Lansiwyd DeSmog UK ym mis Medi 2014 fel porth cyfryngol ymchwiliol sy’n ymroddedig i dorri trwy’r troelli sy’n tywyllu’r ddadl ar ynni a’r amgylchedd ym Mhrydain. Ers hynny, mae eu tîm o newyddiadurwyr ac ymchwilwyr wedi dod yn ffynhonnell ddiofyn ar gyfer gwybodaeth gywir, wedi’i seilio ar ffeithiau ynghylch ymgyrchoedd gwybodaeth anghywir ar wyddoniaeth hinsawdd yn y DU.
Rhai o erthyglau diweddar DeSmog UK:
- Gwrthryfel Difodiant a’r Streiciau Ysgol: Cynnydd Gweithgaredd Hinsawdd Newydd – blogiad gan Sophie Yeo
- ‘Rhaid i ni Fod Yma’: Y tu mewn i Weithrediaeth Hinsawdd Newydd Prydain – darn clywedol am sut mae twf poblogrwydd “XR and Greta” wedi effeithio i’r rheini o weithredwyr ar lawr gwlad
- Marwolaeth David Koch a rhyfel parhaus rhwydwaith Koch ar ynni glân – ac yn lle dim ond dawnsio ar ei fedd, mae gan DeSmog prosiect arbennig, Koch vs Clean, “a lansiwyd i ddatgelu’r unigolion, sefydliadau a thactegau y tu ôl i’r ymosodiadau disynnwyr hyn ar gerbydau trydan, dewis defnyddwyr a’r technolegau ynni glân arloesol y mae’r cyhoedd yn mynnu ac yn eu haeddu.”
Llun: Ymgyrchydd Preston New Road ar brotest yn Swydd Caerhirfryn. (Credyd: Reclaim the Power)