Bach o hwyl...cwis sinema wiweraidd.
[Diolch Elliw!]
Mae criw Pictiwrs wrthi'n ystyried newid pryd a gwedd y wefan i'w gwneud yn fwy deniadol i bobl ei darllen, a, gobeithio, ei gwneud yn haws i bobl gyfrannu. Felly, mae tîm A-Teamaidd yn cael ei roi at ei gilydd, gyda Nic Dafis fel Murdoch (telerau i'w trafod), Mair fel Face, Rhodri Nwdls fel Hannibal, a fi fel B.A. Baracus. O bosib. Falle bydd y rolau'n newid gydag amser. Y system sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd yw Drupal.
Wna' i ddim hyd yn oed dechrau ymddangos fel 'mod i'n gwbod am beth ydw i'n sôn, ond os oes gennych chi unrhyw syniadau am yr hyn hoffech chi ei weld ar Pictiwrs yn y dyfodol agos, anfonwch neges at geraint@pictiwrs.com neu rhodri@pictiwrs.com
Gwobr D M Davies yw'r fwyaf yn Ewrop ar gyfer cyfarwyddwr ffilm fer, ac eleni mae Gŵyl Sgrîn Caerdydd wedi derbyn 69 cais ar gyfer y gystadleuaeth. Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos mewn 5 pecyn gwahanol, yng Nghanolfan Chapter, cyn datgan y 6 Uchaf ar y 14eg o Dachwedd, ac yna'r enillydd ar y 18fed. Am y tro cyntaf eleni, mae modd gwylio'r ffilmiau ar lein ar wefan Gŵyl Sgrîn Caerdydd.
Mae 'na ambell i ffilm Cymraeg yn cuddio yn y rhestr gan gynnwys Deffro (Gareth Bryn) a Ffrwcsach (Gareth Evans) i enwi dau. Dwy heb gael cyfle i wylio pob ffilm eto, felly byddwch yn siwr o adael nodyn i ddweud sut mae'r gweddill yn cymharu.
Mae Pictiwrs.com newydd gael y newyddion da bod Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn bwriadu cynnig nawdd i ni ar gyfer cynnal digwyddiadau Pictiwrs yn y Pyb. Bydd yr arian hwn o fudd mawr i ni, yn enwedig o ystyried y bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yn Aberystwyth! Hoffai trefnwyr Pictiwrs yn y Pyb ddiolch yn fawr i’r Bwrdd am ei gefnogaeth.
Yn syml, gwefan am ffilmiau explotiation a ffilmiau 'b' o Ganada.
Mae gwaith David Cronenberg yno yn amlwg, ond mae llawer mwy. Wrth edrych ar yr esboniad o be ydi Canuxploitation, sylwais fod fy hoff B-movie erioed yno: Rock'N'Roll Nightmare aka Edge Of Hell
Diolch i Lowri am yr adolygiad byr o Pictiwrs yn y Steddfod ar wefan Cymru'r Byd. Bu'n rhaid chwilio'n galed amdano, ac mae'n fwy o apêl am ddeunydd nag adolygiad yn y pen draw, ond mae'n braf cael cydnabyddiaeth ar y 'gwasanaeth cenedlaethol'.
Mae Shooting People newydd lansio gwefan er mwyn rhestri digwyddiadau sy'n ymwneud â ffilmiau annibynol. Cyfeiriad y calendr newydd yw http://shootingpeople.org/calendar/
Gobeithio fydd y calendr yn cynnwys manylion pob dangosiad, digwyddiad, gŵyl a darlith ffilm annibynol sy'n cael eu cynnal yn y DU, a bydd y cyfan yn agored i'r gwybodusion a'r werin datws 'r un fath.
Mae modd i unrhywun â manylion ynglyn a digwyddiad ffilm annibynol adael nodyn draw'na, neu cysylltwch â:
Shooting People
PO Box 51350, London N1 6XS
contact@shootingpeople.org
Gwefan ffilm newydd (arall)...Six Degrees Film
Ambell i erthygl diddorol...
(diolch i bawb ddaeth i noson Pictiwrs neithiwr gyda llaw er gwaetha'r pel-droed, y pennau tost a'r pocedi gwiegion ar ol gwyl y banc!)
Jamie Sherry yn siarad a'r guru sgriptio ffilm - Syd Field
Laughing in Sign Language: Writing a Hilarious Universe by Robert Piluso
Dwi heb rili edrych mewn i'r busnes podcasts ma'n iawn eto - ma'n ffrind i'n dysgu Ffrangeg ar ei i-pod ar y foment. Ond diolch i Suw, sydd yn cyfrannu cyfweliad ar gyfer rhaglen wythnos nesaf, dwi wedi mynd trwodd at podcast The Movie Show.
Rhaglen wythnosol wirfoddol ydi ar ffilmiau a'r diwydiant ffilm. Mae'r rhaglen ddiweddaraf yn awr a 21 munud o hyd ac yn swnio'n ddiddorol iawn.
Che.che.che.che.ch.check ut awt.
Ar wefan UBUWeb:Film, gallwch lwytho 18 o ffilmiau arbrofol, swreal ac avant-garde gan artistiaid fel Luis Buñuel, Salvador Dali, Kenneth Anger, Man Ray, John Cage, Guy Debord a Marcel Duchamp. Adnodd ffantastig.
Mae ffilm cyfan "Un Chien Andalou" yna (156MB) ac mae'r download 44% o'r ffordd drwodd...edrych mlaen.
Mae'r rhifyn diweddara o'r we-gylchgrawn ffilmiau Siapaneaidd -
Midnight Eye newydd gael ei gyhoeddi ar lein.
Mae yno gyfweliad gyda Ryuichi Hikori, cyfarwyddwr y ffilm Vibrator (2003), ffilm hynod wreiddiol a theimladwy am ymgais merch ifanc i ddeffro o'i thrwmgwsg emosiynol.
Mae pethau'n bywiogi yn Shed Ffilm gyda chystadleuaeth Super-8 newydd sbon danlli ac erthygl ar ein ffrindiau hael, Those People Productions, fuodd garediced a benthyca eu hoffer taflunio ar gyfer ein annwyl "Pictiwrs Yn Y Pyb".
Mae'r gystadleuaeth Super-Duper-8 yn agored i unrhywun a'r sialens yw i greu ffilm super-8 ar un rîl heb unrhyw olygu. Yr unig dorriadau fydd ynddo fydd pan da chi'n gwasgu'r trigger i ddechrau a stopio'r camera. Yr unig ychwanegiad y cewch wneud i'r ffilm yw i roi soundtrack i chwarae yr un pryd ar CD i ychwanegu naws, ond chaiff hwn ddim ei synch-io yn iawn chwaith.
Swnio'n annodd ddiawledig dydi, ond gyda chamerau Super-8 yn mynd am cyn lleied a £20, a rol o sdoc am tua £17, be sgynnoch chi i'w golli?
Mae'r cyfweliad gyda Neil Wagstaff a Jason King o gwmni ffilm Those People yn un sy'n edrych nol ar eu hanes fel cwmni ac yn rhoi rhyw flas ar y sefyllfa sy'n gwynebu cwmniau bach annibynnol yng Nghymru'n bresennol. Dyfodol du iawn yn ol y ddau hyn, ond maent yn parhau i fod yn fythol-frwdfrydig dros ffilm, ac yn arbennig ffilm a gwneuthurwyr ffilm Cymreig. Daliwch ati bois a pheidiwch colli'r ffydd 'na, neu 'da ni gyd yn ffycd.
Mae'r ffilm "Why We Fight?" (Eugene Jarecki, 2004) a ennillodd y categori ffilmiau dogfen yn Sundance eleni yn cael dangosiad ar BBC4 ar nos Fercher y 23ain Mawrth am 10yh a 2.10yb. Ffilm yw hi sy'n archwilio polisi tramor rhyfelgar yr UDA gan gwestiynu os yw'r polisiau hynyn seiliedig ar oruchafiaeth milwrol yn hytrach na phlismona rhyngwladol a 'brwydro' terfysgwyr.
Cewch esboniad gwell drwy ddarllen y cyfweliadau a Jarecki fan hyn a fan hyn...swnio'n ddifyr.
Chwarae teg, mae gwefan ffilm BBC Cymru'r Byd wedi rhoi syrpreis bach braf i fi heddiw drwy roi adolygiad o ddangosiad "Shorts In Colour" a drefnwyd ym mis Chwefror gan y Black Welsh Film Festival.
Mae'n rhoi adolygiad bach cryno o 6 ffilm fer a ddangoswyd yno fel arddnagosiad o waith gan ac amdan leiafrifoedd ethnig yng Nghymru (dangoswyd un ohonynt, Dwr Dwfn, yn noson "Pictiwrs Yn Y Pyb" yn nechrau Chwefror).
Mae yno hefyd erthygl dda iawn gan Caron Wyn Edwards, yn adrodd nol ar Wyl Ffilm Dulyn a gynhaliwyd rhwng yr 11eg a 20fed Chwefror, gyda sylwadau synhwyrol ar ddiwedd yr erthygl yn cymharu'r wyl a beth sy'n digwydd yng Nghaerdydd.
Mi fydd hi'n ddifyr hefyd cymharu a'u adolygiad hwy o'r ffilm anibynnol Gymreig Powerless, sydd yn eistedd ar fy silff yn aros i gael ei gwylio ers wythnosau bellach.
Mae hi'n dda gweld ehangiad o'r fformiwa gynt o adolygu ffilmiau prif ffrwd ar y wefan ac ymestyn at wyliau ffilm, ffilmiau byr a rhagor o ffilmiau Cymreig ond os oes gen i feirniadaeth, gallai fod y darnau ychydig yn fwy dolennog gan eu bod nhw'n cael eu cyhoeddi ar y we- nid job annodd yw chwilio amdanynt a gwneud y profiad o ddarllen ychydig yn fwy pleserus. O ia, jest un peth bach arall, dydyn nhw dal ddim wedi rhoi dolen i pictiwrs.com fel yr addawon nhw. Asgob! ;-)

Y newyddion heddiw ydi fod fforwm Filmwales.net, oedd yn fan cyfarfod i wneuthurwyr ffilm Cymreig dros y flwyddyn diwethaf, am ddirwyn i ben ar ddiwedd mis Chwefror...ond na phoener...mae fforwm arall yn dod yn ei le, gyda sgop ehangach sef Filmshed.
Mae'r fforwm newydd yn llawer taclusach rhaid cyfaddef, a chyda'r ychwanegiad o erthyglau cyson am wneuthurwyr a gwneuthura, mae'n edrych fel y bydd yn well lle i fynychu ar y cyfan.
Dwi ddim cweit yn siwr os ydi hi'n werth taflu'r syniad o gael gwefan i Gymru yn gyfangwbl allan o'r ffenest. Dwi'n meddwl ei bod hi'n beth da fod cymuned glos yn ffurfio o amgylch y fasiwn lefydd, a pham lai cael un yn arbennig i Gymru. Efallai os daw gormod o bobol i ymuno a Filmshed, y daw yn rhywbeth gwahanol, astrus (ew, gair da!). Ble fydd hyn yn gadael gwneuthurwyr newydd Cymreig sydd yn edrych i wneud sdwff yn agosach i gartref. Agwedd fewnblyg? Efallai. Ond, mae'n gwneud synnwyr o leia fel man cychwyn.
Dwi'n sicr yn meddwl fod lle i gael fforwm newydd i wneuthura ffilmiau Cymraeg i geisio sbarduno pethau. Sa rhywun iso helpu fi setio un fyny?
Ydych chi isio gwneud ffilm?
Fel arfer y ffordd ymlaen yw i un ai:
1. Mynd ar gyrsiau byr/prifysgol drud iawn
2. Prynu sdacs o lyfrau ac astudio'r pwnc ei hun - hefyd yn ddrud iawn
3. Treulio oriau ar y we yn edrych ym mhob twll a chornel i geisio cael gronynnau o wybodaeth - hefyd yn ddrud o ran amser ac annodd dod o hyd
On nawr, mae'r chwyldro Wicipedia (gwyddoniadur rhydd) wedi dal y byd ffilm yn ei grafangau gwybodus. Dyma chi gyflwyno Llyfr Wici ar Wneuthura Ffilmiau
Ymgais yw hon i gronni gwybodaeth gwneuthurwyr mewn un man fel y gall bobol ffeindio ateb i'r cwestiynau syd ganddyn nhw, a hynny mewn ffordd lle mae'r cofnodion yn cael eu diweddaru'n gyson - cam pwysig iawn pan ddaw hi at dechnoleg digidol a'r offer newydd sy'n dod allan yn gyflymach nac all unrhyw lyfr gadw diweddaredd.
Mae yno graidd o chwe gwneuthurwr yn cyfrannu a golygu ar y foment ond gyda chydig gyhoeddusrwydd bydd hyn yn codi a bydd yn datblygu i fod yn adnodd wych i wneuthurwyr ffilm newydd.
Mae'r cyngor yn ymestyn o ffilmiau byr i rai hyd llawn; cwestiynau technegol i gwestiynau mwy creadigol. Dwi'n edrych mlaen i weld sut y bydd hwn yn datblygu.
[o gylchlythyr Shooting People]
Adolygiadau amgen (aparyntli) gan bobol sy'n dweud eu bod nhw'n gwybod eu hanes ffilm yn yr Alternative Film Guide.
AC
Os da chi'n lecio Coldcut/2 Many DJ's/The Avalanches ayyb, fyddwch chi wrth eich bodd efo Concrete TV, sef y fersiwn gyfatebol ond efo fideo a cerddoriaeth yn lle jest cerddoriaeth (er fod Coldcut wedi gwneud hyn yn effeithiol iawn efo'r gan "Timber" yn barod). Mae'r mash-yp lo-fi VHS yma yn wledd wallgo.
[y ddau yma hefyd o cinemaminima.com]
Rhywbeth bach i dorri'r sychder...
Os oes gennoch chi b'nawn sbar a digon o led ar eich band, dyma gofnod wych yn rhestru ffilmiau byr a virals gorau'r we am 2004.
[o Cinema Minima]
Dwi'n addo bydd adolygiad neu ddwy fyny cyn hir (Radio On, House Of Flying Daggers ac ella The Seventh Seal) a sawl dolen wedi'w sdorio yn gwaith...onest gyf!
Mae fersiwn newydd y cylchgrawn ffilm a slant Dwyrain Ewproeaidd, Kinoeye, newydd gael ei ryddhau.
Ar ei dudalennau mae edrychiad ar waith Polanski a Kieślowski ymysg llawer eraill.
Dim ond rwbath bach i 'witsiad pryd' fel sa ni'n dweud yn Nolgellau.
Traethawd o 1998 gan Jonathon Rosenbaum, adolygydd a berniad ffilm y Chicago Reader, yn rhoi beirniadaeth o ddewis 100 uchaf yr AFI tra'n rhoi awgrymiad difyr beth mae o'n credu ddylai fod y cant uchaf.
Rhagflas:
"Above all, my impulse is to defend the breadth, richness, and intelligence of the American cinema against its self-appointed custodians, who seem to want to lock us into an eternity of Oscar nights."
"... if lists serve any purpose (besides the interests of the merchandisers), it's surely to rouse us from our boredom and stupor."
Yr erthygl cyfa:
List-o-Mania. Or, How I Stopped Worrying and Learned to Love American Movies
Fues i lawr i seremoni wobrwyo Gwyl Ffilmiau Byr Brief Encounters nos Sadwrn, gan weld hufen ffilmiau byr Prydain a thramor. Roedden nhw wir yn wych, felly dwi di bod yn chwilota a dyma rai ohonyn nhw i chi gael trio drosoch chi'ch hunain a gweld os ydach chi'n cytuno:
Barrie The Barber gan John Giwa-Amu
- Ennillydd Gwobr Gwneuthurwyr Ffilm Newydd y BBC
- ffilm am farbwr o Gaerdydd sydd yn torri gwallt ond sydd hefyd yn torri'i galon (HWRE mawr a llongyfarchs lu i John a Stephen! Tipyn o gamp.)
Ffilmiau 90 Eiliad "Depict!"
Daeth 6 Goats a Non-Fat yn gydradd gyntaf gyda mensh arbennig i Snail
- Gallwch hefyd lwytho gweddill y ffilmiau Depict! fan hyn
Dog Years gan Richard Penfold and Sam Hearn
- ffilm ffantastig o syml, doniol ac agos atoch am fywyd ci o'r enw Ben a enillodd gwobr y gynulleidfa a ffilm orau'r De-Orllewin
- dyma wefan hyfryd y ffilm
Jo Jo In The Stars gan Marc Craste
- ffilm animeiddiedig ddychmygus a enillodd ffilm orau'r DU. Gallwch weld trailer fan hyn
Rhaid hefyd rhoi mensh i ffilmiau Mini Masterpieces oedd oll yn ffantastwych. Mae'n anghygoel fod y bedwar ffilm wedi cael eu gwneud mewn tridiau ar ddim cyllideb o gwbl. Clap mawr i chi, ac yn arbennig i Stephen Hanks a'i dim Cymreig am eu ffilm fach brydferth "Last Tango In Bristol".
Mae rhifyn newydd gwe-gylchgrawn ffilm Siapaneaidd - Midnight Eye - allan, gyda pharhad o'r ffocws ar hanes anime ond y tro hyn maent yn mynd yn bellach nol eto i'w hanes.
Mae yna hefyd rifyn newydd o we-gylchgrawn Cinema-Scope allan i bori drosto.
Mwy o ddolenni - tro 'ma tudalen ar wefan Storyville gyda'u detholiad hwy o'r gwefannau gorau ar gyfer ffilmiau dogfen.
Dyma transcript o gyfweliad rhwng Simon Tzu o Shooting People a Peter Biskind, awdur "Down and Dirty Pictures" a'r gwerthwr mawr "Easy Riders, Raging Bulls".
Dwi heb ddarllen yr un o'r ddau lyfr eto ond mae'n rhoi edrychiad manwl ar dwf Miramax, Sundance a ffilmiau indie yn y nawdegau. Ma na sgandals lu a digon o ddanteithion jiwsi i blesio unrhywun sy'n gaeth i glecs.
Mae ein annwyl sgriptiwr/blogiwr/persongyffredinolfrwdambopeth, Suw Charman, wedi blogio amdan ei phnawn difyr hi mewn masterclass sgriptio gan ei arwyr presennol Simon Pegg ac Edgar Wright, awduron y ffilm ffantastwych Shaun of The Dead. Mae o'n hynod ddiddorol ac, fel arfer, wedi ei ysgrifennu yn wych - codi cwilydd arnai am sgwennu mor ddiflas rili. Felly ewch yno bid siwr yn lle darllan y rwtsh hyn!
Newyd ddod ar draws blog Twitchfilm sydd, i ffanatics sci-fi, horror ac unrhywbeth tywyll ei naws, yn ffynhonell wych o siion (sut ma sillafu mwy nag un si?), sibrydion a newyddion. Mae'n flog hynod brysur hefyd gyda o leia 5 cofnod newydd bob dydd(!), ac mae nhw gyd yn ddifyr a darllenadwy iawn. Dwn im lle ma'r bobol ma'n ffeinidio'r amsar wir...
Cyfweliad dadorchuddiol iawn gyda Nick Fraser, comisiynydd y strand ffilmiau dogfen ffantastig sy'n rhedeg ar BBC4.
Yn y sgwrs mae'n ceisio crynhoi y rhesymau dros dwf poblogrwydd y ffilm ddogfen yn y blynyddoedd diwethaf ac esbonio sut mae ffilm yn dod i fodolaeth ar Storyville. Gem fach gudd o gyfweliad.
Mae rhifyn hydref o gylchgrawn ffilm Reverse Shot newydd fynd ar-lein.
Mae'r rhifyn yn bennaf yn edrych ar ffilmiau sy'n dweud rhywbeth am America nawr, ac sy'n rhoi syniad i ni o ble mae'n mynd yn y dyfodol.
Yn arbennig o ddifyr yw dadansoddiad Mathew Ploufe o'r ffilm "The Brown Bunny" gan Vincent Gallo., sy'n rhoi ongl newydd arni fel bras-gam ymlaen i wneuthura ffilm wir anibynnol Americanaidd er gwaethaf ei ffaeleddau.
Mae yno gyfweliad a Shane Carruth am ei ffilm sc-fi fathemategol "Primer", sydd wedi bod yn cael cryn sylw yng ngwyliau ffilm toronto ac Efrog Newydd am ei gymhlethdod a''i sialens i ymennydd y gwyliwr.
Ac yn ogystal mae sawl adolygiad o ffilmiau newydd.
Mae'n reit gynhwysfawr. Galla fod yn handi rywbryd...da chi'm yn gwbod.
Detholiad o erthyglau o'r cylchgrawn newydd sydd ar-lein:
- Cyfweliad a Jonathan Glazer, cyfarwyddwr "Sexy Beast" a ffilm newydd Nicole Kidman - "Birth"
- Rhagolwg ar Wyl Ffilm Llundain sydd 'mlaen ddiwedd y mis.
Adolygiadau:
- Triple Agent gan Eric Rohmer
- Coffee and Cigarettes gan Jim Jarmusch
- Sky Captain and the World of Tomorrow gan Kerry Conran
Peth wmbrath a thorraeth o ffilmiau un-funud o hyd, ar-lein yn yr wyl yma o Brasil.
Rhai o São Paulo, Brasil...
Rhai o Brasília, Brasil...
[cliciwch ar selecionados i weld y rhestr gyflawn]
Rhagor o ffilmia un-funud o Brasil
[cliciwch ar y penawdau islaw tema ar y dudalen hon i weld rhagor]
[o Cinema Minima]
Dim ond nodi fod gwefan newydd yn archifo holl adolygiadau adolygydd y Chicago Sun Times, Roger Ebert, newydd gael ei ail-wampio (ew, am air braf). Y dyn a gychwynnodd 'y ffrae fawr' gyda Vincent Gallo yn Cannes y flwyddyn diwetha cyn iddyn wnaeth ddod yn ffrindia eto mis dwetha...
Mae'r Guardian wedi bod yn rhedeg cyfres o erthyglau diddorol yn dilyn sawl addasiad(/trosiad?) ffilm gwahanol. Yr wythnos hon mae'r gyfres yn troi ei sylw at un o fy hoff ffilmiau plant - Willy Wonka & the Chocolate Factory (Mel Stuart, 1971) a addaswyd o'r llyfr Charlie and the Chocolate Factory (Roald Dahl, 1964).

Yn ol be mae'r erthygl yn dweud doedd Roald Dahl ddim yn hapus o gwbl efo'r trosiad oedd yn cynnwys ambell i newid oedd yn tywyllu'r sdori chydig yn fwy. Wnaeth hynny ddim drwg yn fy marn i, ac mae'r cymeriad Willy Wonka mae'r athrylith Gene Wilder wedi dod i'r sgrin yn rhywbeth arbennig sy'n codi ofn arswydus bron gan wybod ei ochr filain ond eto, fo sydd gan y pwer i wireddu eich breuddwydion ifanc. Mae hi'n ffilm sydd yn parhau i gydio yn nychymyg plant (ac oedolion...) ac sydd jest a'r sbrincl yna o hud a lledrith (ond dwi dal yn deud fod angen rhyddid i'r Oompa Loompas. Craduriad bach.)
Dolenni:
Roald Dahl.com - gwefan Flash-ey iawn
Roalddahlfans.com - gwefan llawer mwy cynhwysfawr mewn ffordd ac wedi ei anelu fwy at ffans hy^n Dahl.
Traethodau...: "Charlie and the Political Correctness Factory" ac un arall: "Willy Wonka and the Chocolate Factory as Judeo–Christian Allegory" (heh!)
Tra'n pendroni am ffilm ddogfen Parallel Lines (Nina Davenport, 2004) welais i ar BBC 4, fel rhan o gyfres Storyville sy'n hynod gyson ei wychder, fe ddechreues i feddwl am foesoldeb gwneud ffilmiau dogfen a pha mor bell all rywun fynd er mwyn adrodd sdraeon.
Roedd y dogfennydd dan sylw yn holi pobl am bethau personol iawn, ac yn aml yn dod a'u problemau dyfna i'r agored, mae'n debyg drwy ei arddull agored a sympathetig. O'n i'n teimlo braidd ei bod hi fel serial-upsetter yn mynd o gwmpas yn hel clecs am be sy'n boen yng nghalonnau pobl. Ac fel y dwedodd hi yn y ffilm (sy'n dilyn ei thaith o LA i'w chartref yn Efrog Newydd yn Rhagfyr 2001, wedi iddi fod i ffwrdd o adre tra'r digwyddodd 9/11) ac mewn cyfweliad a BBC4:
"BBC Four: Sadness seems to be the constant in the interviews.
Nina Davenport: A lot of the stories I heard were quite sad. I'm still not sure if it was because I was sad or because everyone was sad about 9/11 or whether that sadness was pre-existing. I tend to think it's a combination - that 9/11 gave people a way to release their own private sadness onto this more national tragedy."
Mae gan pawb eu sdori drist...dwi'n ama'n gryf fod 9/11 wedi bod unrhywbeth i wneud a'r peth. Dyma, yn ei hanfod, oedd yn fy ngwneud yn anghyffyrddus - ei bod hi'n projectio'r tristwch yma ar bobl er mwyn gwneud ffilm. Mae'n anghygoel clywed y sdraeon hyn ond yn y cyd-destun mae'n dod drosodd chydig yn lletchwith
Ddes i ar draws erthygl yn kamera.co.uk yn trafod moesoldeb gwneud elw o raglenni/ffilmiau dogfen
Mae yna hefyd wefan gynhwysfawr MediaRights ar hawliau gwneuthurwyr ffilmiau dogfen, sy'n rhoi ochr arall y sdori i ni. Pethau efallai y dylai gwpiau fel Cymdeithas yr Iaith a Chymuned fod yn gwneud rhagor efallai. Dogfennu protestiadau a chyhoeddi'r dystiolaeth. Ella ddylian nhw siarad efo criw actifyddion digidol Undercurrents...
Wrth adolygu ambell ffilm fan hyn o'n i'n cael y teimlad mod i yn mynd mewn i ryw fath o strwythr llac ond weithiau ddim yn llwyddo i ddeud yn union be o'n i'n geisio deud. Wrth gwrs ma pawb yn datblygu eu steil eu hunain. Ond ro'n i'n meddwl: oes na unrhyw ganllawiau defnyddiol i adolygu ffilmiau ar gael ar yr interweb allai helpu fi i wella fy adolygiadau a gneud nhw'n fwy clir a mynegi'n hyn yn well.
Yr un cynta welais i oedd "A Peculiar Form of Journalism - The Art of Film Reviewing", project MA gan ryw foi o'r enw Ealasaid A. Haas. Un reit ddifyr a thrwyadl ac yn taflu rhai syniadau difyr o ran be ydi yn hytrach na thips.
Mae "The Offended Critic: Film Reviewing and Social Commentary" gan Adrian Martin [o Senses of Cinema] yn edrych yn fanylach ar sut mae adolygwyr yn amal yn cymryd y moral high-ground er "lles" y cyhoedd. Ydyn nhw'n gneud hyn jest er mwyn denu darllenwyr a'u histrionics neu ai eu lle nhw ydi gneud hyn?
Mae'r pedwar isod yn fwy o gam-wrth-gam eejits geid i adolygu ond yn werth taro cip olwg drostynt, yn arbennig yr un cyntaf:
1. The Four Functions of Film Reviewing
2. The Essential Elements of Film Reviews
3. A Film Review Rubric
4. Rating Films
[o wefan Film Appreciation Debbie Twyman a Craig Whitney]
Trafodaeth bellach am adolygu ffilmiau ar negesfwrdd Greencine.
Argraff dwi'n dueddol o'i gymryd o adolygiad fel arfer beth bynnag. Pori dros sawl un yn ysgafn gan drio cael teimlad os oes rhywbeth at fy nant yn y ffilmiau, felly yn hyn o beth dwi ddim yn edrych am astudiaeth lawn o bob peth cyn gweld ffilm ond dwi yn hoffi mynd nol i adolygiadau wedi'w strwythyro yn ol pob gwahanol agwedd o'r ffilm wedi i fi ei gweld, yn arbennig rhai fel sydd yng nghylchgrawn Sight and Sound lle mae ganddoch chi restrau cast ac ati (dwi byth yn cofio un enw o'r credits, ddim ots faint ydw i'n trio...).
Pah, pwy sydd isio Film Critics beth bynnag?
Asgob, roed hi'n edrych fel tase Peter Bradshaw, colofnydd ffilm y Guardian, wedi codi ar ochr rong y gwely wythnos diwethaf. Fu 'na r'un ffilm o'r pump adolygwyd yn haeddu mwy na dwy seren a chwip din go iawn yn ychwanegol i neud yn siwr na wna'n nhw fo eto.
I ddechrau mae "The Village" yn cael crasfa:
"Wear not the bad colour - for it angers them! Do not go into the woods - for that is where they live! Reveal not the surprise ending - for it is completely rubbish!" *CRAK!*
yna...
"The director himself makes one of his keynote appearances: reflected in a glass. A lower profile is in order from now on." *SMACK!!*
Yn nesaf mae "Father and Son" gan Aleksandr Sokurov yn cael ei daro i'r llawr gyda clincar o left hook:
" frankly unwatchable, though clearly conceived with great seriousness and its own eccentrically insistent sense of style" *POW!*
"A deeply, unrewardingly opaque film." *THWAAK!*
Wedyn ymlaen i "La Haine" gyda roundhouse:
"When Mathieu Kassovitz's La Haine came out in 1995, it seemed like the last word in dangerous, hardcore, edgy cinema...But with this re-release nearly 10 years on, Kassovitz's movie looks an awful lot less powerful." "WHAM!*
Yna am y K.O. mae'n rhoi'r Tiger Uppercut i "Love Me If You Dare" gan Yann Samuel:
"Try to imagine what would happen if some talented but malign scientists applied a fractional-distillation technique to the film Amélie, cramming it into a test tube and boiling away the charm, wit and innocence, leaving a scuzzy residue of annoyingness. That scuzzy residue is called Jeux D'Enfants, or Love Me If You Dare, and it is an exquisitely irritating experience: mannered, supercilious, self-important." *KA-BOOOM!*
Rhaid cyfaddef nad ydw i'n ffan mawr o adolygiadau Peter Bradshaw, dwi'n dueddol o anghytuno'n gryf ag o gan amlaf, ond mae o'n gwneud darllen difyr iawn.
Dolenni:
Edefyn ar adolygiadau gwaethaf erioed ar Rotten Tomatoes
CriticDoctor.com "Where Critics Get A Taste Of Their Own Medicine"
Die Critic, Die! - y teitl yn reit hunan-esboniadwy tydi.
Canllaw i sgwennu adolygiad ffilm defnyddiol
Everyone's A Critic - ffeindiwch bobol sy'n adolygu ffilmiau yr un peth a chi
Mae rhifyn newydd o gylchgrawn Sight and Sound allan a rhagor o ddileits ar eu gwefan:
Prif thema y mis yw Cerddoriaeth Ar Ffilm sy'n cynnwys astudiaeth o sut mae sgorio (na, nid y math da chi'n gneud yn y siop doji na ar Sblot Road) ffilm yn ei effeithiol, ffefrynnau, cyfarwyddwyr yn edrych ar gerddoriaeth eu ffilmiau eu hunain a be fasa cerddorion eraill yn hoffi ail-sgorio.
Hefyd y mis hwn mae Julian Graffy yn edrych ar rôl y tad (afradlon?) mewn ffilmiau Rwsiaidd newydd, ac yn canolbwyntio'n arbennig ar y ffilm "Father and Son" (Aleksandr Sokurov, 2003).
Yn ogystal â hyn, mae yma adolygiadau o Fahrenheit 9/11 gan Meical, Hellboy Mr del Toro, G a Spartan gan David Mamet.
Gwefan sy'n trafod y darnau dychryn yng nghlasur arswyd Kubrick "The Shining" a pha fanylion yn y ffilm sy'n ychwanegu at y teimlad o anesmwythder.
Hefyd yn cynnwys llwyth o ddolenni ar waelod y dudalen i adnoddau a thrafodaethau eraill am y ffilm.
Dyma ddyfyniad ohono:
"When Stephen King saw the film version of Carrie, he couldn’t help but notice that the single most terrifying moment - the one that made all audiences jump - wasn’t even in his book. After Carrie’s death and the climactic destruction of the high school, director Brian DePalma added a little epilogue where one of Carrie’s chums visits her grave. Just as she bends down to place some roses, a hand comes shooting out of the gravel and grabs her arm. A second later she wakes up in bed, screaming. The epilogue was a nightmare. The end.
A cheap shot? Yep. Effective? You bet, and a perfect example of the Ultimate Scare Tactic in film: build an atmosphere of tension, release it, and just as the audience gets relaxed and is sure that nothing else is going to happen, hit them with the real punchline. Close Encounters of the Third Kind, The Omen, Alien, Deliverance, and Jaws are but a few of the films now available on video that exploit this technique, and they’re all worth studying. It works so well that Stephen King has incorporated the Ultimate Scare Tactic into his novel writing. It’s in The Shining, one of the most frightening books ever written, and a perfect property for film, that he first succeeded in brilliantly combining cinematic and novelistic scare tactics. Any director could have shot it exactly as written and come up with a terrifying film of phantasmagorical proportions."
Chydig o gylchgronnau danteithiog astudiaeth ffilm ar-lein newydd:
Mae rhifyn diweddaraf cylchgrawn Kinoeye newydd gael ei ryddhau. Mae yno erthyglau ar ffilmiau Ffrengig, Luxembourg, yr Iseldiroedd (Paul Verhoeven) a Bwlgaria.
Hefyd mae rhifyn 32 Senses of Cinema, y cylchgrawn critigaeth(criticism?) ffilm ar lein gyda 20, ie 20 erthygl/traethawd a llawer mwy.
Un newydd i ddo ar draws y radar i fi beth bynnag, ydi Bright Lights Film Journal. Mae'n ceisio pontio rhwng astudiaeth sinema poblogaidd ac academaidd. Dwi'n arbennig o hoff o'u erthygl ar fwystiflod b-mwfis sgrin arian y 50'au. Hwre i actorion sgint wedi gwisgo mewn siwtiau rybyr crap neu forgrug yn ecstrim close-up!
Tri cylchgrawn sydd wir werth darllen pan gewch chi gyfle.
(o'r ffantastwych GreenCine Daily)
Jest un ddolen fach arall am y noson - Top 100 overlooked films of the 90's - mmmm rhestrau...

Tra'n edrych am luniau o Laura Betti, yr actores Eidaleg sydd newydd farw, mi ddes i ar draws wefan od Cinemorgue. Mae'n rhestru ac yn manylu marwolaethau sgrin cannoedd o actorion. Os da chi rioed wedi meddwl os ydi rhyw actor da chi'n hoffi wedi marw mewn ffilm, dyma'r lle (!). Dwi'm cweit yn siwr os ydi hwn yn rhywbeth fascinating neu rywbeth gan foi eitha sic. Diddorol serch hynny, er mae bach yn troubling fod y rhestr bron yn llawn menywod...ydi hynna jest yn adlewyrchiad o natur ffilmiau yn gyffredinol neu'n adlewyrchiad o ba bobl ma'r boi ma di penderfynu manylu?
Un peth difyr ddo, dydi Tom Hanks rioed wedi marw mewn ffilm yn ol hwn...damia...(be am Philadelphia?).
Mae'n werth piciad draw i wefan cylchgrawn ffilm Sight and Sound bob mis gan eu bod nhw'n rhoi ambell i erthygl ac adolygiad i roi blas os nad ydych chi'n ei brynu'n y siop. Neu, os da chi'n Nolgellau, does na mond un copi'n cyrraedd bob mis a ma na ryw ddiawl wastad yn ei fachu cyn i chi gyrraedd Siop Y Cymro...
Mae eu sdwff nhw'n arbennig o dda fel arfer ac yn werth mynd ac edrych nol arnyn nhw ar ol i chi weld ffilm er mwyn cael ongl newydd, dreiddgar.
Mis yma mae erthygl ar ffilm ramant "y byd go iawn", Before Sunrise gan y cenhedlaeth x-ydd, Richard Linklater; golwg ar sut aeth Federico Fellini ati i roi rhoi pellter rhyngtho a'i wreiddiau Neo-Realaidd ac ail-asesiad o'i waith llai enwog.
Jest yn meddwl baswn i'n cronni'r dolenni b-mwfis dwi di bod yn hel dros yr wythnosau diwethaf. Rhag ofn fod na rywun efo'r un obsesiwn a fi ar y foment...
BadMovies.org: Un o'r llefydd gorau am adolygiadau ffilmiau gwael a chlipiau sain a fideo.
The Bad Movie Report: "Face It We Love Crap": Taro'r hoelen ar ei phen a gwefan neis a slic 'fyd.
Adran adolygiadau ffilm a theledu SomethingAwful.com: Mae yma hefyd downloads sain a fideo.
Jabootu's Bad Movie Dimension: Mae'r adolygiadau sydd yna yn drwyadl iawn. Gwefan angan bach o help dylunydd serch hynny.
Fforwm BadMovieZone: Fforwm cynhwysfawr, os yn canolbwyntio chydig yn ormod ar ffilmiau diweddar i fi.
Fforwm B-Movie Central: Ddim llawar o fynd ond mae o yna.
Rhestr ffilmiau o raglen Mystery Science Theatre 3000: Rhaglen gomedi o'r 90'au oedd yn cymryd y pys o b-mwfis cach.
Pa ffilm dylwn i wylio? Hen edefyn ar AskMetafilter sy'n llawn dop o ffilmiau dylet ti rentu dros y Sul sy'n dod.
Astudiaethu Ffilm yng Ngholeg y Frenhines, Ontario. Llawer o erthyglau gan fyfyrwyr yn yr adran hon. Pethau ar Apocalypse Now, Hana-Bi, Godard, Ford, Scorcese ac yn y blaen, ac yn y blaen.
Gwefan ffan am ffilmiau zombies yw Eat My Brains. Mae o'n eitha low key ar y foment heb lawer o gynnwys ond dwi'n eitha lecio'r Zombie Club lle mae na dri adolygydd yn cael sesiwn DVD adref efo dau ffilm a digon o dorito's a rhoi adolygiad yr un o'r ffilmiau a'r noson.
Dyma wefiadur ffilm Americaniadd hynod ddelweddog a braf iawn i'w ddarllen.
Mae erthyglau diweddar yn cynnwys: cyrffwffl Fahrenheit 911, Zatoichi yng Ngwyl Ffilm Tribeca a preview ffilm Coreaidd i lafoeri drosdi yn Cannes.