Colli’r Hen Flog

Dw i wedi sôn am hyn o’r blaen, ond y rheswm nad oes archif i’r blog ‘ma yw iddo fe gael ei hacio, sawl gwaith dros y “cyfnod segur”, sef rhywle rhwng diwedd fy amser gyda maes-e, a diwedd y flwyddyn diwetha, pan o’n i’n blogio yma yn achlusurol iawn.

O beth dw i’n gallu gweld, mae cynnwys i gyd dal ar weinydd Dreamhost, ond Duw a wyr a fydd yn bosibl ei adfer. Ces i gynnig arall arno heddi, ond ar ôl methiant arall o ffidlo gyda wp_config.php ac yn y blaen, wnes i roi’r ffidl yn y to, ‘to.

Fel dwedais i ym mis Rhagfyr, dyw hyn oll ddim yn golled mawr i fi, ac mae siŵr o fod rhagor o stwff fyddwn i ddim eisiau gweld eto, na stwff sydd o unrhyw werth i hanesyddion cymdeithasol manion y we Cymraeg. Wedi dweud hynny, oedd yn braf gweld ei fod e’n bosibl o hyd i gael blas ar fy hen flog, trwy Y Way Back Machine.

Yr uchod oedd y ddolen cyntaf i fi bostio, nôl yn y dyddiau cyn i fi goftrestru’r URL morfablog.com – roedd y blog yn arfer byw ar Blogspot.com, sef rhagflaenydd Blogger. Yn y fersiwn cynharaf o’r meddalwedd, doedd dim modd rhoi teitl i’ch blogiadau, os dw i’n cofio’n iawn. Rhywle yn y broses o allforio cynnwys y blog o un platfform i’r nesaf (Moveable Type), creuwyd teitlau awtomatig, o linell cyntaf y blogiadau.

(Mae fersiwn gwreiddiol Prosiect Megapenny wedi’i hergipio gan rhyw sgamwyr sy’n hybu gwestai yng Nghaliffornia, ond mae ‘na fersiwn “newydd” yma, rhag ofn i chi eisiau gweld sut mae cwintiliwn o geiniogau yn edrych.)

Sa i’n gwybod pam dw i’n boddran mwydro am hyn i gyd. Dw i newydd ddod ar draws fy nghofnod ar 11 Medi, 2001, a chael fy atgoffa pa mor ffycd ydyn ni.

Ar y llaw arall, ac ar yr un funud, ces i dwît gan un o fy arwyr mwya y byd arlein, Jessamyn West, felly dyn ni ddim yn hollol ffycd.

“Blogiwr ar newid hinsawdd”

Ces i’r fraint o gael erthygl yn rhifyn cyfredol Y Cymro, ar fy mhrofiadau fel aelod Gwrthryfel Difodiant, y protestiadau yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf, a pham dw i’n meddwl bod rhaid i “bobl normal fel fi” cael ein harestio yn y pen draw.

Dyw’r erthygl ddim ar-lein (Y Cymro, natch), ond os chi’n fodlon craffu ar hyn, falle y cewch chi’r jist:

Yr unig ddarnau o hyn dw i ddim yn adnabod yw’r disgrifiad ohona i fel “blogiwr ar newid hinsawdd” a’r honiad mod i’n “wedi ysgrifennu erthyglau helaeth ar newid hinsawdd ar ei flog”.

(Wedi meddwl, mae’r erthygl ar gael arlein, gan fod copi gyda fi yn fy Ngoogle Drive – mae’n bosibl bod man gwahaniaethau rhwng hyn a’r fersiwn cyhoeddwyd, ond o leia mae hyn yn ddarllenadwy.)

Dw i heb sgwennu gair ar y blog yma ers dechrau’r flwyddyn, ond er hynny, dw i ddim wedi bod yn hollol segur. Ers y gwanwyn, ac yn enwedig ar ôl i fi weld y fideo o’r protestiadau ar strydoedd Llundain a chael deall mod i’n nabod ambell un o’r rhai cafodd eu harestio (gan gynnwys un o fy myryfwyr Cymraeg i Oedolion; grŵp Sylfaen dydd Mawrth, cynrycholi!), dw i wedi dod yn fwy gweithgar yn y mudiad.

Un o’r sloganau mae ymgyrchwyr Cymraeg XR wedi’u mabwysadu

Y prif beth dw i wedi bod yn wneud yw ceisio hybu Gwrthryfel Difodiant ar-lein i Gymry Cymraeg. Ar ôl derbyn ebost ynglŷn â “Grwpiau Cymunedol XR”, es i ati i sefydlu XR Cymraeg, fel grŵp ar Facebook i bobl sy’n cefnogi XR, ac yn siarad (neu’n dysgu) y Gymraeg. Yn ein dau fis cyntaf, rydyn ni wedi denu bron 150 o aelodau i’r grŵp, ac mae tipyn o’r rheini wedi cymryd y cam nesa ac ymuno mewn un o’r grwpiau lleol XR yng Nghymru, ac yn helpu ma’s trwy ymuno â’r tîm cyfieithu sy’n ymgynnull at blatfform Basecamp*. Mae gyda ni gyfrif Twitter, hefyd, ond dw i heb gael cyfle i fynd mor bell a chychwyn un ar Instagram. Dw i’n nabod fy hun yn rhy dda, a ffeindiais i fy hun hiraethu am Azeroth heddi, sy’n arwydd bod realiti yn dechrau bod yn drech na fi, a bod rhaid i fi ofalu am fy hunan.

Yn ystod y tymor dysgu, dw i wedi bod yn mynychu cyfarfodydd fy ngrŵp lleol fy hunan, XR Aberteifi, ond ers diwedd y tymor dw i ond wedi gweld y criw yna mewn cyfarfodydd hyfforddi (ar y Dull Di-Drais a “Chyfrathrebu Heb Wrthdaro”) ac ambell i ddigwyddiad codi proffil fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst a Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi.

Llun clawr Facebook, gyda logos Cymraeg a Saesneg Gwrthryfel Difodiant, a llinell o farddoniaeth Gerallt Lloyd Owen: "Cawsom wlad i'w chadw, darn o dir yn dyst ein bod wedi mynnu byw." (Etifeddiaeth)
Cynllun ar gyfer “llun clawr Facebook”, gyda llinell o gerdd Gerallt Lloyd Owen

Mae hyn i gyd yn swnio fel mod i naill ai’n brolio, neu ‘n wneud esgudion am beidio â wneud mwy! Beth dw i’n ceisio wneud yma gyda hyn o flogiad yw ymarfer teipio geiriau fy hunan, yn lle cyfieithu pethau sy wedi’u sgwennu ym Mryste a Llundain. Dw i’n gwybod o brofiad hir taw’r ffordd orau i gael fy hunan i flogio yw jyst i ddechrau blogio heb ormod o amcan, ac wedyn syrffio’r tonnau o frwdfrydedd nes iddynt farw ar draethau diflas fy niogrwydd.

Dyma ni, ‘te. “Erthygl ar newid hinsawdd”, o ryw fath.


* os gallwch chi helpu gyda’r gwaith cyfieithu yma, cysylltwch trwy un o’r sianeli yna, neu trwy ebost – mae digon i’w wneud, a llawer o bethau sy ddim wedi’u wneud gan fod pawb yn rhy brysur

Wynebu’r Bwystfil

Mae gwadu realiti yr argyfwng hinsawdd yn hollol naturiol; mae’n rhan o’r atblygiad “ymladd neu ffoi”. Heb yr atblygiad yma fydden ni ddim yma. Doedd yr atblygiad yma ddim gyda’r dodo. Mae’n hanfodol i’n llwyddiant fel rhywogaeth.

Wrth wynebu gelyn, neu anifail rheibus, neu unrhyw her amgylcheddol arall, ein dewis sydyn yw “ydw i’n ddigon cryf i ymladd â hyn neu ddylwn i ei heglu hi?”

Y broblem gyda teigr yr argyfwng hinsawdd yw does dim lle i ni ffoi. Dyn ni ddim yn gallu ffoi rhag y bygythiad yma trwy rhedeg yn glou dros y safana, neu ddringo coeden neu guddio yn ein hogofeydd. Mae rhaid i ni wynebu’r teigr.

Ydy, mae’n fwstfil enfawr. Ydyn, mae ei ddannedd yn fawr. Mae bod ag ofn yn naturiol, ac yn iawn a does dim rheswm i ni fod â chywilydd, ond does dim modd i ni ffoi. Mae rhaid i ni ymladd.

Mae un mantais gyda ni. Yr un mantais oedd gyda ein hen deidiau a’n hen neiniau ar y safana, yn y coed ac yn eu hogofeydd. Mae gyda ni ymennydd sy’n annaturiol o fawr.

Ein hymennydd mawr yw’r rheswm mae cymaint ohonon ni ar y graig fawr las yma. Ni wedi wneud y dewis iawn, ymladd neu ffoi, bob tro ni wedi wynebu gelyn dirfodol, hyd yn hyn.

Hyd yn hyn.

Ein hymenydd mawr sy’n gyfrifol am ein gallu anhygoel o gyfathrebu. Ein gallu anhygoegol o ddofi anifeiliaid a phlanhigion, lleihau’r amser ni’n gorfod treulio casglu calorïau a’n rhyddhau i wneud gwaith arall…

Gwaith fel adeiladu pontydd crog, ysgrifennu sonedau a [gwirio nodiadau] treulio hanner ein horiau deffro edrych ar gyfrifiaduron bach ni’n cario o gwmpas yn ein pocedi.

Ni yw’r anifeiliaid sy’n siarad. Dim ond trwy siarad â’n gilydd ydyn ni wedi llwyddo creu’r byd anhygoel, prydferth a pheryglus tu hwnt yma. Dim ond trwy siarad â’n gilydd y ffeindiwn ni’r cryfder i ymladd â’r argyfwng mawr gwrychlyd sy’n ein hwynebu nawr.

Mae rhaid i ni siarad â’n gilydd, mae rhaid i ni fod yn onest, ac mae rhaid i ni weithredu, gyda’n gilydd, yn glou iawn. Ni sy wedi creu’r bwystfil hwn, a dim ond ni sydd gyda’r arfau, a’r gallu, a’r dealltwriaeth i’w daclo.

Mae rhaid i ni addysgu ein hunain.

Mae rhaid i ni newid y ffordd ni’n byw.

Mae rhaid i ni ladd y teigr cyn iddo fe ladd ein plant.

Mae e yma. Mae e’n real. A ni sy wedi ei greu. Mae rhaid i ni siapo.

Eithafwyr yr Hinsawdd

Cwpl o bethau wnaeth sbarduno hyn. Yn gyntaf, trydariad gan John Simpson, ynglyn â pherygl dilyn trwydded “eithafwyr” fel Extinction Rebellion, sy wedi bod yn protestio yn erbyn ei gyflogwyr:

Beth fyddai ymateb John Simpson i dactegau Mahatma Gandhi, neu Martin Luther King, neu Ffred Ffransis, tybed?

Actiwali, paid ag ateb yr un ola ‘na.

Ac wedyn yn ail, sgwrs clywais i yn y dafarn y prynhawn ‘ma, ynglyn â’r miri ym maes awyr Gatwick dros y 48 awr diwetha:

Theresa May’s saying they should get 5 years.

5 years! That’s ridiculous! Don’t they realise how much disruption… 20 years at least!

I heard Jeremy Clarkson say they should just be shot…

Yeah, and they should execute one MP every year, at random, until they sort this shit out.

Gyfeillion, talais i fy mil a gadael. Er mor ddifrifol ydw i am wella y ffordd dw i’n ymateb i’r argyfwng, dw i ddim cweit yn barod i gael fy ngwahardd o’m dafarn leol, a dyna fyddai canlyniad o ymuno yn y “sgwrs” yna.

Ond at y pwynt: nid “ni” yw’r eithafwyr yma. Ni’r bobl sy wedi deall digon o beth mae’r gwyddonwyr wedi bod yn dweud ers 30 mlynedd yw’r rhai sy’n gall. Ond y rhai ‘ma sy’n meddwl dylen ni ladd pobl am arafu awyrennau?