Wynebu’r Bwystfil

Mae gwadu realiti yr argyfwng hinsawdd yn hollol naturiol; mae’n rhan o’r atblygiad “ymladd neu ffoi”. Heb yr atblygiad yma fydden ni ddim yma. Doedd yr atblygiad yma ddim gyda’r dodo. Mae’n hanfodol i’n llwyddiant fel rhywogaeth.

Wrth wynebu gelyn, neu anifail rheibus, neu unrhyw her amgylcheddol arall, ein dewis sydyn yw “ydw i’n ddigon cryf i ymladd â hyn neu ddylwn i ei heglu hi?”

Y broblem gyda teigr yr argyfwng hinsawdd yw does dim lle i ni ffoi. Dyn ni ddim yn gallu ffoi rhag y bygythiad yma trwy rhedeg yn glou dros y safana, neu ddringo coeden neu guddio yn ein hogofeydd. Mae rhaid i ni wynebu’r teigr.

Ydy, mae’n fwstfil enfawr. Ydyn, mae ei ddannedd yn fawr. Mae bod ag ofn yn naturiol, ac yn iawn a does dim rheswm i ni fod â chywilydd, ond does dim modd i ni ffoi. Mae rhaid i ni ymladd.

Mae un mantais gyda ni. Yr un mantais oedd gyda ein hen deidiau a’n hen neiniau ar y safana, yn y coed ac yn eu hogofeydd. Mae gyda ni ymennydd sy’n annaturiol o fawr.

Ein hymennydd mawr yw’r rheswm mae cymaint ohonon ni ar y graig fawr las yma. Ni wedi wneud y dewis iawn, ymladd neu ffoi, bob tro ni wedi wynebu gelyn dirfodol, hyd yn hyn.

Hyd yn hyn.

Ein hymenydd mawr sy’n gyfrifol am ein gallu anhygoel o gyfathrebu. Ein gallu anhygoegol o ddofi anifeiliaid a phlanhigion, lleihau’r amser ni’n gorfod treulio casglu calorïau a’n rhyddhau i wneud gwaith arall…

Gwaith fel adeiladu pontydd crog, ysgrifennu sonedau a [gwirio nodiadau] treulio hanner ein horiau deffro edrych ar gyfrifiaduron bach ni’n cario o gwmpas yn ein pocedi.

Ni yw’r anifeiliaid sy’n siarad. Dim ond trwy siarad â’n gilydd ydyn ni wedi llwyddo creu’r byd anhygoel, prydferth a pheryglus tu hwnt yma. Dim ond trwy siarad â’n gilydd y ffeindiwn ni’r cryfder i ymladd â’r argyfwng mawr gwrychlyd sy’n ein hwynebu nawr.

Mae rhaid i ni siarad â’n gilydd, mae rhaid i ni fod yn onest, ac mae rhaid i ni weithredu, gyda’n gilydd, yn glou iawn. Ni sy wedi creu’r bwystfil hwn, a dim ond ni sydd gyda’r arfau, a’r gallu, a’r dealltwriaeth i’w daclo.

Mae rhaid i ni addysgu ein hunain.

Mae rhaid i ni newid y ffordd ni’n byw.

Mae rhaid i ni ladd y teigr cyn iddo fe ladd ein plant.

Mae e yma. Mae e’n real. A ni sy wedi ei greu. Mae rhaid i ni siapo.

Eithafwyr yr Hinsawdd

Cwpl o bethau wnaeth sbarduno hyn. Yn gyntaf, trydariad gan John Simpson, ynglyn â pherygl dilyn trwydded “eithafwyr” fel Extinction Rebellion, sy wedi bod yn protestio yn erbyn ei gyflogwyr:

Beth fyddai ymateb John Simpson i dactegau Mahatma Gandhi, neu Martin Luther King, neu Ffred Ffransis, tybed?

Actiwali, paid ag ateb yr un ola ‘na.

Ac wedyn yn ail, sgwrs clywais i yn y dafarn y prynhawn ‘ma, ynglyn â’r miri ym maes awyr Gatwick dros y 48 awr diwetha:

Theresa May’s saying they should get 5 years.

5 years! That’s ridiculous! Don’t they realise how much disruption… 20 years at least!

I heard Jeremy Clarkson say they should just be shot…

Yeah, and they should execute one MP every year, at random, until they sort this shit out.

Gyfeillion, talais i fy mil a gadael. Er mor ddifrifol ydw i am wella y ffordd dw i’n ymateb i’r argyfwng, dw i ddim cweit yn barod i gael fy ngwahardd o’m dafarn leol, a dyna fyddai canlyniad o ymuno yn y “sgwrs” yna.

Ond at y pwynt: nid “ni” yw’r eithafwyr yma. Ni’r bobl sy wedi deall digon o beth mae’r gwyddonwyr wedi bod yn dweud ers 30 mlynedd yw’r rhai sy’n gall. Ond y rhai ‘ma sy’n meddwl dylen ni ladd pobl am arafu awyrennau?

Pigion y Dydd

Un o’r pethau dw i’n bwriadu ei wneud yma yw cadw record o’r pethau dw i wedi dod ar eu traws yn ystod yr oriau dw i’n treulio mynd ar goll yn y sgrîn fach anobeithiol, a ble well i ddechrau gyda’r bardd o Fontreal, a fideo dw i ddim yn cofio gweld o’r blaen. Oes na grynodeb gwell o’n sefyllfa bresenol na hyn?

It’s coming from the feel
That this ain’t exactly real
Or it’s real, but it ain’t exactly there

It’s real, but it ain’t exactly there

Bach o newyddion da o Fachynlleth, sef bellach y dref gyntaf yng Nghymru i ddatgan Argyfwng Hinsawdd. Ydy hyn yn rhywbeth mae trefi eraill yn fodlon efelychu? Dw i ddim yn byw mewn tref, ond dw i’n gweithio mewn un. Amser i fi siapo. (Sef, bwriad arall i’r blog ‘ma, i fod yn broc i’m cydymwybod.)


Pam mae Damian Carrington yn edrych ymlaen at ei Nadolig figan cyntaf. Diddorol sylwi bod ei agwedd e at “fod yn figan” yn debyg i fy un i, sef “figan gartre, hyblyg tu allan (os oes rhaid)”.

Un peth dylwn i fod wedi dweud yn y blogiad am Peter Singer neithiwr yw mod i wastad yn gofyn mewn tŷ bwyta neu dafarn os oes opsiwn figan gyda nhw, a cheisio wneud pwynt o ddiolch iddyn nhw os oes, yn enwedig os nag yw’r lle yn rhywle trendi lle fyddet ti’n disgwyl cael eich afocado ar dost beunyddiol.


Dyma fy rhestr o wyddonwyr hinsawdd ar Twitter. Croeso i chi awgrymu rhagor, yn y sylwadau yma neu ar Twitter


(Mae’n debyg bydd rhagor o bethau yn ymddangos yma yn ystod y dydd, os bydd amser ‘da fi. Croeso i chi awgrymu pethau yn y sylwadau – os dych chi ddim yn gweld y blwch sylwadau, cliciwch yma.)

Peter Singer ar Fwyta’n Foesol

Ces i sgwrs gyda fy mam echdoe a ddylen ni fod wedi ei gael ers tro, am y ffaith mod i’n galw fy hunan yn “figan”, ond ddim yn poeni gormod am fwyta fel “llysieuwr” pan dw i ddim gartre. Mae hyn wedi bod yn asgwrn cynnen gydag aelodau eraill fy nheulu cyn nawr, ac arna i mae’r bai am beidio esbonio’n glir o’r cychwyn cyntaf, wrth fynd yn ôl at figaniaeth wedi cyfnod o fod yn hollfwytäol (adeg o’n i’n byw ar dyddyn Maes-y-Morfa, ac yn cadw anifeiliaid).

Llyfrau Peter Singer oedd un o’r dylanwadau mawr arna i adeg hynny. Yn ei iwtilitariaeth, y peth pwysica bob tro yw sicrhau y “daioni mwya i’r nifer mwya o fodau”: y prif wahaniaeth rhyngddo fe a llawer o’i gyd-iwtilitariaid yw ei fod yn gynnwys anifeiliaid yn ei ddifiniad o “fodau”.

Y “broblem” (i rai) gyda iwtilitariaeth Singer-aidd yw ei ronynogrwydd: byddai llawer o figaniaid Peta-pur yn gwadu bod fersiwn Singer o figaniaeth yn haeddu’r enw; tua diwedd y sgwrs yma mae e’n cyfaddau ei fod e wedi bwyta wystrys a chregyn bylchog heb boeni amdano gan eu bod nhw heb yr un fath o gyfundrefn nerfol ag anifeiliaid “uwch”.

Er mod i ddim wedi bwyta molysgiaid ers i fi stopio bwyta cig yn gyffredinol, dw i’n tueddu cytuno â Singer ar hyn, a’i farn ei fod e’n fwy effeithiol yn y pen draw i fod yn “figan hyblyg” nag i fod yn “figan digyfaddawd”, yn enwedig os taw ennill troedigion i’r achos yw’r nod, yn lle bod yn hunan fodlon a balchio yn eich perffeithrwydd moesol.

Beth amdanoch chi? Hapus i gael sgwrs yn y sylwadau…

Gwrthryfel a’r BBC

Heddiw ‘ma mae Gwrthryfel Difodiant wedi bod yn pwyso ar y BBC i wella’r ffordd maen nhw’n gweithredu yn wyneb yr argyfwg hinsawdd. Dw i ddim yn gwybod os ydy hyn wedi cyrraedd tonfeydd Cymreig y Bîb – dw i’n methu gweld dim byd ar BBC Cymru Fyw ond mae rhaid cyfadde mod i heb wrando ar y radio heddi.

Dyma gyfieithiad sydyn o’r llythyr heddiw yn y Guardian am yr ymgyrch yma:


Mae gan y BBC rôl allweddol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd

Mae Clare Farrell o Gwrthryfel Difodiant yn galw ar y darlledwr cyhoeddus i weithredu ar wyth pwynt brys.

Yn ystod y dydd Gwener hwn, bydd Gwrthryfel Difodiant yn cynnal gwrthdystiad heddychlon i alw ar y BBC i gyfleu difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol yr ydym yn ei wynebu, a’r angen i weithredu ar frys i fynd i’r afael â hyn. Mae angen i’r BBC, fel llais cyfryngau parchus yn y DU, chwarae rhan allweddol i alluogi’r newid trawsnewidiol sydd ei angen. Rydym yn gofyn:

  1. I’r cyfarwyddwr cyffredinol, Tony Hall, gytuno i gyfarfod â dirprwyaeth o Wrthryfel Difodiant i drafod sut y gall y BBC ddweud y gwir lawn ar yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol.
  2. I’r BBC ddatgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol.
  3. I’r BBC osod yr argyfwng yn yr hinsawdd fel ei flaenoriaeth golygyddol a chorfforaethol uchaf trwy fabwysiadu cynllun strategol mewn argyfwng yn yr hinsawdd, ar y lefel o frys a roddwyd ar hysbysu’r cyhoedd am yr ail ryfel byd.
  4. I’r BBC ddiddymu holl gronfeydd pensiwn, buddsoddiadau a chyfrifon banc o gorfforaethau tanwydd ffosil a’u bancwyr.
  5. I’r BBC, ei is-gwmnïau a’i gadwyn gyflenwi gytuno i fod yn sero carbon erbyn 2025.
  6. I’r BBC gyhoeddi eco-archwiliad blynyddol o holl weithrediadau’r BBC, gan gynnwys crynodeb o ddata ecolegol a charbon allweddol.
  7. I’r BBC arwain ac annog corfforaethau cyfryngau cenedlaethol a byd-eang eraill i ymuno â’r ymdrechion byd-eang i achub dynoliaeth / natur rhag argyfyngau dirfodol.
  8. I’r BBC ganiatáu llefarwyr melinau trafod ar yr awyr i drafod yr argyfwng yn yr hinsawdd dim ond os ydy eu cyllid yn gwbl dryloyw.

Diweddariadau:
Stori yn yr Evesham Journal – sy’n cynnwys y llun ar dop y blogiad hwn (gan Ben Birchall/PA Images) a’r datganiad isod gan lafarydd ar ran y BBC:

“We’ve received a letter from this newly-formed campaign group. The BBC has a proud record of leading the way in sustainability in the media industry and we’ve set out further action including cutting energy use further, eradicating single use plastic and minimising the impact of necessary travel.”

Fi sy biau’r pwyslais yna, a dw i ddim yn amau ei fod yn wir mewn sawl ffordd. Ond mae hefyd yn wir bod y BBC, tan yn ddiweddar, wedi cyflwyno bob stori ynglyn â newid hinsawdd fel dadl rhwng dwy ochr, sef y rhai sy’n “credu” a’r rhai sy ddim, fel bod realiti yn fater o farn.


Bu eitem ar raglen Jeremy Vine yn ystod y dydd (25 munud mewn)

Alban Arthan

Blwyddyn newydd dda!

Braidd yn gynnar i chi bobl sy’n dal i gredu bod rhifo’r dyddiadau yn golygu rhywbeth, ond i’r meddyliau galaethiol yn ein plith, dyma drobwynt go iawn y flwyddyn gron. Daw tipyn bach mwy o haul ar fryniau yfory, hyd yn oed yng Nghwm Gwaun.

Pa ddiwrnod gwell, felly, i atgyfodi’r hen flog ‘ma?

O’r gorau, do’n i ddim hyd yn oed wedi sylweddoli taw byrddydd gaeaf oedd hi heddi, nes i fi agor rhyngwyneb posh fersiwn diweddara WordPress a dechrau teipio hyn, ond mae’n cyd-ddigwyddiad sy’n rhy dda i’w anwybyddu.

Adduned Blwyddyn Newydd

Buon ni’n siarad am addunedau Blwyddyn Newydd yn y dosbarth yn ystod wythnos ola’r tymor, a ches i fy synnu cynlleiad o’r dysgwyr sy’n wneud adduned. Yn bersonol, dw i wedi wneud, a thorri, o leia un adduned bob blwyddyn, fel arfer ynglyn â cholli pwysau neu lleihau’r yfed, cerdded yn fwy cyson neu ddarllen mwy o lyfrau (yr unig un dw i wedi llwyddo â chadw eleni, mae’n debyg).

Ond mae diwedd y flwyddyn hon yn teimlo’n wahanol. Wrth gwrs y byddai’n braf colli hanner stôn a pheidio rhoi cymaint o arian yng nghronfa gwyliau tafarnwr y Pentre Arms, ond mae canolbwyntio ar wella ansawdd fy nghorff yn teimlo’n fwy amherthnasol nag erioed o ystyried beth mae rhai pobl wedi dechrau wneud â’u cyrff er mwyn sicrhau dyfodol ein rhywogaeth, a phob rhywogaeth arall sydd dal ar gael ar y blaned fach wirion hon. Mae’r mis diwetha ‘ma, ers lawnsiad Gwrthryfel Difodiant wedi bod yn ysbrydoledig i fi…

(Wna i bennu hyn nes ymlaen, a Chymreigio’r rhyngwyneb y blog os bydd amser – mae pethau mwy pwysig i sgwennu amdanynt ar y funud.)

(Nes ymlaen)
Ar ôl sgwennu’r uchod, a’r cofnod am ymgyrch XR a’r BBC, ces i oriau o hwyl trial wneud y blog ‘ma yn ddiogel. Y prif reswm dw i heb flogio ar morfablog.com ers blynydde yw bod y blog gwreiddiol wedi cael ei hacio, ac oedd y broses o’i atgyfodi ac adfer tu hwnt i fi. Erbyn hyn, dw i ddim yn teimlo ei fod yn werth wneud yr ymdrech yna. Mae rhyw fath o archif ar y Wayback Machine, ond does dim byd yna dw i’n gweld ei eisiau, ac eitha lot byddai’n well ‘da fi anghofio amdano’n llwyr. Nid hiraeth am oes aur blogio sy wedi dod â fi ma’s o’m gaeafgwsg blogiadol, ond y pwysedd cynyddol yn fy mhen ynglyn â’r argyfwng hinsawdd sy’n mynnu ffeindio ffordd ma’s. Fel dwedais i bwyddiwrnod ar Twitter, dw i’n synnu mod i ddim wedi colli mwy o ddilynwyr yna, gan mod i ond yn aildrydar pethach diflas am yr hinsawdd trwy’r amser, felly dw i’n ail-ddechrau ar y blogio fel modd i rannu beth sy’n mynd trwy mhen, yn y gobaith y bydd o ryw iws i rywun.