffilm, gan ddieithrio'r gynulleidfa rhag craidd cignoeth blasus a chwerw'r mater wrth law, sef buddugoliaeth grin yr anfad dros y daionus, ar raddfa bron tu hwnt i Feiblaidd. Felly wnes i ddim mwynhau hanner awr gyntaf y ffilm yn ormodol, wrth i ryw frwydr gofod anniddorol rechan ei ffordd o gyfrifiadur hysb ILM ac awelu heibio fy llygaid difater.

Ond rywsut, yn yr awr nesaf, wrth i fi wawdio'r ffilm yn fy meddwl a chwerthin ar rai o'r llinellau deialog mwyaf simsan, dyma'r ffilm yn ymyrrid rywsut a fy nghydbwysedd ar... foment sensitif. Mi wna i geisio esbonio sut wnaeth y ffilm fedru effeithio arna'i, plisgyn emosiynol o ddyn fel yr ydw i, i'r fath raddau.

Mae'r clod am fy symbylu i wylio'r ffilm yn dod yn bennaf gan Ian McDiarmid fel y 'Supreme Chancellor Palpatine'. Wn i ddim sut medrodd yr actiwr rhagorol yma sleifio heibio gorchymyn Lucas mae dim ond planciau pren fyddai'n cael ymddangos yn ei ffilmiau. Ond mae'n hollol wych, yn chwarae bob llinell gyda mwynhad hollol gythreulig. Mae'n afrwydd peidio disgyn dan ei swyn drygionus. Ar ôl ychydig funudau yn ei bresenoldeb rhithiol roeddwn i'n barod i ymuno a'r Ochor Dywyll fy hun.

Wedi fy nglynu i'r sgrin gan ei anfad holl-ddryngionus, dechreuais i weld heibio'r DCG oer, wrth i Anakin (Hayden Christensen) a Padmé (Natalie Portman) gysylltu mewn ffordd oedd wir yn fy argyhoeddi fel perthynas rhwng gŵr a gwraig oedd wedi gwario y rhan fwyaf o'i amser wedi' gwahanu gan wactod oer y gofod. A cyn i mi wybod beth oedd yn digwydd, mae'r ffilm yn troi'n drasiedi wrth i Orchymyn 66 danio montage teimladwy, annisgwyliadwy ar draws y sgrin. Doedd yr actio fan hyn ddim yn wael o gwbwl. Lle aeth y deialog oedd yn gwneud i mi wingo? Lle aeth y planciau pren? Ble ar y ddaear aeth George Lucas?

Yn ôl i 1977, mae'n amlwg, am fod gweddill y ffilm yn amhosib o foddhaol. Yn wir, roedd y DCG ych-a-fi yn amharu ar y stori mewn rhai mannau, yn enwedig wrth i Obi Wan Kenobi baffio yn erbyn General Grievous, ond rywsut mae'r stori wedi' glymu mor dyn mewn mytholeg mor gyfarwydd mae'n teimlo'n rhyfeddol o real. Mae gan Obi Wan yn cwffio Darth Vader gymaint o ddyrnod erbyn hyn a Hector yn cwffio Achilles. Pan mae Padmé yn llithro mewn i angau am resymau hollol anesgusodol, doeddwn i'm yn grac o gwbwl, am mai dyma sut mae cymeriadau yn marw yn y chwedlau mawr; drwy galon doredig.

Camgymeriad mawr y ffilm yw dod a gelyn mawr newydd i mewn wrth ladd ymaith gelyn hen oedd yn llawn addewid. Pam amnewid Count Dooku yr actor gwych Christopher Lee am gread DCG anniddorol fel General Grievous? Mae'r newid yn symbolaidd o bron bob dim sy'n anghywir gyda'r tair ffilm yn y drioleg yma, wrth i'r elfen ddynol sy'n angor i'r ffilm gael ei rwygo ymaith gan fwy o driciau cyfrifiadurol a fydd yn edrych yn dreuliedig o fewn pum mlynedd. Mae gan longau ofod blastig y ffilm wreiddiol, wedi' lynu at ei gilydd a glud, fwy o gymeriad na all ILM wasgu mewn i'r cymeriad yma. Mae'n edrych yn real, ond lle mae'r naws ddynol bwysig sy'n buddsoddi emosiwn y gynulleidfa?

Mae'r DCG hefyd yn sbwylio diwedd hollbwysig y ffilm, i raddau. Mi ddylai’r ornest sy'n uchafbwynt i berthynas Anakin a Obi Wan fel yn helynt brwnt, amrwd, noeth, gydag emosiynau’r ddau yn cael eu tanio drwy'r sabrau golau. Ni'n cael tipyn o hyn, ond mae hanner olaf yr ornest yn cachu DCG unwaith eto wrth i ddau byped drio'i gorau i gyffroi ein chwarrenau adrenalin, a methu. Mae'r olygfa yn cael ei safio drwy ffawd ysgytiol Anakin druan, a thipyn o actio gwych gan Ewan McGregor i wneud fyny am yr amser wedi' golli yn y ffilmiau eraill.

Ac yna mae dau ddeg munud olaf y ffilm, wrth i Lucas sgramblo i gysylltu dau begwn y drioleg. Ac wrth wylio machlud haul dwbl terfynol y masnachfraint enillfawr, mae un yn cael ei atgoffa o'r holl a ddaeth ynghynt. 28 mlynedd o Star Wars. Mae George Lucas yn dweud ei fod wedi cynllunio'r holl ffilmiau o'r dechrau, ond yn nwylo'r fans gwallgo' 'na mae'r ffilmiau a dweud y gwir. Pam arall nad yw cymeriadau crap Phantom Menace yn cael dim o gwbwl i'w ddweud yn hwn?

Yn olaf, mae gen i asgwrn i grafu a Mr Lucas. Os yw'n teimlo mai props yw actorion ac effeithiau sŵn yw deialog (ei eiriau fo, dim fi), pam ar y ddaear colfachu uchafbwynt ei magnum opus ar bwynt mor emosiynol? Am ei fod o wedi bod yn malu awyr, dyna pam; mae'n gwybod beth sy'n gwneud ffilm, ond tydi o ddim yn gwybod sut i ddosbarthu. Mi wna i dy faddau i Mr Lucas, tydi unwaith bob 28 mlynedd ddim yn ddrwg. Mae hon yn ffilm wych, fel Empire ond yn fwy epig, gyda chalon sydd yn eisiau yn Phantom a Clones.

Methu disgwyl am Episode IV nawr!

Posted by Ifan Morgan Jones at 01:43 yb | Comments (1)

Mai 09, 2005

Kingdom of Heaven (Ridley Scott, 2005)

Yn ystod croesgad y 12fed ganrif, mae Balian of Ibelin (Orlando Bloom) yn trafeilio i Jeriwsalem, Teyrnas y Nefoedd, i geisio gadw'r heddwch ansicr.

O'r diwedd dyma ffilm o'r genre gyda thipyn o fynd ynddi, gydag amser rhedeg dwy awr a chwarter sy'n hynod fyr am ffilm epig cleddyfau a sandalau. Mae'n bosib dadlau bob gormod yn digwydd yn yr hanner awr gyntaf, ond wedi hynny mae'r ffilm yn setlo mewn i gam cyffyrddus sydd yn osgoi teimlo ar frys nac yn gwneud i'r gwyliwr edrych ar ei oriawr.

Mae Orlando Bloom yn gwneud gwaith gweddol o gario'r ffilm fel Balian o Ibelin. Tydi o'm yn actiwr gwych, ond mae'n cuddio hyn trwy fod yn gymeriad reit anniddorol sy'n glynu wrth yr un athroniaeth drwy gydol y ffilm. Fo yw cyferbyn Colin Farrell yn Alexander mewn ffordd, a oedd yn gymaint o lanast o gymeriad roedd hi'n amhosib dirnad lle oedd o'n sefyll ar unrhyw beth. Mae dyrchafiad cymeriad Bloom o gof gostyngedig i dactegwr milwrol o fri yn bos, gyda dim golygfa, nag hyd yn oed y montage arferol, i bontio'r blwch rhwng y ddau begwn. Ac mae'r awgrymiad mae meddwl gwych y llanc hwn ddyfeisiodd y syniad o dyllu ffynnon ar dir sych y Dwyrain Canol yn chwerthinllyd.

Ond mae'n bosib maddau cymeriad blanc Balian am fod y cast ategol mor dda. Mae bron i bawb yn wych fan hyn, gyda chameo estynedig gan Liam Neeson, sy'n cario'r ffilm cyn i Bloom ddod ar draws hwyneb cysurol Thewlis, Jeremy Irons yn gwneud argraffiad hynod o flaidd dynol, a Edward Norton yn rhagorol fel brenin gwahanglwyfus Jerwsalem. Gwaetha'r modd tydi Marton Csokas ddim yn gwneud cymaint o argraff gyda'i berfformiad o'r anfad, a merchetaidd, Guy de Lusignan.

Fo yw'r unig wir dihyrun y ffilm, am fod y Mwslemiaid wedi' portreadu mewn ffordd deg heb fod yn ffrydiol a ffals. Roedd gen i gryn ddiddordeb mewn gweld sut y byddai'r ffilm yn trafod pwnc mor danllyd â Christnogion a Mwslemiaid yn trywanu'r stwnsh allan o'i gilydd. Cred gall y ffilm yw bod rhaid ar y ddwy ochor, Cristnogion a Mwslemiaid, yn fodlon defnyddio eu crefydd am resymau anghrefyddol dros ben, sy'n hen ddigon teg, ac mae'r themâu yma'n adeiladu i ddiweddglo hynod foddhaol sy'n gorffen popeth heb fod angen hanner awr o bawb yn ffarwelio. Clod i Ghassan Massoud am ei berfformiad gwych fel Saladin.

Un peth arall sy'n newydd i'r genre yw nad oes golygfeydd diflas lle mae'r cymeriadau yn cweryla dros athroniaeth hirwyntog, a boddi'r ffilm mewn lol rhwng y darnau cwffio diddorol. Mae pob trafodaeth yn berthnasol i'r cynllun, ac mae'r berthynas rhwng y Marchog Temlaiddol a'r Croesgadwyr yn un hynod chwilfrydig. Ac mae'r darnau cwffio, pan maen nhw'n cyrraedd, i gyd yn emosiynol foddhaol wrth lenwi'r cwota am drais gwaedlyd, heb ddiflasu'r gwyliwr gyda delweddau cyfrifiadur diangen a gwallgofrwydd aneglur Alexander.

Yr unig gam gwallus yn neges y ffilm yw, i gladdu mewn i sboilwyr am eiliad bach, pan mae chwaer brenin Jerwsalem yn tynnu ymaith masg ei brawd wedi iddo farw. Mae'n mynd yn hollol groes i'w linell olaf, 'cofia fi fel yr oeddwn i'. Mae Edward Norton yn chwarae'r cymeriad gyda chymaint o urddas tawel mae'n teimlo fel pe bai'r gwyliwr yn cymryd mantais o'r brenin gwahanglwyfus bechod wedi ei farwolaeth er mwyn ennyd 'ych-a-fi' amhriodol, sydd ddim yn ychwanegu dim byd at y stori.

Yn olaf, beth yw'r dêl a ffilmiau epig clefydau ag caeau ŷd? Dydw i'm yn cofio ffilm o'r genre hwn am eithaf tipyn heb gau mawr o yd diangen ynddi. Dwi'n cymryd fod gan Ridley Scott hawl i gynnwys llwyth o yd yn ei ffilmiau gan mai fo ddechreuodd y chwiw ryfedd yn Gladiator. Dwi'n hanner disgwyl gweld Russell Crowe yn cerdded drwyddo, yn dal i chwilio a'i wraig a'i blentyn ym mharadwys, neu'n adrodd barddoniaeth ddiflas.

Posted by Ifan Morgan Jones at 08:00 yh | Comments (3)

Ebrill 29, 2005

The Hitchhiker's Guide to the Galaxy (Garth Jennings, 2005)

(IMDb) (Douglas Adams.com) (H2G2)

hitch2.jpg Do fe laniodd yr hir ddisgwyliedig ffilm yn fy sinema leol. Ffilm o'r llyfr a arweiniodd at gorwynt o frwdfryddedd am ei waith gan fy ysgogi i ddarllen bron pob llyfr Douglas Adams sydd wedi ei gyhoeddi.

Mae llyfr olaf Adams, "The Salmon Of Doubt", yn cynnwys llythyrau, ysgrifau, erthgylau a thamaid o'r llyfr roedd yn nghanol ei sgwennu pan fu farw - ond ynddo hefyd ceir son am ei ymaflyd epig a'i sgript ar gyfer Hitchchiker's. Roedd y ffilm yma mewn uffern datblygiad, fel y dwedant yn Hollywood, am bron i ugain mlynedd, a gan wybod hyn poeni roeddwn y buasai hi wedi newid tu hwnt i adnabyddiaeth ac wedi ei phylu gan or-ddatblygu. Rhaid dweud y ces i'n siomi ar yr ochor orau.

Crynswth y ffilm yw fod Arthur Dent yn deffro gan ddarganfod fod ei dŷ ar fin cael ei ddymchwel ar gyfer creu beipas newydd. Wrth orwedd o flaen y JCB yn protestio ar yr ymyrraeth hyn, daw ei gyfaill od Ford Prefect ato a'i sgubo ffwrdd i'r dafarn leol i esbonio ei fod ddim wir yn deillio o Guildford fel y credai Arthur, ond yn hytrach y daw o Betelgeuse. Ond ar ben hyn daw y newyddion fod y byd ar fin cael ei ddinistrio gan fodau arallfydol hynod-fiwrocratiadd o'r enw'r Vogons er mwyn cael creu Siwper-Draffordd Rhyng-Alaethol. Wrth i'r byd o'i gwmpas fynd yn wallgo dan glywed y newyddion hyn, caiff Arthur a Ford eu sgubo i'r nen wrth i Ford fodio lifft gyda'r fflyd Vogon sydd ar fin chwalu'r ddaear yn deilichion. O fan hyn caiff Arthur ei daflu ar antur anferth, a dilynwn ei daith a'i drafferthion yn ymdopi a'r pethau anghygoel y daw i'w cwfwr.

Mae hi'n sdori glasur "fish out of water", gyda'r hiwmor naturiol sydd yn deillio o wrthgyferbyniad y te-yfwr everyman sydd dal yn ei goban nos a'r gwyddoniaeth a thechnoleg whizz-bang ac anferthedd y bydysawd newydd y caiff ei daflu mewn iddo. Yn ychwnaegol i hyn mae'r cymeriadau hefyd yn gret, yn arbennig y ffefryn cyson Marvin yr Android Paranoid wedi ei leisio'n berffaith gan Alan Rickman. Mae Sam Rockwell yn hynod ddoniol o gawslyd fel Zaphod er ei fod erbyn hyn wedi trawsnewid rywfaint i fod yn rhyw filiwnydd o syrff-cowboi o'r Deep Sawth. Mae Mos Def hefyd yn hyfryd o lac a llipa ei naws ac yn edrych yn syndod o an-hiphop, yn gyfforddus gyda thywel rhacsiog wedi ei lapio'n gyson rownd ei wddw!

Fel yn y llyfr, mae'r ffilm yn codi cwestiynau difyr a phryfoclyd am fywyd, y bydysawd (a phopeth!) ond mewn ffordd ysgafn, ddigri. Y tric yw ei fod yn gwneud y bydysawd yn lle normal, lle mae biwrocratiaeth dal yn boen yn y pen ol, crefydd dal yn boncyrs a'n arweinyddion ni dal yn ego-maniacs. Er anferthedd y byd mae wedi ei greu mae'n llwyddo i ddaearu popeth gyda dos o'r cyfarwydd.

Mae yna ambell i ychwanegiad ym mhlot y ffilm sydd ddim yn y llyfr, rhai sydd yn greadigaeth Adams a rhai yn amlwg wedi ei gorfodi gan faint cyllideb y ffilm a phwysau Hollywood am ffilm sydd am apelio at gylulleidfa eang. Yn gyntaf cewn gymeriad newydd yn antagonist pennaf Zaphod, Humma Kavula wedi ei chwarae yn wych o seimllyd gan John Malkovich (sydd yn edrych fel rhyw groes dieflig rhwng Art Garfunkel ac Andy Warhol). Rhaid cyfaddef taw hwn yw rhan wannaf y ffilm o bell ffordd, ac mae'n teimlo'n ddibwynt ymysg y golygfeydd arbennig eraill. Y rhan arall newydd yw'r sdori ramant rhwng Arthur a Trillian (Zooey Deschanel, sydd yn drawiadol o brydferth gyda'i chroen tryloyw a'i awch anturus heintiog) sydd yn gwethio'n well, gan ymwrthod rhag amharu'n ormodol ar weddill y ffilm a newid cymeriad Arthur yn fwy na theithiwr amharod.

Un o'r rhesymau eraill am aros mor hir i weld hon yn dod i'r sgrin fawr oedd yr angen i adael i dechnoleg effeithiau gweledol ddal fyny gyda'r ffilm. Yn wahanol i'r rhaglen deledu, gallan nhw rwan greu bydoedd anghygeol y Vogons a Magrathea heb wneud iddynt edrych fel set Pasiant y Plant Sdeddfod 1986. Mae 'na rai golygfeydd sy'n cymeryd eich anadl yn llwyr (yn union fel y gwnaethant yn y llyfr…), a defnyddir CG heb greu unrhyw synnwyr eich bod yn gwylio gem gyfrifiadur. Serch hyn, mae'r Guide ei hun (wedi'i animeiddio gan Shynola) yn hyfryd o lo-fi, gyd chlawr a ffont hyfryd o saithdegau ac animeiddio sy'n ymdebygu o ran sdeil i'r canllawiau beth i wneud mewn argyfwng a gewch chi ar awyrennau.

Mae'r gwaith gan Weithdy Creaduriaid Jim henson hefyd yn effeithiol, gyda Vogons yn edrych fel tyrchod daear mawr hyll biwrocrataidd (efallai taw dyma sydd yn byw yng nghrombil y Cynulliad!), a'u gwefusau'n symud yn berffaith i'w barddoniaeth boring. Mae Marvin druan hefyd yn edrych yn well nag oeddwn i'n disgwyl o'r stills welais i chydig yn ôl.

Mae'r llongau gofod a'r planedau wedi eu cynllunio'n hyfryd o syml hefyd ond gan gadw'r waw-ffactor wrth eu gweld am y tro cyntaf (er fod yn well gen i y cynllun siap trainer o'r llong "Heart Of Gold" ar glawr yr argraffiad a wnaed yn yr wythdegau hwyr). Y darn arall pur lwyddiannus ydi'r newidiadau swreal sy'n digwydd i'r Heart of Gold a'i griw wrth iddyn nhw daro botwm yr improbablility drive, yn arbennig pan mae pawb yn troi mewn i gymeriadau gwlan!

Mae ambell cameo hefyd i'w ffitio mewn gyda Simon Jones, llais gwreiddiol Arthur Dent o'r rhaglen radio, yn ymddangos fel cyfarchydd planed Magrathea, y Marvin gwreiddiol o'r rhaglen deledu yn y Vogonsphere a Douglas Adams ei hun yn ymddangos fel un o ffurfiau hap yr Improbability Drive.

Felly, ar wahan i ambell blip, roedd hon yn ffantastig o ffilm. Yn ddigri, deallus, dychanol, dyfeisgar a chyson i naws os nad yn glynu'n union i lyfr Douglas Adams. Dwi'n credu ei bod hi'n deyrnged addas iawn i'r gwr arbennig hwn ddaeth a gymaint o bleser i gymaint o bobol. So long Douglas, and thanks for all the fish.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:31 yh | Comments (1)

Ebrill 25, 2005

Boo Zino & The Snurks (Lenard Fritz Krawinkel a Holger Tappe, 2004)

boozino.jpg

(IMDb)

Fues i i ddarlith gan Lenard Fritz Krakwinkel, un o gyfarwyddwyr y ffilm fach hon llynedd yng nghynhadledd SAND (Swansea Animation Days), pan ofynnodd e i'r 500 ohonom ni yno faint ohonom oedd di gweld i ffilm ddiweddara fe, mi wnath tri godi i llaw. Gan feddwl fod y mwyafrif o'r gynulleidfa naill ai'n fyfyrwyr animeiddio neu'n rhan o'r diwydiant ffilm/animeiddio/gemau cyfrifiadurol mi oedd hyn yn syfrdanol. Dwi di bod yn teimlo'n euog am hyn ers hynny a fe wnes i bwynt o'i rentu fe wsnos ma.

Boo, Zino & The Snurks oedd y ffilm CGI annibynnol 'feature-length' gynta i'w chael i rhyddhau, i feddwl fod cyllid y ffilm rhyw ddegfed pris un o gynyrchiadau Disney-Pixar neu Dreamworks ma'r safon yn wych. Ma'r animeiddio yn eithriadol o realistig a ma na fanylder mawr yn golygfeydd. Prif ddiffyg y ffilm yw'r stori/sgriptio; cyfres deledu yw 'The Adventures of Boo and Zino', ag un dydd ma na Broffesyr Gwallgof (yn y cigfyd) am ddwyn talisman pwerus o'r rhaglen drwy ddefnyddio i beiriant mawr (gyda lot o switches, a goleuade bach a ballu). Wrth iddo drio dwyn y talisman, ar hap ma Boo(rhyw side-kick brainy i Zino) a Zino(yr arwr twp), Alanta (y Frenhines) a'r Snurks (boo hiss, y dynion drwg yn y rhaglen) yn cal eu tynnu o fyd y teledu i'r byd real hefyd. Ma gweddill y stori yn dilyn eu hynt a'u helynt yn trio dychwelyd i'w byd nhw ei hunain, Gaya, cyn iddo gael ei ddinistrio.

Fel ddwedes i ma'r animeddio o'r radd flaena, ma'r golygfeydd yn wych, ma'r cymeriade'n edrych yn dda iawn ond dyw'r sgriptio ddim cystal a'r ffilmie Americanaidd – dyw'r stori ddim yn gweithio ar sawl lefel fel rhywbeth fel y Simpsons er enghraifft. Ffilm fach anturus i gadw plant yn dawel am awr neu ddwy yw hi, nid ffilm i'r teulu cyfan. Os oes da chi blant, rhentwch hi, nid dim ond er mwyn i'r plantos bach annwyl gael awr fach ddifyr ond hefyd gan fod eisie cefnogaeth ar ffilmie annibynnol yn enwedig rhai animeiddio. Fflop anferth oedd hon yn y sinema (dath hi mas yr un wsnos a Shark Tale yn digwydd bod) ond heb gefnogaeth gawn ni ddim mwy o ffilmie annibynnol o'r math yma.

Posted by Illtud Dunsford at 12:21 yh | Comments (0)

Ebrill 18, 2005

The Woodsman (Nicole Kassell, 2004)

Hir fu'r aros i weld y ffilm hon yn UGC Caerdydd, prif leoliad fy ymborth sinematig, ond braf nodi bod y ffilm yn werth yr aros. Mae'n ffilm glyfar a sensitif sydd yn delio â phwnc dyrys pedophilia yn osgeiddig, heb farnu, heb uniaethu, ac mae perfformiad Kevin Bacon fel y prif gymeriad unwaith eto'n hoelio sylw'r gwyliwr wrth iddo bortreadu dyn yn dod i delerau â'i orffennol a symud ymlaen.

Ar ddechrau'r ffilm, mae Walter (Bacon) newydd gael ei ryddhau o'r carchar ar ôl 12 mlynedd am dreisio merched ifanc. Mae ei droseddau yn y gorffennol yn ei boenydio, ond mae'n mynnu na fu iddo frifo nac anafu'r merched a dioddefodd ei droseddau. Pan ddaw allan o'r carchar, dysgwn nad yw'r un aelod o deulu Walter am ei weld, yn enwedig ei chwaer, sy'n ganolbwynt i'w rywioldeb cythyrblus, fe ddarganfyddwn yn hwyrach. Mae'n ceisio symud ymlaen gyda'i fywyd, ond mae'r system yn gorfodi ei orffennol arno o hyd, drwy ei sesiynau gyda seiolegydd a'r oruchwyliaeth parhaol arno gan Lucas (Mos Def), yr heddwas di-dostur sy'n ei weld fel anghenfil ac sy'n mynnu gwthio'i big i mewn i fywyd Walter.

Caiff ei sefyllfa ei lleddfu rywfaint gan Vickie, un o'i gydweithwyr yn yr iard goed, sydd, fel fe, ar y tu allan. Dônt yn gariadon, ac yn raddol, llwydda Vickie i gael Walter i ddatgelu ei gyfrinach. Ond caiff Walter sioc pan mae Vickie yn chwerthin at ei ddatguddiad, rhywbeth sy'n chwalu'r berthynas. Yn ddiweddarach yn y ffilm, down i wybod y bu i Vickie ei hun ddioddef camdrin rhywiol, ac daw'r ddau'n ôl at ei gilydd. Mae hyn yn gam pwysig yn y broses wrth i Walter ddysgu canlyniadau ei weithredoedd.

Y cam pwysicaf, fodd bynnag, yw pan mae Walter yn dod yn ffrindiau â merch 11 oed wrth gerdded yn y parc. Ar ôl ceisio tywys y ferch i rywle cyfrinachol er mwyn manteisio arni, daw i wybod bod ei thad yn ei chamdrin yn barod. Mae ei dagrau hallt yn dangos i Walter wir effaith yr hyn y bu'n ei wneud, ac o'r diwedd sylweddola'r hyn y mae'n rhaid iddo'i wneud i fod yn 'normal' unwaith eto. Ychydig wedi hynny, mae'n troi'r trais oddi fewn ei hun yn erbyn 'Candy' pedoffeil y mae wedi'i weld y tu allan i'r ysgol ger ei gartref. Mewn fflachiad yn yr olygfa hon, Walter sy'n cymryd lle 'Candy'.

Mae'r ffilm hon yn gynnil, gan adael i ni farnu drosom ni'n hunain ynghylch cymelliadau a chyflwr meddyliol Walter. Yr unig wendid, efallai, yw bod y ffilm mor fyr, ac erbyn i ni lwyr ddeall Walter, mae'r ffilm wedi gorffen. Ond nii chaiff ei bortreadu fel anghenfil y papurau tabloid, ac eto nid ydym byth yn cael delfryd o'i droseddau. Ei broblemau seicolegol ef sydd ar waith, ac ef sy'n gyfrifol am yr hyn y mae'n ei wneud.

Posted by Geraint Criddle at 02:11 yh | Comments (0)

Ebrill 15, 2005

In America (Jim Sheridan, 2002)

(IMDb)

Ffilm yn dilyn hanes Christy, merch deng mlwydd oed sydd yn symud gyda’i rhieni a’i chwaer fach o’r Iwerddon i Efrog Newydd yw ‘In America’. Mae’r teulu yn chwilio am fywyd newydd wedi marwolaeth eu mhab Frankie, ond dyw pethau ddim yn hawdd ar y dechrau – maent yn ymgartrefu mewn bloc o fflatiau mewn ardal dlawd ac mae arian yn brin wrth i’r tad fethu yn ei ymdrechion i gael gwaith fel actor.

Wedi i’r fam ddarganfod ei bod yn feichiog, mae anallu’r teulu, a’r tad yn arbennig, i anghofio’r gorffennol yn dod i’r amlwg. Ond fe ddaw gobaith o gyfeiriad anisgwyl ar ffurf yr artist Mateo, sy’n byw ar y llawr islaw. Wrth i Mateo (Djimon Hounsou) fynd ar daith bersonol o fod yn chwerw a chas i fod yn garedig a bodlon, mae’r teulu’n ei ddilyn wrth iddyn nhw ganfod gobaith am ddyfodol gwell.

Y cyfarwyddwr Jim Sheridan ysgrifennodd y sgript gyda chymorth ei ddwy ferch ac mae’r stori’n seiliedig ar brofiad eu teulu nhw’n symud i’r Unol Daleithiau. Er gwaetha hyn, dyw’r stori ddim yn argyhoeddi fel un a fyddai’n digwydd yn y byd go iawn. Un o’r prif resymau am hyn yw’r lleoliad a’r ddelwedd ramantaidd o gymdeithas glos yn ffynnu er gwaetha’r tlodi. Yn sgil hyn, gwelwn nifer o olygfeydd na fyddai allan o le mewn ffilm Disney, ond yr un sy’n mynd a’r wobr am yr un mwyaf anghredadwy yw’r un sy’n gweld y ddwy ferch yn cael eu gyrru ar eu pennau eu hunain i’r siop hufen ia er mwyn i’r rhieni gael llonydd i ‘chwarae’.

Cymeriad Mateo sy’n clymu’r ffilm at ei gilydd ond ar yr un pryd mae’n un o’i gwendidau pennaf. Mae ei droedigaeth o fod yn ddyn mawr blin i fod yn ddyn mawr clen yn digwydd yn rhy sydyn ac yn rhy hawdd.

Ond pan fo’r stori’n cael ei hadrodd o safbwynt merch fach yna mae’n bosib maddau rhywfaint o sentimentaleiddwch. Ac yn wir mae perfformiadau naturiol y ddwy ferch ifanc (dwy chwaer go iawn, Sarah ac Emma Bolger) yn achub rhywfaint ar y ffilm. Mae yma berfformiadau cryf hefyd gan y rhieni (Paddy Considine a Samantha Morton) sy’n arwain at gydymdeimlad â’u galar a’u gobaith.

Y plant yw calon y ffilm yma ac yn y bôn mae ‘In America’ fel ffilm Disney ym ymwneud â’r thema o alaru. Wrth ei hystyried hi felly, mae hi’n gweithio er gwaetha ei gwendidau.

Posted by Iolo Williams at 10:23 yb | Comments (0)

Ebrill 12, 2005

The Assassination of Richard Nixon (Niels Mueller, 2004)

Mae ffilm ddiweddaraf Sean Penn, un o’r actorion gorau sy’n gweithio yn Hollywood, yn dilyn trywydd eithaf cyfarwydd i Penn, sef stori’r cymeriad ymylol, pathetig braidd. Mae perfformiad Penn yn The Assassination of Richard Nixon, yn rhagorol, wrth iddo bortreadu Samuel Bicke, cymeriad unig, trist sy’n ceisio gweddnewid ei fywyd ef fel unigolyn sy’n cael ei sathru gan y byd modern. Yn anffodus, mae Bicke yn dewis y dulliau anghywir o fynd ati i gyflawni ei nod, drwy ddewis trais i wella ei fywyd yn hytrach na cheisio ei ewyllys ei hun.

O ddechrau’r ffilm, gwelwn Bicke fel cymeriad trist ac unig. Mae ef wrthi’n cofnodi ei ‘waith’ ar dâp er mwyn ei anfon at Leonard Bernstein, y cyfansoddwr enwog a’r gŵr a oedd yn enwog am ei gefnogaeth o’r Black Panthers (sy’n ymddangos mewn golygfa ddigrif yn y ffilm) a’i wrthwynebiad i Ryfel Fietnam. Mae ei frawd hŷn wedi troi ei gefn arno a’i wraig (Naomi Watts) wedi’i adael, gan gymryd y plant gyda hi. Mae’n casáu ei swydd yn gwerthu dodrefn swyddfa am ei fod yn ddyn caredig, sy’n gwrthod twyllo’r cwsmeriaid sy’n dod i’r siop er mwyn cael mwy o arian ganddynt. Y caredigrwydd pathetig hwn a’r teimladau cynyddol o atgasedd tuag at fyd sy’n cael ei reoli gan arian yw craidd y ffilm, a dyma sy’n llywio perfformiad Penn.

Mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth i Bicke wrth i’w gais am fenthyciad gael ei wrthod, mae ei ysgariad yn cael ei gadarnhau, ac mae ei frawd yn canfod ei fod wedi dwyn oddi wrtho. Ond eto, nid yw Bicke yn gallu cydnabod fod hyn yn ganlyniad i’w weithredoedd ef yn ogystal â’r amgylchiadau gwleidyddol ac economaidd y mae’n byw ynddynt. Mae ei obsesiwn gyda Nixon (ceir delweddau diddiwedd ohono ar wahanol setiau teledu yn ystod cyfnod Watergate) yn cynyddu fwyfwy, wrthi iddo ddod i’r casgliad mai Nixon yw’r troseddwr mwyaf ohonynt i gyd, y gŵr sy’n gwerthu’r holl wlad drwy ei gelwyddau.

Mae’r ffilm hon yn rhagorol am ei bod yn dangos pa mor hawdd y bu hi i Bicke droi fel hyn. Mae’n gymeriad chwerthinllyd o bathetig, ond mae ei syniadau’n gywir, a’i ewyllys yn gryf. Adleisia’r ffilm, wrth gwrs, ddigwyddiadau’r cyfoes, ac mae’n glyfar yn y ffordd y mae’n dysgu i ni ddatgysylltu’r syniadau oddi wrth y syniadaeth. Ffilm sy’n adlewyrchu ei hoes yn gelfydd yw hon, ond sy’n dangos i ni’r peryglon oesol o fethu â myfyrio ar ein gweithredoedd.

Posted by Geraint Criddle at 11:51 yb | Comments (2)

Ebrill 11, 2005

The Machinist (Brad Anderson, 2004)

(IMDb)

Bydd Robert De Niro yn crio’i hun i gysgu ar ôl gweld y ffilm hon. Os oeddech chi’n meddwl bod gwaith De Niro yn Raging Bull yn dda, lle rhoddodd e bwysau helaeth ymlaen i bortreadu bocsiwr yn colli’i ffordd yn llwyr, mae Christian Bale yn y ffilm Gothig hon yn anhygoel. Ar gyfer y rôl fel Trevor Reznik, gweithiwr metel sydd wedi bod yn byw drwy hunllef effro am flwyddyn, roedd rhaid i Bale golli dros bedair stôn. Mae ei berfformiad yn wefreiddiol, er gwaethaf ffaeleddau’r ffilm.

Mae ffilm Brad Anderson yn gampwaith o ran creu’r paranoia y mae Reznik yn byw ynddo. Gwelwn y gwrtharwr yn ceisio bod yn berson da a gwella’i fywyd er gwaethaf popeth, ond yn y pen draw, fe sy’n tynnu ei hun i’w ffawd yn y diwedd drwy’r syniadau tywyll a’r delweddau erchyll sy’n byw yn ei ben. Yn yr un modd â Fight Club, mae’r holl syniadau gwael hyn yn cael eu hymgorffori gan Ivan, cymeriad afiach, sinistr sy’n cael ei weld gan Reznik yn unig. Yn araf, wrth i bethau fynd o ddrwg i waeth i Reznik, caiff pob bai a phob drwg weithred eu troi tuag at Ivan.

Prif wendid y ffilm, o bosib, yw ei bod yn tynnu gormod ar ffilmiau eraill. Yn ogystal â’r gymhariaeth amlwg â Fight Club, mae adlais hefyd yn un o ffilmiau eraill Christian Bale, American Psycho, gyda’r cymeriad yn tynnu ei hun yn ddarnau drwy ddrwg weithredoedd y dychymyg oherwydd pechodau real neu ffantasi. Hefyd, ceir sawl cyfeiriad at Psycho gan Hitchcock, drwy ambell i ddyfyniad a hyd yn oed y llen gawod.

Mae’r holl hunllefau’n cael eu tynnu at ei gilydd yn dwt yn y diwedd, gyda’r datguddiad am Reznik a’i gyflwr presennol yn adleisio holl ddigwyddiadau’r ffilm yn gryno. Ond yn anffodus, mae Anderson yn llafurio’n ormodol dros hyn. Mae’r diweddglo’n un clyfar, ond gwell fyddai i Anderson ddangos hyn fel un fflach o gydnabyddiaeth i’r gwyliwr, yn hytrach na fel montage hirwyntog. Llwydda’r cyfarwyddwr i gadw’r tensiwn yn dda hyd y foment hon, felly trueni na allai fod wedi dilyn hyn yn briodol.

Posted by Geraint Criddle at 11:51 yb | Comments (0)

Ebrill 04, 2005

Der Untergang (Downfall, Oliver Hirschbiegel, 2004)

(IMDb)

O ystyried pwysigrwydd ffigwr Hitler yn hanes y byd, heb sôn am hanes yr Alman, rhyfedd yw nodi mai dyma'r ffilm Almaenig gyntaf ers hanner can mlynedd i ddelio â'r Führer, ers Der Letzte Akt ac Es geschah am 20 Juli. Mae hon yn ffilm glyfar a grymus, sy'n llwyddo i ddelio, nid yn unig â ffigwr dadleuol Hitler, ond hefyd y grymoedd oedd wrth waith yn yr Almaen yn y cyfnod a alluogodd y digwyddiadau erchyll yn y rhyfel ac yn y ffilm.

Mae'r ffilm yn agor mewn tywyllwch, gyda llais adroddwr yr hanes, Traudl Junge (Alexandra Maria Lara), yn dweud wrthym na fu hi erioed yn Natsi brwd, ac er y gallai hi fod wedi gwrthod y gwaith, ei bod hi wedi dilyn yn ffyddlon am fod hynny yn ei natur. Ei gwaith, fe ddysgwn yn yr olygfa nesaf pan welwn nifer o ferched ifanc yn mynd am gyfweliad, oedd fel ysgrifenyddes bersonol Adolf Hitler. O'r olgyfa gyntaf honno rhwng y ddau, gwelwn drwy lygaid Junge sut mae Hitler yn gallu bod yn gymeriad tyner, ystyriol. Ond er gwaethaf y tynerwch ymddangosiadol hwn, mae'r shifft sydyn o ddwy flynedd a hanner, i Ferlin ym mis Ebrill 1945, yn dangos yr ochr arall, ddieflig i gymeriad Hitler.

Mae cyfarwyddyd Hirschbiegel o'r golygfeydd yn y byncer enwog yn ardderchog. Llwydda i gyfleu tyndra, tensiwn a pharanoia y dyddiau olaf hynny wrth i'r Fyddin Goch amgylchynu Berlin yn raddol. Prif gamp y cyfarwyddyd yw'r ffaith nad ydym ni'n gweld y gelyn am amser hir. Yn raddol, mae'r ffrwydriadau'n cynyddu eu maint, y goleuadau'n pylu, a phawb yn fwyfwy nerfus wrth iddynt sylweddoli fod popeth ar ben ar gyfer Trydedd Reich yr Almaen.

Yn ganolog i hyn, wrth gwrs, mae cymeriad ffanatig a gwenwynig Hitler, sy'n cael ei actio yn wefreiddiol gan Bruno Ganz. Yn y ffilm hon, mae Hitler yn cymryd troeon fel y tad caredig a'r plentyn anniddig, yn sgrechian ac yn melltithio wrth bawb a phopeth am y brad a'r llwfrdra sydd o'i amgylch. Ond gwelwn hefyd sut y mae ei gymeriad carismataidd wedi denu'r rheiny o'i amgylch. Hyd yn oed yn y foment dywyllaf, mae pobl yn ei ddilyn, ac yn ymbilio arno i gredu mewn buddugoliaeth hyd yr eithaf wrth i Ferlin falu'n deilchion o'u hamgylch. Mae Hitler wedi creu realiti iddo'i hun, gan gredu y bydd gwahanol fyddinoedd, sydd yn amlwg bellach yn fethedig wedi blynyddoedd o frwydro, yn dod i achub y dydd. Mae hefyd yn credu y bydd y rhai gorau yn gallu goroesi'r tân a fydd yn difetha'r wlad, gan adael iddo godi eto a chreu teyrnas newydd, oruwch o'r dinistr, yn seiliedig ar gynlluniau clasurol Albert Speer (cynlluniau y mae cyffwrdd arnynt yn y ffilm ragorol Max). Ond gwallgofrwydd pur yw hyn, ac mae Hitler yn araf yn sylweddoli mai dinistr fydd a dim mwy. Mae ef yn ddigon hy yn y diwedd i awgrymu mai bai pobl yr Almaen yw eu colled, heb gydnabod mai ef a fu'n gyfrifol am eu harwain i'r methiant a'r gwymp.

Ceir ambell i foment deimladwy yn y ffilm y tu hwnt i'r dadlau, y gwallgofrwydd a'r trais, ond nid yw'r rhain byth o fod ymhell. Enghraifft berffaith, yw pan caiff cyrff Hitler ac Eva Braun eu llosgi. Mae'r dorf o'u hamgylch yn sefyll, gan edrych ar y corff yn llosgi, gan saliwtio eu harweinydd coll. Ond yna, clywir bomiau'r Rwsiaid eto, a rhaid iddynt ddianc yn ôl i'r byncer, gan adael yr angladd cyflym i barhau hebddynt. Nid oes unrhyw feirniadaeth yn perthyn i'r ffordd y mae Hirschbiegel yn portreadu'r digwyddiadau. Mae'n llwyr ddeall sut mae'r bobl hyn wedi dilyn Hitler, ond nid yw'n derbyn hyn fel trywydd dilys i'w dilyn chwaith. Mewn golygfa lle mae Junge yn teipio nodiadau gwleidyddol ar lafar gan Hitler, mae hi'n gwingo, fel y byddem ni, wrth glywed y Führer yn ymhyfrydu am iddo lanhau tir yr Almaen rhag y 'gwenwyn Iddewig a oedd yn bla'. Yr hyn a lwydda'r cyfarwyddwr i'w wneud, yn hytrach na beirniadu, yw dangos sut mae dynoliaeth yn goroesi'r profion hyn, gan adael y beirniadu i ni.

Mae hon yn ffilm ragorol a dwys, sy'n ymchwilio yn ddwfn i'r natur ddynol, a'r hyn sy'n ein cymell. Pam bod rhai'n dilyn yn ufudd, heb gredu yn yr hyn y maent yn ei ddilyn? Pam bod rhai'n fodlon marw, yn hytrach na cholli pob dim sydd ganddynt a chael y cyfle i adeiladu o'r newydd? Mae'r rhain yn gwestiynau perthnasol, oesol, sydd yn sicrhau, er gwaethaf y cyd-destun hanesyddol, mai ffilm ar gyfer yr oesau yw hon. Ar ddiwedd y ffilm, dychwelwn at y gwir Traudl Junge (ei llyfr hi, Until the Final Hour: Hitler's Last Secretary yw'r ysbrydoliaeth i'r ffilm), a'i geiriau ychydig cyn iddi farw yn 2002. Mae hi'n holi wrthi ei hun, ar ôl gweld cofeb i rywun a fu farw drwy ddwylo'r Natsiaid a gafodd ei geni yr un flwyddyn a hi ac a ddienyddiwyd y flwyddyn y dechreuodd hi weithio i Hitler - "er i mi fod yn ifanc ac nad oeddwn i'n gwybod, fe allwn i fod wedi gwybod. Dyna yw gwaith pobl ifanc, bod yn ymwybodol a dysgu am y gwir".

Posted by Geraint Criddle at 12:30 yh | Comments (0)

Ebrill 01, 2005

Constantine (Francis Lawrence, 2005)

(IMDb)

Mae'r rhestr o addasiadau llyfrau comic yn dechrau edrych yn ddi-derfyn, ond rhywsut maen't yn dal i gadw pen stêm gyda hon a sawl un arall i ddod yn ystod yr haf.

Yn yr ymdrech hon gwelwn Hollywood yn rhoi eu sbin hwy ar sdori John Constantine (Keanu Reeves) o gomic Hellblazer. Rhyw fath o dditectif noir-aidd goruwchnaturiol ydi o. Gwr sydd yn gallu camu rhwng uffern a'r byd real ac sy'n perfformio exorcismau lle bynnag bo'r angen. Cafodd y 'ddawn' yma ar ol ei hunan-laddiad, pan atgyfododd wedi dwy funud yn farw.

Ond nid siwpyr-arwr arferol anhunanol mohono, mae'n llawer mwy amwys. Mae'r holl waith hyn yn ymgais bersonol i ennill ffafr Duw a chael mynediad i'r nefoedd - ac fel y gŵydd pob person Catholig, does dim mynediad i'r nefoedd i hunan-laddwyr.

Cychwynna'r ffilm gyda gwr tlawd Mecsicanaidd yn dod o hyd i gyllell sydd â grymoedd arbennig iddi ac wrth afael ynddi caiff ei ddefnyddio fel pyped yn ymgais yr ellyllod ac erchyllbethau diafolaidd i dorri drwodd i'r byd hwn. Daw Angel Dodson (Rachel Weisz) yn rhan o hyn oll drwy geisio deall hunan-laddiad ei chwaer ond caiff ei sgubo'n bellach mewn i'r antur nac y mae hi'n disgwyl wrth i'r grymoedd tywyll ei defnyddio hi hefyd fel pyped i gyflawni eu gwaith. Wrth gwrs, dim ond un all achub y byd - John Constantine - ond cyn gallu gwneud hyn rhaid iddo wneud yr aberth mwyaf, ei hun.

Mae'r holl ffilm yn ddigon di-fai a dweud y gwir, mae Reeves yn nol yn ei elfen fel gwr di-emosiwn, penderfynnol gyda 100 kilo o cool. Dydi ddim yn stretsho ei sgiliau actio'n ormodol ac mae hynny'n gweddu! Does dim gormod o effeithiau CGI i amharu'n ormodol ar y mwynhad - ac mae'r hynny sydd yno yn reit effeithiol gyda sawl ellyll yn ceisio brwydro'u ffordd allan o gyrff pobol a chip-olygon ar y Los Angeles baralel yn uffern (efallai elfen o ffantasi gwrth-LA fan hyn? Mae geiriau John Lydon yn dod i feddwl…"Burn Hollywood Burn…").

Mae'r angel Gabriel (Tilda Swinton) hefyd yn gymeriad difyr gan ei fod yn androgyne sy'n troedio'r ffin rhwng da a drwg.

Ond, fel arall mae hi'n dilyn y fformiwla: gwyddonydd-gwallgo yn fentor sy'n darparu'r cymorth lladd ellyllon a hanes yr ocwlt, seidcic eiddgar am comic relief, arfau tebyg iawn i rheini yn Blade a Dusk Til Dawn…bla bla bla. A dweud y gwir mi wnaeth Blade hyn oll yn llawer gwell a chyda haenen arall o steil a sdori iddi. Roeddwn i'n cael y teimlad y buasai hon wedi bod yn well yn aros ar y dudalen nac ar y sgrin ac yn sicr dylian nhw fod wedi cadw Constantin fel sgowsar blond fel sydd yn y comics!

I grynhoi'r profiad, fe es i am beint yn syth wedyn, a soniwyd ru'n gair am y ffilm. Nid un fydd yn aros yn y cof am hir iawn ond debyg gwneith hi blesio ffans y genre.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 05:09 yh | Comments (0)

9 Songs (Michael Winterbottom, 2004)

(IMDb)

Roeddwn i’n gwrido braidd wrth ofyn am y tocyn i fynd i weld y ffilm. “One for 9 songs, please”. Dim ond un, ife? Roeddwn i’n gallu gweld y chwerthin yn llygaid y person tu ôl i’r ddesg. Os nad ydych chi’n ymwybodol yn barod, dyma ffilm ddiweddaraf Michael Winterbottom, y cyfarwyddwr Seisnig sy’n gyfrifol am Jude a 24 Party People ymysg eraill, y ffilm fwyaf rhywiol agored i gael ei dangos yn hanes sinema confensiynol. Felly, os ydych chi’n hoff o weld y fath bethau, dyma’r ffilm i chi, achos doedd fawr arall yn perthyn iddi.

Ar ddechrau’r ffilm dywed Matt, un hanner i’r berthynas, mai pethau arwynebol y mae rhywun yn ei gofio o berthynas, teimlad y cnawd, y gerddoriaeth oedd yn chwarae ar y pryd. Gwelwn y Matt (Kieran O’Brien) a Lisa (Margot Stilley) yn cwrdd mewn gig Black Rebel Motorcycle Club, y cyntaf o naw cyngerdd yn y ffilm, ac yna’r sefyllfa lle mae’r ddau yn cael rhyw am y tro cyntaf. Ar unwaith, mae neges ffilm Winterbottom yn eglur – mae pleser y cnawd yn parhau yn y meddwl am amser hir, ac mae gwahanol bobl yn addoli wrth allor y teimladau cnawdol hyn mewn gwahanol ffyrdd. Mae cerddoriaeth a rhyw yn estyniadau gwahanol o’r un reddf, yr un teimlad.

Trueni, felly, bod gweddill y ffilm yn adleisio’r pwynt hwn drosodd a throsodd. Mae’r deialog rhwng y ddau’n ddifflach ac ystrydebol - “Sometimes you have to trust people” - wrth i ni ddilyn perthynas rhwng dau berson sydd mewn nwyd ond ddim mewn cariad. Mae’r golygfeydd rhyw yn amlwg i fod i achosi sioc i ni ac ennyn ein diddordeb wrth i ni ymchwilio i’r pethau rhywiol sy’n gwneud i’r ddau dicio, ond roedd y rheiny’n ddiflas, a fi’n edrych ‘mlaen at y band nesaf oedd i fod ar y sgrin (ac roedd y gerddoriaeth yn wych hefyd - Super Furry Animals, Von Bondies, Primal Scream). Efallai nad yw’r sgwrs rhwng dau berson yng nghanol rhyw yn farddonol iawn, ond gellid fod wedi gwneud mwy na “Fuck me… fuck me faster”.

Dydyn ni fel cynulleidfa ddim yn dod i adnabod Matt a Lisa, a dydyn nhw ddim yn dod i adnabod ei gilydd chwaith. Mae’r ddau’n gwahanu heb emosiwn pan mae Lisa (sy’n fyfyrwraig) yn dychwelyd i’r Unol Daleithiau i barhau â’i hastudiaethau. Nid yw Winterbottom yn llwyddo, fel y mae Matt yn ei wneud drwy dorri drwy iâ Antartica, i ganfod trawstoriad o fywyd ac o deimlad y blynyddoedd maith, ond yn dangos portread di-emosiwn o fywyd pan mae’r emosiynau wedi’u tynnu ymaith.

Posted by Geraint Criddle at 12:52 yh | Comments (2)

Mawrth 30, 2005

Melinda and Melinda (Woody Allen, 2004)

Mae’n flwyddyn newydd ac felly, wrth gwrs, rhaid cael ffilm newydd gan Woody Allen. Y diweddaraf yn y gadwyn hir sy’n ymestyn nôl i’r 60au yw Melinda and Melinda, hanner comedi hanner trasiedi am un person, Melinda (Radha Mitchell), mewn dwy sefyllfa gwbl wahanol. Ac eto, yng nghwrs y ffilm, roedd rhywun yn dechrau meddwl, p’un yw’r comedi a ph’un yw’r trasiedi?

Mae’r ffilm yn dechrau mewn ffordd Allenaidd iawn, yn debyg i un o olygfeydd agoriadol clasur Allen, Manhattan, gyda grðp o bobl o amgylch bwrdd mewn bwyty, yn trafod hanfod comedi a thrasiedi. Y cwestiwn mawr ar eu gwefusau yw pa un sy’n cyfleu bywyd orau? Ar un ochr, ceir awdur ffilmiau comedi ac ar y llall, awdur dramâu trasig ar gyfer y llwyfan. Dwy ochr i gymeriad Allen drwy ddau gymeriad. O’r drafodaeth hon, cawn ddeunydd y ffilm, wrth i un arall o’r cyfeillion yn y grðp adrodd golygfa agoriadol Melinda, sydd mewn un llinyn yn cyrraedd yn annisgwyl yn nhþ ei chwaer (trasiedi) ac yn y llinyn arall ar ôl llyncu nifer o dabledi cysgu (comedi). Byddwn yn dychwelyd at y bwrdd bwyd ar wahanol adegau yn ystod y ffilm, ond yn bennaf yr hyn sy’n dilyn yw’r ddau linyn yn cael eu hactio ar y sgrin.

Yn y bôn, does yr un o’r cymeriadau yn y ffilm yn caru ei gilydd. Ar yr ochr drasig, mae priodas Laurel (Chloë Sevigny) a Lee (Jonny Lee Miller) wedi suro, sy’n arwain at garwriaethau rhyngddynt â phobl eraill ac sydd, yn y pen draw, yn arwain at y gwymp drasig olaf, pan mae Laurel yn dwyn cariad newydd Melinda, Ellis (Chiwetel Ejiofor). Yn y llall, cawn hefyd briodas sydd wedi suro, gyda’r cymeriad Allenaidd, Hobie (Will Ferrell) yn syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda Melinda yn dilyn methiant ei briodas gyda Susan (Amanda Peet). At beth ydyn ni fod i chwerthin? Mae’r cymeriadau’n rhai trist ac unig, ac mae Allen yn ceisio’i orau glas i gael jôcs allan ohonyn nhw, heb fod unrhyw gomedi’n perthyn i sefyllfaoedd y ffilm.

Efallai bod y ffilm yn gweld eisiau Allen ei hun. Y gðr sydd â’r dasg o lenwi ei sgidiau’r tro hwn yw Will Ferrell, un sydd yn ddigon doniol ynddo’i hun, ond sy’n methu ag ennyn yr un ymdeimlad a thosturi ag y bydd Allen wrth chwarae fe’i hun. Cawn ambell fflach o ysbrydoliaeth yn y sgript, gyda’r jôcs Woody Allen arferol, ond dydyn nhw ddim yn cael eu traethu yn ffordd sych, ddigymar Allen, ac felly mae’n teimlo bron fod y geiriau wedi cael eu gorfodi i eiriau’r actorion. Efallai’n wir mai dyma ffilm orau Allen ers dros ddegawd (meddai ‘nhw’, wrth gwrs), ond mae’r diweddglo amwys, pen agored yn awgrymu bod angen i Allen eistedd nôl ac ystyried un ffilm fawr a chlyfar i orffen ei yrfa, nid dau chwarter ffilm sy’n creu un hanner.

Posted by Geraint Criddle at 01:04 yh | Comments (0)

Mawrth 18, 2005

Hotel Rwanda (Terry George, 2004)

(IMDb)

"Mae un farwolaeth yn drychineb. Mae can mil yn ystadegyn." Josef Stalin

Mae'r ffilm bwerus, emosiynol hon yn dilyn hanes y gyflafan a ddigwyddodd mewn 100 niwrnod yn Rwanda ym 1994, lle cafodd bron miliwn o bobl Tusti eu dienyddio a'u llofruddio gan y mwyafrif Hutu am feiddio bodoli yn eu gwlad. Canlyniad oedd hyn i fodolaeth Rwanda fel gwlad dan reolaeth Gwlad Belg, a gwelwn yn y gwesty, Gwesty Mille Collines, weddillion y rheolaeth wladychol hon. Ond buan y sylweddola Paul Rusesabagina (Don Cheadle), rheolwr y Mille Collines, wrth i'r llofruddio fynd rhagddo, mai gwas bach i'r Gorllewin ydyw, a dim mwy.

Mae'r ffilm yn dechrau mewn ffordd gynnil, gyda llais oeraidd dros y radio, arf peryclaf yr Hutus yn eu rhyfel aflan yn erbyn y Tutsis. Ar unwaith, llwydda Terry George, y cyfarwyddwr, i osod y naws o densiwn sy'n ymdreiddio drwy'r ffilm gyfan. Rydym yn cwrdd â Paul, rheolwr y gwesty mwyaf moethus yn Kigali, gŵr sydd yn amlwg yn ymfalchïo yn eu swydd a'r manteision sydd ynghlwm â hynny. Gwelwn ef yn cyfeillachu â chynrychiolydd y Cenhedloedd Unedig (Nick Nolte), sydd yno ar gyfer y cytundeb heddwch rhwng arlywydd y wlad a'r gwrthryfelwyr Tutsi, ac ag un o arweinwyr y gyflafan waedlyd a fydd yn dilyn, y Cadfridog Augustin Bizimungo (Fana Mokoena).

Fodd bynnag, mae'r arwyddion bach o straen a gwrthdaro a welwn yma a thraw ar y dechrau'n troi yn drais ar raddfa eang, wrth i'r Hutus ymateb yn dreisgar i lofruddiaeth honedig eu harlywydd gan y gwrthryfelwyr Tutsi drwy fynd ati â hil-laddiad yn eu herbyn. Yma, rhaid i Rusesabagina benderfynu mynd yn erbyn ei hil ac amddiffyn ei deulu hanner Tutsi, hanner Hutu a llawer mwy rhag bod yn rhan o ystadegau hanes.

Mae'r ffilm hon yn gyflawniad aruthrol i'r cyfarwyddwr. Mae'n llwyddo i gadw'r trais bob amser dan orchudd, y tu hwnt i'n golwg, fel yr oedd pethau i gynulleidfaoedd y Gorllewin ar y pryd. Gwelwn rwsytredigaeth amlwg Cyrnol Oliver (Nolte) a'r dyn camera Jack (Joaquin Phoenix) sy'n gallu gweld popeth sy'n digwydd, ond sy'n gorfod sefyll yno'n ddiymadferth, heb yr awdurdod na'r grym i ymyrryd a newid y sefyllfa. Mae abswrdaeth ac erchylltra'r sefyllfa yn dod i'r wyneb yn aml, er enghraifft, pan mae cymeriad Phoenix yn gofyn i ddwy ferch eithaf tebyg yr olwg beth yw eu statws hiliol. Mae un yn Hutu a'r llall yn Tutsi, ond ni allwn ni fel Gorllewinwyr gydnabod hyn nac amgyffred yr ôl sydd wedi'i adael ar y wlad yn yr oes ôl-goloneiddio. Daw'r erchylltra i'r wyneb mewn golygfa deimladwy ac arswydus, lle mae Paul a Gregoire, y bradwr yn y gwesty yn gyrru yn syth i ganol mynwent enfawr, heb ei chladdu. Unwaith eto, mae'n anodd amgyffred y fath beth

Afraid yw dweud gormod am y ffilm, oherwydd bod gormod i drafod yn ei chylch. Rhaid mynd i'w gweld â'ch holl syniadau am y natur ddynol, am y cymhellion sy'n gwneud i rai pobl ladd ac i rai pobl achub, a theimlo a cheisio deall.

Posted by Geraint Criddle at 03:05 yh | Comments (0)

Mawrth 13, 2005

Man On fire (Tony Scott, 2004)

dynardan.jpg
(IMDb) (Gwefan Swyddogol)

Y ‘Man on Fire’ dan sylw yn ffilm Tony Scott yw John Creasy (Denzel Washington) – cyn ‘assassin’ i’r CIA sy'n cael cynnig ar fywyd newydd fel gwarchodwr Pita (Dakota Fanning), unig ferch teulu cefnog yn Ninas Mecsico.


Daw’n amlwg fod gan Creasy broblemau personol yn deillio o’i gefndir ond gydag amser mae yn llwyddo i’w goresgyn diolch yn bennaf i’w gyfeillgarwch gyda Pita. Ond pan mae’r herwgipio anochel yn digwydd, mae Creasy yn cychwyn ar daith o drais a dinistr i ddial ar bawb a phopeth.

Un o brif wendidau ‘Man on Fire’ yw’r stori. Am yr awr gyntaf, mae’r naratif yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng Creasy a Pita gan ddefnyddio ras nofio i fapio eu taith o fod yn ‘gysylltiedig oherwydd eu sefyllfa’n unig’ i fod yn ffrindiau pennaf. Yna mae’r ffilm yn newid cywair yn llwyr. Wedi’r herwgipiad, mae Creasy yn cymryd awr a hanner i fynd o ddyn drwg i ddyn drwg fel Lee Marvin yn ‘Point Blank’ - gyda phob achos yn cyflwyno dulliau newydd o arteithio ac o ladd.

Mae ail hanner y ffilm yn teimlo fel casgliad o ‘set-pieces’ ac mae’n ddigon hawdd dyfalu pwy fydd yn ei ‘chael hi’ nesa. Dyw hyd yn oed y tro yng nghynffon y stori ddim yn ddigon i achub y plot – roedd honno hefyd yn un digon hawdd i’w darogan.

Fel pe bai’n ceisio cuddio’r gwendidau yma, mae Tony Scott wedi mynd a’i steil weledol i uchelfannau newydd yn ‘Man on Fire’. O’r dechrau i’r diwedd, mae pob elfen - y ‘crash zooms’, y ‘freeze-frames’, y gerddoriaeth uchel - yn cyfuno i ymosod ar synhwyrau’r gynnulleidfa. Ar brydiau mae hyn yn effeithiol. Mae’r steil anghonfensiynol o ddefnyddio is-deitlau er enghraifft yn drawiadol iawn ac yn llwyddo i ychwanegu at y tensiwn mewn ambell i olygfa. Ond gyda’r triciau’n cynyddu mewn nifer wrth i’r ffilm ddynesu tua’i therfyn, roedd yr arddull yn dueddol o dynnu oddiwrth yr hyn oedd yn digwydd yn y stori. Falla mai dyma oedd y bwriad!

Does dim digon o gig ar gymeriad Creasy i Washington wir arddangos ei ddoniau ond mae’n berfformiad sydd yn achub rhyw fymryn ar y ffilm. Serch hynny, dyw gorchestion yr actor yn unig ddim yn ddigon i sicrhau cydymdeimlad y gynnulleidfa tuag at Creasy. Gyda natur yr hyn sydd yn ei boeni o’i orffennol yn cael ei gadw’n amwys – mae’r ffaith ei fod yn dychwelyd at ei hen ffordd dreisgar o fyw i chwilio am iachawdwriaeth yn codi’r cwestiwn: pam ei fod o mor anhapus gyda’i gefndir yn y lle cyntaf?

Er fod ymdrechion y sgript i roi llinellau cofiadwy iddo yn methu (‘Creasy’s art is death. He’s about to paint his masterpiece.’) – mae Christopher Walken yn gwneud ei orau o rôl reit ymylol fel cyfaill Creasy, ac mae’n siom na chafodd cyfreithiwr Mickey Rourke ei ddefnyddio’n fwy.

Fe gafodd ‘Man on Fire’ ei ddisgrifio fel ‘one of Tony Scott’s best pictures’ gan neb llai na Quentin Tarantino. Yn hytrach, dwi’n awgrymu eich bod yn gwylio ‘True Romance’.

Posted by Iolo Williams at 01:34 yh | Comments (3)

Mawrth 11, 2005

Rhosyn a Rhith (Stephen Bayly, 1986)

(IMDb)

rhosynarhith.jpg
(Gallwch brynu'r poster uchod fan hyn)

Ffilmiwyd hon nol yn nyddiau plentyndod S4C, pan oedd y rhagolygon ar gyfer dyfodol ffilm a theledu yng Nghymru yn, wel, roslyd iawn ac mae hynny'n adlewyrchu yn y cynhyrchiad sydd yn llawer mwy ffilmaidd na llawer o'r cynhyrchiadau diweddar i ddod o S4C.

Mae Trev (Dafydd Hywel) yn daflunwr yn sinema y REX yn y cymoedd (Theatr Y Coliseum, Trecynon), ac wedi bod ers 30 mlynedd, ond wedi i'r sinema gau gorfodir Trev i ffeindio gwaith amgen. Yn aflwyddiannus yn ei ymgeision i gael gwaith taflunio gerllaw, gorfodir ef i dderbyn gwaith fel gofalwr y sinema wag. Mae'r cwm yn drwm dan dlodi a diweithdra oherwydd diwedd diwydiant mawr, a phan ddaw ei gyn-wraig ato'n dweud ei bod yn methu talu ei morgais mae Trev yn benthyg arian gan gyn relowr y sinema er mwyn ei helpu. Ond arian a arbedodd Eli Davies (W.J.Phillips) ar gyfer ei angladd ydoedd, a chyn i Trev gael cyfle i'w dalu nôl mae Eli yn disgyn yn ddifrifol wael, gan orfodi Trev i feddwl am gynllun codi arian beiddgar sy'n dod a bywyd nol i'r hen sinema a'r gymuned, er ond am ennyd fach.

Mae'r ffilm yn cychwyn gyda montage chwerw felys o hen sinemau prydferth art-deco ar hyd a lled cymoedd De Cymru, un ai ar werth neu'n adfeilio. Mae hwn yn gosod tôn a themâu y ffilm yn gryno a buan iawn gan ddangos ar un llaw diweithdra a dirwasgedd y cyfnod a hefyd tranc y sinema leol a fu mor boblogaidd drwy'r degawdau gynt.

Mae Trev yn gymeriad hoffus, dyn syml ond dyn triw, sydd wedi gweithio'n dawel a diwyd drwy gydol ei oes yn rhoi pleser i bobol eraill drwy ei grefft fel taflunydd. Trwy ei berfformiad tawel benderfynnol Hywel yn ennyn empathi'r gwyliwr a phan mae yntau a Mona (wedi'i chwarae'n hyfryd o bositif a heulwenog gan Iola Gregory) ar y sgrin mae'n berthynas sy'n bleser i'w gwylio.

Mae hi'n ffilm fach ddigon difyr wedi'w chrefftu ym mowld y Gomedi Ealing, hynny yw ffilm gomedi ddrama weddol ysgafn gyda agweddau 'caper' wedi'u thanlinellu gyda dos o realiti cymdeithasol. Mae hi'n sicr yn ymosod ar sawl agwedd o gymdeithas y cyfnod, gan amlygu diweithdra a phroblemau teuluoedd y cymoedd oedd yn deillio o hynny, ond hefyd yn dangos gallu pobol i anghofio am eu sefyllfa a chreu hapusrwydd o beth sydd ganddynt - oll mewn ffordd sydd ymhell o fod yn nawddodglyd. Enghraifft hyfryd o hyn yw perthynas Trev gyda chymeriad Dave (Ifan Huw Dafydd) sydd wedi priodi ei gyn wraig, gan fod y ddau ddyn hyn yn mynd yn erbyn teip ac yn ceisio dod mlaen gyda'u gilydd orau posib. Does dim o'r drwgdeimlad arferol a welir yn y math yma o driongl cariad, dim ond cydymdeimlad dynol ac ymgais wirioneddol i wneud y gorau dros eu gilydd a'u plant dan amgylchaidau annodd, sydd yn ei dro yn ennyn eich cydymdeimlad chi fel gwyliwr yn llwyr.

Mae yno sawl golygfa hudolus hefyd, yn arbennig yr olygfa lle daw Mona, a oedd yn usherette yno, i'r sinema at Trev i'w helpu i lanhau cyn i'r darpar brynwyr gyrraedd. Wrth iddi hi lanhau'r llwyfan, mae Trev yn rhoi'r gan "Coming Up Roses" (o'r musical "Gypsy")ar yr uchelseinydd a fflachio'r golau sbot arni a hithau'n ymuno yn yr hwyl gan feimio a dawnsio i'r gan yr oeddent ill dau mor gyfarwydd a hi ond gan danio perthynas nad oedd yr un o'r ddau wedi rhagweld.

Mae ganddi hi ei phroblemau, mae 'na actio gwael gan sawl cymeriad (Eli a'r drymiwr) a chydig gormod o sylw i'r is-blot dwl braidd am dyfu madarch er mwyn codi pres, ond dydyn nhw ddim yn pylu'r argraff sy'n aros ar y diwedd.

Mae'r darnau sydd yn rhamantu am ddyddiau euraid y sinema a fu yn disgleirio ac mae rhywun yn dod o'r ffilm gyda'r teimlad eu bod nhw wedi gweld ffilm fach Gymreig ddigon dymunol sydd yn sicr a phinsiad bach o hud y sinema mae hi'n ei chlodfori yn ei bywiogi.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 04:36 yh | Comments (0)

Mawrth 07, 2005

Kinsey (Bill Condon, 2004)

IMDb

Yn America’r 1940au, llwyddodd Alfred Kinsey i droi rhyw o fod yn bwnc nad oedd sÔn amdano byth i fod yn bwnc academaidd drwy ei frwdfrydedd gwyddonol. Llwydda’r ffilm ddiweddaraf Bill Condon, Kinsey, drwy’r dull cynnil o ddilyn holiadur rhyw Kinsey fel cefnen i’r ffilm, i adrodd stori Kinsey mewn ffordd ddifyr a chlyfar. Yn yr un modd ag y bu Alfred Kinsey’n gyfrifol am ddatgelu cyfrinachau ac arferion yr America gudd, felly y mae Condon yn datgelu cyfrinachau bywyd Kinsey, ei gymhellion a’i angerdd.

Mae Liam Neeson yn rhagori yn rÔl Kinsey. Ef yw prif arbenigwr y byd ar y wenynen y derw, yn ymhyfrydu yn y ffaith eu bod, fel pobl, bob un yn wahanol i’w gilydd. Ar Ôl iddo briodi Mack (Laura Linney) a phrofi problemau rhywiol i ddechrau nad ydynt yn cael atebion iawn ar eu cyfer, mae’n penderfynu mynd ati gyda’r un brwdfrydedd â chyda’i waith gyda’r gwenyn I ddod o hyd I atebion y problemau rhywiol sy’n rhemp yng nghymdeithas America’r 40au.

Yn gefndir I’r brwdfrydedd newydd hwn, mae hanes hynod Biwritanaidd Kinsey a’i berthynas gymhleth gyda’i dad (John Lithgow). Mae’r holl egni y mae Albert wedi’i roi i’w astudiaethau gwyddonol, y mae ei dad wedi’i roi i Dduw a cheisio bod yn Gristion da, ond rhagrithiol. Gellir gweld tebygrwydd rhyngddynt – beth y mae Kinsey yn creu I’w hun ond rhyw fath o sect crefyddol newydd drwy ei dîm ymchwil? Ond yn y bôn, mae casineb ac anfodlonrwydd ei dad yn sbardun i Kinsey barhau â’I ymchwil a gwybod mwy am y testun.

Fel orgasm da, mae’r ffilm yn ffrwydro wrth i lyfr Kinsey, ‘Sexual Behavior in the Human Male’, gael ei gyhoeddi. Er gwaethaf clod a gaiff Kinsey, dyma ddechrau eu drafferthion. Yn araf bach, mae grymoedd ceidwadaeth yn lladd ar ei waith, gan arwain at ostyngiadau yn ei nawdd ac ymosodiadau personol arno yn y wasg a chan y cyhoedd. Mae ei dîm hefyd yn dioddef, wrth i’r rhyddfrydaeth rhywiol a fu’n rhan anatod o waith Kinsey ddechrau cael straen ar y berthynas rhwng y gwahanol aelodau. Fel y dywed Clyde Martin (Peter Sarsgaard), “Sex is a risky game, because if you're not careful, it will cut you wide open.”

Ceir ambell wendid wrth gwrs (fel y datguddiad sydyn, blasé braidd, fod Kinsey’n gaeth i gyffuriau barbiturate), ond llwydda’r ffilm i orffen â thinc o obaith ac o gariad. Cawn gadarnhâd mewn moment o dynerwch rhyngddo a menyw oedd wedi sylweddoli iddi gwympo mewn cariad â menyw arall fod ei waith wedi bod o fudd i bobl, a gwyddwn, er gwaethaf yr holl chwarae rhywiol o fewn perthynas Prok (Kinsey) a Mack, fod y cariad rhyngddynt o hyd yn gryf, rhywbeth y mae anheuaeth amdano mewn byd lle dywedir “love is the answer, isn't it? But, sex raises a lot of very interesting questions...” Mae Condon yma’n llwyddo i gyfleu heb fod yn feirniadol, ac yn talu teyrnged haeddiannol i ŵr arloesol, digyfaddawd.

Posted by Geraint Criddle at 10:08 yh | Comments (0)

Mawrth 03, 2005

The Life Aquatic with Steve Zissou (Wes Anderson, 2004)

The Life Aquatic with Steve Zissou yw’r drydedd ffilm sy’n gydweithrediad rhwng doniau actio Bill Murray a doniau cyfarwyddo Wes Anderson, yn dilyn y ffilm gomedi Rushmore a rhan fechan Murray yn The Royal Tenenbaums. Gellir dweud fod Anderson wedi gwneud cryn dipyn i ailddatblygu gyrfa Murray. Mae’r hiwmor yno o hyd yn ei waith, ond mae chwerwder a chynildeb newydd yn perthyn i’w waith, a dyw The Life Aquatic yn ddim gwahanol.

Yn y ffilm, Murray sy’n chwarae rhan Steve Zissou, cymeriad Jacques Cousteauaidd sy’n mynd ar anturiaethau ac yn eu ffilmio. Gwelwn yma yr oes ddiniwed a fu drwy gyfrwng ei ffilmiau llachar a rhyfedd, ac mae Anderson yn gwneud tipyn i amlygu hyn drwy greu creaduriaid anhygoel a lliwgar wedi’u hanimeiddio. Nod newydd Zissou a’i dîm rhyfedd o gydforwyr yw gwneud yn iawn am farwolaeth Esteban, a oedd bron yn frawd i Zissou, a gafodd ei ladd gan siarc jaguar yn ystod yr antur ddiwethaf, a thestun ei ffilm flaenorol. Mae’n achosi sioc yn y byd gwyddonol drwy gyhoeddi mai ei ffordd o ‘wneud yn iawn’ am farwolaeth Esteban fydd drwy ladd y siarc.

Mae’r hen gapten a’i ‘deulu’ (sy’n cynnwys Klaus (Willem Dafoe), ei wraig Eleanor (Anjelica Houston) a’i fab coll Ned (Owen Wilson)) yn byw mewn byd rhyfedd, hen ffasiwn, wedi’u rhewi am byth yn y byd Costeau o’r 1960au. Caiff hyn ei wrthgyferbynnu gan dîm ‘Operation Hennessey’, dan arweiniad gelyn pennaf Zissou, Alistair Hennessey (Jeff Goldblum), sy’n meddu ar y dechnoleg ddiweddaraf ac offer arloesol ar gyfer arsylwi bywyd y môr. Fodd bynnag, mae Zissou yn benderfynol o barhau â’i ymgyrch, ac yn ffodus iddo, mae’r bobl o’i amgylch yn dal i gredu ynddo, gan gynnwys Klaus, Ned a’r newyddiadurwraig Seisnig a fydd yn adrodd stori’r daith ar gyfer cylchgrawn gwyddonol, Jane Winslett-Richardson (Cate Blanchett). Er hynny, daw’n fwyfwy amlwg nad yw Zissou o reidrwydd yn credu ynddo’i hun bellach.

Caiff digwyddiadau rhyfedd y ffilm (Zissou yn dwyn offer Hennessey, morladron yn ceisio cipio’r llong) eu hadlewyrchu yn y ffordd ryfedd y mae’r ffilm yn edrych. Mae’r ffordd y mae pob dim wedi’i ddylunio, o’r ffordd ‘clapboard’ mae’r llong yn ymddangos o’n blaenau wrth i Zissou roi taith i ni o’i hamgylch i’r olygfa lle gwelwn y siarc jaguar o’r diwedd, yn amlygu hynodrwydd ac aruthr y byd hudolus y mae Zissou yn byw ynddo bob dydd. Amlygir hyn hefyd gan gymeriad Ned, lle dysgwn iddo fod yn aelod o glwb Zissou ers iddo fod yn fachgen bach. Mae’r diniweidrwydd hwn a’r awydd i ddarganfod a rhyfeddu at bethau newydd yn treiddio drwy’r ffilm gyfan.

Trueni, felly, nad yw’r ffilm ychydig yn fwy doniol. Mae ffilm Anderson yn dioddef rhyw ychydig drwy’r gwrthrychedd gwyddonol sy’n perthyn i’r ffilm. Drwy gael elfen o wrthrychedd gwyddonol, drwy droi’r ffilm ar adegau yn ffilm ddogfen am greu ffilm ddogfen, rydym yn colli rhywfaint o gynhesrwydd y cymeriadau, ac yn colli cyfle i uniaethu â nhw’n llwyr. Nid yw’r cymeriadau byth wir yn gwireddu eu bywydau eu hunain; yn hytrach, ceir y teimlad yn aml eu bod yn gymeriadau animeiddio, pypedaidd, yn rhy debyg efallai i’r pysgod hynod yn y môr oddi tanynt. Ond mân gwynion yw’r rhain. Mae The Life Aquatic yn gomedi da ynddo’i hun, yn hwylio am byth ym môr hud a lledrith plentyndod a rhyfeddod.

Posted by Geraint Criddle at 10:11 yb | Comments (2)

Chwefror 23, 2005

Mar Adentro (The Sea Inside, Alejandro Amenábar, 2004)

Mae Alejandro Amenábar wedi hudo ei gynulleidfaoedd yn y gorffennol drwy gyfrwng ffilmiau clyfar ac arloesol fel Abres los Ojos (a ail-grewyd ar gyfer cynulleidfaoedd Hollywood fel Vanilla Sky gyda Tom Cruise) a hefyd The Others, stori arswyd yn arddull Henry James gyda Nicole Kidman. Yn anffodus, nid yw ei ffilm newydd, Mar Adentro, yn cyrraedd yr uchelfannau hynny. Er gwaethaf y ffaith fod y ffilm wedi’i henwebu ar gyfer yr Oscar am y ffilm dramor orau, nid yw’r ffilm yn llwyddo i fynd i’r afael yn wirioneddol â thestun dyrys y ffilm.

Mae Mar Adentro yn seiliedig ar stori wir Ramón Sampedro, dyn â pharlys pedwar aelod a ymgyrchodd yn Sbaen am yr hawl i ddod â’i fywyd i ben. Perfformiad Javier Bardem fel Sampedro, cyn fecanydd ar long a dorrodd ei wddf mewn damwain wrth blymio i’r môr yw un o uchafbwyntiau’r ffilm. Mae ei actio yn gynnil ac yn deimladwy, sy’n fwy nag y gellir ei ddweud am weddill y ffilm, Yn sgil damwain Ramón, mae ei frawd José (Celso Bugallo) a’i deulu wedi bod yn gofalu amdano am 30 mlynedd wrth iddo barhau â’i achos cyfreithiol.

Daw cyffro a thrybini i fywyd Ramón ar ffurf dwy fenyw: y gyfreithwraig Julia (Belén Rueda) sydd â’i rhesymau ei hun dros gefnogi ei achos, a Rosa (Lola Dueñas) mam sengl sy’n rhwystredig am ei bywyd sy’n cwympo mewn cariad gyda Ramón ac sy’n ceisio ei ddarbwyllo i fwynhau bywyd. Fodd bynnag, mae rôl y ddwy fenyw yn ddryslyd, gyda’r ddwy yn dod i mewn ac allan o’i fywyd heb unrhyw fath o gydlyniad. O ganlyniad, allwn ni ddim uniaethu gyda’r berthynas rhwng y naill neu’r llall gyda Ramón – mae eu perthnasoedd yn ymddangos yn arwynebol, er eu mwyn nhw’n unig.

Yr unig dro y mae Amenábar yn llwyddo i fynd i’r afael â phynciau llosg y ffilm yw cyfarfyddiad anarferol Ramón ag offeiriad o’r eglwys Babyddol. Ceir dadlau tanllyd rhwng y ddau, gyda’r offeiriad ar y naill law yn ymbilio yn Ramón i ddeall nad ef sy’n berchen ar ei fywyd ac mai lladd ei hun y mae Ramón yn ceisio’i wneud, a Ramón ar y llaw arall yn argyhoeddedig mai ef sy’n berchen ar ei fywyd a’i fod yn ormod o fwrn iddo barhau fel y mae.

Heblaw am hynny, erbyn y diwedd, roeddwn i wedi hen ddiflasu. Mae’r ffilm yn edrych yn hyfryd, ond mae’n ceisio eich gorfodi i deimlo emosiynau, yn hytrach nag yn gadael i lif yr emosiynau ddigwydd yn naturiol. Perfformiad siomedig gan gyfarwyddwr rhagorol.

Posted by Geraint Criddle at 02:03 yh | Comments (0)

Chwefror 11, 2005

Gadael Lenin (Endaf Emlyn, 1993)

(IMDb)

gadael lenin.jpg

Wrth dyrchu yn selar y swyddfa’n ddiweddar ddes i ar draws sawl tap fideo o ffilmiau nodwedd Cymreig a wnaed o tua ‘85 ymlaen. Heno oedd tro Gadael Lenin am blast o’r fidio vault...

Mae’r ffilm yn troi o amgylch taith ysgol i St.Petersburg yn fuan wedi i’r llen haearn ddisgyn. Wrth deithio o Foscow i St.Petersburg mae’r tren yn gwahanu yn ddau gyda’r 7 plentyn (wel plant yn eu arddegau...7 arddegyn?!) yn mynd at St.Petesburg a’r athrawon yn ffeindio’u hunain ar drac arall i ganol cefn gwlad. Mae’r plant wrth gwrs yn cymryd mantais o’u rhyddid gan feddwi a gwneud fel a fynnont. Yno mae Spike (Steffan Trefor) yn cwrdd a chyd-artist o’r enw Sasha (Ivan Shvedoff) ac yn dysgu i fod yn driw i’w hun, ei gelf a’i rywioldeb.

Tra mae hyn yn digwydd gorfodir yr athrawon i aros dros yn nhy rhyw ddynes ddiarth mewn pentref (am ddim rywsut?!) ac yn bore mae Eileen (Sharon Morgan) yn sleifio ffwrdd gan ddal lifft gan ddynes o’r un anian a hi a gadael y gŵyr tu ôl i gecru. Mae’r ddau ddyn wedyn yn gorfod ffeindio’u ffordd eu hunain i’r ddinas a hynny heb fawr ddim o arian. Wrth fynd yn fwyfwy despret mae Mostyn (Wyn Bowen Harries) yndod i sylwleddoli nad oedd y ddelwedd o Rwsia yr oedd yn ei gofio‘n cyfateb a realiti a’i. Dangosir dymchweliad y ddelfryd drwy iddo gael ei orfodi i ymuno a’r bobol leol ar y stryd a gwerthu eu eiddo ar y farchnad rydd er mwyn cyrraedd nol i’w fywyd cyfforddus a'i dren adref.

Teimlo o’n i wedi ei gwylio y gallai hi wedi bod yn ffilm llawer gwell. Mae’r syniad sy’n sail i’r ffilm yn apelio atai ac fe allai weld pam y dewiswyd honno gan fod cymaint o sgôp iddi o ran straeon y cymeriadau, ond efallai dyw’r sdori ddim cweit yn plethu mewn modd digon boddhaol i allu codi’r ffilm i fod yn gyfanswm cytbwys.

Mae yno driongl cariad o fath rhwng y tri athro, a hogyn yn ceisio dygymod a’i rywioldeb ac mae’r ddwy edefyn stori hyn yn ddigon difyr ynddynt eu hunain, ond eto roedd yna deimlad fod y plot cyrraedd nol i St.Petersburg yn ceisio cystadlu gyda’r straeon personol hyn a chywasgu unrhyw le iddynt anadlu. Roedd yna lawer gormod o gyfeiriant llawdrwm tuag at gelf a thrafodaethau am gelf, gan roi'r teimlad eu bod yn annaturiol. Enghraifft o hyn oedd yn gwneud i fi wingo yn fy set oedd yr olygfa lle’r aiff Eileen a’r plant o amgylch yr amgueddfa gelf ac yna heb unrhyw rybudd mae’r plant yn troi mewn i critics celf fasa ddim allan o le ar raglen y Turner Prize! Son am drawsnewidiad!

Mae’r golygfeydd rhwng Merv (Ifan Huw Dafydd) a Mostyn (neu Lenin fel mae’r plant yn ei alw) unwaith i Eileen eu gadael (gadael Lenin...) yn wych ac yn rhoi ffenest ar beth allai’r ffilm fod. Mae’r deialog rhwng y ddau yn gwreichioni ac mae’r golygfeydd ohonyn nhw’n stryffaglu i gyrraedd y ddinas wedi eu saethu mewn ffordd araf deg gan neidio o siotiau tynn i rai a chydig o bellter am yn ail oedd yn fy atgoffa i o sawl ffilm ffordd Ewropeaidd. Piti a deud y gwir na allai sdori baralel y plant wedi gallu bod o’r un safon.

Roedd yna hefyd sawl twll plot oedd yn gwrthod esmwytho fel rinclau styfnig mewn crys. Pam na allai’r ddau athro ffonio’r gwesty yn St.Petersburg i gael cymorth? Roedd gan Mostyn grap weddol dda ar Rwsieg. A pham nad oed Eileen yn gofidio am y ddau ddyn wrth iddi jolihoetian o amgylch y ddinas yn eilun Rwsieg i’w disgyblion (mae’r rendition o gan “Eileen” Dexy's Midnght Runners ar y cwch fel rhyw eilun addoli yn ddigon i droi stumog unrhywun). Ddwedodd hi ddim byd hyd yn oed wrth eu gweld nhw eto yn yr orsaf drenau jest cyn gadael nôl am Gymru! Ewadd, ffydd fel santes ganddi myn uffar i!

Ta waeth, cyfle colledig braidd i wneud ffilm Gymraeg â theimlad wirioneddol arthouse Ewropeaidd arni. Mae na sawl rhan ohoni sydd yn cyrraedd y nod yna a braf iawn oedd gweld y rheiny ond mae’r darnau lle mae’n mynd ffwrdd ar tangent gwers-gelf yn rhy hunan-ymwybodol ac yn torri ar draws unrhyw naws a adeiladwyd.

Dolenni:

Bywgraffiad Endaf Emlyn ar wefan y BFI

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 04:35 yh | Comments (2)

Chwefror 06, 2005

Creep (Christopher Smith, 2004)

(IMDb) (Gwefan Swyddogol)

franka_creep.jpg

Os da chi ddim yn ffan o’r genre sleisiwr/slasher, waeth i chi sdopio darllen rwan, rhoi eich slipars mlaen a mynd nol at eich horlicks poeth. Os ydach chi, wel, ma na rwbath o ddiddordeb fan hyn gan ffilm sydd ddim rili wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd.

Mae Kate (Franka Potente) yn Almaenes rywiol ffasiynol blond (wrth gwrs!) sydd yn fflitio o barti i barti yn Llundain yn ceisio tynnu dynion cyfoethog. Yn un o'r partis o-mor-trendi 'ma, mae hi’n dweud wrth ei ffrindia ei bod am adael i fynd i barti arall i drio tynnu George Clooney (ie, nesh inna wneud dybl take hefyd! ta waeth 'mlaen a ni...). Wrth ddisgwyl am y tiwb ola i’r rhan yna o dre, mae hi’n disgyn i gysgu. Wedi iddi ddihuno, mae hi’n sylwi ei bod hi wedi methu'r tren ola ac wedi ei chloi yn yr orsaf tiwb, heb son am unrhyw gard yn unman. Eek! Daw tren arall i’r stesion ond arno daw twat o yuppie o’r parti ati gan geisio ei threisio, ond yn sydyn llusgir y treisiwr oddi arni ac o dan y tren gan sgrechian yn erchyll. Daw hi’n glir fod rhywbeth yn byw yn system danddaearol sydd, wrth gwrs, a'i fryd ar ladd cymaint o bobol ac sydd bosib yn y ffordd mwyaf erchyll posib ac fod rhaid i Kate ffeindio’i ffordd allan cyn iddo’i lladd hi.

Rhaid cyfadda i mi fwynhau hon, mi esh i mewn i’r sinema heb lawer o ragfarn, ac wrth i’r sdori fynd yn ei blaen (ac i mi ddod dros y ffaith fod Franka druan yn edrych bach yn sili mewn sgert fflimsi ac yn methu’n lan a cherdded mewn high heels!) mae’r tensiwn yn cael ei crancio fyny yn ddigon effeithiol. Mae’r syniad o gael eich cloi mewn yn rhywle fel yna’n ddigon dychrynllyd, heb i chi gael eich caethiwo mewn vat o siwrej a’ch erlid gan greadur sy’n weddill o ryw arbrawf ymbelydreddol mewn ysbyty cudd tanddaearol o adeg yr ail ryfel byd (neu rwbath fel'na - dydi'r ffilm dim yn esbonio rhyw lawar).

Mae’r hanner cyntaf yn rhoi digon o siociau, gan adael i’r dychymyg, cysgodion a sain lunio ffurf y bwystfil ond wrth i ni ei weld mae’n amlwg taw mwtant ydyw (trawsgyweiryn mae'r Geiriadur Mawr yn dweud!), a chwarae teg mae’r gwaith prosthetics yn dda iawn. Mae’r creadur yn lladd allan o ryw atgof pell o beth ddigwyddodd iddo fo a’r plant eraill a arbrofwyd arnynt flynyddoedd maith yn ol – ac arddangosir hyn mewn ffordd filain iawn pan mae’n strapio cardotyn o'r orsaf i fwrdd llawdrinaieth a mynd ati efo llif mawr rhydlyd. Ac os dyw hynny ddim yn ddigon mae’r ffaith fod yr holl system danddaeaerol yn llawn cachu, condoms a llygod mawr yn rhoi naws afiach i’r lle, gan droi eich stumog yn ddi baid fel peiriant golchi llawn offal.

Mae’r ymgais i wneud unrhyw sylwadau cymdeithasol ynglyn a’r hogan posh yn cael ei thaflu mewn efo’r is-ddosbarth yn ddigon ysgafn, a da hynny hefyd, sdim isio mynd dros ben llestri efo ffilm fel hyn – a dydi o ddim yn esgus bod yn ddim byd arall, felly mae popeth yn iawn.

Dyw hon ddim yn ffilm or-wreiddiol, ac wedi darllen rhywfaint yn fwy amdani mae'n edrych fel y gwnaed rhywbeth tebyg gyda'r ffilm Death Line (1972), ond mae hi’n llwyddo i darparu ei siociau ac i roi ias lawr eich cefn mewn ffordd nasti ac effeithiol iawn. Os oes gennych chi 85 munud sbar ac yn hoff o’r math yma o ffilm allwn i feddwl am ffordd waeth o dreulio’r amser.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 04:00 yh | Comments (0)

Chwefror 03, 2005

2046 (Kar Wai Wong, 2004)

IMDb

Olrhain hanes Chow (Tony Leung Chiu Wai) a wna'r ffilm hon, newyddiadurwr ac awdur yn Hong Kong yn y 60au. Mae'r ffilm yn hudol ond yn peri penbleth, yn denu ac yn drysu mewn un symudiad. Ond mae hi hefyd yn ffilm sy'n llwyddo i ddirnad y cyflwr dynol o eisiau dal gafael ar ein gorffennol, ac o alaru wrth symud ymlaen.

Mae'r ffilm yn eithaf annisgwyl o ystyried cynnyrch diweddar y Dwyrain Pell. Os ydych chi'n disgwyl Crouching Tiger, Hidden Dragon neu House of Flying Daggers (er, mae Zhang Ziyi a oedd yn y ddwy ffilm honno yn perfformio'n rhagorol fel Bai Ling), fe gewch chi'ch siomi. Yn hytrach ffilm yw hon sydd wedi'i lleoli ar 24 Rhagfyr rhwng 1965 ac 1969, yn adrodd gorffennol, presennol a dyfodol dychmygol Chow. Cymeriad weddol oeraidd yw Chow. Er gwaethaf ei loddesta gyda menywod, mae'n eu trin nhw'n wael, Bai Ling yn enwedig, ac ymddengys ei fod yn byw yn y gorffennol. Cawn gipolwg ar hyn, ei garwriaethau gyda Su Lizhen a Lulu yn y gorffennol, yn ffenest ar ryw adeg yr oedd e'n tybio'i fod yn hapus.

Yn asgwrn cefn i hyn, ac fel ffordd iddo waredu ar y teimladau sy'n ei blagio, mae Chow yn creu byd 2046, amser yn y dyfodol lle gall pobl deithio iddo lle nad yw eu hatgofion yn pylu ac mae popeth yn aros yn berffaith. Ond mae un teithiwr (sef Chow ei hun, efallai) wedi penderfynu dychwelyd. Neges ganolog y ffilm yw mai ffwlbri yw meddwl fel hyn, ac na all yr atgofion aros fel ag y maen nhw am byth, y byddant yn cael eu suro gan syniadau a digwyddiadau'r presennol. Gwelwn hyn droeon drwy berthnasau Chow gyda Jing Wen, Bai Ling a Su Lizhen. Mae'n fantra y mae Chow yn ei ddweud wrth bawb ond yn methu â chydnabod ei hun, sef y rheswm dros ei anhapusrwydd ei hun.

Mae gwerthoedd rhagorol yn perthyn i'r ffilm, gyda'r golygfeydd yn y 60au yn llawn hiraeth sepia, a'r golygfeydd dyfodolaidd yn adlewyrchu'n berffaith yr ymdeimlad o unigrwydd sy'n trwytho'r ffilm. Roedd y stori ar adegau'n dueddol o neidio'n afrosgo ar hyd y llinell gronolegol, ond weithiau roedd hynny'n gymorth i ddangos sut roedd atgofion Chow ei hun yn gallu newid a gwyrdroi'n rhywbeth cwbl wahanol i'r gwir. Llwyddir i gyfleu'r tensiwn amlwg sy'n bodoli o fewn Chow drwy glawstroffobia'r ffilm, gydag amser yn ymdoddi o fewn ei hun yn ei ystafell fach yn y gwesty, a phob dim yn digwydd o fewn yr un ennyd.

Posted by Geraint Criddle at 02:02 yh | Comments (1)

Ionawr 24, 2005

The Ramones: End of the Century (Jim Fields a Michael Gramaglia, 2003)

Ffilm ddigon diddorol, sy'n olrhain hanes y band arloesol The Ramones yw hon, gyda sylwadau gan aelodau'r band ac eraill oedd yn gysylltiedig â nhw, gan gynnwys eu teulu a'u rheolwyr. Ond, er bod yr hanes yn un digon difyr, cefais i'r teimlad bod angen bod yn ffan o'r band i werthfawrogi'r ffilm o ddifrif.

Mae'r cyd-destun hanesyddol yn un diddorol, ac ar ddechreuad y ffilm, clywn sut roedd Johnny, Joey a Dee Dee Ramone, er gwaethaf unrhyw wahaniaethau oedd rhyngddyn nhw'n bersonol, yn cymdeithasu â'i gilydd am mai nhw oedd yr unig rai yn y gymdogaeth oedd yn hoff o The Stooges. Mae'r tri ohonyn nhw yn methu â ffitio mewn am wahanol resymau, felly dymau'r ffordd nhw mâs. Ymysg diflastod hipiaidd canol y Saithdegau, mae'r tri ohonyn nhw yn taro ar gynllun i ffurfio band, band a fydd yn symud o gerddoriaeth 'self-indulgent' ELP a'u math, ac yn rhoi rhywfaint o gyffro i'r byd cerddoriaeth.

Wedi hyn, rydym ni'n dilyn y band wrth iddyn nhw ddechrau ennill ffans, mynd ar nerfau llawer mwy o bobl, colli drymiwr ond ennill cynhyrchydd, yfed gormod, cymryd gormod o gyffuriau, yr hen rigmarol roc a rol. Mae'r hanes am y ffrae a gododd rhwng Joey a Johnny yn eithaf diddorol (cwympodd Linda, cariad Joey, a Johnny mewn cariad ac maen nhw'n briod hyd heddiw), ac mae'r gwrthgyferbyniad rhwng y ddau yn eithaf trawiadol. Gwelwn Joey mewn rali yn erbyn Bush yr hynaf, tra bod Johnny, wrth i'r band gael eu derbyn yn y 'Rock 'n' Roll Hall of Fame', yn gofyn i Dduw fendithio George W. Bush.

Yn y bôn felly, roedd ambell i uchafbwynt, ac roedd hi'n dda cael clywed y gerddoriaeth. Peidiwch â mynd, fodd bynnag, os ydych chi'n disgwyl campwaith sinematig. 'Fast 'n' furious' yw'r ffilm, fel y band.

Posted by Geraint Criddle at 10:37 yb | Comments (0)

Ionawr 21, 2005

Radio On (Chris Petit, 1980)

(IMDb)

radio_on_5.jpg
Ffilm ffordd ("Road Movie"!) gan y BFi sydd wedi cael print newydd ac sydd ar daith o amglych Prydain. O ia, ac mae Sue Jones-Davies o Aberystwyth ynddi 'fyd!

Mae’r ffilm yn cychwyn gyda siot hir yn edrych rownd fflat anhysbys, ac wedi be sy’n teimlo fel oes, down ar draws gorff yn y bath. Draw yn Llundain mae Robert B (David Beames) yn DJ’io cerddoriaeth new-wave mewn ffordd ar hap i ffatri enfawr gyda gweithwyr sy’n becso dam am y cerddoriaeth sy’n dod allan o’r sbicars. Wedi iddo ddychwelyd adref mae’n agor ei bost, yn yr amlen mae tri tap Kraftwerk wedi’w arwyddo “Happy Birthday, Brother”. Yn fuan wedyn caiff Robert alwad gan ei fam yn dweud fod ei frawd wedi marw yn ei fflat yn Bryste. Mae’n mynd i’w gar ac yn anelu am Bryste i weld os oes angen sortio unrhywbeth allan. Ar y ffordd draw mae’n cwrdd a sawl cymeriad: soldiwr volatile sydd ar fin dychwelyd i Iwerddon gyda chreithiau meddyliol y ‘troubles’ yn dod i’r arwyneb a thasgu fel gwreichion, gweithiwr Garej diog sydd yn gymaint o ffan o Eddie Cochrane (ei fod yn byw ac yn gweithio ger lle y bu farw mewn damwain car (Sting, yn un o olygfeydd ysgafnach y ffilm), pync ifanc pynclyd ym Mryste, dwy hogan Almaeneg (un yn casau dynion a’r llall yn edrych am ei merch a adawodd i’w gwr pan yn ifanc) a lojar ei brawd. Wrth archwilio stafell ei frawd marw mae’n darganfod cyfrinach na ddylsai efallai fod wedi gweld ac...ac...wel dim byd rili...mae Robert yn mynd ar grwydr pellach...

Mae hon yn ffilm od sy’n hanner plesio, hanner pechu. Mae hi’n araf, araf iawn heb fawr o ddeialog a hyd yn oed llai o ymadweithiau emosiynol gan y prif gymeriad. Mae’n mynd a chi ar siwrnai “existential” gyda Robert ac yn codi syniadau gwahanol yn eich pen wrth i chi gwrdd a’r misfits amrywiol – ond heb roi unrhyw atebion. Rydych yn sylwi eu bod hwythau hefyd yn nofio yn y tywyllwch, heb syniad sut i gysylltu a’r byd o’u cwmpas. Ond yn y diwedd mae’r siwrnai yn un ddibwynt i Robert ac, yn elfennol i’r ffilm, i ni’r gynulleidfa hefyd. Nid pwynt y siwrnai yw’r “pwynt”, ond y siwrnai ei hun. Ffeindiais hyn yn boen braidd gan fod y llinyn teneuaf o naratif oedd yno, yn diflannu i ddim, gan fy ngadael i’n nofio braidd yn ddiamydferth yn y tywyllwch hefyd. Ond ella mond fi oedd yn chwilio am y switsh! Mae hi’n ffilm synfyfriol, ac mae rheiny yn gallu bod yn hyfryd o bethau, ond mae hon fel ei bod wedi bod yn synfyfyrio mor hir fod mwsog a ffwngau yn dechrua tyfu arni (ond mwsog a ffwngau prydferth iawn!).

Mae’r gerddoriaeth yn elfen hollbwysig o’r ffilm (fel yr awgryma’r teitl) ac mae’r rhan fwyaf yn dod o amgylchfyd y ffilm ei hun ac yn arbennig o’r radio ac o’r dec casetiau (oedd ma siwr yn swanc iawn yn ei ddydd). Roedd y gwaith gan Kraftwerk yn plesio’n arbennig (Radioactivity ac Ohm, Sweet Ohm) ac yn cyfateb i stad feddyliol ac emosiynol y cymeriadau – robotiadd, ar auto-pilot rywsut yn eu amcanion. Yn ogystal, mae caneuon gan David Bowie, Ian Dury a Wreckles Eric yn cyfoethogi’r ffilm ac yn asio yn berffaith a’r lluniau, ac mae’n sicr yn un i fynd i’w gweld os ydach chi’n ffan o fiwsig y “new-wave”.

Mae’r sinematograffi drwyddi draw yn wych, gyda phrint du a gwyn (newydd sbon) crisp a rhyw olwg llwm, glawiog iawn o Brydain dan orchudd tywyll gaeaf. Mi gadwodd hyn fi’n mynd drwyddi, ond rhaid cyfaddef ei bod hi’n rhy drwchus o ran dealltwriaeth i fi allu gael blas arni’n iawn. Un ar gyfer yr academyddion ffilm efallai, gan nad oeddwn i’n teimlo iddi gysylltu a fi ar unrhyw lefel heblaw yn episodaidd ac arwynebol. Lle mae’r DVD “Hellboy” na ‘dwch?


Dolenni:
Gwefan y BFi
- mae dolenni yno i adolygiadau diweddar - mae'r gwerthusiad yma gan John Patterson yn y Guardian yn un trwyadl.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:38 yb | Comments (0)

Ionawr 20, 2005

Un long dimanche de fiançailles (A Very Long Engagement, Jean-Pierre Jeunet, 2004)

Un long dimanche de fiançailles yw'r ffilm ddiweddaraf gan Jean-Pierre Jeneut, y cyfarwyddwr a oedd yn gyfrifol am Delicatessen, Alien Resurrection (wir yr), ac yn fwy diweddar, y ffilm hynod boblogaidd Le Fabuleux destin d'Amélie Poulain, neu Amélie i chi a fi. Ond mae stori'r ffilm yn llawer llai dymunol a diniwed nag yn Amélie.

Yn y ffilm hon, mae Jeneut wedi symud ymlaen gryn dipyn o fyd Amélie i rywle llawer mwy aeddfed, er bod llawer o'r themâu canolog yn parhau o'r ffilm honno. Addasiad o nofel y diweddar Sébastien Japrisot a geir yma, yn adrodd hanes merch ifanc o'r enw Mathilde, sy'n argyhoeddedig, er gwaethaf pob arwydd i'r gwrthwyneb, nad yw ei dyweddi Manech wedi marw yn 'no man's land' yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Felly, er gwaethaf yr ystrywiau bach sinematig, gwelwn hefyd ddinistr, lladd a thrais.

Stori gymhleth iawn yw hi hefyd, gyda Mathilde (Audrey Tautou) yn gorfod chwilio'n ddiddiwedd, fe ymddengys am ei chariad, a anafodd ei hun yn fwriadol er mwyn dychwelyd ati hi. Yn gosb, cafodd ef a phedwar arall a wnaeth yr un peth, eu gwthio allan i 'no man's land' rhwng yr Almaenwyr a'r Ffrancod i gael eu lladd yn y pen draw yn yr ymladd rhwng y ddwy ochr. Mae Jeneut yn gwneud y gwahaniaeth rhwng y ddau fyd, rhwng byd dymunol de Llydaw ac erchylltra’r Ffrynt Gorllewinol, yn dra amlwg. Mae e wedi ceisio gwneud y ffrynt mor realistig â phosibl, y gwaed, y bomiau, y llaid, y glaw, yr anobaith – ar un adeg yn y ffilm mae un o’r carcharorion, cyn iddo anafu ei hun, yn pasio dynion yn palu y tu ôl i’r llinell, ac yn darganfod mai eu beddi nhw fydd y rhain.

Yn araf bach, dadlennir hanes y 'Bingo Crepuscule', enw'r ffos lle cafodd y pum cymeriad eu gwthio allan, drwy safbwyntiau gwahanol bobl o’r hyn a ddigwyddodd, p’un a oeddent yno ai peidio. Oherwydd y cymhlethdod sy’n perthyn i’r ffilm, roedd hi’n anodd ar adegau i ddilyn y digwyddiadau a’r holl gymeriadau oedd yn cael eu cyflwyno iddi (mae’r nofel yn hynod boblogaidd yn Ffrainc yn ôl y sôn, ac felly nid oedd angen i Jeneut roi cymaint o gyflwyniad i’w gynulleidfa wreiddiol). Ond yr hyn sydd yn cynnal ein ffydd yn y ffilm yw ffydd ddiguro Mathilde y bydd hi’n dod o hyd i Manech yn y pen draw, hyd yn oed os yw hynny’n aml yn eithaf plentynnaidd, yn meddwl ei fod yn dal yn fyw os bydd y trên yn mynd i mewn i’r twnnel o fewn chwe eiliad.

Er gwaethaf unrhyw wendid plot, felly, mae hon yn ffilm sy’n ennyn ac yn cynnal y diddordeb drwyddi draw. Ni all neb beidio â chael eu hudo’n llwyr gan y sinematograffeg a ddefnyddir ynddi, gyda phob golygfa’n edrych fel ei bod wedi’i chreu gan Renoir ac yn bywiogi ar gynfas y ffilm. Mae tuedd iddi fod yn dameidiog mewn mannau – er enghraifft gellid fod wedi gwneud ffilm gyfan o stori Bastoche (Jérôme Kircher) ac Elodie Gordes (Jodie Foster), a rhaid yw ei gadael – ond mae Jeneut yn rhoi digon ar ein plât mewn mannau eraill i roi gwledd sy’n aros yn y cof.

Posted by Geraint Criddle at 02:10 yh | Comments (4)

Ionawr 17, 2005

Team America: World Police (Trey Parker, 2004)

Dyma ffilm ddiweddaraf Trey Parker a Matt Stone, Team America: World Police, y ddau a oedd yn gyfrifol am 'South Park', a ffilm South Park a ddaeth wedi hynny, ac mae'n amlwg o hyn nad yw eu sgiliau dychanu na'u sgiliau comedi wedi gwanhau o gwbl. Os nad ydych chi'n ymwybodol o'i bodolaeth eisoes, mae'r ffilm yn ddychan ar bawb a phopeth yn y 'War on Terror' newydd, a does neb yn osgoi hiwmor treiddgar Parker a Stone.

Dechreua'r ffilm ym Mharis (sydd, yn ôl yr isdeitl, dros 3000 o filltiroedd i'r dwyrain o America), lle mae terfysgwyr wrthi'n taro bargen i brynu arfau dinistriol. Ond yn sydyn POW! dyma Team America yn cyrraedd i atal y terfysgwyr, ac mae brwydr yn dechrau rhyngddynt a'r terfysgwyr. Yng nghanol hyn i gyd, llwydda'r tîm i ddinistrio Tðr Eiffel, yr Arc de Triomphe a'r Louvre. Wrth gwrs, wedi iddynt drechu'r terfysgwyr, mae Team America yn annerch y dorf anniddig, gan dderbyn eu diolchiadau. Yn yr un modd, maent yn llwyddo i ddinistrio'r pyramidiau a'r Sffincs, gan dderbyn eu 'diolchiadau', heb sylweddoli eu dinistr.

Ond, er bod Parker a Stone yn dychanu agwedd gung-ho America yn rhagorol (yn enwedig drwy brif gân y ffilm - "America! Fuck yeah!"), maent yn cadw dogn go helaeth o'u dychanu i Hollywood a'r protestwyr gwrthryfel amlwg, Tim Robbins, Susan Sarandon a'r criw. Yn y ffilm, cânt eu portreadu fel pypedau (ie, rwy'n sylweddoli'r eironi) i gynllwyn dieflig Kim Jong-Il, arweinydd Gogledd Corea, cynllwyn i ddinistrio gwareiddiad, i ddychwelyd pawb i'r un lefel er mwyn dechrau o'r dechrau, rhyw syniad gwyrdroëdig ar gyfer tegwch a chydraddoldeb. Drwy eu mudiad, y Film Actors' Guild (FAG, un o jôcs gwaethaf y ffilm yn fy marn i), maent yn darbwyllo'r byd i ymuno â 'Chynhadledd Heddwch' Kim Jong-Il, cynllwyn i gael holl arweinwyr y byd mewn un lle, ac yna dinistrio eu gwledydd, fel na allant ymateb yn filwrol ar unwaith. Ond, wrth gwrs, yng ngwir draddodiad Jerry Bruckheimer, mae'r bobl dda yn achub y dydd yn y diwedd, gydag araith 'piss-your-pants' o ddoniol gan Gary Johnston, yr actor a ddewiswyd gan Team America i'w helpu, yn darbwyllo'r gynulleidfa i droi'n erbyn Kim Jong-Il.

Mae rhai momentau anhygoel o ddoniol yn perthyn i'r ffilm hon, er enghraifft yr olygfa garu rhwng Gary a Lisa, 'contract ymddiriedaeth' Spottswoode a Johnston, a'r 'teclyn hunanladdiad' mae Spottswoode yn ei roi i Johnston petai'n cael ei ddal gan y terfysgwyr. Fodd bynnag, ar adegau, roedd hiwmor y ffilm yn dibynnu'n ormodol ar y ffaith mai pypedau oedd yn actio yn hytrach na phobl iawn. Roedd gweld y cymeriadau'n cerdded yn eu ffordd 'hyblyg' a gwirion yn ddoniol am yr hanner awr gyntaf, ond roedd disgwyl i'r gynulleidfa fod yn chwerthin ar yr un jôc awr a hanner i mewn i'r ffilm yn gofyn gormod. Weithiau, roedd hi'n teimlo mai ffilm Jerry Bruckheimer oedd hon, yn hytrach na dychan ar ei ffilmiau.

Disgrifiad y Guardian o'r ffilm oedd 'a right-wing Spitting Image', ac mae'n bosibl fod hynny'n agos ati. Er gwaethaf y ffaith i gymeriadau 'yr ochr draw' gael eu dangos, ble oedd pypedau George W. Bush, Donald Rumsfeld a Colin Powell? Er gwaethaf pob dychan, yr ochr gung ho sy'n ennill y dydd ac yn cael ei phortreadu fel yr ochr effeithiol, o gymharu ag agwedd bathetig Matt Damon a Susan Sarandon. Ond nid ffilm sydd yn cymryd ochr wleidyddol ar yr arwyneb yw hon, felly mae digon o hiwmor i'w gael y tu hwnt i hynny. Ac o leiaf ei bod hi'n well na 'Pearl Harbour'.

Posted by Geraint Criddle at 10:56 yb | Comments (5)

Ionawr 04, 2005

Napoleon Dynamite (Jared Hess, 2004)

Mae Napoleon Dynamite, yn ffilm gynnil a chraff, ond yn hyn o beth, dyna'i gwendid hefyd. Er ei bod yn gofyn i ni uniaethu (neu gydymdeimlo o leiaf) â'r prif gymeriad, Napoleon, ni welwn ddigon o emosiwn neu pathos efallai i ni allu gwneud hyn.

Stori graidd y ffilm yw fod Napoleon Dynamite (Jon Heder) yn gorfod dioddef. Mae'n dioddef yn yr ysgol lle mae'n cael ei fwlio a'i wawdio gan amryw bobl, ac mae'n dioddef adref, gyda'i frawd a'i wncwl Rico, sy'n edrych ar eu hôl tra fod eu mamgu yn yr ysbyty (dydyn ni byth yn clywed beth sydd wedi digwydd i'w rhieni), mewn teulu 'dysfunctional'. Ond ymddengys fod Napoleon yn ddigon bodlon heb orfod 'ffitio mewn'. Mae'n bodloni ei hun ar ei ddychymyg, sy'n llawn uncyrn a 'litigers' (cymysgedd o deigr a llew), a'r syniad ohono'i hun fel rhyfelwr ("One of the gangs wanted me to join cos of my skills with the bowstaff").

Daw tro ar fyd wrth i Pedro ymuno â'r ysgol ac iddo gwrdd â Debs, dau sy'n debyg iddo fe, yn misfits llwyr, sydd yn ddigon bodlon yn 'ffitio mewn' gyda'i gilydd. Mae'r tri ohonynt yn uno i ethol Pedro'n llywydd y myfyrwyr, yn erbyn Summer, y ferch boblogaidd, blonde ystrydebol. Yr hyn a gawn hyd y ffilm yw datblygiad graddol Napoleon, o ran ei statws cymdeithasol a'i berthynas gyda Debs, er gwaethaf ymyrraeth ei wncwl Rico. Yn y pen draw, cawn foment ddadlennol, wrth i Napoleon ddangos i'r byd yr hyn y gall ef ei wneud, ac mae'r diweddglo yn un hapus, wrth gwrs (nodyn: MTV sy'n rhannol gyfrifol am i ffilm...)

Prif wendidau'r ffilm yw'r ffaith nad yw Napoleon yn gymeriad arbennig o hoffus, ac nad ydym ni'n gweld digon o'i ochr fregus, emosiynol i ni allu uniaethu ag ef. Ni chawn unrhyw olwg ar ei gymhelliant neu ei deimladau, ac felly'r oll a welwn yw cymeriad lletchwith, di-emosiwn. Heb gyfle i fynd i'r afael â'r emosiynau cyffredin i bawb, mae'r ffilm yn teimlo fel triniaeth oeraidd o fywyd un person - y mae ei weithredoedd a'i fywyd yn ymddangos yn ddinod a dibwys i'r gwyliwr. Trueni yw bod y ffilm wedi'i gwneud ar gyfer y genhedlaeth MTV - ffilm 'just for laughs' yw hi, sy'n colli cyfle da i gyfuno'r jôcs gyda rhywbeth ehangach, oesol. Ffilm dda os ydych chi am ymgolli mewn dinodedd, ond peidiwch â disgwyl tân gwyllt.

Posted by Geraint Criddle at 10:50 yb | Comments (4)

Rhagfyr 17, 2004

Garden State (Zach Braff, 2004)

Stori yw Garden State am Andrew Largeman (Zach Braff, JD o'r gyfres deledu Scrubs), actor aflwyddiannus yn Los Angeles, yn dychwelyd adref i'w ardal enedigol yn New Jersey ar gyfer angladd ei fam. Yno, mae'n cwrdd â'i hen ffrindiau ysgol ac, yn bwysicach fyth, Sam (Natalie Portman). Mae hon yn ffilm ddoniol, graff ac emosiynol sy'n olrhain pedwar diwrnod a fydd yn newid trywydd bywyd 'Large' am byth.

Mae bywyd Large yn cael ei ddominyddu gan y gorffennol. Mae'r ffilm yn dechrau gyda galwad ffôn gan ei dad, yn dweud wrtho am farwolaeth ei fam. Yn syth wedi hynny, gwelwn gabinet yn llawn meddyginiaeth gwrth-iselder yn ei gartref perffaith, di-enaid. Beth mae Large yn ceisio'i guddio tybed? Cawn wybod yn syth wrth iddo ddychwelyd adref i wynebu ei orffennol tywyll, yn llawn damweiniau erchyll a syniadau rhyfedd am hapusrwydd. Ond, yn bwysig, mae'n penderfynu wynebu'i orffennol heb gymorth y meddyginiaeth sy'n cadw'i fywyd dan reolaeth.

Fodd bynnag, er gwaethaf y materion trwm sy'n llenwi'r ffilm, llwydda Braff i gadw cydbwysedd da rhwng yr elfennau tywyll a'r elfennau digrif, er enghraifft yn yr olygfa yn y fynwent, lle mae modryb Large yn canu fersiwn erchyll o 'Three Times a Lady' wrth i'w fam gael ei chladdu.

Wedi'r angladd, penderfyna Large aros yn yr ardal am ychydig ddyddiau, ac yn ffodus, mae'n cwrdd â Sam, cymeriad Natalie Portman. Yn wahanol i Large, mae Sam yn gymeriad bywiog, byrlymus sy'n mwynhau bywyd (er fod hyn yn cynnwys llawer o gelwyddau), gwrthwyneb diddanus, dymunol i gymeriad sych, coll Large. Yr hyn a wna Sam yw dysgu Large sut i fyw ei fywyd unwaith eto, nad yw bywyd dan reolaeth ei feddyginiaeth yn fywyd go iawn.

Mae'n anodd diffinio 'Garden State'. Mae'n ffilm sy'n gwneud i rywun deimlo'n dda am fywyd a chariad, ond nid ffilm rhamantaidd, shmaltzy yw hi. Yn yr un modd, mae'r ffilm yn dweud gormod am fywyd a'r natur ddynol i gael ei diffinio'n ffilm gomedi. Unig wendid y ffilm, o bosib, yw'r diweddglo ystrydebol, ond rydych chi'n teimlo mor dda am y ffaith fod Large wedi dod o hyd i'w hunan eto nad yw hynny yn effeithio'n ormodol ar neges ganolog y ffilm, sef fod bywyd yn werth ei fyw heb lapio'ch hun mewn gwlân cotwm. Os ydych chi'n caru bywyd, gwnewch ffafr â'ch hun, ac ewch i wylio'r ffilm hon.

Posted by Geraint Criddle at 12:42 yh | Comments (0)

Deg uchaf ffilmiau Pictiwrs

Yn dilyn trafodaeth frwd, mae aelodau Pictiwrs wedi methu â phenderfynu ar ddeg uchaf ffilmiau 2004, blwyddyn sydd, ar y cyfan, wedi bod yn un dda yn y byd ffilm, ac felly roedd rhaid cael un ar ddeg uchaf. Felly, os nad ydych chi wedi gweld un o'r ffilmiau canlynol, ewch i'w gweld nhw, da chi!

1. Eternal Sunshine of the Spotless Mind (Michel Gondry)
2. Zatoichi (Takeshi Kitano)
3. The Station Agent (Thomas McCarthy)
4. Shaun of the Dead (Edgar Wright)
5. The Motorcycle Diaries (Walter Salles)
6. The Return (Andrei Zvyagintsev)
7. Dogville (Lars von Trier)
8. American Splendor (Shari Springer Bergman a Robert Pulcini)
9. La Mala Educacion (Pedro Almodóvar)
10. Oldboy (Chan-wook Park)
11. Elephant (Gus van Sant)

Posted by Geraint Criddle at 11:25 yb | Comments (9)

Rhagfyr 13, 2004

The Incredibles (Brad Bird, 2004)

Y ffilm ddiweddaraf gan Pixar, am deulu o dra-arwyr sydd ddim yn cael defnyddio eu pwerau hynod rhag ofn iddynt gael ei cymryd i'r llys a'i siwio.

Mae Pixar wedi gwneud cymaint o ffilmiau gwych erbyn mae’n anochel y bydd y swigen yn popian ar ryw bwynt. Ond nid The Incredibles yw’r ffilm sydd am achosi hynny. Mae yna gymaint o bethau’n dda am y ffilm yma mae rhaid pigo dan y gwinedd i ddarganfod y baw.

I ddechrau, mae’r cysyniad yn wych. Drwy roi ein tra-arwyr mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw’n medru defnyddio eu pwerau, rydym ni’n dod i’w nabod nhw’n lot gwell na fasen ni petai nhw’n ateb bob cwestiwn drwy daflu car neu saethu gwifren o'u llygaid. Er bod y cymeriadau, a’u pwerau, yn ffitio mewn i ystrydebau arferol y teulu Americanaidd (tad cryf, mam hyblyg, merch swil, ac yn y blaen), maen nhw’n hoffus ymhob ffordd ac mae haen o ddynoliaeth real tu ol i'w hwynebau cartwnaidd. Er bod y cymeriadau yn eilradd i’r ffrwydradau yn ail hanner y ffilm, mae yna aeddfedrwydd i'w sefyllfa sy’n chwarae i gynulleidfa lot hynach na chynnyrch arferol Pixar.

Mae cerddoriaeth y ffilm a’i olwg yn fwy tebyg i James Bond nag yr oedd James Bond erioed.. Mae’r bensaernïaeth yn galw nôl i’r 60au, a’r gerddorfa gyda’r math o adran pres sy’n gweddu i atmosffer y ffilm i’r dim. Os na fysai hynny yn ddigon cŵl, mae Samuel L. Jackson yn y ffilm. Does dim llawer o bwrpas siarad am pa mor realistig mae'r darluniau cyfrifiadur yn edrych, am ei bod yn gweddu'n berffaith a byd y tra-arwr.

Mae neges Nietzsche y ffilm yn aflonyddu ychydig bach, gyda’r gelyn yn cael ei gosbi am geisio bod yn arwr heb iddo gael ei eni gyda’r sgiliau i fod yn un (dwi'n siwr y bysai Prince Charles yn hapus gyda hynny). Ond mae cwyno o’r fath yn darllen gormod i mewn i ffilm sydd gyda'r nod syml iawn o geisio difyrru'r gynulleidfa cyn gymaint a phosib, a dim arall. Dyma'r drydedd ffilm orau i mi ei gweld flwyddyn yma, tu ôl i Finding Neverland a'r fersiwn hir o Return of the King. Mae’n disgyn tu ôl i’r ffilmiau hynny am ei fod yn fwy syml, gyda dim o’r themâu dwfn ac emosiynnau cryf. Ond mae’n llwyth o hwyl, ac onid hynny yw pwrpas mynd i’r sinema?

Posted by Ifan Morgan Jones at 07:31 yh | Comments (0)

Bridget Jones: The Edge Of Reason (Beeban Kidron, 2004)

Mae Bridget Jones (Renée Zellweger) yn ôl, mewn dilyniant anochel i’r ffilm wreiddiol, lwyddiannus.

Doedd yr arwyddion ddim yn dda. Doedd gen i’m diddordeb mawr mewn bywydau marched sengl yn ei tri degau yn Llundain, doeddwn i heb weld y gwreiddiol, ac roedd y ffilm gyfan yn arogleuo o’r fath o grap sentimentalaidd yr ydw I fel arfer yn ceisio ei osgoi. Ond mi gefais i fy llusgo mewn i’r sinema yn erbyn fy ewyllys, gyda’r gobaith bach y bysai’r ffilm o leiaf yn ehangu fy ngorwelion rywfaint.

Gyda disgwyliadau mor isel, roedd hi’n anochel y bysai’r ffilm yn well nag oeddwn i wedi disgwyl. Ond dim o lawer chwaith. Mae hi’n reit ddiflas ar y cyfan, hanner cyntaf y ffilm yn cynnwys perthynas Bridget a Mark Dracy (Colin Firth) yn mynd drwy helbul mawr, cyn i’r ddau wahanu. Mae cymeriad Colin Firth mor sych a diflas bu bron i mi ddisgyn i gysgu, ond diolch byth wedi’r pwynt hwnnw mae’r ffilm yn mynd yn fwy diddorol. Faint bynnag dw i’n casáu'r math o ffilm mae Hugh Grant ynddyn nhw fel arfer, mae’n dipyn o hwyl fel y gelyn, ac mae’r newid lleoliad o Lundain llwyd i’r Gwlad Thai yn creu mwy o ddiddordeb.

Ond yn y drydedd act mae’r ffilm yn cymryd troead bisâr sy’n mynd yn hollol groes i ysgafnder gweddill y ffilm. Mae 'na hefyd bla o hysbysebu, gyda lot gormod o’r ffraetheb yn cylchdroi o gwmpas y ffon symudol diweddaraf neu arwyddion diodydd pop. Roedd yna un troead cyn y diwedd oedd yn glyfar iawn, ac mi wnaeth i mi werthfawrogi'r ffilm fwy nag y byswn i wedi fel arall. Ond tydi unrhyw ffilm sy’n gwastraffu Jim Broadbent yn y fath ffordd ddim yn haeddu cynulleidfa.

Posted by Ifan Morgan Jones at 06:55 yh | Comments (0)

I Heart Huckabees (David O. Rusell, 2004)

Ffilm gomedi am bopeth, a dim byd, sy’n trafod bod yn ymhongar mewn ffordd hollol ddiymhongar.

Mae’n debyg eich bod chi’n gwybod yn barod os wnewch chi hoffi’r ffilm yma ai peidio. Mae hi’n ffilm liwgar, swrrealaidd sy’n gloddesta yn ei bisârwydd a’i gyflymdra araf. Mae’n buddio lot o’i gast o gymeriadau hoffus, gan gynnwys Dustin Hoffman, Mark Whalberg a Jude Law. Mae hefyd yn siriol iawn ar adegau, mewn ffordd afresymol a fydd yn cadw gwen ar eich wyneb drwyddi draw. Mae’i ddiffygion yn cynnwys ambell i ddarlun gros sy’n cyfosod yn hollol a gweddill y ffilm, a chynllwyn syml i’r plot sy’n delio gydag un grŵp o gymeriadau ac yna un arall yn lle cydblethu storiâu’r ddau. Yn sicr mae'n ddigon i wahanu cynilleidfa; roedd dau o fy ffrindiau wrth ei bodd a dau arall yn meddwl mai hwn oedd y ffilm waethaf iddyn nhw'i gweld erioed. Bydd rhaid i chi ei risgio hi felly.

Posted by Ifan Morgan Jones at 06:28 yh | Comments (1)

Tachwedd 22, 2004

Christmas (Gregory King, 2003)

Mae'r ffilm hon, sy'n delio â theulu 'dysfunctional' yn Seland Newydd, yn drom a dwys, ond hefyd yn cynnwys elfen ysgafn, ddigrif. Roedd yn rhan o Ŵyl Sgrin Caerdydd eleni, a bues i draw i gael cip arni.

Stori oedd hon, yn y bôn, am Keri (David Hornblow), sy'n dychwelyd adref yn dilyn cyfnod o fyw dramor, er mawr syndod i'w deulu. Yng nghartref ei blentyndod, mae ei fam a'i dad, ei chwaer, Megan, ei chariad hi a'i dau blentyn, ei chwaer arall, Donna, a'i frawd Richard. Mae'r ymdeimlad o glawstroffobia yn amlwg o'r cychwyn. Ni all unrhyw un wneud unrhyw beth heb fod rhywun yn cerdded i mewn ar y sefyllfa neu'n clywed neu'n gweld beth bynnag a ddigwyddith. Er gwaetha'r ffaith fod pawb yn meddwl bod ganddyn nhw gyfrinachau lu, mae pawb yn gwybod popeth am bawb.

Canolbwynt amlwg y teulu yw Loma, y fam. Mae pob cymeriad yn troi ati hi yn eu tro, ond yn amlwg nid oes ganddi hi'r cryfder i ymdopi â phwysau ei theulu. Mae'n amlwg iddi geisio unioni ymddygiad ei phlant flynyddoedd yn ôl, ond wedi iddi fethu â gwneud hynny, fe roddodd y gorau i hynny'n llwyr. Yn raddol, mae'r ffilm yn cynyddu ei thempo wrth i amryw ddatguddiadau a chyfrinachau ddod i'r wyneb - methiant perthynas Megan a'i chariad, beichiogrwydd Donna, atgasedd Keri tuag at y sefyllfa yn y cartref.

Yr unig gymeriad, fe ymddengys, sy'n llwyddo i anwybyddu'r holl deimladau negyddol hyn yw Richard. Er mai drwy ddulliau artiffisial y gwna ef hyn (drwy gymryd llawer o gyffuriau ac yfed), mae'n dod â rhyw elfen o fywyd a llawenydd i gartref sydd fel arall yn pydru'n araf, fel y mae cyfnod 'llawen' y Nadolig yn ei brofi. Mae ei farwolaeth yn dilyn cymryd gormod o gyffuriau ar Ddiwrnod Nadolig yn tanlinellu'r diffyg gobaith ac anhapusrwydd sydd yn frith drwy'r teulu, ac yn ymddangos i dynnu cwrlid du dros eu bywydau.

Roedd hi'n ffilm ddigon diddan ar y cyfan, ond yn fy marn i, nid oedd y cyfarwyddwr yn cynnig digon i'w gynulleidfa, naill ai'n sinematig nag o ran y plot. Fe gawsom ni gipolwg ar fywydau'r cymeriadau, ond ni chafwyd digon o gefndir nac esboniad o gymhelliant y cymeriadau er mwyn inni deimlo rhyw fawr at yr un ohonynt. Yn sinematig, bu gorddefnydd o'r dull 'gritty realism', ac yn sgil hyn, collwyd diddordeb y gynulleidfa mewn ffilm undonog, gor-araf. Astudiaeth ddiddorol ym mherthynas pobl â'i gilydd oedd y ffilm ac arbrawf i weld faint o ddioddefaint emosiynol y gallwch chi ei wylio, ac nid profiad gwerth chweil i'w galw'n 'ffilm nodwedd'.

Posted by Geraint Criddle at 02:18 yh | Comments (0)

Tachwedd 18, 2004

Salvador Allende (Patricio Guzmán, 2004)

Dyma stori'r 11 Medi yr hoffai America i chi ei anghofio, stori dymchwel llywodraeth Salvador Allende yn anghyfreithlon gan junta milwrol yn Chile, gyda chefnogaeth gref gan y CIA. Mae'n ffilm ddwys, gyda neges wleidyddol gref, ond hefyd yn cofio bod yn ffilm yn hytrach na rhaglen ddogfen yn unig.

Dechreua'r ffilm gyda'r rhai a gofnododd y gwrthryfel cyfreithlon, di-drais yn Chile, yr artistiaid. Yma gwelwn ddechrau'r mudiad poblogaidd a fu'n sail i lwyddiant Allende. Roedd y bobl hyn yn peintio sloganau Allende ar furiau, gan fod y muriau hyn, medden nhw, yn gyfwerth â'r cyfryngau i'r asgell dde. Eu ffordd hwy oedd i ddefnyddio'r muriau, gan mai dyma roedd y bobl dlawd yn ei weld.

Mae'r ffilm yn grefftus yn y ffordd y mae'n adeiladu'n araf o'r pwynt hwn, gan adlewyrchu dechreuad araf Allende'i hun mewn gwleidyddiaeth, yn ymgeisio am arlywyddiaeth ei wlad sawl gwaith cyn llwyddo. Ffilm archif yw rhan fwyaf y ffilm, ac i ddechrau cawn farn y bobl ar y pryd, eu dyheadau am newid, a'r newid gwirioneddol a ddaw yn sgil ymgyrchu diddiwedd Allende ar ran y gweithwyr a'r tlodion. Dim ond ychydig yn ddiweddarach y clywn Allende, yn hytrach na'i weld, techneg ddiddorol gan Guzman, y cyfarwyddwr, ac yn gydnaws efallai â safbwyntiau Allende'i hun mai'r bobl sy'n bwysig, ac nid yr arweinydd o reidrwydd.

Rhywbeth a achosodd gryn syndod i mi oedd pa mor blwmp a phlaen y mae'r cyn-lysgennad yn siarad am y rhan a fu gan UDA yn nghwymp llywodraeth Chile. Dywed yn syml y bu i Richard Nixon fynd ati i geisio atal Allende rhag bod yn arlywydd yn y lle cyntaf, gan lofruddio prif gefnogwr Allende yn y fyddin, a chael y fyddin ar ochr America a'r junta milwrol a fyddai'n dymchwel y llywodraeth mewn ychydig flynyddoedd. Trueni, felly, na chafwyd mwy am ran UDA, ac yn enwedig am ran Henry Kissinger yn yr erchylltra, ac yn lle hynny roedd Guzman bron fel ei fod yn beio pobl Chile am beidio â sefyll ar eu traed ac amddiffyn arweinydd y bobl.

Mae cwrlid du bron yn bodoli dros Salvador Allende y dyddiau hyn yn Chile, yn sgil alltudio a llofruddio miloedd o'i gefnogwyr yn dilyn y coup d'etat gan y junta rheibus. Dim ond ychydig o weithwyr cyfoes a phobl a oedd yn adnabod Allende neu'n wleidyddol weithgar ar y pryd a siaradodd â Guzman ar gyfer y ffilm. Pan â Guzman o amgylch y gymdogaeth lle roedd cartref Allende a gafodd ei fomio a'i ysbeilio, gan ofyn pwy oedd yn cofio hyn yn digwydd, mae'r bobl yn ei anwybyddu. Dengys hyn rym y llywodraeth ormesol a chwalodd y gwaith a wnaeth Allende o ddod â'r bobl at ei gilydd a chreu mudiad ymysg y bobl. Gobeithio mai'r hyn a wna'r ffilm hon fydd codi'r cwrlid, a chodi'r awydd ymysg y bobl i weithredu eto ar ran eu hunain, ac nid ar ran y corfforaethau cyfalafol sy'n britho Chile.

Posted by Geraint Criddle at 10:59 yb | Comments (0)

Creep Killers (Adam McAlavey, 2004)

Mewn gwyl ffilm mae'n rhaid cael amrywiaeth eang o ffilmiau: ffilmiau celf, ffilmiau, doniol, ffilmiau dwys...a ffilmiau sy'n trash pur. Mae Creep Killers yn disgyn mewn i'r categori ola ac er i mi gael rhybudd gan rywun agos i'r ffilm i beidio mynd i'w gweld(!), roedd y demtasiwn i weld sut beth yw ffilm arswyd o Sheffield wedi'i gynhyrchu gan gwmni a chriw cymreig yn ormod.

Cynsail y ffilm yw fod y byd wedi cael math ar apocaplypse gyda thraean y byd wedi'i ddifa. O'r llwch mae tras newydd o human wedi esblygu drwy mutation genynaidd gan greu y creaduriaid a elwir y Creeps - zombies gwallgo gyda blas am gnawd a gwen wirion Stricnene-aidd (fel y Joker) ar eu gwep.

Ymysg hyn oll mae dau grwp o bobol sydd a'u bryd ar un peth yn unig - ffwcio, cerddoriaeth, eu edrychiad a lladd gymaint o Creeps ag sydd bosib yn y ffordd mwya gwreiddiol bosib.

Y grwp cyntaf yw'r Greasy Boys sydd yn fand roc a rol 50's throwbacks gyda'u siacedi denim cut-off, trwsusa drainpipe a gwallt Brylcreem a'r ail grwp yw'r Princesses sef fersiwn cartwnaidd o genod Grease ond gyda llawer mwy o bols a blas am waed. Mae'r ddau dîm yn cael eu gwahodd i ddifa llond bloc anferth o Creeps am lond dwrn o arian ond wrth gwrs maen't yn ceisio difa eu gilydd gyntaf.

Does dim llawer o ddatblygiad plot wedi hyn ond hei, pwy sy'n gofyn am ffasiwn beth pan ma gen ti ffilm schlock horror ar brototeip Ffilmiau Troma (ac mae yna cameo gan Lloyd Kaufman fel maer Efrog Newydd i gadw'r ffans yn hapus). Mae'r actio'n warthus, y sgript yn waeth, ond roedd o mor dros ben llestri nes ei fod wedi cyrraedd ochr draw y sinc, dianc drwy'r ffenest, rhedeg i'r ardd a bwyta'r ci.

Mi chwerthish i'r holl ffordd drwyddo fo, roedd rhai o'r ymgeision i siocio jest yn ysbrydoledig - dwi'm yn meddwl bo fi rioed wedi gweld ffilm lle mae na Zombie yn halio yn y gornel yn wyllt, dod yn ei ddwylo a bwyta ei saim serch ei hun na chwaith dau berson yn penderfynu ffwcio tra mae zombies yn eu rhwygo'n fyw. Jiniys...neu jest crap pur? Mae'n un o'r ffilmiau yna sydd yn gwneud i chi fynd un o ddwy ffordd - chwerthin llond eich trons a'i llowcio'n awchus fel sleisan o bizza seimllyd neu feddwl ei bod hi'r peth gwaetha i chi ei gweld erioed a thrafesti i fyd y sinema. Dwi yng nghamp un diolch yn fawr.

Dwi'n credu fod yr awyrgylch oedd yn y sinema wedi ychwanegu at y profiad gan fod na ddim disgwyliad iddi fod yn unrhywbeth mawr, ac roedd pawb jest wedi ymlacio ac yn barod i fynd am reid wirion. Ond rhaid dweud un peth olaf o'i ffafr, roedd y gerddoriaeth yn ffantastig, caneuon yn efelychu steil y 50'au gan y band Pink Grease (oedd hefyd yn actio rhannau'r tri Greasy Boy) gyda dylanwadau Chuck Berry, Jerry Lee Lewis ond gyda chydig mwy o wmff pyncaidd ar ei ben.

Os da chi'n un sy'n hoffi b-mwfis ac yn gallu diodda sdwff hynod sal er mwyn cael ffwc o laff amdani dros ambell can efo ffrindia, ella fod hon yn werth ei gweld, yn arbennig gan ei bod hi'n symud yn ddigon cyflym o un olygfa i'r llall i chi gael anghofio unrhywbeth gor-wael ond dwi'm yn amau tasech chi'n ei gwylio ar DVD adre ar ben eich hun y basa hi'n sdori wahanol iawn.

Dolenni:

Clip bach o MTV amdan y cynhyrchiad

Rhai o erthyglau yr anfarwol Lloyd Kaufman.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:05 yb | Comments (0)

Tachwedd 17, 2004

Kids In America (Justin Kerrigan, ?)

Wedi iddo gae llwyddiant ysgubol rhyngwladol bum mlynedd yn ôl gyda'i ffilm gyntaf Human Traffic roedd cryn ddiddordeb ym mhroject nesaf, wir hir ddisgwyliedig Justin Kerrigan, felly roedd cael y cyfle i weld darlleniad byw o’i sgript ddiweddaraf, “Kids In America”, yn un annodd iawn i ddweud na wrthi. Felly ddwedes i "ia plis mistar dyn swyddfa bocs", a mynd draw i Chapter 1 i fusnesa.

Doedd yr 11 actor a ddaeth i’r llwyfan ddim ond wedi darllen y sgript ddiwrnod neu ddwy yn flaenorol a chael dim ond diwrnod i’w ymarfer gyda’r cyfarwyddwr. Ar y cychwyn roedd hi'n annodd i wybod beth oedd tôn y darn, gan nad oes ganddoch chi unrhyw giwiau gweledol, dim ond un actor yn darllen cyflwyniadau y golygfeydd a'r lleill yn adrodd y deialog, ond buan y setlais mewn i'r sdori a dechrau mwynhau.

Mae’r ffilm ei hun yn dilyn Keiron (Chritopher Conway - oedd yn anghygoel gyda llaw), hogyn tua 13 oed sydd yn byw gyda’i Dad, Charlie (Aidan Gillen - Queer As Folk), yng Nghaerdydd. Mae tad Keiron yn ceisio gwneud ei orau glas dros ei fab, er weithia drwy ysgol hard-knocks, ond mae’n dod yn glir yn fuan iawn fod tad Keiron yn colli ei farblis gan daeru i’w fab ei fod yn gweithio i asiantaeth gudd lywodraethol. Mae Keiron yn byw ar eiriau ei Dad felly mae’n ei chael yn annodd iawn peidio credu ei straeon a'i gynlluniau am redeg ffwrdd unwaith iddo gyflawni ei waith. Mae hyn yn ei dro yn mynd a Keiron yn bellach i ffwrdd o realiti ei hun, gan fynd yn ynysig yn yr ysgol, ac o'i ffrindiau ac yn agosach i fyd gwyrdroedig ei Dad. Wrth i'w Dad ddisgyn i bydew gwallgofrwydd paranoid mae Keiron yn ceisio cadw ei fyd ei hun at ei gilydd ac mae'r ddau’n plymio’n annatod at ddiwedd poenus.

Mae'r sgript wedi ei seilio ar blentyndod Justin Kerrigan ei hun, ac mae hyn yn disgleirio yn naturioldeb y sgript. Mae manylion y cyfnod yn fanwl ac y cymeriadau yn hollol fyw, hyd yn oed jest drwy ddarlleniad fel hyn, fe gefais fy amsugno a’m amglgylchynu gan y sdori, gyda awr a hanner yn hedfan heibio heb i fi godi mhen i edrych ar y to na meddwl am liw trwsus actor #2. Mae ffraethineb yn y deilaog a'r sefyllfaoedd drwyddi draw ac mae yno optimistiaeth cyson a chariad amlwg at Keiron gan Charlie er ei stad meddyliol sydd yn rhoi llinyn arian ar y cymylau duon sy'n ffurfio dros y ddau brif gymeriad. Rhaid cyfadda y bu bron i mi fod yn fy nagrau ar y diwedd gan bwer syml y sdori chwerw-felys a chrediniaeth lwyr yn y cymeriadau llawn.

Buasai hi’n bleser cael gweld hon ar y sgrin, yn arbennig gyda dawn naturiol cyfarwyddol Kerrigan a'i lygaid am ffilm weledol gryf i ychwanegu hyd yn oed rhagor o naws a dyfnder iddi. Rhaid gofyn y cwestiwn: os taw fel hyn mae darlleniad, be fasa‘r ffilm fel efo trac sain, setiau gwych, actorion wedi ymarfer, a siotiau gofalus prydferth? Plis rhywun rhowch arian i’r talent Cymreig yma gael gwneud ei ail ffilm a rhoi llais Cymreig gwreiddiol ar y sgrin fawr sydd ddybryd angen ei glywed.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 04:49 yh | Comments (0)

Tachwedd 16, 2004

Manchurian Candidate, The (Jonathan Demme, 2004)

Ail wneuthuriad o’r fersiwn 1962, gyda Denzel Washington yn cymryd lle Frank Sinatra fel Ben Marco, sy’n ogleuo llygoden yn ystod etholiad arlywydd yr UDA.

Dw i heb weld y Manchurian Candidate wreiddiol, felly nid cymhariaeth o'r ddwy ffilm yw hon. Mae’r cyntaf yn glasur pur yn ôl y son, ond pa bynnag mor fawr yw’r cysgod sy’n cael ei daflu gan honno mater anodd fyddai cuddio gwychder llachar y ffilm wefreiddiol, soffistigedig hon.

Mae’n paentio darlun credadwy o etholiad y dyfodol agos, gyda gwleidyddwyr anonest, cwmnïau lle mae arian yn dod cyn moesau, a chyfryngau wedi ei foddi gan raffeg cyfrifiadur sydd ddim yn rhu pell o’r rwtsh mae Fox News yn ei greu heddiw. Mae cig y stori, sef gwleidyddwyr wedi ei rheoli gan sglodion meicro fel bod gan y cwmni Manchurian rywun yn y tŷ gwyn, mor anghredadwy ag unrhyw ffilm ffuglen wyddonol, ond mae’r cyswllt mae’n cael ei osod mewn iddo yn gwbwl gyfarwydd i’r gwyliwr mor fyr wedi diwedd etholiad America.

Nid oes perfformiad sâl yn y ffilm gyfan, gyda Denzel Washington yn odidog fel Ben Marco, dyn sy’n dod i ddrwgdybio bod ei brofiadau yn Rhyfel y Gwlff lle wobrwywyd y cystadleuydd i’r swydd is-arlywydd a Medal Anrhydedd. Mae Meryl Streep yn wych fel mam y is-arlywydd potensial hwnnw, yn cynllwynio a thrin eraill yn ei chenhadaeth i weld ei mab yn swydd ucha’r wlad. Ond Liev Schreiber sy’n dwyn y sioe fel y dyn sy’n cael ei reoli gan Manchurian. Mae yna rywbeth annaearol am ei berfformiad, sy’n gwneud y gorau o’i blentynwedd iasol.

Mae cynllwyn y ffilm yn wych, gan ddechrau gyda drwgdybiaeth a gorffen gydag uchafbwynt brathu ewin. Ond mae’n llacio ychydig tua’r canol, wrth i Denzel wneud lot o waith ymchwil diflas mewn i beth a ddigwyddodd yn y Gwlff. Hefyd mai o leiaf un tro yng nghynllwyn y ffilm yn hollol anghredadwy, gyda ffigwr blaenllaw mewn ras wleidyddol yn cael ei ddwylo’n fudr mewn ffordd annhebygol iawn. A pam fysai Manchurian yn ffwdanu gyda sglodion meicro; mae'r weinyddiaeth gyfoes wedi dangos nad yw swydd ucha'r wlad yn groes i ddelio'n agored a gofynion cwmniau pwerus. Ond maen werth maddau’r diffygion rhain a mwynhau un o ffilmiau cyffrous orau’r flwyddyn, Os yw’r gwreiddiol yn well, mae gen i sioe a hanner o’m blaen i.

Posted by Ifan Morgan Jones at 09:39 yh | Comments (0)

Tachwedd 15, 2004

Dr Strangelove or: How I Learned to Stop Worrying and Love the Bomb (Stanley Kubrick, 1964)

Y ffilm a fu'n binacl i'r Rhyfel Oer yw'r ffilm ddiweddaraf yng Ngwyl Ffilm Caerdydd, sef Dr Strangelove, ffilm y gellid dadlau hefyd a fu'n binacl i yrfa Peter Sellers. Mae'n glasur o baranoia milwrol, ac yn berthnasol iawn i'r hinsawdd gwleidyddol cyfoes.

Afraid yw dweud gormod am y ffilm, gan ei bod hi bellach yn ddeugain oed ac wedi'i dadansoddi, ei hadolygu a'i dehongli hyd syrffed. Ond profiad arbennig oedd cael bod yn y sinema er mwyn ei gweld ar y sgrin fawr am y tro cyntaf. Roedd perfformiadau ardderchog Sellers fel Capten Mandrake, Arlywydd Muffley a Dr Strangelove, George C. Scott fel Buck Turgidson, a Sterling Hayden fel Jack Ripper yn cael eu hamlygu'n fwy, ac yn dangos yr amseru gwych sy'n perthyn i elfennau comedi y ffilm.

Ond amlygwyd hefyd yr arswyd a'r paranoia a oedd yn perthyn i'r oes honno, wrth i'r ffrwydriadau a'r bomiau gael eu chwyddo, ac y daeth diriaeth y sefyllfa yn hollol blaen o'n blaenau. Mewn oes lle mae trais a marwolaeth yn cael ei bortreadu ar ein sgriniau bob nos ar y newyddion, roedd gweld ffilm lle mae paranoia a syniadau tywyll yn ffordd o fyw yn amheuthun. Nid trais a welwn ond bygythiad ac ofn trais, rhywbeth y mae Kubrick yn chwarae arno'n dda, a rhywbeth sy'n cadw'r cymeriadau a'r gynulleidfa dan barlys braw. Dyma un o glasuron y byd ffilm.

Posted by Geraint Criddle at 10:36 yb | Comments (3)

Tachwedd 12, 2004

Die Fetten Jahre sin vorbei (The Edukators) (Hans Weingartner, 2004)

Yn ôl y gŵr a gyflwynodd y ffilm hon yng Ngwyl Sgrin Caerdydd, gweledigaeth y cyfarwyddwr, Hans Weingartner, oedd ymchwilio i rôl pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a sut maent yn mynd ati yn yr oes fodern i weithredu'n wleidyddol. Llwyddodd i wneud hynny, a hefyd rhoi cipolwg ar y cyflwr dynol, drwy gariad a thrwy'r bwlch rhwng y cenedlaethau.

Stori yw hi, yn y bôn, am dri chyfaill, Peter (Stipe Erceg), ei gariad Jule (Julia Jentsch) a'i ffrind gorau Jan (Daniel Brühl, prif actor y ffilm ragorol, Goodbye Lenin!). Peter a Jan yw The Edukators. Maent yn gweithredu yn erbyn yr anhegwch economaidd a gwleidyddol sy'n britho'r ffilm drwy dorri mewn i dai pobl gyfoethog, aildrefnu eu celfi, a gadael negeseuon fel 'Mae gennych chi ormod o arian'.

Nid yw Jule yn ymwybodol o hyn nes i Peter fynd ar wyliau, ac mae Jan yn datgelu'r gyfrinach fawr iddi. Yna, mae'r ddau'n torri mewn i dy Hardenberg, gwr busnes llwyddiannus a pherchennog car y dinistriodd Jule yn ddamweiniol y flwyddyn cynt, ac felly'n gorfod talu am y car gwerth 100,000 ewro. Dyma ddechrau dadrith y sefyllfa. Mae Jan a Jule yn closio at ei gilydd, gan beryglu'r berthynas driongl, ac aiff pethau o ddrwg i waeth pan mae Jule yn sylweddoli ei bod wedi gadael ei ffôn yn nhŷ Hardenberg. Mae'r ddau ohonynt yn mynd yn ôl, ond yn cael eu dal gan Hardenberg, ac yn gorfod galw am gymorth Peter, sydd bellach wedi dychwelyd o'i wyliau.

Yna, maent yn ei gludo i gaban pren ewyrth Jule mewn llecyn trawiadol yn y mynyddoedd. Dyma lle mae materion yn cymhlethu. Rydym yn dysgu bod Hardenberg wedi byw mewn comiwn yn y gorffennol, a'i fod yn cytuno â delfrydau a safbwyntiau'r tri, er ei fod ef wedi troi i ffwrdd o'i egwyddorion ers tro. Ond deallwn yn raddol hefyd fod cymhellion gwleidyddol y tri yn perthyn i bethau heblaw gwleidyddiaeth - maent wedi herwgipio Hardenberg, nid er mwyn diben gwleidyddol yn unig, ond hefyd er mwyn eu hachub eu hunain. Mae pethau bron yn mynd ar chwâl rhwng y tri pan mae Jan a Jule yn syrthio mewn cariad yn llwyr, ond gwelwn rym ieuenctid yn dod drwodd, wrth i'r tri chyfaill gymodi a dygymod â'r peth. Mae hyn mewn cyferbyniaeth lwyr â Hardenberg, sy'n edrych yn ôl ar ei wreiddiau a'i egwyddorion, ond yn parhau ymlaen â'i fywyd gwag, masnachol. Mae'r tro yng nghynffon y ffilm yn glyfar ac yn ddoniol.

Rhagorol yw'r gair gorau i ddisgrifio'r ffilm hon. Mae'r sgript (wel, y cyfieithiad) yn llawn bywyd, mae'r ffilm yn edrych yn ffantastig, mae'r actio yn cyfareddu, ac mae digon o droeon yn perthyn i'r stori i hoelio'r sylw, i ddiddanu, ac yn y pen draw i adael gwen ar eich wyneb yn y ffilm.

Posted by Geraint Criddle at 03:55 yh | Comments (0)

Fimfárum Jana Wericha (2002)

IMDb

Ffilm wedi ei hanimeiddio o’r Weriniaeth Czech a gymerodd 17 mlynedd i’w chreu – ond roedd hi werth pob eiliad!

Casgliad o bump ‘chwedl’ lled-foesol sy’n neidio o dudalennau llawysgrif dychmygol ‘Fimfarum’. ‘When the Leaves fall from the Oak’ yw’r cyntaf; stori am ffermwr, Cupera, sy’n gor-yfed tan mai ond un gobaith sy’ ganddo – gwneud bargen â’r diafol i gyfnewid ‘y peth sy ganddo adre, na wŷr amdano’ am gnydau gwell. Ac wedi taro’r fargen, beth sy’n disgwyl Cupera adre ond babi bach newydd ei eni. Fedr ein arwr gafflo’r diafol, tybed? Stori ddifyr am ffolineb yr yfwr sy’n dilyn, gyda anterliwt am gosbi pechod yn uffern yn dod â lliw a llwyth o hiwmor dywyll i’r cyfan.

Dameg ddidwyll ar yr olwg cyntaf, efallai? Ond mae ‘na stremp ddireidus go drwchus i’r stori agoriadol sy’n ymhelaethu drwy’r casgliad cyfan. Nid gwers foesol mo hon; y sylfaen amlycaf i’w osod yma yw honno o estyn coes ar draws llwybr patrymau taclus straeon hud a lledrith ein plentyndod er mwyn eu baglu yn y fan a’r lle – a pleser yw gwylio’r straeon dilynol yn brasgamu’n eofn i’r un cyfeiriad.

Mae stamp dychymyg byw i’w weld ar bob bachell o’r ffilm – â sgript llawn cymeriad a cherddoriaeth gwych yn ychwanegu at yr animeiddio godidog. Yn y pendraw, mae'r straeon fel bywyd, weithiau mae'r diwedd yn un hapus, weithiau ddim; does 'na ddim neges universal - 'mond rhyw ddwy awr difyr o fwynhad pur.

Posted by Mair Thomas at 11:26 yb | Comments (0)

Tachwedd 11, 2004

A Way Of Life (Amma Asante, 2004)

(IMDb)

Hwre! Mae'r wyl wedi cychwyn, ac wedi cychwyn yn o lwyddiannus. Dwi am drio sgwennu adolygiad o bob ffilm welai, ond fyddai'n cadw nhw'n fyr (a melys gobeithio!) ac yn ychwanegu tameidia bach dyddiadurol yn eu mysg.

Wedi llawer wythnos o drefnu mae hi ar ein gwarthau, ac mi oedd hi'n noson agoriadol dda. Dechreuodd y noson yn dda gyda "Sister", ffilm fer gan Daniel Mulloy, sy'n hannu o Gaerfyrddin. Roedd hi'n hynod sinematig ac yn dal tirwedd Llandeilo yn wych. Roedd rhai yn credu ei bod chydig yn obtuse, ond roedd y ffilm yn un syml, dim ond dangos perthynas rhwng brawd (Tsieniaidd mabwysiedig) a'i chwaer a bwlio ar fys ysgol gwledig. Roedd na ddelweddau cryf, ac fe wnaeth yn dda i wneud ffilm sinematig o le caeedig iawn (dec uchaf y bws).

Ond at y brif ffilm, ro'n i wedi bod yn edrych ymlaen i'w gweld ers tipyn go lew, a ches i mo'n siomi, ond ches i mo'n wawio chwaith. Mae hi'n ffilm galed a digyfaddawd gyda llawer darn sy'n peri rhywun i wingo. Efallai fod gormod o hyn yn y ffilm a deud y gwir, oherwydd mae'n annodd cael unrhyw fath o empathi gyda'r cymeriadau, sydd yn y diwedd yn eich gadael yn oer.

Y prif beth wnaeth fy nharo oedd perfformiadau'r actorion newydd ifanc yma. Roedden nhw oll yn wych, ac i feddwl eu bod ddim ond wedi gwneud ambell ddarn teledu, roedden nhw'n eich darbwyllo chi'n llwyr. Mae'n amlwg fod Amma Asante, fel y cyfaddefodd ei hun ar y diwedd yn y sesiwn cwestiwn ag ateb, yn gyfarwyddwr actorion ac yn hynny o beth mae'r ffilm yn llwyddo.

Fodd bynnag, ar sawl achlysur mae yno ddarnau sylweddol sydd ddim yn taro deg. Mae na olygfeydd lle mae'r pedwar ffrind yn dechrau canu "Bread of Heaven" i'r babi ac un arall lle maen't yn byrstio mewn i gan Stereophonics yn y car. Cymon, chwarae fyny i stereoteip sydd ddim yn bodoli, a beth bynnag, fasan nhw ddim yn fwy tebygol o fod yn gwrando ar hard house neu happy hardcore? Mae 'na hefyd olygfa yn y llyfrgell sydd yn lawdrwm iawn yn arwyddo at y themau wrth i'r hogia gerdded heibio adran "Black Culture" tra'n chwilio am y dyn Twrcaidd mae Leigh-Anne yn credu sydd wedi ei riportio i'r gwasanaethau cymdeithasol. Problem arall, o berspectif rhywun sy'n byw yn Ne Cymru, ydi fod y ffilm wedi'w ffilmio yng Nghaerdydd, Port Talbot, Abertawe a Phontypridd pan mae hi fod mewn un lle (tref ddychmygol Brynteg). Mae'n tynnu rhywun allan o'r ffilm yn llwyr. Iawn, mae hi fod yn universal ond pan mae hi amdan bobol De Cymru mae hyn yn annodd ei dderbyn.

Ond, am ffilm gyntaf, mae hi'n llwyddo ac i fi mae perfformiadau'r cast yn ei achub (jest) o'r sawl problem arall sydd ganddi.

(A chware teg mi wnaeth Gary Slaymaker wneud joban dda o gyfweld y cyfarwyddwr a'r cast wedyn, gan roi dos bach o hiwmor yr oedden ni oll ei wir angen.)

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:42 yh | Comments (0)

Tachwedd 04, 2004

Finding Neverland (Marc Forster, 2004)

Ffilm yn seiliedig ar fywyd J.M. Barrie yn ystod y cyfnod pan ysgrifennodd y clasur i blant, ‘Peter Pan’.

Mae dechrau’r ffilm yn ein gollwng ni mewn i fyd Barrie wrth i’w yrfa fel ysgrifennydd dramâu droi ar i lawr. Wrth chwilio am ysbrydoliaeth, mae’n cyfarfod y teulu Llywelyn-Davies, a drwy ei helyntion a nhw mae’n darganfod syniadau i fedru creu ei gampwaith. Fel y llyfr Peter Pan, mae hwn yn ffilm am dyfu i fyny, ond yn wahanol i’r llyfr hwnnw mae’r ffilm yma’n dangos fod parodrwydd i aeddfedu, a'r gallu i roi'r byd dychmygol o’r neilltu pam fod angen, yn beth da.

Mae’r ffilm yn cynhesu’r galon yn yr un ffordd a Spirited Away, ond ffilm Peter Jackson Heavenly Creatures sydd fwyaf tebyg o ran steil. Mae rhyfeddodau'r Neverland ffug yn cael ei gollwng mewn i naratif y byd go-iawn fel glaw ar afon. Mae Johnny Depp yn berffaith fel Barrie, ac yn gwneud job lot gwell o acen Brydeinig na fedrodd o’n From Hell. Mae’n medru trin difrifoldeb y byd go-iawn tra hefyd yn gadael i’w dalent am gymeriadau rhyfeddol i gymryd drosodd yn ystod y golygfeydd dychmygol. Fel arall, gall un gwyno nad oes digon o gemeg rhyngddo a Sylvia Llewelyn Davies, cymeriad Kate Winslet, ond mae’n ffitio’r naratif i Sylvia ddangos ychydig o oerni tuag at Barrie mor gynnar wedi colli ei gwr. Mae Freddie Highmore hefyd yn dda iawn fel Peter Llewelyn Davies, gan fy ngadael i’n hysgwyd fy mhen wedi gweld dwy ffilm yn olynol lle nad oeddwn i eisiau crogi’r actorion plant.

Anodd yw pigo beiau yn y ffilm, ond mae ambell un i’w cael. Mae’r golygfeydd rhwng Barrie a’i wraig yn llusgo ychydig bach, ac mi fysai’n neis petai'r actorion yn medru ynganu ‘Llywelyn’ yn gywir. Hefyd mae’r ffilm ychydig yn rhu neis, yn ormod o hwyl, ac felly’n pastio dros rhai o’r holltau yn Barrie ei hun. Ond fel arall galla i ddim cwyno. Mae’r ffilm yn wneud i chi deimlo am y cymeriadau heb fod yn syrypaidd a theimladwy, a bu bron iddo fedru gwasgu deigryn o’m llygadai gwrol i ar adegau mwya’ cywilydd. Un o’r ffilmiau gorau i mi ei weld erioed.

Posted by Ifan Morgan Jones at 06:40 yh | Comments (0)

Tachwedd 02, 2004

World Stopped Watching, The (Peter Raymont, 2003)

(IMDb)

Tra fyny'n Aber dros y penwythnos gefais i gyfle i weld ffilm mewn festri capel, nid y math o lle y bydda i'n mynychu'n aml iawn rhaid cyfadde, ond tro ma roedd dangosiad yno wedi'i threfnu gan Ymgyrch Gefnogi Nicaragua Cymru a boi clen iawn o'r enw Ben, felly doedd dim i'w wneud ond camu dros y trothwy. Ffilm ddogfen oedd hi am ddau newyddiadurwr o'r UDA yn dychwelyd i Nicaragua wedi iddynt fod yno yn adrodd ar chwyldro'r Sandinistiaid yn yr wythdegau cynnar a'u rhyfel canlynol gyda'r Contras, y fyddin a ariannwyd bron yn gyfangwbl gan yr UDA.

Rhaid cyfaddef nad oeddwn i'n ymwybodol iawn o beth oedd wedi mynd mlaen yn Nicaragua, heblaw ei bod wedi cael ei dinistrio gan ryfel mewnol, a bod llawer o hyn wedi bod yn bosib drwy arian a hyfforddiant angeuol yr Unol Daleithiau yn eu ymgais i ymladd rhyfeloedd drwy hyd braich - yn rhy ofnus i fynd mewn wedi eu hunllef PR ynh Fietnam - ond yn ceisio, a llwyddo, i reoli canolbarth America drwy ariannu lladd a gweithredu polisi divide and rule sylfaenol.

Mae'r ffilm ei hun yn dilyn dau newyddiadurwr: ffotograffydd Newsweek - Bill Gentile, ei bartner a newyddiadurwr Randolph "Ry" Ryan (fu ffarw cyn i;r ffilm hon gael ei rhyddhau). Creodd y tim hyn ffilm ddogfen ar Nicaragua a'r rhyfel yn erbyn y Contras yn 1988 o'r enw "The World Is Watching" ac mae'r ffilm yn ymgais i ddarganfod yr un bobl a ffilmwyd bryd hynny a gweld sut mae pethau wedi newuid iddyn nhw.

Mae rhai o'r themau braidd yn amlwg, fod newyddiaduraeth ryngwladol yn fickle ac yn symud o un stori fawr i'r llall gan adael y straeon bach, personol ar ol pan adawant. Mae hyn wedi digwydd ers cyn cof, mae'r awch am newyddion newydd yn gryf ac mae'r golygyddion yn symud am reswm; ond mae hyn yn codi pwynt dilys - oes rhywun o gwbl erbyn hyn yn dilyn straeon left-field, personol? Beth yw sefyllfa newyddiaduraeth ymchwiliol yn y byd heddiw? Oes ffasiwn beth rhagor? Wel, oes, ond mae fwyfwy ar gyfer y sinema neu mewn ffilmiau dogfen hyd ffilm nodwedd fel hyn ar gyfer sianelau arbennigol yn hytrach nac ar y prif newyddion.

Roedd y ffilm ychydig yn gung-ho yn ei driniaeth o'r helfa am y bobl hyn, yn arbennig gan Bill Gentile, oedd yn dod drosodd chydig yn or-chwilfrydol gyda phob emosiwn wedi ei chwyddo ddengwaith, ble roedd angen chydig mwy o tact a difrifoldeb. Ond, be gefais i fwya allan o'r ffilm oedd hanes y sefyllfa, o ddechrau y chwyldro i'w diwedd a phresennol Nicaragua, yn wlad wedi ei rheoli'n llwyr gan arian Americanaidd. Roedd hi'n agoriad llygad ac yn codi awydd ymchwilio'n ddyfnach i'w hanes a hanes y gwledydd eraill truenus angof hynny yng nghanolbarth America: El Salvador a Honduras. Roedd yno hefyd glip fideo o newyddiadurwr yn cael ei lofruddio gan filwyr llywodraeth dotalitaridd dynasty y Somozas, oedd yn dangos creulondeb di-synnwyr y regime honno. Mae'n biti nad oes na ddim cweit digon o ddadansoddiad o'r llywodraeth dan Ortega a pham fod cymaint wedi ymuno a'r Contras i ymladd yn erbyn eu cyd-ddyn sy'n gadael y ffilm yn un-ochrog braidd gan ei fod yn awgrymu nad oes casineb mawr o gwbl rhwng y ddwy ochr oedd gynt yn elynion mor chwyrn.

Felly ffilm ddogfen ddiffygiol mewn llawer man ond sy'n taflu goleuni ar hanes diweddar na ddylai gael ei anghofio a llwyddiant gwlad fach i ddal yr UDA nol er ei ffaeleddau mewnol ei hun.

Dolenni:

Gwefan swyddogol y ffilm yn cynnwys adroddiad cynhyrchu trylwyr

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:07 yh | Comments (0)

Hydref 26, 2004

Rebecca (Alfred Hitchcock, 1940) / Sunset Blvd (Billy Wilder, 1950)

(IMDb - Rebecca / Sunset Blvd)

rebecca.jpgsunsetblvd.jpg

Penwythnos gwlyb, dim arian, be well na swatio o flaen ambell i glasur Hollywood du a gwyn i basio'r amser. Ro'n i wedi meddwl adolygu jest un o'r rhain ond mae cymaint o elfennau tebyg roedd hi'n annodd peidio gwneud cymhariaeth.

Mae'r ffilm "Rebecca" yn dilyn carwriaeth gorwynt rhwng dynes ddi-enw (ie – drwy’r holl ffilm), cynorthwy-ydd nerfus ond del i ddynes grachaidd ar y Cote D’Azur, a Max de Winter - bonheddwr cyfoethog o Gernyw. Yn dilyn priodas gyflym symudant nol i blasty anferth Manderley yng Nghernyw, ond mae bywyd uchelwraig yn profi'n unig ac annodd iawn iddi gyda ysbryd Rebecca, cyn-wraig lewyrchus de Winter fu foddi mewn damwain hwylio yn y môr ger y tŷ, i'w weld yn hongian drosdi yn orthrymus.

Mae Sunset Boulevard, un o ffilmiau mwyaf nodedig y genre noir, ar y llaw arall hefyd yn delio a pherthynas an-hafal sy'n digwydd ar hap. Mae Joe Gillis yn sgriptiwr ffilm, ac yn stryglo. Wrth ddianc rhag ei gredydwyr mae'n troi mewn i ddreif tŷ crand ar Sunset Boulevard, ac yn cyfarfod a’i femme fatale - Norma Desmond - cyn-seren y sgrîn arian o adeg y ffilmiau mud. Mae hi'n amlwg yn hanner-pan ond mae Desmond yn cael cynnig golygu ei sgript ddi-werth iddi a buan mae'n byw yn ei thŷ oddi ar ei arian, fel gigolo. Mae pethau'n dechrau suro o ddifri wrth i Gillis gesisio cadw gafael ar ei ryddid ei hun ac wrth i Desmond fynd fwyfwy perchnogol ohono tra'n colli gafael ar ei realiti.

Mae'r ddwy ffilm yn cychwyn yn hynod effeithiol, sydd ddim yn anisgwyl gan Hitchcock a Wilder, dau o feistri'r adeg. Yn Rebecca, mae na shot tracio hir yn arwain fyny dreif plasty Manderley, sydd yn hanner adfail, tra mae y prif gymeriad di-enw’n trosleisio yn melancoli am freuddwyd o’i dychweliad yno. Mae hyn yn cychwyn ôl-fflach ar hanes sut y daeth hi i ddod i’r ffasiwn le yn y lle cyntaf. Mae Sunset hefyd yn cychwyn gyda bang gyda saethiad tracio o’r gwter fyny dreif grand at yr heddlu sy'n darganfod corff yn y pwll. Rydym wedyn yn torri at saethiad hynod o oddi tan y corff yn edrych fyny ar yr heddlu'n edrych lawr i'r dŵr. Dyw hi ddim yn hollol amlwg ar hyn o bryd taw corff ein protagonist - ac ein trosleisiwr - ydi o. Troslais o'r bedd gan Gillis yw hon yn hytrach na throslais ôl-edrychaid fel sydd yn Rebecca, ond mae'r ddau dechneg yn gosod y tôn tywyll sydd i ddod.

Mae'r tensiwn sy'n cael ei greu yn y ddwy ffilm yn feistrolgar hefyd gan nad ydi bywyd unrhyw un o'r cymeriadau mewn perygl dybryd (i gychwyn) ond fod y ddau brotagonist yn gwynebu llefydd anghyfarwydd, gyda ochr sinistr iawn yn datblygu yn raddol yn y ddwy. Yn Rebecca mae popeth ym mhlasty Manderley yn ei hatgoffa o'r gyn-feistres Rebecca, ac mae obsesiwn y prif-forwyn ac atgof Rebecca (gydag awgrym cryf o gariad lesbaidd) yn rhoi ochr dywyll iawn i bethau. Yn Sunset, mae Gillis wedi rhoi ei hun yn y sefyllfa hon, gan setlo'n reit braf i'w fywyd cyfforddus, gan feddwl ei fod mewn rheolaeth. Ond cyn iddo allu dianc mae'n sylwi fod pethau wedi mynd yn rhy bell a'i fod yn garcharor i'r ddynes wallgo hon sydd yn fodlon gwneud rhywbeth i ddal mlaen i'w gorffennol.

Mae'r actio yn wych drwyddynt draw, er chydig yn od i ni erbyn hyn yn ei felodrama (mae hyn chydig fwy amlwg yn Rebecca na Sunset a dweud y gwir). Mae Gloria Swanson yn rhoi perfformiad syfrdanol o dros ben llestri, ond coeliadwy, gan ei bod yn portreadu hen seren sydd dal yn actio’i ffordd drwy’i bywyd ("We didn't need dialogue. We had faces. "). Mae’r Mrs De Winter newydd yn brydferth a delicet ond hefyd yn dangos fod yno ddur ynddi rywle gan sefyll dros ei hun fel yr a'r ffilm ymlaen. Mae'r deialog yn gyson wych yn y ddwy ffilm gyda llinellau anfarwol dryddynt draw ("I should be making violent love to you, behind a palm tree" (beffwc?!)). Mae'r gweision hefyd yn dod i amlygrwydd yn ystod y ffilm, ac y ddau yn golygu llawer mwy i'r sdori na beth y tybiwn i ddechrau.

Mae'r setiau yn y ddwy yn anferth a gor-grand ac wrth osod y cymeriadau mewn siotiau lle maen't bella posib o'r camera mae'n creu teimlad cyson o unigrwydd ac ansicrwydd. Dydi'r ddau ddim yn rhy glyfar-clyfar gyda'u themau a thriciau gweledol, sydd ddim yn syrpreis gyda Wilder ond sydd braidd gyda Hitchcock. Mae'n debyg taw'r rheswm dros hyn yw taw Rebecca oedd ei ffilm gyntaf yn America i'r cynhyrchydd David O Selznick, felly gallwn dybio ei fod wedi penderfynnu chwarae'n saff nes gallu cael rheolaeth ei hun dros ei ffilmiau. Serch hyn, mae'r dwr wastad yn agos yn Rebecca, ac mae'r olygfa lle mae’r ail Mrs De Winter yn cyrraedd y plasty gyda chysgod glaw trwm drwy wydr y conservatory dros ei gwyneb fel dagrau'r mor yn gosod y tôn ar gyfer gweddill ei arhosiad yno. All hi fyth fod yn hapus yno. Yn Sunset, mae yno olygfa lle mae'r ddau yn edrych ar ei chyn ffilmiau yn y tŷ ac yna'n sefyll yn ddramatig i olau'r taflunydd wedi'w rhewi am eiliad - fan'no yw'r unig le lle mae hi'n dal yn bodoli fel yr oedd - yn seren. Mae'r ddau dŷ ynghlwm wrth y cymeriadau gyda'r craciau ym mhlastr 10086 Sunset Boulevard yn drychu'r craciau yn y makeup ar wyneb Norma Desmond, a Manderley yn drwch gyda ysbryd Rebecca’n ei gyniwair.

Mae na ddigon o droeon yn ystod y ffilmiau i gadw eich diddordeb ond y pleser sydd i'w gael yw'r pleser o wingo'n eich sedd - mae 'na gymaint o deimlad o ragargeol du yn y tai, y cymeriadau, a'r holl sefyllfa fel y gwyddoch nad oes ond un ffordd allan - drwy drasiedi o ryw fath - ac mae'r ffordd mae'r ddwy ffilm yn adeiladu at hyn yn gelfydd. Mae'r gerddoriaeth yn chwarae rhan fawr yn hynny o beth gyda score wreiddiol wedi'w osod i gyd-fynd a phob torriad a cham troed yn Rebecca a'r thema ail-adroddus yn Sunset yn creu'r awyrgylch o grandrwydd cwympedig llychlyd.

Mae yma ddwy ffilm sy'n canolbwyntio ar themâu obsesiwn (gydag arian, enwogrwydd, y gorffennol), cymryd mantais (ar gyfleoedd ar draul pobol eraill, ar wendidau pobol), colled a gwallgofrwydd (marwolaeth Rebecca, marwolaeth gyrfa Norma Desmond) ac yn plethu’r rhain oll ynghŷd a chymeriadau cryf a deialog o’r safon ucha i greu dwy glasur o ffilm. Mae Sunset wedi llwyddo’n well na Rebecca i sefyll prawf amser ond mae hi ddeng mlynedd yn hŷn wedi;r cyfan ac roedd agweddau cymdeithas (ac yn arbennig menywod) wedi newid cryn dipyn yn yr amser hynny.

Mae'r tôn moesol yn Sunset yn gryf iawn, gyda beiriniadeth lem o Hollywood a'r ffordd y mae yntau fel diwydiant yn cymryd mantais ar bobol gorffwyll ac yn eu ecsploetio'n ddi-drugaredd. Mae Rebecca hefyd yn feirniadol o fywyd uchelwyr Prydain, gan amlygu gwacter eu bywydau i'r gynulleidfa - cânt eu portreadu yn gregyn gweigion, fel eu tai anferth, ac mae dinistr y plasty yn symbylol o’r ymagwedd hyn. Un peth sydd yn wahanol yw'r teimlad ar ddiwedd y ddwy ffilm: yn Sunset mae'n anobeithiol gyda theimlad o biti dros y cymeriadau truenus (ac, drwy estyniad, Hollywood) ond yn Rebecca, mae'n gymharol obeithiol, gyda dinistr y gorffennol daw bore newydd.

Felly, dwy ffilm angenrheidiol, gyda llond trol o hiwmor, drama, dirgelwch, gwefrau a iasau i blesio ar bnawn Sul.

Dolenni:

Dau ddisgrifiad trylwyr tu hwnt o’r ddwy ffilm bron olygfa wrth olygfa, gyda nodiadau perthnasol am hanes y ffilm a’i actorion ar hyd y ffordd:

Filmsite - Sunset Blvd

Filmsite - Rebecca

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:12 yh | Comments (2)

Hydref 25, 2004

Gods and Generals (Ronald F.Maxwell 2003)

(IMDb)

Roedd Gettysburg yn ffilm wych am y frwydr enwog yn rhyfel cartref America, gyda Martin Sheen yn actio Robert E.Lee. Deng mlynedd yn ddiweddarach, ffilmwyd y ‘prequel’ ar raddfa epig.

Canolir y ffilm ar Commander Thomas 'Stonewall' Jackson (Stepehn Lang), un o gymeriadau mwya diddorol y rhyfel. Mae'r actor yn gwneud bortread arbennig ohonno, arweinyr milwrol gorau y De. Yn lle Sheen, gew ni Robert Duvall fel Robert E.Lee, pennaeth fyddin y De, a ceir perfformaid da iawn. Os oes ganddoch diddordeb yn yr hanes, ac yn hoffi ffilmaiu hanesyddol, mae hwn werth i weld. Mae yna ymdrech fawr i wneud y ffilm yn hanesyddol gywir, a mae pob manylder wedi cael ei wneud i edrych fel ei fod o’r cyfnod. Mae’n edrych yn drawiadol dros ben, ac mae y brwydrau wir yn edrych yn realsitig, er nid ydynt yn waedleyd iawn. Defnyddwyd 7,000 o actorion yn y ffilm yma!

Mae yna lawer yma am fywyd Jackson, ei berthynas gyda’i wraig, ei gred grefyddol cryf, ei ddawn arbennig fel milwr. Dangosir y gwrthgyferbyniad rhwng y milwr, ac dyn sydd yn dyner a chariadus gyda’r rhai mae’n ei garu. Roedd ei grefydd yn ganolig ym mhopeth roedd yn nued. Ymladd mewn enw Duw yr oedd o. Mae yna blot di-angen o Jackson yn dod yn ffrinidau gyda merch bach, sydd yn troi yn beth gawslyd dros ben. Ond fel cyflwyniad i’r cymeriad anhygoel yma, mae hi’n llwyddianus.

Ond er hyn, mae yna lawer o bethau i feirniadu. Ym mron pob golygfa, mae cymeirad yn dweud rhywbeth dwfn a ddwys. Dim yn bod da hyn, ond ma’r ffilm yma yn gor-wneud o gan golli'r effaith. Teimlo fel cyfres o ddyfyniadau. Nid yw’n llwyddo cyfleu beth yw teimliadau y milwyr cyffredin, a mae y mân-actorion yn aml yn wael. Gewn ni hanes a chefndir cymeriad chwareuir gan Jeff Daniels, cymeriad sydd yn arwr yn Gettysburg. Hwn sydd yn rhoi y safbwynt milwyr y Gogledd, ymysg ffilm sydd yn bennaf o safbwynt y De. Ond gellir wedi gwneud mwy ohonno. Teimlaf fod y ffilm yn cynrychioli y milwyr o statws uchel yn dda, ond ddim mor llwyddianus efo’r milwyr cyffredin.

Mae’r triniaeth o'r caethweision du ddim yn foddhaol. Mae yna dau gymeriad du yno, morwyn i deulu gwyn, ac un yn cogydd i Jackson, ac yn gweithio i fyddin y De, ond darnau bach sydd ganddynt. Diddorol byddai gwybod safbwyntiau pobl fel Jackson, a oedd yn grefyddol, ond yn ymladd dros cadw caethwasanaeth, a oeddent yn gweld unrhyw gwrthdrawiad?

Mae hi’n ffilm hir iawn, dros tair awr, ac mae y manylder yn anhygoel. Er y beirniadaeth, mi nes i dal fwynhau y bortread yma o gyfnod diddorol iawn mewn hanes. Os oes ganddoch diddordeb mewn y cyfnod yma yn hanes, ac yn hoffi ffilmau hanesyddol, yna fe wnewch fwynhau, os ddim digon posib collwch diddordeb ar ol awr neu ddwy! Os da chi heb weld Gettysburg, gwyliwch ef mae hi’n wych. Os da chi’n ei fwynhau, yna gwyliwch Gods and Generals, ond peidwich diswgyl iddo fod mor dda.

Posted by Geraint Evans at 10:46 yh | Comments (0)

Hydref 21, 2004

Eternal Sunshine of the Spotless Mind (Michel Gondry, 2004)

Ail-werthusiad yw hwn o'r ffilm ddiweddar gan Charlie Kaufman a Michel Gondry, Eternal Sunshine of the Spotless Mind, ar ôl i mi weld y ffilm eto neithiwr ar DVD (a'i deall ychydig yn well y tro hwn).

Ar ochr sinematig, mae'r ffilm yn glyfar yn y ffordd y mae'n neidio o un man i'r llall, gyda thair lefel 'realiti' yn bodoli - Joel Barish (Carrey) cyn y driniaeth (ei atgofion), yn ystod y driniaeth (yn ei dy), ac ar ôl y driniaeth, lle mae'n cwrdd â Clementine (Winslet) eto. Ond ar adegau, ceir anghysondeb/dryswch, lle nad ydych chi'n siwr ar ba lefel y mae'r ffilm yn rhedeg, ac felly'n difetha ychydig ar eich gallu i feddwl am y syniadau y mae Kaufman yn chwarae â nhw, sef y ffordd y caiff atgofion eu strwythuro yn y cof, a'r ffordd y caiff pethau eu llwytho â'n hatgofion o berson neu beth.

Dyma yw cryfder y ffilm, sef y ffordd y mae'n mynd â ni yn ôl, o dranc perthynas, drwy'r holl atgofion a'r pethau bach sy'n creu cariad, i'r dechrau un, yr atyniad gwreiddiol rhwng dau berson. Gwelwn yr holl bethau drwg a da sydd yn rhan o'n hatgofion, ac yn rhan o'r broses o ddysgu mewn bywyd. Gofynna hyn y cwestiwn - pam fyddai rhywun am ddileu'r atgofion sy'n ein gwneud ni yn NI, sydd yn rhoi hapusrwydd i ni, neu sy'n ein dysgu i beidio â gwneud camgymeriadau yn y dyfodol? Mae delwedd y tŷ yn chwalu tua diwedd y ffilm yn un dda - rhaid i Joel a Clementine aros a cheisio adeiladu eu perthynas, yn lle rhoi'r gorau i bopeth a chwalu pob atgof, boed yn wych neu'n wachul.

Mae 'Eternal Sunshine' yn ffilm sydd wedi gwella ers y tro cyntaf i mi ei gweld, yn bennaf, fel sy'n digwydd gydag unrhyw ffilm, gan ei bod yn bosibl edrych ar wahanol agweddau ar y ffilm yn lle meddwl 'be ffwc?' a dilyn y plot. Ond hefyd, o edrych yn ôl, mae'n ffilm dyner, sy'n cynnig gobaith i 'hopeless romantics' fel fi.

Posted by Geraint Criddle at 11:22 yb | Comments (6)

Hydref 19, 2004

Noson Ffilmiau Byr POV - Hydref

Fe fum yn gwylio ffilmiau byrion yn Dempseys fyglyd felyn-frown a dyma grynhoad be weles i (a gweld ambell i aelod Pictiwrs yno am y tro cynta - hwre!).

Lewis Mottram – Stone Blind
Sdwff arbrofol ar gamera MiniDV. Rhy hir, barddoniaeth sal, cerddoriaeth gwael yn jarrio a’r lluniau, golygu erratic a saethiadau di-ofal. Diflas iawn.

Donna Mabey – Letter 3 of The Tulse Luper Suitcases
Y? Rhaid deud fod y ddelwedd led-swreal o hogan yn llarpio pot o fwstard Dijon yn reit ddoniol – ond be uffar ma’n fod i symbylu?

Steve Pierce – The Wallet
Digon difyr chwarae teg, gyda gwaith camera cinetig iawn yn cadw diddordeb gweledol, actio da gan compere POV, a sdori fach gryno.

Widelode Productions – Loguey
Animeiddio collage-aidd, gyda themau gwrth-ryfel, gwrth-gyflafan a soundtrack trip hop...*dylyfu gen* - faint o’r rhain dwi di gweld rwan. Dwi’n gwbod fod lot o bobl angen mynegi eu hunain ond plis newidiwch y diwn fymryn.

Magnificent Pictures – The Haircutters Cut
Ffilm ddogfen spoof gafodd sawl chwerthiniad. Da chwara teg, er fod y trac sain hollol allan o synch i’r llunia. Diweddglo taclus, a esiampl dda o beth gallwch chi neud efo syniad da a kit syml.

Neil Kerslake – Mad World
Dwi ‘di clywed y gan yma ormod yn ddiweddar ond roedd yr intro yma i ffilm ddogfen mae o’n gweithio arno yn cynnwys delweddau mor erchyll wedi’w golygu mor gelfydd o’n i’n methu helpu a’i hoffi.

Matt Freeth – Artificial Intuition
Ffilm 60 eiliad, dechrau’n dda gyda defnydd da o effeithiau camera arbennig, ond roedd y robot yn edrych yn rhy debyg i “Monkey Drummer” Chris Cunningham. Bach gormod o copycat ond digon o steil serch hynny.

Matt Freeth – 4ft Fingers “Forty Years Of Misery”

Fideo gerddoriaeth medrus iawn gyda pholish go dda arni. Oedd y band yn nu-metal shite, ond roedd y fideo’n ffantastic – tasa gen i fand faswn i isio fo neud y fid i fi.

Tom Hope Parry – The Not So Grim

Wedi gweld hon o’r blaen. Animeiddio CGI sy’n edrych yn hynod hen ffasiwn, ond mae’r sgript a’r lleisio yn dda ac yn ei achub rhag bod yn llai na mediocre. Hon gafodd fwya o chwerthiniad ‘fyd rywsut – dwi jest ddim yn gwerthfawrogi slapstick mae’n amlwg...

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 11:36 yb | Comments (9)

Hydref 14, 2004

Wild River (Elia Kazan, 1960)

(IMDb)

Clasur o 1960 gyda Montgomery Clifft a Jo Van Fleet, am boddi cwm i wneud lle i gronfa ddwr.

Ffilm ar BBC2 tua mis yn ol. Digwydd gwylio teledu a dechreuodd y ffilm yma. Dynnodd y ffilm mi i fewn yn syth. Wedi ei seilio yn UDA yn y tridegau, mae’r llywodreth yn adeialdu argae ar y Tennesse i atal gorlifo lawr yr afon, ac i greu trydan. Mae hyn yn golygu boddi tir, a symud llawer o bobl o’r tir. Mae pawb wedi symud, heblaw am un fferm, lle mae hen fenyw a sawl arall yn byw. Ddechreuir y ffilm gyda swyddog newydd Chuck Glover (Montgomery Clift) yn dod i’r dre gyda’r bwriad o symud nhw off y tir. Mae’r ffilm yn sefydlu’r plot yn gyflym, a da ni’n mynd syth mewn i ddilyn y dyn yma wrth ei waith.

Mae yna ddau berfformaid gwych yn y ffilm yma. Nid oeddwn yn nabod yr actor oedd yn chware Glover ond mi oedd yn amlwg fod y dyn yma yn actor arbennig. Mi oed yn edrych yn drawiadaol, ac yn actio’n naturiol. Mi oedd yna ‘Hollywood’ star quality efo fo. Ar ol mi wylio’r ffilm a gwneud ymchwil, darganfyddais mae actor o’r enw Montgomery Clift ydoedd. Anghyfarwydd i mi, ond mae ei sdori yn trawiadol a thrist. Fe bostiai mwy amdano yn y man.

Yr ail berfformaid gwych yw yr hen fenyw, gan Jo Van Fleet. Beth sydd yn anhygoel yw ei od hi’n action menyw llawer yn hyn na hi, er ni faswch byth wedi meddwl hyn tra’n gwylio. Ydi, mae hi’n hen ddynes blin, ond da chi methu helpu teimlo drosd hi, a dyna be sy’n digwydd i Clift, ac yn gwneud y ddisodliad llawer anoddach.

Ynys yng nghanol ar afon oedd y fferm. Wedi byw yna erioed, wedi claddu ei gwr ar y tir, yn hollol glwm i’r tir. Yma mae hi am aros. Perfformaid gwych yn cyfleu y teimliadau yma i’r swyddog. Mi oedd ganddi sawl pobl croenddu yn gweithio iddi. Mi oedd y ffilm yn delio efo’r thema o hiliaeth, ond nid mewn ffordd amlwg. Mae Clift yn creu stwr yn y gymdeithas trwy cynnig yr un tal iddynt a phobl gwyn. Deith hyn a phobl y dre i fewn i’r plot.

Thema arall yw traddodiad erbyn technoleg. Ffordd hen o fyw erbyn y newydd. Hefyd yr aberth mae rhaid i leiafrif wneud I helpu y mwyafrif. Yr unigolyn erbyn dymunaid y llywodraeth.

Elfen arall yw y stori gariad rhwng Clift a ferch yng nghyfraith (Lee Remick) yr hen fenyw. Mae’r dyn yn penderfynnu edrych ar ol hi a'i ferch, a mae pethau yn symud mlaen yn gyflym, er fod y ferch wedi dyweddio i ddyn arall. Mae yn berthynas realisitig, gyda llawer o anhawsterau rhyngddynt, fel y ffaith eu bont yn gwybod mae ond am amser byr mae o yn y r ardal. Mae hi’n mynd yn emosiynol, mae o’n mynd yn dawel. Dwi’n hoffi gweld y fath deimensiwn mewn perthynas, yn hytrach na peth arwynebol gewch chi yn aml yn ffilm.

Yn weledol, mae y ffilm yn cyfleu haf poeth, hiwmid yn Nhennesse yn y 30au yn berffaith. Ma na liwiau hyfryd yn dod o’r golygfeydd o’r afonydd a'r coed. Y cyfarwyddydd yw Elia Kazan, a wnaeth On The Waterfront. Mae y cyfuniad o hwn, sdori gariad credadwy, ar themau cymdetihasol yn gwneud hwn yn glasur i mi. A mae'r olygfa ola yn drawiadol dros ben.

Clasur sydd ddim wedi cael digon o sylw a chydnabyddiaeth.

Posted by Geraint Evans at 11:28 yh | Comments (3)

Wimbledon (Richard Loncraine, 2004)

(IMDb)

Dyma’r ‘Brit-Flick’ diweddara sy’n dilyn ryseit llwyddiannau diweddar Working Title Films – ond gyda tenis. Wel ‘oedd rhaid i rhywun fynd i weld e yndoedd!

Nid ‘mod i’n falch i mi wneud. Does gen i ddim problem â ‘bach o atal anghrediniaeth o bryd i’w gilydd, ond buasai’r faich o gredu plot ffantasiol Wimbledon yn trechu’r rhamantydd eithaf.

Peter Colt (Paul Bettany) yw’r champ sydd ar fin ymddeol - wedi colli ei egni, ei hyder, a bron i bob gêm iddo chwarae ers tipyn ond mae’n debyg gall cariad newid hyn oll - a dyna sy’n digwydd pan mae Lizzie Bradbury (Kirsten Dunst) yn cyrraedd y sîn ac yn ail-danio awydd ein arwr. Mewn pythefnos. O flaen cefnlen hynod rhywiol pencampwriaeth Wimbledon. (D.S. Dyw cynnwys cyfeiriadau lu at sêr gwib ddim yn fodd dilys o gyfiawnhau’r fath anhebygolrwydd.)

Oce, ‘nai ymdrech i beidio bod mor sinicaidd am ysbaid. Do, lwyddais i eistedd drwy’r ffilm gyfan, a rwy’n meddwl i mi hyd yn oed wenu unwaith neu ddwywaith; mae’r prif-actorion yn gwneud y job yn iawn a’r golygfeydd o’r gamp wedi eu saethu’n ddawnus ac felly’n gredadwy dros ben. Ond er iddi fagu ‘bach o gyhyrau ers ei ymddangosiad diwetha, allwn ni ddim anwybyddu’r ffaith mai sgript ddi-fflach Notting Hill a gawn yma – a dim llawer mwy mae arnai ofn.

Ewch i weld ffilm arall, da chi!

Posted by Mair Thomas at 11:18 yb | Comments (2)

Hydref 13, 2004

Man on Fire (Tony Scott, 2004)

Ffilm yn seiliedig ar lyfr gan A. J. Quinell (sydd wedi dwyn ei ffugenw gan Derek Quinell, mwyar syndod) gyda Denzel Washinton yn chwarae rôl y dyn ar dan sy’n mynd ar derfysg rhuol o ddialedd pam mae’r ferch mae o i fod yn edrych ar ei hol hi’n cael ei dwyn.

Hyd yn oed am ffilm wedi ei gyfarwyddo gan Tony Scott, brawd gorfywiog Ridley Scott, mae lot gormod o effeithiau ffansi yn y golygu i wrthdynnu o lif y ffilm hwn. Nid yw’r camera yn medru aros yn llonydd am fwy nag hanner eiliad, a gyda chymaint o symud yn ail ran y ffilm mae’n hawdd colli gafael ar beth sy’n mynd ymlaen. Mae hyd yn oed yr isdeitlau yn mynd dros ben llestri, gan ymosod ar y gwyliwr o bob cornel o’r sgrin. Erbyn y diwedd mae’r ffilm yn aneglur yn y meddwl, am fod gymaint o doriadau naid ynddo nid yw’n bosib cofio un saethiad yn glir. Does gan y Gymraeg ddim geirfa digon mawr pam mae’n dod i ffilmiau i fedru disgrifio bob techneg maen nhw’n ei defnyddio fan hyn, ond y canlyniad ydi bod y ffilm yn edrych yn bert ond dyw’r gwyliwr ddim callach beth sy'n mynd ymlaen.

Mae'r stori bron yn teimlo fel dwy ffilm, y cyntaf yn adeiladu perthynas emosiynol rhwng Creasy (Denzel Washington) a'r ferch mae o yn cael ei dalu i edrych ar ei hol hi, Pita (Dakota Fanning). Mae ffilm fel hyn fel arfer ddim ond mor dda â’r cysylltiad rhwng y cymeriadau mae’n meithrin yn yr hanner cyntaf (gweler Aliens am esiampl dda o hyn), ac mae rhaid dweud bod y ffilm hon yn llwyddo i wneud i’r gynulleidfa boeni am dranc Pita a Creasy. Ond mae’n bwysig hefyd bod y holl feithrin emosiynau a storiâu yn talu ffwrdd yn yr ail ran, a dyna le mae’r ffilm yn methu. Wedi I’r anochel ddigwydd, mae Creasey yn gollwng y gwersi moesol ddysgodd o gan Pita bach ac yn mynd ati i saethu ei ffordd drwy strydoedd Dinas Mecsico fel pe bae’n hela Sarah Connor. Ond mae’r artaith a’r gwaed yn hwyl i’w wylio, gyda Creasey yn cymryd pleser mawr mewn lladd y bobl drwg yn y ffyrdd mwyaf creadigol a phoenus bosib. Mae twist bach yng nghynffon y stori hefyd, ond un sy’n hollol amlwg yr holl ffordd drwy’r ffilm.

Beth sy’n safio’r ffilm yw’r perfformiadau a’r gosodiad. Mae Washinton yn wych unwaith eto fan hyn, yn dod a chydymdeimlad i ddyn sydd ddim llawer mwy nag ystrydeb ar ddwy goes. Mae Dakota Fanning fel Pita yn llwyddo hefyd, drwy beidio cythruddo’r gynulleidfa fel bron bob plentyn bach arall ar y sgrin heddiw. Maen nhw’n angor i ffilm sydd ddim yn medru aros yn llonydd. Roedd y nofel wreiddiol wedi ei lleoli yn yr Eidal, ond mi wnaeth y sgriptwyr y dewis iawn yn symud yr hwyl i Fecsico. Mae’n gefndir gwych i’r ffilm, ac wedi cymaint o ffilmiau safon uchel wedi ei lleoli yn De America mae’n syndod nad yw pob cyfarwyddwr yn codi ei gamera ac yn rhedeg draw yno a’i wynt yn ei ddwrn. Diolch i’r ddau ffactor yna mae nifer o wendidau’r ffilm yn cael ei anghofio. Y perfformiadau, y lleoliad a’r trais dros ben llestri fydd yn glynu yn y cof wedi i chi adael y sinema.

Posted by Ifan Morgan Jones at 11:08 yh | Comments (1)

Hydref 12, 2004

Dead Mans Shoes (Shane Meadows, 2004)

(IMDb)

Mae’r ffilm yn cychwyn ar Richard (Paddy Considine) yn camu drwy gaeau cefn gwlad Swydd Efrog, gyda’i frawd Anthony (Toby Kebbell), sydd ag anawsterau dysgu, yn dilyn hanner-cam y tu ol iddo. Mae’n dod yn glir fod Richard wedi dychwelyd o’r fyddin i ddial ar grwp o scallies stônd, sydd wedi bod yn hambygio a phoenydio ei frawd tra’r oedd oddi cartref.

dms.jpg

Mae’n cyfarfod y cyntaf o’r crwcs di-waith di-werth yn delio pills yn y pyb lleol – mae’r baw yma’n gofyn “be ffwc ti’n sbio arno” ac mewn golygfa sy’n rhoi ias lasoer lawr eich asgwrn cefn, mae’n cyfarth fel un o gwn annwfn - “ti, y cont”.

Rydych yn cael y teimlad fod pethau am fynd yn wael i’r grwp yma o ddelwyr a bwlis sydd mewn plentyndod estynedig yn chwarae a chyffuriau a phobl heb feddwl am eu gweithredoedd. Mae perycledd di-ofn Richard yn dod i’r amlwg wrth iddo chwarae a nhw gan dorri mewn i’w tai a’u bychanu drwy baentio eu gwynebau tra maen’t yn cysgu, gan brofi ei bwer drostynt yr un pryd. O fan hyn ymlaen mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth wrth i Richard droi’r gwres fyny’n araf bach a sicrhau dial am boendod ei frawd diniwed.

Sdori ddial syml yw hon gyda Richard ar lwybr dinistr di-gyfaddawd yn actio fel angel gwarchodol/marwolaeth (avenging angel) i'w frawd Anthony. Dyw hon ddim yn sioe fflash fel Kill Bill, dydi ddim yn eich rhoi chi mewn byd gwahanol afreal. Mae hi’n eich sodro yn y fan hyn, y rwan, gyda chymeriadau real di-nod, arferol. Rhai tebyg i’r rhai mae rhywun o dre fach gefn gwlad yn eu nabod yn iawn ac yn eu gweld yn y pyb ar nos Sad yn smocio spliffs a llyncu sbîd yn y gornel. Mae’r ffilm yn raenus ei gwedd sydd yn gweddu’r gweithredoedd brwnt, ac yn rhoi’r teimlad eich bod yn edrych drwy ffenest fudr car sydd wedi bod yn rhydu’n yr iard.

Mae’r realiti tywyll hyn yn gwneud i chi goelio yn be all Richard wneud, a gwybod fod hwn yn ddyn i’w ofni: dyw hwn ddim yn ddyn i ffwcio ag o. Mae Paddy Considine yn chwarae’r rhan yn ddychynllyd o effeithiol, gyda’i olwg fuzzy, action-man-aidd, bron yn cydli; yn siarad yn ysgafn, nes newid mewn ennyd i fod yn ddieflig o filain, fel gollwng bwystfil yn rhydd. Mae’n gallu harnesu’r dicter cudd yma yr un mor dda a De Niro neu Joe Pesci. Mae ‘na olygfeydd yma oedd yn erchyll o gredadwy, yn arbennig yr un lle mae’n rhoi rhai o’r goons (neu goonies fel mae Richard yn eu galw ar un adeg) ar drip gwaetha’u bywydau, gan eu tormentio fel diafol ymgorfforedig (“Ai’r Diafol wyt ti? Ai Iesu?”, mae un yn gofyn i Richard yn ei niwl asid a pills).

Mae’r trac sain yn adeiladu o ganeuon gwerinaidd i grescendo corau Eglwysaidd, sy’n adlewyrchu’r themau crefyddol a'r newid yn y stakes.

Ydi hi’n dweud rwbath am y cyfarwyddwr? Pam bod o isio difa'r ‘sgym’ yma mor ddi-gyfaddawd? Mae’n amlwg nad oes ganddo fo lawer o gariad at y math o bobl diog trist mae’n ei wared yn ystod y ffilm. Does na ddim cydymdeimlad tuag at be sy’ wedi creu y pobl hyn – nhw yw creawdwyr eu ffawd eu hunain fel y gwela’r ffilm hon hi ac mae'n nhw'n haeddu popeth ma nhw'n gael. Felly pam fod yna cymaint o ffilmiau dial ar y foment (Kill Bill, Old Boy, Hero mewn ffordd, mae Revenger’s Tragedy gan Alex Cox hefyd yn dod i feddwl))? Ydan ni fel cynulleidfa’n chwilio am rywle i actio allan ein ffantasiau dial treisgar? Dial am yr holl bethau y gwelwn yn digwydd yn ein cymdeithas a thramor ar y foment nad ydan ni’n gallu ei sdopio. Ella fod ein anallu i wneud dim drwy sytem wleidyddol sy’n mynd fwyfwy analluog (cyfieithaid gwell am impotent unrhywun) yn creu rhwystredigaethau sydd angen eu gollwng yn rhywle – drwy’r sgrin fawr ella.

Beth bynnag, digon o falu cachu, nol at y ffilm! Mae hi’n un o ffilmiau Prydeinig gorau’r flwyddyn i fi (er, faint o ffilmiau Prydeinig dwi wedi gweld dwi ddim yn cofio...) sydd yn eich martsio gerfydd eich sgryff drwy fyd ysgumfodolion arferol iawn a'ch galluogi i uniaethu rywsut a’r bwystfil yma mae’r sdônars truenus 'ma wedi llwyddo ei ddeffro.

[Troed-nodyn bach: WARP Films, chwaer gwmni y label electronica bleeding edge, sydd wedi ei chynhyrchu]

Dolenni:
Erthygl gan Mark Kermode ar ffilmiau dial

Rhagor ar ddial gan y gwr quiff-edig ar wefan FilmFour

Cyfweliad a Shane Meadows

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:41 yb | Comments (0)

Hydref 07, 2004

Seom / The Isle (Ki-Duk Kim, 2000)

(IMDb)(Gwefan Swyddogol)

Ffilm arall o stabal Asia Extreme y dosbarthydd Tartan Film gyda Ki-Duk Kim yn cyfarwyddo (gallwch chi weld ei ffilm newydd "Spring Summer, Autumn, Winter...and Spring" sy'n debyg o ran lleoliad ond gwahanol iawn o ran thema, yn y sinema ar y foment) ac yn rhoi newid cyflymdra yr o'n i'n ddiolchgar amdani wedi i mi weld Saw ddeng munud ynghynt.

isle1.jpg

Mae Hee-Jin (Jung Suh) yn gweithio ar lyn yn Ne Corea yn gwasanaethu pysgotwyr sy’n dod yno ar wyliau i sgota mewn cytiau bach lliwgar sy’n arnofio ar y llyn. Mae hogan fud ddel hon yn eu gwasanethu gyda diod, mwydod a rhyw disymwth, gan ei gadael yn gleisiau byw ac yn llawn casineb.

Daw dyn newydd at y llyn ar ffo, wedi iddo lofruddio ei wraig godinebus a’r gwr a ddarganfu gyda hi. Mae’r ddau yn mynd ar siwrne 'ganlyn', yn y modd rhamantaidd, rhyfedd ar y naw, gan wthio eu gilydd i’r eithaf (gyda golygfeydd sy’n codi cyfog bron. Dau beth dduda i: bachau pysgota a shinani. Gwnewch y cyswllt eich hunain. Ond dyw hi ddim yn ffilm ecsploetio, mae hi’n brydferth yn ei ffordd ei hun, ac mae ymgais y ddau berson yma sydd wedi eu difrodi gymaint yn feddyliol i ffeindio cariad hyd yn oed os taw’r unig ffordd i ymroi i’w gilydd a thorri drwy eu waliau dur allanol yw dodi poen corfforol dwys ar eu gilydd. Mae'r hapusrwydd yn dod o ffeindio cysgod yn eu byd bach eu hunain, er pa mor anochel yw eu tynged.

Mae’r shots tirluniau a’r fframio yn cadw at gonfensiwn sinema diweddar o Asia o lonni’r llygaid ond yr un pryd dangos fod yno wastad dduwch hagr a phoen hyd yn oed tu ol i olygfeydd prydferth. Wrth gadw’r gynulleidfa’n hapus gyda’r aesthetau, mae’n galluogi Ki-Duk i ganolbwyntio ar fanylion gweithredoedd y ddau brif gymeriad wrth iddynt geisio ffeindio heddwch meddwl o fewn eu byd eu hunain. Dyw hyn ddim yn golygu fod heddwch i’r byd sy’n gorgyffwrdd a’u byd nhw. I’r gwrthwyneb, mae pawb bron sy’n gwneud yn ceisio ymyrryd yn dioddef. Does dim yn y byd sydd am sdopio’u crwsad mewnol am ryddid meddyliol a lloches ym mynwesi eu gilydd.

Mae’r diweddglo yn taflu rhywun oddi ar eu hechel, ond wedi cael sawl diwrnod i bendroni mae’n atseinio’n gryf fel delwedd gryf o’r loches hyn. Felly ar y cyfan, ffilm chwerwfelys, dda sy'n gadael marc yn y cof am dipyn hwy nag y disgwyl.

Dolenni:

Cyfweliad a Ki-Duk Kim yn Senses of Cinema

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 05:18 yh | Comments (0)

Saw (James Wan, 2004)

(IMDb)(Safle Swyddogol)

Mae’r byrddau hysbysebu’n gosod y cwestiwn:

“Dare You See Saw?”

Ateb: “Yes. Seen ‘Saw’, saw shite”

Mae’r ffilm yn cychwyn gyda dau foi yn gaeth mewn stafell fudr gaeedig wedi’w cadwyno gerfydd eu coes, mae corff marw gerllaw yng nghanol y stafell. Wrth ddod at eu coed mae nhw’n ffeindio eu bod wedi cael eu gosod yno gan lofrudd ailadroddus (Cyf? serial killer) sy’n dweud fd rhaid i Dr.Lawrence Gordon (Cary Elwes) ladd y llall cyn chwech o'r gloch neu bydd y llofrudd yn lladd ei wraig a'i blant.

Roedd y trailer a'r hysbysebion yn gaddo gymaint, rwan dwi'n teimlo fel gymaint o sucker. Gesh i’n sugno mewn ganddynt, a diweddu fyny’n teimlo fel mod i wedi cael fy nhwyllo.

Rydyn ni’n cael ein denu i geisio datrys y pos gyda’r ddau garcharor, wrth wneud hyn rydyn ni’n cael y stori-gefn yn raddol. Mae’n edrych at gyrraedd uchelfannau Se7en o ran tensiwn, posau, mw^d, troeon, siociau ac mae’n llwyddo mewn rhai mannau. Ond gan fwyaf mae'r actio mor syfrdanol o wael eich bod chi’n chwerthin am ben y ddau actor ma (cyd-awdur y sgript (Leigh Whannell) ydi un ohonynt...cadwa at y sgriptio washi) ac yn cael eich tynnu allan o sefyllfa beryglus y ddau gan golli unrhyw densiwn a lwyddodd y cyfarwyddwr i’w greu ac mae'ch empathi’n diflannu’n chwim. Mae’r deialog hefyd yn chwerthinllyd o annaturiol ar adegau a'r effeithiau digidol yn creu rhagor o bellter rhyngthoch chi a'r digwyddiadau.

I fod yn deg, mae ‘na sawl ochr fach ddifyr iddi gyda troeon gwir annisgwyl, plotio tynn iawn ac mae hi'n weddol wreiddiol. Pethau sydd yn ei godi uwch na sdwff syth i DVD, ond da chi, os da chi’n gweld hon a Switchblade Romance nesaf i'w gilydd yn y Siop Fideos Aberllanbidibidlan ewch am y Ffrancwyr – ma nhw’n LOT mwy sgeri.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 04:28 yh | Comments (1)

Haute Tension / Switchblade Romance (Alexandre Aja, 2003)

(IMDb)(Adolygiad Sight and Sound)

Mae’r premise yn syml: slasher wedi’w osod mewn ffermdy unig yng nghanol aceri o gaeau india corn yng nghefn gwlad Ffrainc.

switchblade.jpg

Mae Marie (Cécile De France) a’i ffrind pennaf Alex (Maïwenn Le Besco) yn dychwelyd i gartref Alex am wyliau bach ond yn fuan wedi iddynt hitio’r cae sgwar daw caniad ar gloch drws ffrynt y ty: dyma gyrhaeddiad eu hunllef waetha mewn ofarol front a chyda homar o fwyell yn ei law. Mae pethau, fel mae pethau’n dueddol o wneud mewn ffilmiau fel hyn, yn mynd o ddrwg i waeth.

Wnai ddim mynd ymhellach na hyn i'r digwyddiadau rhag i fi ei sbwylio, ond digon yw dweud fod na ddigon i’ch cadw chi ar flaen eich sedd ac yn cuddio tu ol iddo/eich popcorn/eich dwylo/eich cariad am yn ail.

Mae teitl Saesneg y ffilm yn un od iawn o’i gymahru a’r un Ffrengig sy’n cyfieithu’n uniongyrchol fel “High Tension”: sef yr union beth mae’r ffilm hyn yn cyfleu yr holl ffordd drwyddo. Mae’r cyflymdra/rhediad yr un mor ddi-gyfaddawd ond y llofrudd ei hun yn hunllefus o bwrpasol yn ei weithredau dieflig. Mae’n llwyddo i gyfleu’r teimlad yna rydych chi’n cael mewn hunllef, lle mae rhywun yn dod ar eich ol, yn weddol araf, ond mae gymaint o ofn arnoch fod eich traed a’ch coesa fel lympiau diwerth o glai.

Mae’r gwaith gweledol yn ddi-ffwdan ond moethus o ran lliw ac yn rhoi chi reit yn sgidiau Marie sydd, fel ei chyfaill hefyd, yn rhoi perfformiad credadwy o’r radd flaenaf. Mae’r trac sain yn cyfnewid rhwng manylion gwichian drysau a hen loriau (sydd dddim yn teimlo’n ormod o cliche) a tiwns hiwj sy’n pwmpio’r gwaed drwy’r gwythiennau (yn arbennig "New Born" gan Muse. Dwi’n meddwl gai hartan tro nesa glywai hi).

Wrth gadw’n agos at steil ffilmiau cynnar, a gorau y ffilm slasher (Texas Chainsaw Massacre, Halloween), gan beidio trio bod yn glyfar a hunan-wybodus, cadw’r ton yn ddwys, ond ychwanegu ambell droad newydd gwych mae hi’n ffilm sydd am roi pleser i ffans hardcor arswyd a dyfodiadau newydd ynghyd. Ma hi'r math o ffilm lle dylen nhw fod yn gwerthu parau glan o drons/nics yn y cyntedd yn lle popcorn.

"Switchblade Romance" - Cyfieithaid Cymraeg: "Sesiwn Cachu Pants"

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 02:28 yh | Comments (0)

Medi 29, 2004

Anatomie / Anatomy (Stefan Ruzowitzky, 2000)

(IMDb)(Gwefan Swyddogol)

Glywish i am y ffilm slasher (Cyf: slaesio?!) Almaeneg hon rhyw ddwy flynedd yn ol, ac roedd o'n ddigon i godi'n niddordeb i eto fis Tachwedd dwetha pan oedd y sequel yn dangos yng Ngwyl Sgrin Caerdydd, er i fi ei methu. Felly dyma fi'n ei llygadu yn siop fids Heol Albany a ffwrdd a fi efo pacad o hobnobs yn barod am chydig o gnawd!

anatomiefilm.jpg

Mae ein ein protagonist, Paula Henning (Franka Potente-Run Lola Run, The Bourne Identity), newydd gael ysgoloriaeth i fynd i brifysgol anatomi orau'r Almaen yn Heidelberg. Wrth gwrs, mae hi'n ddel, yn ddeallus ac yn ddiniwed - y dioddefwr perffaith. Tra'n ceisio canolbwyntio ar ei gwaith ac ar osgoi temtasiynau dynion y coleg mae hi'n dod ar draws dirgelwch ddychrynllyd: mae'n edrych fel bod rhywun yn y coleg yn herwgipio pobol i wneud arbrofion anatomegol arnyn nhw tra ma nhw dal yn fyw - bywddyraniad ar fodau dynol. Pwy fasa'n lecio deffro ar fwrdd operatio a gweld rhywun yn tynnu'ch perfeddion allan? Nid fi yn sicr, ac nid ein arwres chwaith. Mae hi'n ymchwilio'n ddyfnach i'r dirgelwch tra mae rhagor yn cael eu lladd o'i chwmpas ar y campws, ac wrth wneud hyn yn tyllu'n ddyfnach i'w chefndir hi hefyd nac efallai yr hoffai hi fod wedi ei wneud.

Un o'r pethau mwyaf diddorol am y ffilm yw nad ydi pethau mor ddu a gwyn ac arfer yn ffilmiau o'r fath; mae'n dod yn amlwg fod cymdeithas gudd yn bodoli ymysg meddygon sy'n wfftio ethigau'r Llw Hipocratig ac yn lle yn credu mewn beth mae nhw'n ei alw'n "wyddoniaeth bur", sef ei bod yn iawn i wneud awtopsiau ar gleifion sydd ar fin marw ac sydd a chlwy prin er mwyn ceisio ffeindio atebion i driniaeth y clwy hynny. Mae hyn yn codi sawl cwestiwn ethigol sydd yn anarferol mewn ffilmiau arswyd fel hyn ac mae'n codi'r ffilm uwchben y rhan fwyaf o'r ffilmiau cyffelyb. Wrth gwrs, mae yno gymeriadau sy'n mynd a hyn i'r eithaf, a dyma lle mae'r arswyd yn dod.

Mae'r coleg anatomi ei hun yn llawn dop o gyfleoedd i ddychryn, efo'r morgue, cyrff, gyts, scalpels, masgiau'r llawfeddygon, byrddau llawdriniaeth, theatrau oer, clinigol, doctoriaid ecsentrig, stiwdants ifanc diniwed a phawb gyda sgerbwd yn eu cwpwrdd.

Ar wahan i ambell olygfa gawslyd mae hi'n ffilm sy'n gweithio'n effeithiol iawn ac sydd yn rhoi ongl newydd i'r genre. Slasher ysgol feddygaeth! Mae'r cynhyrchiad yn sgleiniog ac yn slic, mae'r actio'n reit gredadwy a'r plot yn cadw chi'n dyfalu pwy sy'n gneud be, mor bell ag y gall ffilm arswyd heddiw.

Un peth oedd yn ddoniol am y ffilm oedd y trac sain, gyda chaneuon R& B Almaeneg a rhyw acid jazz reit gaws ei naws yn tarfu ar lif y ffilm bob yn hyn a hyn. Ydi'r iaith Almaeneg ddim ond yn cydfynd a miwsig electronig 'dwch neu jest fi sy'n bod yn gul? (Rhywun brofi fi'n rong fan hyn…)

Felly, ffilm werth ei rhentu os da chi'n lecio'r math yma o beth ac isio rwbath hawdd i'w wylio sydd ddim jest yn corddi'r un hen cliches drosodd eto gan roi blas drwg yn eich ceg. Ond os da chi ofn y doc, ac yn gwingo wrth edrych ar Casualty, ella nad yw hon i chi.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:33 yh | Comments (0)

Medi 28, 2004

Ying Xiong / Hero (Zhang Yimou, 2002)

(Imdb)(Anoffisial)

Wedi hir ymaros (2 flynedd ers ei ryddhau yn y Dwyrain Pell), mae Hero, ffilm ddiweddaraf y cyfarwyddwr llewyrchus, Zhang Yimou (Red Sorghum, Raise The Red Lantern), wedi cyrraedd sgriniau arian Cymru. Oedd hi'n werth yr aros?

Moon02.jpg

Tsieina, 3ydd ganrif CC, ac mae'r wlad fel y gwyddom hi nawr wedi ei rhannu mewn i 7 talaith. Mae arweinydd grymus didrugaredd y dalaith fwyaf, Qin, a'i fryd ar goncro'r taleithiau eraill i greu Tsieina unedig bwerus. Yn anffodus i'r taleithiau eraill mae hyn yn golygu eu concro drwy bob ffordd dan din posib heb falio dim am y pobol yn ei ffordd. Mae'r dalaith agosaf, Zhao, wedi bod dan lach y gorthrym hyn yn ddi-baid, ac wedi ceisio anfon eu asasiniaid gorau i ddifa'r arweinydd unbenaidd hwn, ond heb lwc. Dyw'r arweinydd ddim yn dwp ac mae'n cau ei hun yn ei balas anferth wedi'w amgylchynu gan fyddin anferth gan beidio gadael i unrhyw westai ddod o fewn 100 llath iddo drwy ofn cael ymweliad gan asasiniaid.

At giatiau'r palas hwn daw ein arwr, Di-enw (Jet Li) (a enwyd felly oherwydd ei blentyndod amddifad), gyda phrawf ei fod wedi difa'r tri asasin peryclaf yn nhalaith Zhao a rhyddhau'r brenin o'i garchar hunan-osodedig. Mae ganddo dri cledd yr asasiniaid Broken Sword (Tony Leung), Flying Snow (Maggie Cheung) a Sky (Donnie Yen) ac mae'n cael mynediad at orsedd y brenin i adrodd sut y llwyddodd i drechu'r tri anorchfygol.

Felly, mae'r ffilm yn digwydd oll mewn flashbacks, gan gychwyn fel sdori y credwn sy'n wir ond sydd yn fuan yn gwyro ac yn cael ei ailadrodd o berspectifau gwahanol wrth i wir gymhelliadau Di-enw ddod yn glir.

Mae hyn yn gweithio'n iawn o ran strwythr y ffilm, ond fod y straeon unigol yn dibynnu'n ormodol ar y ddelwedd ac ar y cwffio (sydd yn gadael rhywun yn gegrwth), yn hytrach nag unrhyw gymeriadu a phlotio. Mae hyn yn gadael y ffilm yn wan iawn, a braidd yn esgyrniog o ran swmp a sylwedd. Rydyn ni'n neidio nol a mlaen rhwng adroddiad Di-enw o'i dri brwydr ac yna o ddadansoddiad y brenin o'r brwydrau hyn; sy'n cael yr effaith annatod o ddileu un sdori rydych newydd ffurfio yn eich pen, ac yn anffodus, yn creu gwastraff braidd o hanner cynta'r ffilm.

Does dim dadlau, serch hynny, fod hon yn un o'r ffilmiau mwyaf trawiadol yn weledol i mi ei gweld, erioed efallai. Mae pob un ffram wedi ei cysodi mor gelfydd ac yn gymaint o wledd i'r llygaid (a'r clyw, mae'r sain yn ffantastig) fel eich bod yn gyson mewn awe (parchedig ofn?!), ac yn aml yn gallu maddau y diffyg stori. Mae'r themau lliw mor gryf ac yn newid rhwng pob persbectif gwahanol y cewn ni, gan ein galluogi i wybod lle rydyn ni yn y fflashbacks (Cyf: ôl-neidiau?). Gallech chi bron ddweud ei bod hi'n werth mynd i weld hon ar gyfer yr aesthetau yn unig. Bron, ond ddim cweit.

Ers ei gweld dwi'n mynd yn llai a llai hoff ohoni ac yn methu helpu ei chymharu a'i chwaer ffilm, "Crouching Tiger, Hidden Dragon", oedd ddim cweit mor gyfoethog ei darluniau a hon ond oedd yn sicr a llawer gwell sdori, ac yn antur go iawn gyda chymeriadau gyda dyfnder a gwrthgyferbyniadau diddorol (ac hefyd yn serennu yr hyfryd Zhang Ziyi, sydd yn chwarae rhan Moon yn y ffilm hon, ac och, mae hi'n neis pan ma hi di gwylltio!).

Ac y peth olaf oedd yn selio'i ffawd i fi oedd y syniad sy'n dod drosodd o bwysicrwydd Tsieina unedig, ac ei bod hi'n well ildio i'r syniadaeth o undod ac unbeniaeth er mwyn galluogi pawb i fyw mewn heddwch, a helpu i annog pawb i gyfathrebu a'u gilydd (yn yr un iaith unffurf hyd yn oed…). Syniad afiach sy'n drewi o daeogrwydd y cyfarwyddwr i'w lywodraeth ac i ymerodraeth Tsieina. Fel Cymro, mae hyn yn troi rhywun i wingo drwy'r ffilm, ac yn fy ngadael i'n oer tuag ato.

Os mae rhywun yn coelio mewn hawliau gwledydd bychain a'r unigolyn, nid arwr ddylia teitl y film fod ond bradwr.

Dolenni

Cyfweliad gyda Zhang Yimou

Cyfweliad gyda Zhang Ziyi yn yr Independent

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:21 yh | Comments (9)

Medi 23, 2004

Ffilmiau Byr POV Mis Medi

Nos Lun oedd noson gyntaf noson ffilmiau byr orau Caerdydd - POV - dan oruchwyliaeth criw Disco Mbobu.

Jon Rennie sydd wedi bod yn gwneud ers tua blwyddyn rwan (a chriw Those People cyn hynny), a hynny'n dda iawn chwara teg - mae'r gynulleidfa wedi cynyddu i dros 40 bob tro rwan ac yn mynd o nerth i nerth ac nis jest fel lle i gwrdd a phobl ffilmiog brwd ond mae yno emau o ffilmiau i'w cael weithiau.

Ond nid y tro hyn yn anffodus. Roedd yr arlwy chydig yn wan, ond mae'n hawdd madda gan taw un cyntaf yr hogia ydi o ac allan nhw ddim rili rheoli be sy'n dod i mewn gymaint a hynny.

Felly dyma sut aeth:

Yn gyntaf fe gawson ni "Parable Of The Future" gan Andrew Warwick oedd yn rhyw fyfyrdod led-sci-fi oedd dwi'n meddwl yn esgus i wisgo siacedi lledar hir a thrio erych yn cwl - ond yn anffodus heb lwyddo. Nesaf!

"Die Zwoelfte Stunde" (The Twelve [rwbath]) gan Keri Collins, un o griw Disco Mbobu, oedd wedyn. Piss-take o Nosferatu a hen ffilmiau ddi-sain yn steil Leslie Nielsen wedi'w saethu o amgylch Castell Coch. Reit ddoniol chwara teg, ac roedd rhai o'r shots yn reit neis 'fyd.

Trailer wedyn i ffilm nodwedd wltra cyllideb isel gan Lausanne Films o'r enw "8-Ball" - ddudwn ni hyn - dwi ddim am redag i chwilio amdano ar y silff styraight to vid Blockbusters.

A chyn y brec peint a pisiad - daeth ffilm ddarlunia byw CG o'r enw "Tales Of Heaven's Waiting Room" gan Jon Draper, boi lleol arall dwi'n credu. Animeiddio digon da, a chydig yn ddoniol ond doedd o'n gneud llawer i fi'n anffodus.

...sgwrs....cwis....ennill y cwis (woo!)...nol a ni...

Trailer arall gan Lausanne Films ar gyfer "Grave Matter" eu ffilm zombie cyllideb isel. Hmmm, NESAF!

Ffilm swreal "Actress In Red Again" gan Tobias Tobbell oedd nesaf. Od iawn, ailadroddus, self-indulgent yn sicr ond...roedd na rwbath yna yn y syniad o foi'n mynd i agor y drws a gweld hogan yn dod mewn i'r ty'n ruffled a mud wedyn pan ma'n troi rownd i nol rwbath iddi ma hi'n diflannu a dod nol at y drws unwaith eto! Y gora hyd yn hyn...

Fideo promo cerddoriaeth afrej iawn gan Richard Bowen a ffilm dditectif hard-boiled "One Sixty A Day" oedd yn fflashi (edrych yn ddrud i'w wneud) ond mor derivatve o Lock Stock oedd o'n anghygoel. A phwy sydd eisio efelychu'r cachu pw yna dwi ddim yn gwbod.

Ac yn olaf un, roedd na ddarn o animeiddio oedd yn werth yr aros - "A Tale Of A Man And A Fish" gan Gareth Blayney. Ffilm 1984-aidd ei naws a Shepherd Fairey-aidd ei delweddau. 5-munud o gyfresi o luniau a soundbytes yn creu darlun du o'n byd treisgar ni.

Felly, noson olreit o ran ffilmiau, ond gret o ran y bobl a'r awyrgylch. Edrych mlaen i'r un nesaf. Ddowch chi ddim?

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 06:49 yh | Comments (0)

Medi 15, 2004

Casuistry: The Art of Killing a Cat (2004)

Bydd ffilm yn cael ei dangos yng ngwyl ffilmiau Toronto o'r enw Casuistry: The Art of Killing a Cat. Stori ar wefan y BBC.

Yn y ffilm, mae tri artist yn lladd cath yn araf bach, er mwyn gwneud rhyw bwynt amwys ynglyn ag adloniant o'i gymharu ag erchyllterau go iawn. Y ddau bwynt sydd yn fy nharo i - sut mae'n bosibl gwneud pwynt yn erbyn cam-drin anifeiliaid drwy gam-drin anifail, a sut mae'r protestwyr yn gallu cyfiawnhau bygwth trais yn erbyn staff gwyl ffilmiau Toronto am ddangos y ffilm?

Posted by Geraint Criddle at 09:47 yb | Comments (0)

Medi 01, 2004

Gwylio Angenrheidiol! - Hamburg Cell

Mae'r ffilm Hamburg Cell, am deroristiad 9/11, wedi bod yn cael adroddiadau da iawn o Gaeredin ac yn ffodus iawn mae'n dangos ar y sgrin fach nos Iau am 9 o'r gloch ar Sianel 4 neu i chwi ar S4C rhaid i chi aros tan Ddydd Sul y 5ed Medi am 22.45. Yn sicr yn ffilm sy'n rhaid ei gwylio.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:35 yb | Comments (0)

Awst 31, 2004

El Crimen del Padre Amaro (Carlos Carrera, 2002)

Yn dilyn fy methiant neithiwr i weld 'The Motorcycle Diaries', gwyliais yn lle hynny ffilm arall gyda Gael García Bernal, sef El Crimen del Padre Amaro, ffilm hynod ddadleuol sy'n delio â chrefydd gyfundrefnol a'r rhagrith sydd yn aml yn rhan o hynny.

Dechrau y stori yw taith y Tad Amaro (García Bernal) i'w leoliad newydd, fel prentis i'r Tad Benito, lle daw'r bws y mae'n teithio arno o dan ymosodiad gan ddihirod pen ffordd modern. Caiff arian y gwr yr oedd yn teithio ag ef ei ddwyn, arian yr oedd y gwr yn bwriadu ei ddefnyddio i agor siop. Gwelwn, i ddechrau, rinweddau Cristnogol da cymeriad Bernal, wrth iddo roi rhywfaint o arian i'r gwr i'w roi ar ben ffordd unwaith eto.

Ond buan y daw hyn i ben. Yn araf bach caiff y Tad Amaro ei sugno i mewn i fyd llwgr y Tad Benito, sydd wedi troi i ffwrdd o'i fywyd di-gymar, ac yn ymwneud â gwr sydd yn symud ar dir y bobl leol ac yn eu gorfodi i dyfu pabis er mwyn cynhyrchu cyffuriau. Mae brwydr amlwg yn digwydd yn yr ardal, ar lefel grefyddol a gwleidyddol, a nodweddir hyn drwy ddau gymeriad, y Tad Benito a'r Tad Natalio. Mae'r un yn fodlon cymryd arian a geir drwy gymryd mantais o'r bobl drwy gyffuriau i adeiladu ysbyty ar gyfer pobl gyfoethog, tra bod y llall yn ymladd yn erbyn hyn drwy gynnig lloches a chymorth i'r rhai sy'n cynnal rhyfel guerrilla yn erbyn y masnachwyr cyffuriau.

Fodd bynnag, nid yw'r darlun mor eglur â hynny, a gwelwn bod y Tad Natalio ei hun yn troi at ddulliau dan din, drwy lofrudd y ffotograffydd mewn bedyddio yn nhy'r prif fasnachwr cyffuriau, Chato Aguilar, lle roedd y Tad Benito yn offeiriad. Mae hyn yn rhan o gynllwyn i ddatgelu holl drafodion anonest y Tad Benito a'r cysylltiad rhwng yr Eglwys Gatholig a'r grwpiau sy'n tanseilio'r gymdeithas y maent i fod i'w chynnal. Gwelir ymhellach y rhagrith hwn ar waith wrth i berthynas flaguro rhwng y Tad Amaro ac Amelia, merch ifanc grefyddol a oedd yn gymar i Rubén. Alltudiwyd y gwr ifanc hwnnw gan y gymdeithas am ysgrifennu'r erthygl a oedd yn dangos y berthynas rhwng yr Eglwys a'r masnachwyr cyffuriau. Gwelwn bwer yr Eglwys yn y gymdeithas - caiff y cymeriadau di-grefydd hyn sy'n dweud y gwir eu pardduo ar unwaith am feiddio dweud unrhyw beth yn erbyn y drefn.

Cymhleth hefyd yw'r berthynas hon sy'n blaguro rhwng y ddau berson ifanc. Er na all y gynulleidfa eu hoffi oherwydd eu rhagrith crefyddol, mae'n amlwg bod cariad gwirioneddol a diniwed yn bodoli rhyngddynt. Eto, daw'r Eglwys rhyngddynt yn y ffaith bod y Tad Amaro i fod i ddilyn bywyd di-gymar, a phan mae'r Tad Benito yn dod i wybod am hyn, mae'n bygwth crybwyll y berthynas wrth yr Esgob, er gwaethaf ei berthynas ei hun â Sanjuanera, mam Amelia!

Tro'r ffilm yn wers am adnabod moesoldeb a rhagrith o fewn cymdeithas ac o fewn ein hunain. Tro'r digwyddiadau o fewn y ffilm yn drasiedi am na all y cymeriadau na'r gymdeithas wynebu'r ffaith fod pobl yn wahanol i'r delweddau delfrydol y ceisir eu creu o fewn y ffilm. Mae pawb yn ffaeledig, ac iach yw cydnabod hynny, yn lle goleuo'ch cannwyll a'i rhoi o dan berth.

Posted by Geraint Criddle at 02:56 yh | Comments (0)

Awst 26, 2004

Diarios de motocicleta / The Motorcycle Diaries (Walter Salles, 2004)

(Imdb)(Swyddogol - neis iawn)

Ffilm hir-ddisgwyliedig Walter Salles wedi'w addasu o ddyddiaduron Ernesto "Che" Guevara ac Alberto Granado am eu taith fel dynion ifanc ar eu bangar o fotobeic Norton 500, o'r Ariannin i Venezuela. Taith fuasai'n dylanwadu'r ddau, yn arbennig Ernesto, a newid trywydd bywydau'r ddau yn gyfangwbl.

Mae'n debyg taw o ddyddiaduron Alberto yn hytrach na Che mae llawer o'r geiriau troslais yn y ffilm wedi dod, ac taw teitl llyfr Che a hanes y daith yw'r unig wir ddarnau a gymerwyd ohono. Sy'n gwneud synnwyr gan fod iaith y cofnodion yn swynol ac yn syndod o farddonol. Mae hefyd yn trosglwyddo i naws y ffilm sy'n dawnsio rhwng adegau dwys heb fod yn or-ddramatig i ddarnau doniol iawn. Mae'r sinematograffi yn parhau i fod yn wych a chadw at safon uchel Salles (mae'n werth gweld Under The Sun am hyn yn unig) gan ddal y diniweidrywdd a'r delfrydedd.

Mae 'na naws ddogfennol iddi mewn mannau gyda rhyngdoriadau du a gwyn graeniog yn dangos y werin dlawd sydd ym meddwl Che sydd yn peri poendod calon dwys iddo gan arwain at danio ei ymwybyddiaeth gwleidyddol a'r pen-siwrnai hon. Mae hyn, yn ogystal a pherfformiadau hollol naturiol y ddau brif actor, Gael Garcia Bernal a'r Archentwr Rodrigo de la Serna, yn rhoi stamp realiti ar y ffilm a'u sdori gan wyrdroi rhywun rhag gor-sentimentaleiddio a galluogi'r gynulleidfa i weld beth a ffurfiodd y fath angerdd.

Felly ffilm dda iawn (a gafodd glap harti gan y gynulleidfa ar y diwedd hefyd) sydd yn osgoi eiconograffi crys-t amlwg o che ac yn gadael i siwrnai'r ddau ffrind a chymrawd wneud y siarad gan wneud i chi feddwl am anghyfiawnder yn eich cyd-destun personol.

Erthygl am Alberto Granado sydd dal yn byw yn Cuba rwan ar ol sefydlu ysgol Feddygaeth yno wedi iddo fynd yno ar wahoddiad Che yn 1960.

Cyfweliad a Walter Salles yn y Times.

Cyfweliad a Gael Garcia Bernal plus crynodeb o be arall ma bobol yn feddwl yn y Guardian

Archif ar-lein Che Guevara yn cynnwys ei draethodau, delweddau ac ati.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:13 yb | Comments (8)

Awst 20, 2004

Mies vailla menneisyyttä (Aki Kaurismäki, 2002)

Mies vailla menneisyyttä (Dyn Heb Orffennol) yw ail ffilm y cyfarwyddwr Aki Kaurismäki am ei wlad enedigol, Y Ffindir.

Yn y ffilm, dilynwn hanes M, gwr a welwn ar ddechrau'r ffilm yn cael ei guro'n anymwybodol gan hwliganiaid, yn marw'n yr ysbyty, cyn codi o farw'n fyw. Aiff ymlaen i gwrdd â theulu cardodol sy'n teimlo trueni drosto a chynnig llety iddo yn eu cartref o flwch dur ar ymyl y ddinas. Yn anffodus, wedi iddo gael ei guro, mae M wedi colli pob atgof a oedd ganddo unwaith - yr unig beth sydd ganddo i afael ynddo yw iddo fod ar drên unwaith, gyda thywyllwch o'i amgylch ym mhobman. Mae hyn, wrth reswm, yn achosi anffawd iddo, gan i ni ei weld yn chwilio heb lwyddiant am swydd, am rywle i fyw ac am ryw fath o syniad o pwy ydyw ac o ble y daw.

Yma gwelwn brif neges y ffilm, sef yr anghyfiawnder a brofir gan rywun ar yr ymylon, yn ceisio cael blaen troed ar gymdeithas, wedi'i gymryd i'r eithaf. Nid oes gan M yr hawl i gael swydd, a phan mae'n rhoi tystiolaeth i'r heddlu yn dilyn lladrad banc (lle caiff ei ddal yn wystl tra'n dadlau os caiff agor cyfrif banc), mae bron yn cael ei garcharu ei hun am fod yn gardotyn am na all roi manylion am byw ydyw i'r heddlu. Mae'n cael ei achub cyn hynny gan gyfreithiwr sy'n cael ei anfon i orsaf yr heddlu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, drwy law Irma.

Yr un peth sy'n ei achub rhag llithro ymhellach i bydew tywyll bywyd yr ymylon yw Irma, menyw y mae'n cwrdd â hi sy'n gwneud gwaith gwirfoddol dros Fyddin yr Iachawdwriaeth. Hi sydd yn ei helpu i'w helpu ei hun, gan roi dillad a gwaith iddo, ac yn bwysicaf oll, yr amser a'r gofal y mae'n amlwg nad yw M yn ei gael fel arall gan rannau mwy cyfoethog a llewyrchus y gymdeithas. Serch hynny, llwydda M i wyrdroi'r hyn sy'n cael ei bregethu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, drwy ddylanwadu'r band i ddechrau chwarae roc a rôl (un o'i angerddau), ac ymestyn i'r bobl eraill sydd ar yr ymylon gydag ef drwy ddulliau cyfoes. Yr hyn sy'n cael ei gyfleu yma yw'r gwerthoedd Cristnogol o gyd-dynnu a charu eich cyd-ddyn, ond heb y rigmarol sy'n rhan arferol o Gristnogaeth.

Mae aberth yn thema bwysig i'r ffilm hefyd. Mae'r bobl dlawd yn fwy na bodlon i aberthu dros ei gilydd, boed hynny'n fwyd neu loches, yn dra gwahanol i'r bobl gyfoethog a welwn, sydd yn ddigon bodlon troi eu cefnau ar y 'gwehilion' neu gymryd mantais ohonynt. Mae Irma, hefyd, drwy ei hymlyniad wrth werthoedd Cristnogol yn fodlon aberthu ei chariad tuag at M, wedi iddo ddarganfod pwy ydyw, a'i fod yn briod. Ond, pan aiff M (neu Jaakko Antero Lujanen) yn ôl at ei wraig a'i chariad newydd (roeddent wedi gwahanu cyn iddo ddiflannu), mae'n darganfod mai lle oeraidd a heb frawdoliaeth yw'r bywyd maestrefol dosbarth canol. Mae'n dychwelyd i'r ymylon i fod gyda'r bobl sy'n dangos y mwyaf o haelioni a chariad.

Yr hyn a geir yma yw ffilm sy'n llawn hiwmor tywyll, ac yn aml sy'n cyfleu anobaith, wrth i M wynebu brigau a chafnau llwyddiant a methiant bob yn ail. Ond neges greiddiol y ffilm yw fod gobaith a chariad yn hollbwysig i'r bod dynol, ac er i lechen bywyd gael ei glanhau o'r newydd o bethau materol bywyd, dyma sydd yn aros yn y cof ac yn y galon.

Posted by Geraint Criddle at 12:23 yh | Comments (3)

Awst 18, 2004

Le Souffle (Damien Odoul, 2001)

(IMDb)

Ffilm fach ddiddorol o Ffrainc, sy'n fwy o stori fer na nofel yn nhermau ei hyd (dim ond 77 munud) a'i huchelgais, ond sy'n gweithio yn dda iawn tu fewn y cyfyngiadau hynny.

Stori yw hon am fachgen yn ei arddegau (perfformiad cryf gan Pierre-Louis Bonnetblanc yn ei ffilm gyntaf) sy'n byw ar fferm yng nghefn gwlad Ffrainc gyda ei ddau wncl. Ar y wyneb, dyw'r bachgen ddim yn gymeriad hoffus iawn: mae'n e'n pwdu trwy'r amser, mae'n e'n greulon wrth yr anifeiliaid a'r bobl o'i gwmpas, dyw e ddim hyd yn oed yn gallu dal ei win, ond dan y wyneb mae ganddo bywyd mewnol cyfoethog iawn, sy'n cael ei ddangos mewn cyfres o olygfeydd breuddwydio du a gwyn. Beth sy'n ddiddorol am hyn yw bod yr holl ffilm yn ddu a gwyn, felly dyw e ddim yn glir iawn, ar ran eu golwg, pa olygfeydd sy'n "freuddwydion" a pha rhai sy'n "ddigwyddiadau". Daw'r tyndra hwn i'w frig tua diwedd y ffilm, ond wna i ddim difetha'r stori gan ddweud mwy.

Dw i'n rhoi'r dair seren achos nad yw hon yn ffilm heb ei gwallau, ond fel ffilm gan gyfarwyddwr newydd, mae'n werth ei gwylio.

Mae gwefan Damien Odoul yn un dda iawn, gyda clipiau o'r ffilm hon a gweddill ei waith. Dim is-deitlau, ddo, felly bydd cael rhyw grap ar Ffrangeg yn help, debyg. Wel, mwy o grap na sy 'da fi, ta beth.

Posted by Nic Dafis at 01:35 yh | Comments (0)

Tenkû no shiro Rapyuta (Hayao Miyazaki, 1986)

(IMDb)

Mae anime wedi bod yn wlad anhysbys i fi tan yn ddiweddar, pan wnaeth Spirited Away agor fy llygaid. Dyma ffilm gynharach gan yr un cyfarwyddwr.

Mae'r stori yn seiliedig, yn fras ddigon, ar Gulliver's Travels. Fel yn Spirited Away, mae safon yr animeiddio yn gallu edrych bach yn amrwd, wrth gymharu â chynhyrchion Hollywood cyfoesol, ond prif atyniad gwaith Hayao Miyazaki yw'r amgylchfydoedd hynod o gyfoethog mae e'n creu yn y ffilmiau. Yn Spirited Away, aeth teulu y ferch fach trwy "iêt hudol" i fyd arall, trosiad digon cyffredin yn y genre (drych Alice, cwpwrdd plant C.S.Lewis ac ati). Yn y ffilm hon, dyn ni'n cael ein taflu syth i mewn i fyd sy'n edrych yn debyg i'n un ni, ond sy'n wahanol mewn sawl ffordd pwysig. Y gwahaniaeth mwya amlwg yw'r peiriannau hedfan ffantastig, a'r elfen hudol ("Levistone" yn ôl y fersiwn yma o'r sgript, ond rhywbeth arall yn yr is-deitlau, dw i'n meddwl). Fy hoff ddarn i o'r ffilm yw'r gerddi tua'r diwedd, sy'n atgoffa i o waith Moebius.

Gwych o ffilm, a dw i'n edrych ymlaen at weld mwy gan Hayao Miyazaki.

Oes awgrymiadau amine eraill 'da chi?

Dolenni:

Gwe-ffan Tsieinëeg/Saesneg gyda llawer o sgrînluniau, copi o'r sgript, a llawer mwy.

Ffilm nesa Miyazaki - castell symudol arall.

Papurau wal. MP3au y trac sain, gyda llawer o "pop ups", os wyt ti'n defnyddio porwr Microsoft. Pam yn y byd wyt ti'n defnyddio hwnna?

Posted by Nic Dafis at 10:54 yb | Comments (9)

Bourne Supremacy, The (Paul Greengrass, 2004)

(Imdb)(Offisial)

Yr ail ffilm i ddeillio o nofelau Robert Ludlum, eto yn serennu Matt Damon fel Jason Bourne, yr aelod CIA a fu'n wltra-cudd sy'n ceisio torri'n rhydd o'i fywyd fel asiant ond sydd wastad yn cael ei dynnu nol mewn i'r ffae.

Mae'n fy synnu rywfaint fod Paul Greengrass wedi llwyddo mynd o ffilm fel Bloody Sunday, oedd yn wych iawn ac yn un o'r ffilmiau prin hynny i wneud y symudiad o deledu i'r sgrin fawr yn llwyddiannus, i ffilm action-thriller fel hwn. Ond chwarae teg, mae o wedi rhoi mwy iddo na'r bloneg xXx-aidd arferol sy'n ein mogi yn y myltiplecs. (Allai ddim meddwl ar y foment o ffilmiau eraill sydd wedi gwneud y ffasiwn symudiad? Unrhyw syniadau?)

Mae na deimlad gorthrymaidd o lwyd yn tyfu fwyfwy fel yr aiff ymlaen - cychwyn yn Goa boeth is-drofannol, gyda'n arwr yn ymlacio a gorffen yn Moscow yn yr eira, a'r pwysedd mewnol yn uchel. Mae ganddo bopeth sydd ei angen mewn thriller, mae'r stakes mor uchel i Bourne a'r siawns ohono'n dianc o'r llanast mae ynddo mor brin na allwch chi goelio ei fod am allu gwneud unrhywbeth, ond, yng ngwir ysbryd James Bond (ac mae hwn llawer gwell nac unrhyw un ers Moore) mae'n llwyddo, rywsut, drwy sgiliau bron tu-hwnt i allu dyn.

Mae'r car-chases (unrhyw awgrymiad am gyfieithiad?) yn wych, gyda'r ceir bron yn dawnsio efo'u gilydd ar un adeg. Mae'r ffîd adrenalin yn gyson hefyd, dyw Bourne byth yn cael amser i ymlacio - fydd na ddim cysgu yn y ffilm hon dwi'n gaddo. Mi welish i'r cyntaf ar DVD peirat (rhag fy nghywilydd...) a'i mwynhau, a dyna f'ysgogodd i fynd i weld hon, a ches i mo'n siomi.

Mae Matt Damon yn siwtio rol yn dda - boi caled ond galluog, boi clen i rai ond di-faddeuant i eraill - mae'n gallu cyfleu yr oll yn llywddiannus iawn.

Roedd na fwy iddi na spy-thriller's arferol gyda llawer o sdwff gweledol graeniog, yn arbennig adegau flashback amnesiac Bourne, oedd yn ychwanegu at y ffilm ac yn cydfynd yn dda a'r lleoliadau oer Berlin a Moscow. Dyw hi ddim yn glasur ond os am rhywbeth safonol o'r genre i godi curiad eich calon ryw bripsyn wel dyma hi.

- "Pwy 'Di Pwy" yn y Bourne Supremacy?
- Cyfweliad a Paul Greengrass (Times)
- Cyfweliad a Brian Cox (neshi gwrdd a fo ha ma!) (Guardian)
- Cyfweliad a Matt Damon (Independent)

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:30 yb | Comments (5)

Awst 15, 2004

Gozu (Takashi Miike, 2003)

(IMDb)

I'r rhai sydd ddim yn gyfarwydd a gwaith Miike, mae o'n gyarwyddwr hynod brysur (mae IMDb yn dangos 61 ffilm yn ei yrfa hyd yn hyn), ac hefyd yn gyfrifol am greu rhai o'r ffilmiau mwyaf od, dychrynllyd a gweledol-drawiadol yn y blynyddoedd diwethaf.
gozuposter.jpg
Yn y ffilm hon mae'n mynd a'r gynulleidfa i fyd yr yakuza, ond gan taw Miike ydi hwn dwy pethau ddim jest yn sdori gangster, mae na lefel arall o swrealiti i chwalu'ch pen.

Rydyn ni'n cychwyn mewn bwyty, a chyfarfod gang lleol o Yakuza, mae un o'r aelodau, Ozaki, yn dweud wrth y bos fod yna broblem tu allan - fod ci bach dynes sydd yn siarad tu allan i'r caffi yn gi-lladd wedi'w hyfforddi gan gang arall o'r Yakuza ac ei fod wedi dod i'w asasineiddio. Cyn i'r bos allu gwneud dim mae Ozaki yn mynd tu allan ac yn lladd y ci bach o flaen ei berchennog mewn ffordd hunllefus o greulon. Mae Ozaki'n amlwg wedi colli sgriw neu ddwy. Mae'r bos wedyn yn dweud wrth, Minami, cydymaith ffyddlon Ozaki i fynd a fo i Nagoya (sydd yn dref twll tin byd) i 'sortio Ozaki allan'. Ar y ffordd, mae mewn stop cyflym mae Ozaki'n taro ei ben ar flaen y car ac yn ymddangos ei fod wedi marw. Mae Minami'n panicio wedyn pan mae corff Ozaki'n diflannu o'i gar, tra mewn caffi o bobl leol od ar y naw.

O fan hyn mae'r ffilm yn dilyn ymgais Minami i ddarganfod ble 'raeth Ozaki, sydd yn mynd a Minami'n ddyfnach mewn i gymdeithas danddaearol y dref a'i psyche ei hun gan ddod i gysylltiad a rheolwraig gwesty sy'n lactatio dros Siapan, creaduriaid gyda pen tarw (cyfieithaid y teitl: Gozu) a llawer llawer mwy. Mae Minami'n mynd fwyfwy rhwystredig ac mae'r cleimacs wedi iddo ddychwelyd yn mynd i eithafion (i safonau Miike) heibio unrhyw ddeall golwg gyntaf arferol, ac ynmynd i fyd yr 'Yakuza Horror Theatre' fel mae o'i hun wedi bathu ei waith.

Fydd rhan fwyaf o bobl yn hoffi'r ffilm? Mae hon yn un o rai llai hygyrch Miike (os oes 'na ffasiwn beth!), ac yn dueddol o fod ormod felly yn rhai darnau yn y canol hyd yn oed oi ffan sy'n fodlon maddau lot. Mae rhywun yn colli diddordeb yn y ffilm, gan fod yno ysbeidiau lle nad oes diddordeb gweledol na phlot. Wedi dweud hyn mae yma rai golygfeydd unigol gweledol ysbrydoledig fel sydd i'w ddisgwyl gan Miike, sydd yn rhoi hiwmor tywyll fel y fagddu iddo. Eto, yn Ichi The Killer (Takashi Miike, 2001) roedd yna edefyn o naratif y gallen ni ddilyn. Mae Gozu yn colli'r plot yn llythrennol ac yn y diweddu'n siomi'r gynulleidfa drwy roi sawl sioc a thric sydd ddim yn adio at lawer o beth. Mae'r subtext am ddarganfyddiad rhywiol a dryswch Minami am ei rywioldeb yn ddifyr ac mae'r ymdrech i'w gyfleu yn weledol (iawn) yn rhoi rhywbeth i'r ffilm heibio dim ond odrwydd ond dyw ddim yn ddigon.

I chi sy'n hoffi pethau od, efallai ei bod hi'n werth mynd i'w gweld serch hynny, gan fod rhai o'r syniadau a golygfeydd yn wir ddoniol a welwch chi ddim llawer o ddim tebyg ar y sgrin fawr yn cymharu a hyn. Fel arall, mae hi'n annodd iawn cyfiawnhau clod i hon yng nghyd-destun ei waith arall a gwaith pobl fel Lynch yn yr un maes.

Dolenni:
Fforwm Ffilmiau Asiaidd Snowbloodapple
Cyfweliad a Miike ar wefan awdurdodol ffilmiau Siapaneaidd Midnight Eye
Cyfweliad a Miike ar "Gozu" ar Indiewire
Gwefan adolygiadau ffilmiau Siapaneiadd Gareth Evans (Cymreig!)

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 11:35 yb | Comments (1)

Awst 06, 2004

Eraserhead (David Lynch, 1977)

(IMDb)

"OH! You ARE sick!" :D

Dychrynllyd, ffilm sydd mor ddwfn yn psyche David Lynch nad ydi'n hawdd ei wylio, ond eto...ma na rywbeth yn fy nhynnu nol. Mae 'na synnwyr dwi'n dweud wrth fy hun, mae hwn yn taro rhai nodau rywle yn fy mhen!

**Difethwyr MAWR gyda llaw** (er, dwn im faint o wahaniaeth ma hynny'n gneud efo'r ffilm hwn...)

Ydi o am ofn cael plant, cyfrifoldeb, y syniadaeth grefyddol-ffwndamenatalaidd fod rhyw a rhywioldeb yn bechod trahaus, am erthylu hyd yn oed? Oll o berspectif dyn, dyn sydd yn ofnus, bryderus, ansicr. Mae ei holl ofnau i'w gweld yn dod yn wir: mae ei wraig yn ei adael, mae hi'n gadael y babi, mae'r babi'n mynd yn sal a fyntau heb glem, mae'n cael ei ymwrthod gan y ddynes drws nesaf - y ddynes mae'n ei geisio er mwyn dianc ei fywyd tragwyddol wael, mae'n cael hunllefau am sberm anferth yn ei wely!

Ei unig gysur yw'r 'ddynes yn y radiator', y ddynes fochdew yn canu'r mantra "Yn y nefoedd, mae pob dim yn iawn": yn fy nhyb i, ei is-ymwybod yn dweud wrtho am ladd ei hun a'i faban (mae hi'n sefyll ar ei sberm), bydd popeth yn iawn Henry, pan ei di o'r byd hwn, fydd dim problem gen ti. Yn y diwedd mae ei euogrwydd am ladd ei blentyn (erthylu ei fabi?, dydi'r babi ddim wedi tyfu o gwbl drwy'r ffilm ac mewn rhyw stad o gyn-anedigrwydd ffoetysaidd, alien) yn ei anfon i ladd ei hun, gan ymuno a dynes y rheiddiadur mewn cwtsh cysurus yn y golau gwyn.

Dwi ddim yn deall y darn lle mae'r bachgen yn dwyn pen Henry a gwneud rwbiwr pensal allan ohono, er taw hon yw sail y ffilm...rhywun rhywle ar fwrdd negeseuon Eraserhead Imdb wedi amwgrymu fod hyn i wneud a'r bosys o fewn amgylchiadau dra-diwydiannol yn cymryd mantais o weithiwyr gymaint eu bod yn llythrennol ddefnyddio cyrff eu gweithwyr i wneud arian.

Dyma draethawd gan Ray Wolfe yn ceisio rhoi dadansoddiad llawnach na mhaldaruo i am y ffilm. (mhaldaruo - waw, ydi hwnna'n air Cymraeg?!)

A thipyn o wybodaeth gefndirol am y ffilm, yr actor Jack Nance, a'r trac sain.

Mwy ar Eraserhead o wefan ffan Lynch o'r Almaen (mae gwefan offisial Misdar Lynch yn PPV, oes bobols, ma raid talu.).

Allwch chi goelio fod hwn wedi ei gynhyrchu ym 1977? Ma dal i'w weld yn ffresh rwan i fi.

Faswn i'n falch o glywed unrhyw syniadau pellach am esboniad neu ddarlleniad i'r ffilm gyfrin hon sy'n gallu creu teimladau cryf o ddelweddau a synnau mor abstract. Hwyl, R.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 11:04 yh | Comments (2)

Mai 21, 2004

Adaptation (Spike Jonze, 2002)

Dyma'r ail ffilm gyda 'rhen Nic Cage fel y prif actor i fi ei gwylio mewn wythnos, yn dilyn Wild at Heart gan yr ardderchog David Lynch (rwy'n dipyn o Twin Peaks obsessive).

Cydweithrediad arall rhwng Spike Jonze a Charlie Kauffman yw'r ffilm hon, yn dilyn Being John Malkovich, ac yn wir, tua dechrau'r ffilm, fe welwn Kauffman (Cage) ar set y ffilm honno, yn cael ei anwybyddu gan John Cusack a Catherine Keener. Kauffman, chi'n gweld, yw'r sgwennwr, di-nod, artist sy'n ymdrechu yn y tywyllwch, heb i neb werthfawrogi ei athrylith amlwg.

Ffordd Kauffman, felly, o gael y sylw y mae'n teimlo y mae'n ei haeddu, yw trwy wthio'i hun i mewn i'r ffilm y mae'n ei sgwennu, sy'n seiliedig ar lyfr 'The Orchard Thief' am fenyw (Meryl Streep) sy'n cwrdd â dyn (Chris Cooper) sy'n arbenigo mewn dwyn tegeiriannau, a'r berthynas sy'n blaguro (boom boom) rhyngddynt. Fodd bynnag, dyma lle mae'r ffilm yn mynd ar chwâl yn fy marn i. Mae Kauffman yn chwarae â'r cysyniad gymaint, nes fod y ffilm yn troi'n rhywbeth hollol anghredadwy, gyda Streep yn ceisio lladd Cage (sy'n hollol groes i'w chymeriad blaenorol) a chymeriad Chris Cooper yn y diwedd yn cael ei ladd gan alligator (sydd ddim yn lladd Meryl Streep, damo)...

Posted by Geraint Criddle at 11:01 yb | Comments (4)

Mai 20, 2004

Shattered Glass (Bill Ray, 2003)

Roedd Stephen Glass yn 26, yn un o sgwennwyr mwyaf dawnus cylchgrawn gwleidyddol Americanaidd uchel ei barch - The New Republic. Mae'r ffilm hon yn dilyn hanes y dyn hwn a lwyddodd i ennyn parch y golygyddion a'r staff, ond sy'n dechrau mynd yn ddarnau pan mae ffeithiau eu straeon yn dod dan sylw, sylw manwl iawn. Mae'r ffilm yn cwestiynu pa mor bell all golygydd fynd i edrych ar ol ei staff a pryd mae'r llinell yna rhwng stori wir a sdori wneud yn cael ei groesi.

(IMDb)

Rwan, o'n i'n ofn gweld hon i gychwyn. Paham? Hayden Christiansen, dyna pam.

Mae'r gwr yma yn barod wedi actio(...) yn rhai o'r ffilmiau mwya i gael eu gwneud erioed. Sut mae'n bosib osgoi meddwl amdano fel neb ond Anakin Skywalker yn unrhywbeth arall? Ond, i'm cryn syndod fe roddodd berfformiad cryno a choeliadwy. Mae'n rhaid dweud fod y cast cefnogol hefyd yn wych, yn arbennig Peter Sarsgaard, sydd yn disgleirio yn ei bortread o olygydd sydd yn ddifrifol dan y lach.

Mae'n film dynn (dim ond 94 munud) sy'n gafael ynddoch chi a thynnu chi mewn i fyd y newyddiadurwr a da chi'n teimlo'r tymheredd yn codi ac yn codi yn gyson yn y swyddfeydd bach, clos. Di ddim yn sdori anferth ond mae'n creu teimlad o banig a thensiwn, a gweld nad oes unman i droi.

Dydi hi ddim yn ffilm 'fawr' yn ei themau a sgop ond am be ydi, ma hi'n llwyddo. Faswn i'n deud fod Billy Ray, y cyfarwyddwr, yn un i gadw llygad arno (er galla fo neud efo newid ei enw...).

Dyma'r stori newyddion wreiddiol: difethwyr o fewn y ddolen, wrth gwrs.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 06:55 yh | Comments (0)

Mai 17, 2004

Troy (Wolfgang Petersen, 2004)

Un arall o'r ffilmiau epic hanesyddol sy'n ymddangos wedi llwyddiant Gladiator a Lord of the Rings. Stori Illiad Homer yw hwn, gyda Brad Pitt fel Achillies a Eric Bana fel Hector.

Mae'n rhaid gofyn os oedd Lord of the Rings yn syniad da ai peidio. Ffilmiau gwych, ie, ond ffilmiau a oedd yn rhwygo fyny'r llyfr rheolau pam oedd hi'n dod i strwythyr a hyd ffilmiau. Mi oedd hi'n gweithio fan na, ond diolch i LOTR rhaid i ni eistedd trwy degau o ffilmiau di strwythyr sydd ddim yn gwybod pryd i orffen. Mae Troy yn sicr yn un o'r ffilmiau hynny.
Prif wendid y ffilm yw'r cymeriadau. Nid yn unig dyw'r perfformiadau ddim yn wych, er bod y cast yn un da, ond does dim llawer iw hoffi am y cymeriadau. Mae Achillies yn ben bach sy'n pwdu'n ddi ddiwedd dros rywbeth neu'i gilydd, mae Paris (Orlando Bloom) yn gachgi sy'n fodlon dechrau rhyfel rhwng dau wlad fel bod o'n cael rhedeg i ffwrdd da Helen, a mae Agamemnon (Brian Cox) yn troi'r Drwg-O-Meter fyny i 11. Dim ond Hector (Eric Bana) a Priam (Peter O'Toole) sy'n gymeriadau hoffus. Gyda cymeriadau yr un mor ddrwg ar y ddau ochor, ni fyddach chi wir yn poeni erbyn y diwedd pwy sy'n curo'r frwydyr, jyst bod y ffilm yn gorffen.
Mae'r plot yn wan hefyd, gyda'r ffocws ar y cychwyn, sef Paris yn dwyn Helen, bron a cael ei anghofio erbyn hanner ffordd drwyodd. Mae na un twist da i'r rheini sydd erioed wedi clywed am Homer (cliw, rywbeth iw wneud a ceffyl) ond heblaw am hynny mae'r holl beth yn disgyn yn fflat. Hefyd mae rhai rhannau o'r plot ddim yn gwneud smic o synnwyr.
Ond beth am y brwydrau? Ydi nhw'n safio'r ffilm? Dim wir. Mae na ambell i frwydyr diddorol, fel un Achillies a Hector, ond mae'r brwydrau mawr rhwng byddioedd yn dod lawr i wylio dau fyddin CG yn taro'n erbyn ei gilydd, drosodd a drosodd. Heb dy fod yn poeni am unrhyw rai o'r cymeriadau yn y frwydyr, tydi'r cwffio ddim yn ddiddorol iawn. Does dim o ddyfeisgarwch Lord of the Rings yma.
Siomedig ar y cyfan felly. Ni fysai Homer yn hapus.

Posted by Ifan Morgan Jones at 04:44 yh | Comments (0)

Mai 09, 2004

Shaun of the Dead (Edgar Wright, 2004)

Comedi rhamantus am sombiaid, gyda Simon Pegg a Nick Frost.

Mae'n amlwg nad ydyw'r pobl a wnaeth hwn yn gyfarwydd gyda gwneud ffilmiau. Mae'r comedi yn ddoniol iawn, ond mae'r darnau difrifol wedi ei gollwng mewn i'r ffilm yn boenus iw gwylio ymysg yr holl chwerthin. Mae hi bron fel mwynhau sioe gomedi sefyll mewn angladd; un funud mae gofyn i ni chwerthin am farwolaeth, y nesaf i grio drosto. Mae'r diweddglo yn wan hefyd, gyda syniad am drydedd act sydd wedi ei wneud i farwolaeth yn barod, a cyfarwyddo reit wael o'r 'action' sy'n disgyn yn flat. Mae'r diweddglo hefyn yn Deus Ex Machina a fydd yn gadael y mwyafrif yn crafu'i pennau.
Ond eto am fannau gwan y ffilm gyfan mae'n ddoniol iawn ar adegau. Ac yn dreisgar dros ben, i'r rheini sy'n mwynhau gweld perfedd dynol yn cael ei fwyta gan sombis llwglyd. Mae'n codi ofn ar adegau hefyd, er fod lot gormod o fraw yn cael ei greu gan frawiadau-annilys yn yr hanner awr cyntaf a dim digon gan y sombis ei hunain.
Beth yw neges y ffilm, felly? Ein bod ni i gyd yn sombis, yn y bon, yn cerdded trwy fywyd yn hanner cysgu. Yn anffodus, mae ffilm sombi, y Dawn of the Dead gwreiddiol, wedi gwneud y gymhariaeth eironig yma dau ddeg saith mlynedd yn ol, ac i effaith lot gwell.

Posted by Ifan Morgan Jones at 01:48 yb | Comments (2)

Mai 06, 2004

Capturing The Friedmans (Andrew Jarecki, 2003)

(IMDb)
(Gwefan Swyddogol - mae hon yn WYCH!)

Ffilm ddogfen (arall!) ar gyfer y sgrin fawr, sy'n mynd trwy ddillad budr teulu'r Friedmans a gafodd eu rhwygo'n ddarnau gan arest y tad, Arnold a'i fab, Jesse am dreisio plant yn y gwersi cyfrifiaduron roeddent yn cynnal gartref. Y sbin ar hon ydi fod y mab hynaf, David, wedi recordio hyn oll ar gamera fideo - gan ddal sawl ffrae, treial, denial a nosweithiau olaf y ddau a gyhuddwyd.

Mae hon yn un annodd i'w gwylio. Mae'r ffilm, a'r holl bobol a gyfwelid ynddo, yn gwrthddweud ei hun sawl gwaith: ydyn nhw'n euog, ydyn nhw ddim, ydyn nhw chydig bach, wnaeth yr heddlu wthio'r plant yn rhy galed am gyffesiad. Mae'r holl bethau yma'n reslo efo'u gilydd yn eich bren tra mae drama'r teulu ffycd yp ma'n cael ei ddarlledu'n uniongyrchol mewn i'ch ymennydd. Mae bron yn amhosib gwybod pwy sy'n dweud y gwir erbyn y diwedd ag o'n i'n tueddu i fynd mewn i dristwch dwys am yr holl sefyllfa a phawb oedd ynglwm ynddi. Mae na wirioneddau cadarn yno ond mae'r mannau llwyd rhwng y pegynnau gwrthwynebol hynny yn lletach o lawer ac yn lleihau dim erbyn y diwedd, dyw'r gagendor mond yn agor yn hwy.

O ran y ffilm ei hun, doeddwn i ddim yn gweld be oedd yn gwneud hi'n gymaint mwy sinematig na tasai ar y teledu, iawn mae na themau mawr yma: pedoffilia; mass hysteria; dinistriad yr uned deuluol; ffyddlondeb teuluol, ond yn weledol doedd hi ddim yn hynod ddyfeisgar. Efallai taw'r gwrthdaro yma rhwng safbwyntiau, y pov personol sy'n rhoi chi mewn mannau moesol annodd a'r cwestiynu cyson o'r gwirionedd sy'n gneud hi be ydi hi?

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 11:45 yh | Comments (1)

Mai 05, 2004

Don't Look Now (Nicholas Roeg, 1973)

(IMDb)

Un o glasuron arswyd y saithdegau gyda Julie Christie a Donald Sutherland yn symud i Venice i geisio dianc oddi wrth drychineb marwolaeth eu merch ond ffeindio dim byd ond rhagor o broblemau rownd y corneli tywyll a'r canals.

Er fod y transfer sain ar y DVD yn syfrdanol o wael, roedd hi'n ffilm dda iawn sydd wedi dal ei afael yn y 30 mlynedd ers iddo gael ei ryddhau. Efallai fod yr olygfa ryw yn ddigon dof erbyn hyn ond cododd dipyn o stwr bryd hynny - teimlo r'on i ei fod braidd yn ychwanegol i'r naratif a dim ond gweithio i dorri ar draws y teimlad oeraidd, tywyll, abswrd weithia (y ddynes ddall yn credded heibio yn yr eglwys yn gwenu'n wirion!!).

Ar y cyfan ffilm dda iawn gyda llawer o waith ar symbyliaeth y lliw coch a gwydr yn torri drwy gydol y ffilm yn creu naws wir arswydus, sydd, efallai ddim cweit yn cydio yn y diwedd fel y dylai, gan fod llawer wedi clywed am/gweld y twist cyn gwylio'r ffilm.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:30 yh | Comments (0)

Miller's Crossing (Joel Coen, 1990)

Fel rwy' wedi dweud nifer o weithiau ar Maes-E, un o fy hoff ffilmiau yw Miller's Crossing. Un o'r prif resymau am hyn yw'r sgript ardderchog gan y brodyr Coen, Ethan a Joel. A oes brodyr mwy dawnus erioed wedi mynd ati i greu ffilmiau?

Yn ogystal â'r sgript wych, mae'r perfformiadau'n arbennig o dda, gyda Gabriel Byrne yn arbennig yn dwyn y sioe. Mae ei gymeriad, Tom Reagan, yn llwyddo i'ch swyno, tra'n cadw gwen ddireidus yn dawnsio ar ei wefusau drwy'r cyfan oll i gyd.

Yn bennaf oll, mae'r ffilm yn dwyn i gof oes Raymond Chandler, drwy gymeriad Tom a'r 'gift of the gab' cynhenid sy'n llwyddo i'w gael i ddianc nifer o droeon trwstan, a'r sinematograffeg hyfryd a gwreiddiol o ran teimlad.

Posted by Geraint Criddle at 11:14 yb | Comments (2)

Drum (Steve Carver, 1976)

Dyw'r ffilm yma ddim yn dda o gwbl, ond fyddwn i'n rhoi dwy seren iddi jyst achos bod Warren Oates ynddi.

Posted by Nic Dafis at 10:18 yb | Comments (0)

Two Lane Blacktop (Monte Hellman, 1971)

Dyma adolygiad o'r ffilm orau yn y byd. Dyma linc i'r IMDb, i bobl gael gweld pwy sy yn y ffilm, a dyma fi sgwennu un paragraff i grynhoi beth dw i'n meddwl andani. Mae'n wych!

A nawr dw i'n teipio yn y bocs "Extended Entry" - na fydd y stwff dw i'n ei deipio nawr yn ymddangos ar dudalen flaen y blog, ac felly fydd dim rhaid i bobl sydd heb ddiddordeb yn beth sy gyda fi i ddweud am y ffilm wych hon ddarllen y holl rwts 'ma.

Dyma linc i dudalen arall am y ffilm. Y tro 'ma dw i wedi cynnwys title o fewn y tag <a href="... er mwyn dweud rhywbeth am y linc.

Dw i'n meddwl bod y ffilm 'ma yn haeddu pum seren, ond yn lle dweud hynny yma, dw i'n rhoi y pump seren yn y bocs "Keywords", lle byddai'n nhw lot mwy o iws.

Drueni dydy bob ffilm, a bob adolygiad ffilm, cystal â hyn.

Posted by Nic Dafis at 10:11 yb | Comments (1)