Mawrth 10, 2006

Gwyl Ffilmiau WOW! (Aber, 10-16 Mawrth)

Mae'r Wyl ffilmiau deithiol WOW! wedi cyrraedd Aber a dwi'n edrych mlaen yn eiddgar i weld y ffilmiau tramor sydd ganddyn nhw. Mae'r wyl yn adnabyddus am ddangos ystod o ffilmiau tramor sydd byth fel arfer yn cyrraedd sgriniau pellafion Cymru.

Dyma blyrb Cymraeg y Ganolfan Gelfyddydau [gan nad oes gair o Gymraeg ar wefan yr wyl ei hun...]:

"Croesawn Wyl Ffilmiau WOW! Cymru a'r Byd yn Un gyda dewis ardderchog o ffilmiau o bedwar ban byd. Cawn fwynhau'r dangosiad cyntaf ym Mhrydain o ddwy ffilm - o Afghanistan 'Earth & Ashes' ac o Tsieina 'Night & Day', enillydd y brif wobr yng Ngwyl y Tri Chyfandir yn Naoned y llynedd! O America Ladin, cawn gomedi o'r enw 'Sex With Love', a disgwyliwn ffilm ddogfen arbennig o Giwba sy'n dapestri gweledol o ddelweddau hudolus o ddinas Havana. Gweler wefan y gwyl www.wowfilmfestival.org, neu cliciwch ar y doleni am fanylion pellach ac i archebu ar-lein, neu cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau ar 01970 623232."

Mae'n bur debyg felly fod holl bosteri a deunydd marchnata yn uniaith Saesneg hefyd. Pam fod hyn yn cael digwydd? Mae na reolau iaith gyda arian cyhoeddus shwrli? Mynd bach yn erbyn yr holl ethos yr wyl peth fymryn yndi ddim? Gawn ni ddangos holl amrywiaeth gwych y byd a'u ieithoedd egsotig gwych...ond sna'm lle i'r Gymraeg.

Ta waeth, geith y ffilmiau siarad drostynt eu hunain - dwi'n mynd i weld yr ennillydd Oscar am ffilm dramor orau hen - Tsotsi.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:46 yh | Comments (1)

Mawrth 06, 2006

Penwythnos Ffilm Amgen Rêl Institiwt

Gwener 10fed & Sadwrn 11eg Mawrth 2006 | Neuadd Goffa Betws-y-coed

£3 y ffilm neu dim ond £5 am y penwythnos!
www.relinstitiwt.org


Gwener 10fed Mawrth
adloniant 7yh ffilmiau 7.45yh

Dancer in the Dark 2000, Lars von Trier, 140m
Y ffilm gerdd mwyaf anhebygol erioed, yn drist ac yn anffodus, tra bod y rhan fwyaf yn hapus a llon.

Bjork yw Selma, mewnfudwraig o’r wlad Siec yn Stad Washington yn 1964. Mae hi’n clywed cerddoriaeth yn sain a ffatri, yng nghlecian y tren, ac mae’r rhythmau hyn i gyd yn ffrwydro yn ei meddwl, ac yn troi yn ganu a dawnsio.
Mae’r ffilm herfeiddiol hwn dal yn y côf dyddiau yn ddiweddarach, a dyna’r ymateb gorau gall unrhyw artist obeithio gael i’w waith.

“Spellbinding...aims right for the heart and aces its target” Rolling Stone
Palm D’Or, Cannes Film Festival, 2001
Oscar Nominated, 2001

Hefyd Ffilmiau Byrion
Hefyd DJ Bjrick
Hefyd Cacennau a choffi enwog Rêl Institiwt

Sadwrn 11eg Mawrth
adloniant 2yh ffilmiau 2.30yh

Annie Get Your Gun 1950, George Sidney, 107m
Un o’r ffilmiau cerdd mwyaf poblogaidd o’i math, yn llawn e.e. There’s No Business Like Show Business ac Anything You Can Do (I Can Do Better).
Yn ganadwy ac yn hwyl, hanfod ffilmiau cerdd y 1950au, mae’n dilyn hanes Annie Oakley a’i gornest saethu gyda Frank Butler, a’r cystadlu rhwng y ddau yng nghanol trafferthion ariannol Buffalo Bill.

Cariad ar yr olwg gyntaf i Annie, ond mae Frank yn ddirmygus o’r ferch carpiog sydd yn meiddio ei herio yn gyhoeddus.

“You can be guaranteed an enjoyably rowdy, gaudy time.” Time Out
Oscar Winner, 1951
Golden Globe Nominated, 1951

Hefyd Ffilmiau Byrion
Hefyd DJ Mary Droppins
Hefyd Cacennau a choffi enwog Rêl Institiwt

Sadwrn 11eg Mawrth
adloniant 7yh ffilmiau 7.45yh

Jesus Christ Superstar 1973, Norman Jewison, 147m
Llawer mwy na Noson Ffilm Amgen arferol - gwisgwch fel cymeriad o’r ffilm (ewch i www.realinstitute.org am ddelweddau’r ffilm a syniadau gwisgoedd), dewch a celfi, boddwch yn y taflenni geiriau, neu eisteddwch yn ol a mwynhau y caws!

Gyda chyfuniad hael o fflers hipi, spandex merchetaidd, gynnau, tanciau, a trefniadau dawns 70au arbennig, mae JCS yn diddanu, yn ddychanol ac yn graff.

Wedi ei ffilmio ar leoliad, roedd opera roc cyntaf y byd yn ddadleuol am bortreadu Jiwdas fel person gofidus oedd hefyd yn wleidyddol chwyldroadol.

“If only all biblical films could be this groovy.” Rec Arts Movies
Oscar Nominated, 1974
Bafta Award, 1974

Hefyd Ffilmiau Byrion
Hefyd DJ Tootsweet
Hefyd Cacennau a choffi enwog Rêl Institiwt

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 07:55 yh | Comments (0)

Chwefror 13, 2006

Gwyl Ffilmiau Myfyrwyr Ffresh, Aberyswtyth (16-17 Chwefror plys ambell inoson arall!)

I chi bobol Aber a'r cyffinia, dwi'n siwr eich bod chi wedi gweld ambell i boster Monty Python-aidd o gwmpas y lle yn hysbysebu Gwyl Ffilm Myfywrwyr Ffresh ond jest yn meddwl baswn i'n rhoi mensh arall i'ch annog chi i gefnogi (a chefnogi'r maeswyr sydd â ffilmiau yn cystadlu!).

newsplash-bg.gif

Yn ogystal â'r deuddydd o wobrwyo, seminarau a sesiynau yn ystod yr wyl ei hun bydd tair noson ffilm go arbennig:

Nos Lun, 13 Chwefror - Noson Lansio
Dangosiad o'r ffilm ddwyieithog newydd "Y Lleill" gan Emyr Glan Williams yn y DRWM yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd y cyfarwyddwr yn mynychu i gymeryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Dan Williams o'r Archif Sgrin a Sain.

Diodydd am 6.30pm; ffilm am 7.30pm

Manylion...

Nos Fercher, 15 Chwefror - 7.30pm
Dangosiad o'r ffilm Senghennydd, gan Jim Clark yna trafodaeth gyda'r cyfarwyddwr a golygydd am ei waith.

Bydd y cyfarwyddwr yn mynychu ac yn trafod ei hanes yn gweithio ar ffilmiau megis The World Is Not Enough, The Mission, Vera Drake ac ati gyda Dave Berry, sy'n foi arall sy'n werth mynd i'w glywed ynddoi hun!

Dylai fod yn gipolwg treiddgar mewn i fywyd dyn sydd wedi gweithio ar ffilmiau llwyddiannus iawn. Os da chi'n diddori mewn cynhyrchu ffilmiau neu'r deinamics o weithio ar ffilm fawr yna peidwich methu hon.

Manylion...

Nos Wener, 17 Chwefror - Dangosiad Cloi - Vera Drake
Bydd y cyfarwyddwr ei hun, Mike Leigh (Secrets and Lies, All Or Nothing ayyb dio ddim angen cyflwyniad rili nacdi...), yn mynychu'r dangosiad i gyflwyno ei ffilm.

Cyfle gwych a phrin i weld un o gyfarwyddwr mwyaf talentog a llwyddiannus Prydain.

Manylion...

Bydd yna hefyd ddangosiadau ffilmiau byr cyn y ffilmiau yn y Commodore yn ystod yr wythnos, parti mawr yn yr Academi nos Iau (£2 i fynd mewn a da chi'n cael diod am ddim!), a dangosiad o Totsi yng Nghanolfan y Celfyddydau. Ffilm o Dde Affrica sydd yn cystadlu am yr Oscar Iaith Dramor eleni.

Gwledd o ffilm dwi'n credu cytunwch chi. Be arall wnewch chi ar noson oer o Chwefror? :winc:

Ewch draw i'r wefan am fanylion tocynnau ac ati.

Welai chi o gwmpas y lle,

R

o.n. mae yna ambell i wneuthurwr ffilmiau annibynnol sydd yn cyfrannu ar wefan ffilm gymreig www.filmshed.com am drio cwrdd yn ystod yr wyl i gael clonc a rhannu profiadau. Os da chi awydd dod draw, anfonwch neges breifat a wnai basio'r manylion mlaen.[/quote]

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 09:34 yb | Comments (0)

Ionawr 31, 2006

Pictiwrs Yn Y Pyb - Caerdydd, Sul y 5ed Chwefror 2006

Pictiwrs Yn Y Pyb

Rhaglen lawn i ddilyn...

Datganiad i’r Wasg

Dathlu Blwyddyn o Ddangos Ffilmiau Byrion Cymraeg

31 Ionawr 2006

Bydd y bobl tu ôl i’r wefan adolygiadau ffilmiau Cymraeg www.pictiwrs.com yn trefnu noson ffilmiau arbennig yng Nghaerdydd ar ddydd Sul y 5ed Chwefror 2006 i ddathlu blwyddyn o arddangos y gorau o ffilmiau byrion Cymraeg. Ers noson gyntaf “Pictiwrs Yn Y Pyb” yn Ionawr 2005 dangoswyd dros 35 o ffilmiau gwahanol gan dalent newydd y byd ffilmiau Cymraeg ym mhob cwr o Gymru.

Yn ogystal â’r ffilmiau arferol, bydd naws parti yn Nhafarn Dempsey’s, Caerdydd gyda chyfle i bawb sy’n mynychu ennill casgliad o DVD’au, ein compere rheolaidd Gary Slaymaker yn arwain y dorf drwy’r noson a Gareth Potter (gynt o Ty Gwydr) yn DJ’o.

Ymysg y 9 ffilm fydd yn dangos bydd:

“Siwsi” gan Cathy Snelling
Ffilm fer ddadleuol wedi’i hanimeiddio sy’n dathlu’r orgasm benywaidd mewn steil! Enillodd y ffilm wobr bwysig Jamesons am y ffilm fer orau yng Ngwyl Ffilmiau Brief Encounters fis Tachwedd.

“Yr Ymwelydd” gan Tomos Cynllo Lewis
Ffilm fer wedi ei gosod yn ystod yr ail ryfel byd gan gyn-fyfyriwr o Aberystwyth. Bu hon hefyd yn llwyddiant ysgubol yn ddiweddar, drwy ennill y wobr am y ffilm wnaeth y defnydd creadigol gorau o’r thema ‘rhyfel’ yng Ngwyl Ffilmiau’r Amgueddfa Ryfel Imperialaidd y mis hwn.

“Dave: mewn Un Tro Da” gan Griffilms
Ffilm gomedi animeiddio yn steil ffilmiau mud y 1920au sydd hefyd yn defnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf. Mae’r ffilm wedi ei henwebu ar gyfer y ffilm animeiddio orau yng Ngwyl Ffilm a Theledu Geltiadd 2006.

[gweler nodiadau isod am ragor o hanes y ffilmiau]

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, un o drefnyddion y noson, “Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda o ran gweithgaredd ar gyfer ffilmiau byrion Cymraeg. Mae’r ymateb rydyn ni wedi ei gael yn y dangosiadau wedi bod yn wych. Mae’n drueni nad oes rhagor o gyfleoedd i’r cyhoedd weld y ffilmiau hyn. Gobeithio y gallwn ni barhau i geisio rhoi platfform cyson i storiwyr talentog Cymru ddweud eu straeon.”

Mae trefnwyr noson Pictiwrs Yn Y Pyb yn chwilio am ragor o ffilmiau byr ar gyfer y nosweithiau dros y flwyddyn nesaf. Os oes gennych chi ffilm yr hoffech ei dangos, cysylltwch â rhodri@pictiwrs.com / geraint@pictiwrs.com am fanylion pellach.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 02:05 yh | Comments (0)

Tachwedd 25, 2005

Cyfres Ffilmiau Amnest Rhyngwladol

Heno, bydd gŵyl ffilmiau newydd yn dechrau yn Chapter, â'r nod o amlygu trais yn ebryn menywod mewn cymdeithas. Cydweithrediad rhwng Amnest Rhyngwladol a Chapter yw hon, a bydd yn para am un diwrnod ar bymtheg, tan y degfed o Ragfyr.

Mae'r ffilmiau a ddangosir yn rhai amrywiol o ran arddull, ond ag un peth yn gyffredin, sef dadlennu'r masg sy'n cuddio trais yn y cartref drwy beri ofn, a phobl sy'n rhy aml yn fodlon troi'r ffordd arall a derbyn y sefyllfa. Meddai Eleanor White, Cyfarwyddwr Rhaglen Amnest yng Nghymru:

"Mae Amnest Rhyngwladol a Chanolfan Gelfyddydau Chapter wedi cydweithio i ddangos amrywiaeth gyffrous o ffilmiau yn ystod 16 diwrnod yr ŵyl. Mae'r ffilmiau hyn yn mynd i'r afael â thestun trais yn erbyn menywod, sy'n aml yn cael ei guddio yn ein cartrefi, ein teuluoedd a'n cymunedau. Dewison ni ffilmiau sy'n ddiddorol, yn peri i chi feddwl ac sy'n amrywiol eu natur. Rydym eisiau cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, boed yn ddynion neu'n fenywod."

Monster, gyda Charlize Theron, fydd y ffilm gyntaf i gael ei dangos heno, sy'n ymdrin ag achos enwog Aileen Wuornos. Mae gweddill y ffilmiau fel a ganlyn:

27 Tachwedd - Lilya 4-ever
28 Tachwedd - At Five in the Afternoon
29 Tachwedd - Nil By Mouth
30 Tachwedd - Maria Full of Grace
1 Rhagfyr - Together
2 Rhagfyr - Fire
3 Rhagfyr - Once Were Warriors
4 Rhagfyr - The Circle
6 Rhagfyr - Hotel Rwanda
7 Rhagfyr - Take My Eyes
8 Rhagfyr - Sex Traffic
9 + 10 Rhagfyr - Moolaadé

Am fwy o fanylion, cysylltwch â swyddfa Amnest yng Nghaerdydd ar 029 2037 5610.

Posted by Geraint Criddle at 04:50 yh | Comments (1)

Tachwedd 08, 2005

Pictiwrs Yn Y Pyb - Tafarn Y Cwps, Aberystwyth

Ffed yp o ffilmia fformiwleaidd Americanaidd? Isio gweld talent newydd cyfarwyddo, sgwennu ac actio Cymru Gymraeg? Isio noson allan chydig yn wahanol i'r arfer? Pisd off fod yr wyl ffilm wedi 'madael am bellafion Caerdydd?

Wel, Watsh owt bobol, da ni'n dod a thaflunydd, set go dda o sbicars a llond bag o DVD's Cymraeg i Aber i'ch adloni!

Bydd Gary Slaymaker ar y meic yn eich arwain drwy'r noson yn ei arddull unigryw a bydd y croeso cyn gnesed a chesail King Kong.

Welai chi'n pictiwrs...yn y Cwps.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 02:05 yh | Comments (0)

Hydref 11, 2005

Gwyl Sgrin Caerdydd - Rhaglen Nawr Ar-Lein

Mae gwefan newydd Gwyl Sgrin Caerdydd 2005 (9-19 Tachwedd) newydd fynd ar lein ddoe.

Ewch draw yno i sortio'ch gwylio ffrantig am yr 10 diwrnod hyn.

Dwi'n bwriadu mynd o'r 9ed i'r 13eg os yn bosib ac mae Y Lleill (ffilm Gymraeg y soniais amdani'n rhaglen Pictiwrs dwetha), Police Beat, Sleeper, The Woman Chaser, Cocles and Mussels, Dumplings, The Rat, Adam's Apples, Caerdydd (er nad ydi wir yn ffilm...), The Proposition, ac The Tulse Luper Suitcases yn apelio ar y olwg gyntaf....wel, os da chi am wneud hi, neud hi go iawn de.

O ia, ac os ydach chi'n mynd i weld Dead Long Enough cadwch lygaid craff am ymddangosiad cameo gan neb llai na moi. Ie, dwi wedi camu mewn i'r golau, mae'r llen yn agor ar yrfa newydd lewyrchus ar y sgrin arian!! Oeddan nhw angen rhywun i fod yn "techie #2" a nath mygins gael ei lusgo mewn i'r siot i dynnu lever à la Fab-FM. I ddyfynnu Blade Runner, "a star that shines half as long, burns twice as bright"...nos da dahlinks.

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 09:52 yh | Comments (2)

Medi 22, 2005

Pictiwrs Yn Y Pyb, 8yh, 3 Hydref 2005

Cefnogwyd gan Sgrin Cymru Wales a Chynhyrchiadau Those People.

Rhestr ffilmiau i ddod yn fuan...

Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:19 yb | Comments (0)

Medi 19, 2005

Cyhoeddi 10 Uchaf Caerdydd

Mae'r pleidleisiau wedi eu postio, a'r cyfrwyr wedi didoli...beth yw deg uchaf hoff ffilmiau Caerdydd?

Cliciwch ar "rhagor" i weld...

  • The Shawshank Redemption
  • Casablanca
  • Star Wars 4
  • Alien
  • Good Fellas
  • Pulp Fiction
  • ET
  • Moulin Rouge
  • Citizen Kane
  • ac
  • The Englishman Who Went up a Hill and Came Down a Mountain.
  • Ie, disgwyliadwy iawn oedd canlyniadau'r cyfrif (dim fersiwn Cymraeg eto...) Caerdydd, er does dim cweit cymaint o dross yno ac yr oeddwn i wedi ei ddisgwyl ('eblaw am Shawshank Redemption a Moulin Rouge 'de ;) ). Doeddwn i ddim yn disgwyl Top Ten Sight and Sound chwaith. Doedd "8 1/2" byth am ddod i'r brig rili nagoedd? Ar y cyfan, ffilmiau digon parchus.

    Ond howld on! Be di hwnna ar y diwedd? Wyddwn i ddim fod cymaint o Hugh Grant-garwyr yn Nhreganna?! ;-)

    Mae nhw am ddangos 5 o'r 10 ffilm yn ystod yr wyl, gobeithio gawn nhw brintiau o Casablanca a Citizen Kane ynde...sa Alien yn neud yn iawn 'fyd. Fethish i'r re-release...cadwch lygad ar y rhaglen am amseroedd.

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 11:33 yh | Comments (0)

    Ffilmiau Cymraeg Ffresh

    ffresh.gif

    Mae Ffresh: Gwyl Delweddau Symudol Myfyrwyr Cymru newydd gyhoeddi eu bod wedi derbyn 241 o geisiadau ar gyfer yr Wyl sydd i'w chynnal yn Aberystwyth ym mis Chwefror.

    [Gwyliwch ffilmiau buddugol y llynedd]

    Mae hyn yn cymharu'n ffafriol iawn a'r llynedd, ac yn argoeli ar gyfer cystadleuaeth safonol arall i'r Wyl sydd nawr yn ei bedwaredd flwyddyn, ond yr hyn sydd yn fwy cynhyrfus nac arfer ydi fod yno 22 ffilm fer/rhaglen Gymraeg wedi cael eu rhoi gerbron y rheithgor. Ffigwr sydd fyny o dipyn ar y llynedd os dwi'n cofio'n iawn.

    Ni ddyfarnwyd gwobr i'r categori hwn y llynedd (er bod derbyniad gwych gan gynulleidfaoedd Pictiwrs wedi dangos gwerth sawl un o'r ffilmiau hyn *ahem*!). Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer bwydo rhagor o dalent mewn i wneuthura ffilmiau yn yr iaith Gymraeg a gobeithio y bydd y rheithgor yn llwyddo i ddewis ffilm buddugol eleni.

    Gobeithio hefyd y bydd y ffilmiau'n gallu cystadlu gyda'r 219 ffilm arall sydd yn yr Wyl. Mae hwn yn gyfle i'r Gymraeg gael ei drin heb ffafriaeth na chynulleidfa gaeedig. Realiti sefyllfa'r byd ffilm ydi os ydan ni eisiau pobol i weld ffilmiau Cymraeg a gweld ein straeon ni, fod yn rhaid i ffilmiau Cymraeg eu hiaith fodoli o fewn y gystadleuaeth ryngwladol sydd ohoni, ac nid dim ond o fewn bybl saff cyfryngau Cymru. Pob hwyl iddyn nhw dduda i, a gobeithio y cawn ni drafod llwyddiant y ffilmiau fan hyn fis Chwefror! No pressure 'de! ;-)

    Wedi i mi dreulio diwrnod yn yr wyl yn 2003 gallai ddeud fod yr awyrgylch o fewn yr wyl yn wefreiddiol, gyda'r Ganolfan Gelfyddydau dan ei sang gyda myfyrwyr sydd yn dra-awchus am eu llwyddiant cyntaf ac i gael eu gwaith wedi ei dangos a'i drafod gan eu cyfoedion. Mae sesiynau technegol, gyrfaol a chreadigol dros y tridia gan roi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ddod i gyswllt efo'r pobol fydd yn eu cyflogi/comisiynu nhw flwyddyn neu ddwy lawr y lein.

    Gobeithio'n wir na fydd newidiadau sydd dan waith yn y ffordd y bydd ffilmiau Cymru yn cael cefnogaeth ar hyn o bryd yn golygu na fydd yr Wyl hon yn cael ei niweidio. Mae'n lawer rhy dda o beth i adael i hynny ddigwydd.

    Mae'r rheithgor eleni yn cynnwys:

    Ffuglen - Paul Turner, Cyfarwyddwr (Hedd Wyn)

    Animeiddio - Gerald Conn, Animeiddiwr a Rheolwr Cwmni Animeiddio Cinetig

    Teledu - Sian Thomas, Pennaeth Cyflwyno ac Amserlennu BBC Cymru

    Ffeithiol - Steve Robinson, Cynhyrchydd BBC Cymru (Tribes)

    Cerddoriaeth a'r Cyfryngau - Emyr Glyn Williams, Cyfarwyddwr / Rheolwr Ankst Music (sydd wedi cyfarwyddo ffilm nodwedd sydd am gael ei dangos yng Ngwyl Sgrin Caerdydd! Ar y slei bron iawn! Mi fydd gennai ffeithiau calad yn fuan...)

    Ffilm Hyrwyddo/Sting - Phil Higginson, BBC Cymru

    Ffilmiau Byrion Byr (dan 3 munud) - Fizzy Oppe, Pennaeth Datblygu, Fiction Factory

    Gwobr Iaith Gymraeg - Owain Meredith, Sgriptiwr (Diwrnod Hollol Minblowing Heddiw)

    Dolenni

    Showcase For Welsh Student Filmmakers - News Wales

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:39 yh | Comments (0)

    Awst 10, 2005

    Cystadleuaeth Gŵyl Sgrîn Caerdydd

    Eleni mae Gŵyl Sgrîn Caerdydd yn gwahodd trigolion y brif ddinas i gymryd rhan mewn ymgyrch i gael hyd i Ddeg Ffilm Orau Caerdydd. I gael siawns o ennill dau Gerdyn Aur Mynediad-i-bobman, gadewch iddynt wybod eich TRI FFILM ORAU drwy:

    - ebostio top10@sgrin.co.uk

    - ffonio 02920 333325

    - codi flyer o'r UGC neu Chapter

    Bydd y gystadleuaeth yn agor ar y 1af o Awst ac yn cau ar y 16eg o Awst a bydd y Deg Orau yn cael eu datgan ar y 16eg o Fedi cyn cael eu dangos yn ystod yr Wyl rhwng y 9fed a'r 19eg o Dachwedd.

    www.gwylsgrincaerdydd.co.uk

    Posted by Mair Thomas at 12:22 yh | Comments (4)

    Mai 24, 2005

    Cannes - pwy 'nillodd pwy gollodd...

    Dwi ddim am fynd mewn i ormod o fanylder a dolenni yma gan fod GreenCine Daily, fel arfer, yn gwneud hynny'n ymarfer dibwynt.

    Ond mi wna i ddweud fod y bois nath ennill - Jean Pierre a Luc Dardennes - wedi ennill y Palme D'Or am yr ail waith, ac dwi'n meddwl wedi ennill yr actor gorau gyda ffilm arall. Dau foi o Wlad Belg, gwlad sydd ddim llawer mwy na Cymru, ond gwlad sydd wedi buddsoddi llawer mwy yn eu diwydiannau creadigol. Hmmm...

    Aparyntli Haneke oedd y ffefryt.

    Y rhai dwi'n edrych mlaen i'w gweld yn y sgrin leol:

    Sin City - Robert Rodriquez

    A History of Violence - David Cronenberg

    Broken Flowers - Jim Jarmusch

    Hidden - Michael Haneke

    Manderlay - Lars Von Trier

    Dyma drosolwg y Guardian ar yr wyl fawr.

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 06:00 yh | Comments (0)

    Mai 16, 2005

    Pictiwrs yn y Steddfod

    logopictiwrs1.jpg
    Mae Pictiwrs.com yn falch o gyhoeddi eu bod wedi taro ar gytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg i drefnu dwy noson o ffilmiau byr yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri eleni. Rydyn ni eisoes wedi trefnu dwy noson lwyddiannus yng Nghaerdydd, sy’n dwyn yr enw ‘Pictiwrs yn y Pyb’.

    Y bwriad yw i’r nosweithiau gael eu cynnal ym Mar Jocks yn Undeb Myfyrwyr Bangor ar ddydd Mercher a dydd Gwener yr Eisteddfod. £2 yn unig fydd cost mynediad ar gyfer y digwyddiadau a bydd amrywiaeth o ffilmiau Cymraeg eu hiaith yn cael eu dangos yn y ddau ddigwyddiad.

    Meddai Rhodri ap Dyfrig, cyd-drefnydd Pictiwrs Yn Y Pyb, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at y nosweithiau hyn yn yr Eisteddfod, ac yn falch iawn o allu cydweithio gyda Chymdeithas yr Iaith. Rydym ni gyd yn gefnogol iawn o’r mudiad, ac mae gennym ni a’r Gymdeithas nodau cytûn o ran rhoi statws i’r Gymraeg yn ein cymdeithas. Bydd hwn yn gyfle i bobl o bob cwr o Gymru gael gweld deunydd, a gobeithio y bydd yn ysgogiad i wneuthurwyr ffilm Cymraeg presennol a gwneuthurwyr y dyfodol i greu rhagor o ffilmiau ac i ehangu’r ystod o waith sydd yn bodoli yn bresennol.”

    Mynegodd Owain Schiavone, swyddog adloniant y Gymdeithas ei falchder fod y cyd-weithrediad gyda Pictiwrs.com yn golygu y bydd mwy o amrywiaeth nag erioed o adloniant a diwylliant Cymraeg wedi eu dargedu at bobl ifanc ar gael yn yr Eisteddfod genedlaethol eleni. Meddai ‘Rydan ni fel Cymdeithas yn ol ein harfer yn trefnu gigiau gyda’r hwyr yn ystod wythnos yr Eisteddfod: ym mar Amser yn Bangor ac yng Nghofi Roc, Caernarfon eleni. Yr hyn mae’r cyd-weithredu gyda Pictiwrs yn ei olygu ydi y bydd cyfle i bobl ifanc ar ddau brynhawn yn ystod yr wythnos weld ffilmiau Cymraeg yn ogystal a chlywed cerddoriaeth Gymraeg. Tydi ffilmiau Cymraeg ddim yn cael hanner digon o sylw yn fy marn i, a mae hwn yn gyfle gwych i ddod a’r cyfrwng hwn i gynulleidfa ehangach.’

    Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

    Pictiwrs.com

    Geraint Criddle: e-bost geraint [at] pictiwrs [dot] com, ffôn 07967753851
    Rhodri ap Dyfrig: e-bost rhodri [at] pictiwrs [dot] com, ffôn 07855362206

    Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

    Owain Schiavone: e-bost owain [at] cymdeithas [dot] com, ffôn 07813050145

    Posted by Geraint Criddle at 02:02 yh | Comments (0)

    Mai 03, 2005

    Lein-yp Pictiwrs

    Dyma'r ffilmiau y byddwn ni'n eu dangos heno. Methu dangos Toll, sydd yn biti, am ei fod yn ffilm arbennig o dda ond bydd o'n sicr yn y noson nesaf.

    Gwd nawr...

    Pen Cariad (8'00")
    Ysg/Cyf: Iwan Williams
    Yr oll mae Bryn isio ydi cariad, ond i ba bellteroedd sy' raid iddo fynd i'w ffeindio?

    Sal (10’45”)
    Ysg: Angharad Elen
    Cyf: Euros Lyn
    Dyw Sal heb yngan gair ers amser maith. Stori bwerus am daith merch
    ifanc at fynegiant.
    www.opustf.com

    Amser Chwarae (10’00”)Ysg/Cyf: Arwel Gruffydd
    Mae ambell gwers i’w dysgu yn y dosbarth; mae eraill i’w dysgu wrth chwarae!
    www.unnos.co.uk

    *******************************************************************************

    EGWYL

    *******************************************************************************

    Y Ci Bolsheficaidd (5'00")

    Ysg / Cyf: Alexandros Konstantaras / Golkou Parhizgar / Juan Reina

    Yn y ffilm hon gan fyfyrwyr o goleg ffilm Casnewydd cewn gymysgedd swreal o gi sy’n siarad, togas ac ideoleg comiwynddol!

    Aml Fai (13’58”)

    Ysg: Ian Staples
    Cyf: David Evans
    Mae Mal yn torri ei fol eisiau mynd i'r gem rygbi, ond mae tocynnau yn brin fel aur. Cofia Mal fod tocyn gan ei Wncwl Jac, ond dyw o yn sicr ddim am ddweud ble mae o - mae o wedi bod yn farw ers dyddiau!

    www.fictionfactoryfilms.com

    Clic (10’07”)
    Ysg: Fflur Dafydd
    Cyf: Euros Lyn
    Mae Mini yn gaeth i waith diflas mewn hen siop ffotograffiaeth. Un
    diwrnod mae'n gweld fod bachgen ifanc golygus wedi cychwyn gweithio yn y siop flodau ar draws y ffordd. Ai'r bachgen fydd yn annog Mini i ddianc
    o gysgod Mostyn a'i siop lychlyd?
    www.opustf.com

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 02:30 yh | Comments (0)

    Ebrill 29, 2005

    Gŵyl Ffilmiau Amgylcheddol Cymru, 1-5 Mehefin 2005

    Bydd Gŵyl Ffilmiau Amgylcheddol Cymru yn cael ei chynnal rhwng 1 a 5 Mehefin 2005, yn Neuadd Gyhoeddus a Sefydliad Cwmaman. Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosiadau ffilm, gweithdai, a chystadleuaeth ffilm. Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth hon gan wneuthurwyr ffilm yng Nghymru.

    Bydd angen i'r ffilmiau a gynhyrchir fod yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg eu hiaith, a rhaid iddynt ymdrin â phynciau amgylcheddol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, cysylltwch â:
    Bronwen Davies,
    Cydlynydd GFfAC,
    Neuadd Gyhoeddus a Sefydliad Cwmaman,
    Heol Fforchaman,
    Cwmaman
    CF44 6NY
    Ffôn: 01685 887107/07766117400
    E-bost: bronwen@ukart.com

    Bydd hi'n gallu anfon ffurflen gais a mwyn o fanylion atoch chi.

    Posted by Geraint Criddle at 01:56 yh | Comments (0)

    Ebrill 19, 2005

    Pictiwrs Yn Y Pyb - 3ydd Mai 2005

    Cyhelir ail noson ffilmiau byr Cymraeg Pictiwrs Yn Y Pyb yn nhafarn Dempsey's ar y 3ydd o Fai am 8 yr hwyr.

    Am bris o dim ond £2 cewch weld wyth ffilm fer (rhestr lawn i ymddangos yma cyn bo hir) a bydd Gary Slaymaker yn ymuno a ni unwaith eto fel y compere am y noson.

    Wedi i ni gael dros 50 o bobol yn y noson gyntaf aethpwyd ati i geisio trefnu rhagor o nosweithiau a buom yn ddigon ffodus i gael nawdd gan Sgrin Cymru i barhau a'r noson ymhellach.

    Byddwn yn trefnu pedair noson yng Nghaerdydd dros y flwyddyn nesaf ynghyd a dwy noson arbennig yn yr Eisteddfod yn Eryri (nos Fercher a nos Wener, yn yr Undeb) a noson arall yn Aberystwyth ym mis Tachwedd (yn y Cwps).

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 12:57 yh | Comments (0)

    Chwefror 28, 2005

    Yr Oscariaid - Llwyth o (S)wank neu "Ray" o Heulwen?

    os-car.jpg
    Hyd yn oed os ydy noson yr Oscars yn gneud chi fyhafio fel Oscar the Grouch (dwi'n gwbod taw dyna ma'n gneud i fi...) ellir mo'u hanwybyddu. Bydd y sinemau yn llawn eto a'r ffilmiau a lwyddodd i ennill bri a chlod aelodau'r academi ffilm Americanaidd - bwnsh o bobol sentimental ar y diawl gan fwya sydd yn dueddol o ganolbwyntio ar berfformiadau a "drama" dwys ar draul gwreiddioldeb a dyfeisgarwch.

    Nid sefyllfa anhebygol gan fod canran fawr o'r pleidleiswyr yn actorion (jest dan 20%). Felly mae'r gwobrau yn debygol iawn o fynd i'r perfformiadau a'r pathos mwya gan ddilyn y traddodiad thespaidd. Rhaid mynd lawr lon y lyfi os am fachu Oscar o'ma. Mae hyn hefyd yn dueddol o fod yr un peth ar gyfer gwobr y ffilm orau hefyd.

    A toedd hi ddim gwahanol y tro hwn, gyda Million Dollar Baby yn gleuo hi am draw at barti Vanity Fair gyda llond goody-bag o ddynion bach melyn (os oes lle ynddo gyda'r holl goodies eraill gafoch chi am ddim...).

    Roedd y ffilm wedi bod yn codi dipyn o stwr yn arwain fyny at y seremoni, gan daro'r adolygwyr Americanaidd ar y droed ol a sleifio i'r sinemau yn ddi-ffwdan ond gan beri i bawb gymryd golwg go agos arni. Yr Aviator oedd gobaith fawr Scorsese (a gobaith bron i bawb arall a dweud y gwir gan iddo beidio cael unrhyw glod gan yr Academi sy'n hawlio i gynrychioli diwydiant ffilm America!) ond pleidlais o gydymdeimlad fuasai honno, a chyda thriawd o actorion fel Eastwood, Swank a Freeman yn rhoi popeth ynddi roedd hi'n mynd i fod yn annodd i'r bywgraff-lun (bio-pic) o Howard Hughes ddod i'r brig.

    Ffilm arall a gododd dipyn o stwr wrth arwain at y noson oedd Sideways gan Alexander Payne (gyda llaw...ble mae'r adolygiad Mr Richards? Hmm? Hmm? ;-)...). Ffilm bach hyfryd hamddenol gyda blas chwaneg go iawn arni (wnai ddim mynd a'r cymhariaethau Epiciwreaidd yn bellach na hynny...dwi di cael digon o hynna ym mhob erthygl dwi di ddarllen am y ffilm: Vintage Payne...bla bla blwmin bla) ac yn gwbl haeddianol o'i gwobr am y Sgript Addiasiedig orau. Chwarae teg hefyd i Charlie Kaufman am daro'r nod eto, wel, efallai taro'r nod yn well ond nid yn berffaith (mi ddaw, mi ddaw...), am fynd a'r wobr am y Sgript Wreiddiol orau gyda Eternal Sunshine Of The Spotless Mind - ffilm a gynnodd fy nychymyg ac a brofodd yn donic i nghalon sydd, fel arfer, yn hollol allergic i gaws sentimento-ramantaidd ac yn ennyn lled-gyfog ar y manylyn lleiaf camembertaidd (cam-amher?). Nid oedd moment o banig nac ychwaith frys estyn am fy moddion gwrth-glaptrap, dim ond ffilm fach yn dangos amherffeithrwydd perthynas mewn ffordd hynod wreiddiol ond eto mewn ffordd oedd allai doddi unrhyw galon a galedwyd gan ddeiet o ffilmiau Zombie, Slasher a Sci-fi.

    Felly, di-nod ydoedd ar y diwedd, gyda mymryn o o gysur yn y ffaith fod ffilmiau "bychan" (ar safonau'r Oscars...) wedi mynd a'r dydd. Fuaswn i ddim yn meddwl fod hyn yn arwyddocaol o unrhyw dro ar fyd yn y ffilmiau bydd Hollywodd eisiau eu cynhyrchu o hyn ymlaen, mae'r risg o fuddsoddi mewn ffilmiau bach yn ormod i'r stwidios mawr allu ei stumogi os nad oes blocbystyr yn cysgodi y ffaeleddau box-office posibl, jest fod y crop o ffilmiau 'mawr' eleni wedi bod mor israddol (Troy, Alexander ayyb) o'u cymharu a blynyddoedd eraill fod yn rhaid mynd nol at y sylfeini - sdori dda yn hytrach na bombast. Ac mae hynny'n newyddion da i'r gynulleidfa sinema sy'n cael eu boddi gan gynnyrch Americanaidd gwael wedi'w bwmpio'n llawn steroids yr ymgyrch hysbysebu a chyda geiriau gweigion coach "hype" yn byddaru o ochor y ring.

    (Wel, nes i ddim deud na faswn i'n rhoi cymhariaethau bocsio gwael naddo!)

    Dolenni:

    BBC yn Blogio'r Oscars 2005

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 09:58 yh | Comments (0)

    Chwefror 16, 2005

    Ffilm yn y Gelli

    Mae'r lein-yp ar gyfer Gwyl y Gelli newydd gael ei gyhoeddi, ac mae'n nhw wedi cynnwys ffilm yno'r flwyddyn hon gyda ymweliadau gan Jane Fonda, Goldie Hawn, a...witsiwch amdano...Spike Lee!

    Swnio fel bod angen i fi fentro yno am y tro cyntaf...

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:18 yh | Comments (2)

    Chwefror 04, 2005

    Noson Ffilmiau Super-8 (Caerdydd, 25-26/2/05)

    Mae criw o artistiaid yn cynnal noson ffilmiau Super-8 (ffuglen a hen ffilmiau cartref) ar y 25-26 Chwefror 2005. Bydd y ddwy noson yn man arddangos G39 sydd wedi'i leoli ar Heol Y Felin, Caerdydd.

    Biti fod eu gwefan yn uniaith Saesneg ynde...ma'n siwr fod hyn yn hollol groes i ganllawiau Cyngor Celfyddydau Cymru.

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 03:35 yh | Comments (1)

    Rhagfyr 20, 2004

    Antidot Perffaith i'r Oscars: Gwobrau "Independent Spirit"

    Doeddwn ni dddim wedi clywed am hwn o'r blaen (diolch Todd ar Twitchfilm) ond mae'n swnio'n ddifyr. Ac mae'n braf cael gwobrau i ddathlu y ffilmiau bach (gymharol).

    Rhoi clod i ffilmiau sy'n cadw i ysbryd anibynnol gwneuthura ffilm yw'r amcan. Mae 'na sawl ffilm yma gafodd ddangosiad yng Ngwyl Sgrin Caerdydd ac sydd wedi dod mewn i deg ucha sawl aelod Pictiwrs o'r herwydd (Unknown Soldier, Dear Pillow). Mae rhai hefyd sydd eto i ddod allan fan hyn ond sydd yn swnio'n diddorol iawn: Kinsey (sydd wedi cael lot o stwr gan y Republicans yn America am onestrwydd ei ddadansoddiad o arferion rhywiol America); Primer (ffilm sci-fi maths gymleth iawn dwi'n meddwl); Sideways (comedi am win-garwyr yng Nghaliffornia); The Woodsman (Kevin Bacon ar dan fel pedoffeil sy'n ceisio dod nol i gymdeithas wedi bywyd mewn carchar); Napoleon Dynamite (ffilm am uber-geeks - heb gyrraedd Caerdydd - ddaw o?).

    Gweler isod am y rhestr gyflawn - do'n i'm yn gallu ffeindio gwefan y gwobrau eu hunain.

    BEST FEATURE
    (Award given to the producer)

    Baadasssss!
    Producer: Mario Van Peebles

    Kinsey
    Producer: Gail Mutrux

    Maria Full of Grace
    Producer: Paul Mezey

    Primer
    Producer: Shane Carruth

    Sideways
    Producer: Michael London


    BEST FIRST FEATURE
    (Award given to the director and producer)

    Brother to Brother
    Director: Rodney Evans
    Producers: Rodney Evans, Jim McKay, Isen Robbins, Aimee Schoof

    Garden State
    Director: Zach Braff
    Producers: Pamela Abdy, Gary Gilbert, Dan Halsted, Richard Klubeck

    Napoleon Dynamite
    Director: Jared Hess
    Producers: Jeremy Coon, Sean C. Covel, Chris Wyatt

    Saints and Soldiers
    Director: Ryan Little
    Producers: Adam Abel, Ryan Little

    The Woodsman
    Director: Nicole Kassell
    Producer: Lee Daniels


    JOHN CASSAVETES AWARD
    (Given to the best feature made for under $500,000; Award given to the writer, director, and producer)

    Down to the Bone
    Director: Debra Granik
    Writers: Debra Granik, Richard Lieske
    Producers: Susan Leber, Anne Rosellini

    Mean Creek
    Writer/Director: Jacob Aaron Estes
    Producers: Susan Johnson, Rick Rosenthal, Hagai Shaham

    On the Outs
    Directors: Lori Silverbush, Michael Skolnik
    Writer: Lori Silverbush
    Producers: Lori Silverbush, Michael Skolnik

    Robbing Peter
    Writer/Director: Mario F. de la Vega
    Producers: T. Todd Flinchum, Lisa Y. Garibay, Mario F. de la Vega

    Unknown Soldier
    Writer/Director: Ferenc Toth
    Producers: Sean Bachrodt, Seth Eisman, Chachi Senior, Ferenc Toth


    BEST DIRECTOR
    Shane Carruth, Primer

    Joshua Marston, Maria Full of Grace

    Alexander Payne, Sideways

    Walter Salles, The Motorcycle Diaries

    Mario Van Peebles, Baadasssss!


    BEST SCREENPLAY
    Mario Van Peebles & Dennis Haggerty, Baadasssss!

    Richard Linklater & Julie Delpy & Ethan Hawke, Before Sunset

    Tod Williams, The Door in the Floor

    Bill Condon, Kinsey

    Alexander Payne & Jim Taylor, Sideways


    BEST FIRST SCREENPLAY

    Rodney Evans, Brother to Brother

    Zach Braff, Garden State

    Joshua Marston, Maria Full of Grace

    Shane Carruth, Primer

    Mario F. De La Vega, Robbing Peter


    BEST FEMALE LEAD

    Kimberly Elise, Woman Thou Art Loosed

    Vera Farmiga, Down to the Bone

    Judy Marte, On the Outs

    Catalina Sandino Moreno, Maria Full of Grace

    Kyra Sedgwick, Cavedweller


    BEST MALE LEAD

    Kevin Bacon, The Woodsman

    Jeff Bridges, The Door in the Floor

    Jamie Foxx, Redemption

    Paul Giamatti, Sideways

    Liam Neeson, Kinsey


    BEST SUPPORTING FEMALE

    Cate Blanchett, Coffee and Cigarettes

    Loretta Devine, Woman Thou Art Loosed

    Virginia Madsen, Sideways

    Robin Simmons, Robbing Peter

    Yenny Paola Vega, Maria Full of Grace


    BEST SUPPORTING MALE

    Thomas Haden Church, Sideways

    Jon Gries, Napoleon Dynamite

    Aidan Quinn, Cavedweller

    Roger Robinson, Brother to Brother

    Peter Sarsgaard, Kinsey


    BEST DEBUT PERFORMANCE
    (Actors in their first significant role in a feature film)

    Anthony Mackie, Brother to Brother

    Louie Olivos, Jr., Robbing Peter

    Hannah Pilkes, The Woodsman

    Rodrigo de la Serna, The Motorcycle Diaries

    David Sullivan, Primer


    BEST CINEMATOGRAPHY

    Tim Orr, Dandelion

    Eric Gautier, The Motorcycle Diaries

    David Greene, Redemption

    Ryan Little, Saints and Soldiers

    Maryse Alberti, We Don't Live Here Anymore


    BEST DOCUMENTARY
    (Award given to the director)

    Bright Leaves
    Director: Ross McElwee

    Chisholm '72: Unbought & Unbossed
    Director: Shola Lynch

    Hiding and Seeking: Faith and Tolerance After the Holocaust
    Directors: Menachem Daum, Oren Rudavsky

    Metallica: Some Kind of Monster
    Directors: Joe Berlinger, Bruce Sinofsky

    Tarnation
    Director: Jonathan Caouette


    BEST FOREIGN FILM
    (Award given to the director)

    Bad Education (Spain)
    Director: Pedro Almodóvar

    Oasis (South Korea)
    Director: Lee Chang-Dong

    Red Lights (France)
    Director: Cédric Kahn

    The Sea Inside (Spain)
    Director: Alejandro Amenábar

    Yesterday (South Africa)
    Director: Darrell James Roodt


    SPECIAL DISTINCTION

    Ensemble Cast: Mean Creek

    Rory Culkin
    Ryan Kelley
    Scott Mechlowicz
    Trevor Morgan
    Josh Peck
    Carly Schroeder


    TURNING LEAF SOMEONE TO WATCH AWARD

    Jem Cohen, director of Chain

    Bryan Poyser, director of Dear Pillow

    Jennifer Reeves, director of The Time We Killed


    DIRECTV/IFC TRUER THAN FICTION AWARD

    Zana Briski and Ross Kauffman for Born Into Brothels

    Shola Lynch for Chisholm '72: Unbought & Unbossed

    Jehane Noujaim for Control Room

    Carlos Sandoval and Catherine Tambini for Farmingville


    BRAVO/AMERICAN EXPRESS PRODUCERS AWARD

    Gina Kwon, producer of The Good Girl and Me and You and Everyone We Know

    Danielle Renfrew, producer of November and Groove

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 08:32 yh | Comments (0)

    Rhagfyr 01, 2004

    Y Ffilmiau Byddwch Chi'n Gwylio Yn 2005...

    Dyma restr y ffilmiau sydd wedi cael eu dewis ar gyfer gwyl ffilmiau "anibynnol" Sundance (20-30 Ionawr, 2005).

    Mae'n cynnwys ffilm newydd gan Steve Buscemi - Lonesome Jim - swnio'n dda jest o'r teitl; 3-Iron gan Kim Ki-Duk (Spring, Summer, Autumn...; The Isle); Dear Wendy gan Thomas Vinterberg sydd wedi'i sgwennu gan Lars Von Trier; The Girl From Monday gan Hal Hartley; Mirrormask o'r DG sydd wedi'i sgriptio gan y nofelydd graffig Neil Gaiman. Digon i godi awch ar unrhywun sy'n ffan o indies Americanaidd a ffilmiau anibynnol o weddill y byd.

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 08:43 yb | Comments (10)

    Tachwedd 10, 2004

    Ffilmiau byr yn Aber *HENO*

    Cofio fi'n son am y sinema symudol? Wel mae nhw yn landio yn fyny staer y Cwps, Aberystwyth *heno*.

    Ewch draw am gipolwg!

    Mae ganddyn nhw hefyd flog bach reit ddifyr o'r holl siwrna ma'n nhw'n ei wneud o amgylch Prydain. A nath neb wahodd nhw i Gaerdydd, asgob da ni'n crap tydan.

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:06 yb | Comments (0)

    Tachwedd 05, 2004

    Llwyddiant i Asante a ffilm Gymreig yn Llundain

    Mae Amma Asante, cyfarwyddwr "A Way of Life", ffilm newydd sy'n edrych ar densiynau hiliol a phroblemau mam sengl o fewn cymuned yn Ne Cymru, wedi ennill Gwobr Talent y DU yng ngwyl ffilm Llundain. Bydd y ffilm hon yn agor Gwyl Sgrin Caerdydd ac yn dangos eto wedyn y diwrnod canlynol. Edrych mlaen yn fawr i'w gweld hi wedi iddi gael ymateb da yn Toronto hefyd. Mae'n debyg bydd y ffilm hon yn cael cryn sylw rwan iddi ennill y wobr yma, a llwyddo i guro sawl ymgeisydd cryf yn cynnwys Bullet Boy (gyda pherfformiad gwych gan Asher D o So Solid Crew yn ol bob son) a Yasmin, ffilm gan Kenny Glenaan gafodd gryn sylw yng Nghaeredin. Llongyfarchiadau!

    Mae The Woodsman, sy'n serennu Kevin Bacwn ac sydd hefyd yn dangos yn yr wyl, hefyd wedi ennill prif wobr gwyl Llundain. Ffilm am bedoffeil sy'n cael ei ryddhau ac yn cesio dod i dermau a'i broblem a byw yn y byd go iawn. Swnio fel sdwff pwerus iawn a fyddai'n sicr o geisio'i ddal o.

    Dyma drosolwg Y Guardian/Observer ar ffilmiau a newyddion yr wyl.

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:04 yb | Comments (2)

    Hydref 26, 2004

    Sinema at eich drws ar alwad ffôn...

    Beth?

    "Have Cinema - Will Travel"

    Cynllun gwallgo gan ddau aelod o gylch gwneuthurwyr ffilm Shooting People, i fynd mewn fan o amglych Prydain efo taflunydd, chwaraeydd DVD, 7 ffilm a ffôn lôn - fel y gall unrhywun eu ffonio a bwcio dangosiad lle bynnag y boch yn y DU!

    Rhaid iddyn nhw ddangos y ffilmiau i fwy nag un person bob nos ac mae nhw'n frwd i ddod i Gymru, felly os oes rywun awydd ffonio nhw ewch i'r wefan ar yr 8fed o Dachwedd pryd bydd eu rhif ffôn ar gael.

    Dyma ddisgrifiad y ffilmiau fydd yn dangos: cafodd Journey Man, ei ariannu gan arian Loteri Cymru, ac mae wedi bod yn llwyddianus iawn yng ngwyliau rhyngwladol.

    Debyg fydd na un yng Nghaerdydd ond oes rhywun awydd gosod sialens iddyn nhw fynd yn bellach i Gymru? Gwon.

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 10:46 yb | Comments (0)

    Hydref 13, 2004

    Gwyl Sgrin Caerdydd - 10-20 Tachwedd 2004

    Felly, mae hi bron yr amser yna o'r flwyddyn eto - mae Gwyl Sgrin Caerdydd, gwyl ffilm fwya Cymru ar ein gwarthae ac mae'r rhaglen o ffilmiau a ddangosir dros y 10 diwrnod newydd gael ei chyhoeddi. Be da chi'n feddwl?

    schizo.jpg

    Dwi'n arbennig yn edrych mlaen at weld y ffilmiau Cymraeg a Chymreig: Mela (sy'n edrych ddim cweit mor saff ag oedd Sion a Sian y flwyddyn diwethaf) ac A Way of Life (dwi di son amdani'n gynt yma).

    Dyma olwg dros brif themau yr wyl.

    Dwi hefyd wedi clywed pethau da am:

    The Machinist (ffilm dywyll ar y naw gyda Christian Bale yn llwgu ei hun dros ei gelf);
    The Edukators (ffil gyda thri o actorion ifanc newydd mwya cyffrous yr Almaen ac Awstria);
    The House of Flying Daggers (Zhang Yimou ar ei ail mission i ddallu a'i ddelweddau hyfryd);
    The Woodsman (Kevin Bacon yn chwarae rhan pedoffeil sy'n ceisio dygymod a bywyd wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar);
    The Green Hat (chydig o Hong Kong extreme);
    Garden State (efo Zach Braff, y boi o'r gyfres comedi "Scrubs"ynddo, a Natalie Portman);
    Tropical Malady (ffilm Thai am ddau ddyn hoyw oedd yn creu dipyn o buzz yng Ngwyl Caeredin);
    The Parallax View (gan nad ydw i rioed wedi ei weld);

    ac mae yna olwg-yn-ol ar ffilmiau Peter Sellers a ddylia fod yn ddifyr heb son am y ffilmiau byr Cymreig sy'n cael eu dangos. Gwledd yn wir.

    Dwi'm yn gwbod dim am y ffilmiau o Seland Newydd nac y rhai o Estonia ond mae'n debyg yr ai i weld sut bethau ydyn nhw, gan na chai gyfle eto. Dyna sy'n gret am wyliau fel hyn ydi eich bod chi'n cael gweld ffilmiau sydd weithiau ddim yn cael eu rhyddhau o gwbl tu allan i'w gweldydd eu hunain.

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 02:29 yh | Comments (1)

    Medi 27, 2004

    Ffilmiau bychain o Brasil

    Peth wmbrath a thorraeth o ffilmiau un-funud o hyd, ar-lein yn yr wyl yma o Brasil.

    Rhai o São Paulo, Brasil...

    Rhai o Brasília, Brasil...

    [cliciwch ar selecionados i weld y rhestr gyflawn]

    Rhagor o ffilmia un-funud o Brasil

    [cliciwch ar y penawdau islaw tema ar y dudalen hon i weld rhagor]

    [o Cinema Minima]

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:11 yh | Comments (0)

    Medi 12, 2004

    Ffilmiau Tanddaearol Paris yng Ngwir Ystyr y Gair

    Yn sicr mae hon yn un o'r straeon mwyaf difyr ac anghygoel o intriguing i fi ei ddarllen yn y flwyddyn diwethaf - darganfyddiad gan Les Flics ym Mharis o olion sinema a bwyty cudd 18 metr tan y daear yng Nghatacombs Paris. Am syniad ffantastic - cineastiaid Ffrengig yn cynnal cyfarfodydd cudd yng nghanol nos i wylio ffilmiau gan sibrwd ymysg eu gilydd a sipian Pastis!

    Mae'r Guardian yn adrodd heddiw eu bod wedi darganfod aelodau'r grwp oedd yn gyfrifol - La Mexicaine de La Perforation (The Perforating Mexicans) - ac yn cyfweld a'u 15 aelod.

    Mae'n debyg fod llawer iawn, iawn yn fwy o sdwff cudd yn mynd 'mlaen yn y catacombs dan strydoedd Paris. Am ddelwedd wych.

    Lle fasa hi'n bosibl cynnal y fath beth cyffrous yng Nghymru? Dan Yr Ogof unrhywun? Ma na canals dan Gaerdydd yn ol bob son...

    [o greg.org]

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 01:51 yb | Comments (5)

    Medi 11, 2004

    Dim byd i'w wneud heno?

    Ydach chi rywle downtown yn Dallas, Tecsas, heno?
    Ddim yn ffansio gweld tom-cruise-yn-chwarae-harrison-ford yn collateral, neu Kim Basinger yn sgrechian-pledio i atgyfodi'i gyrfa am ddwyawr yn Cellular?
    Ydach chi'n hiraethu am y dyddie da pan oedd dyn yn gallu mynd i'r pictiwrs heb orfod gwylio ffrwydriadau, pobol hoyw, cyffuriau, merched mewn hotpants na Michael Moore ar y sgrin?


    Os felly, ella y byddai hi'n syniad i chi fynd i lawr i'r Studio Movie Grill, cartref yr wyl ffilm gyntaf o'i bath: yr American Film Renaissance Film Festival.

    Gwyl sy'n dal yn dynn mewn hen werthoedd 'gwladgarol' Americanaidd a Christnogaeth; gwyl sy'n sownd mewn timewarp lle ma' Reagan i'w weld ar y sgrin arian ac yn y Ty Gwyn. Eu harwyddair? "Doing Films The Right Way".

    Yn ystod y penwythnos, fe fydd 'na saith première byd: ffilmiau am Gomis budur, cameraderie y bois mas yn Fietnam, Elian Gonzales, rheolau gynnau llaw: ac wrth gwrs, gelyn pennaf (a tharget mwyaf) y Dde Americanaidd, Michael Moore.

    Wrth ddarllen am raglen y penwythnos (gan feddwl i ddechrau mai gwyl i ddathlu rhamant-go-iawn, tarten afal a'r ail amendment oedd hi), ges i sioc braidd o weld dwysder ac eithafiaeth rhai o'r ffilmiau: gwrth Arabaidd, gwrth heddychaidd, gwrth 'Gomiwnistaidd' (brîd oeddwn i'n meddwl fod McCarthy wedi ei difa ar goelcerth fawr yn y 50au).

    Dwi dal ddim wedi deall pwrpas sgrinio tri diwrnod llawn o bropaganda 'to the converted', ond mae'r peth yn sicir wedi procio'r meddwl. Be' fydda gwyl debyg yng Nghymru'n dangos? Petha fel 'Hedd Wyn'? A phwy ydi Michael Moore Cymru? Siawns y gallwn ni wneud yn well na Seimon Brwcs? (er, mi fyddai'n hwyl ei weld o mewn fatsuit).

    Ta beth, jest digwydd meddwl wnes i...

    Posted by Sara Huws at 09:54 yh | Comments (2)

    Awst 20, 2004

    Clecs Caeredin 2004

    Felly mae Gwyl Ffilm Caeredin ar droed gyda ystod eang o ffilmiau newydd sbon danlli. Fyddai ddim yna, go drapia, ond mae gen i ambell ysbiwr yn edrych ar ambell ffilm a gobeithio gallu riportio nol i fi gael rhoi rhyw syniad o beth sy'n codi ffys a beth sydd angen ei redag drosodd gan fys (*ow* sori!).
    edfilmfest.jpg

    Dyma rai dolenni defnyddiol:

    Meicro-wefan Film Four sydd yn rhoi rhagolwg ar rai o'r prif ffilmiau yno.

    Adran gynhwysfawr Caeredin gan Guardian Film - newyddion, rhagolwg, ac adolygiadau o ddydd i ddydd (dyma un Dead Man's Shoes gan Shane Meadows i gychwyn).

    Meicro-wefan BBC Films ar y 58fed Wyl

    Adran The Scotsman ar yr wyl am olwg leol.

    Nai ychwanegu sdwff at y sylwadau pan glywai fwy...

    Posted by Rhodri ap Dyfrig at 04:15 yh | Comments (6)